Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
[No title]
MAESTEG.—Sabbath, Mai 3ydd, 1888, am chwech yn yr hwyr, ffurfiwyd eglwys Annibynol yn y cwr uchaf o r ardal hon, mewn cysylltiad a Chapel y Dyffryn, yr hwn sydd yn cael ei adeiladu. Gweinyddwyd ar> yr achlysur gan y Parchn. W. Hopkins, Cymer, a W. Watkins, Maesteg. Declireuwyd pregethu a chyno-1 ysgol Sabbothol yn y lie mewn ystafell' gyfleus, ac y inae yma arwyddion gobeithiol. Disgwylir y bydd y capel yn barod tua diwedd mis Gorphenaf.
ETHOLIAD BRYSTE.
ETHOLIAD BRYSTE. Dydd Llun. Ysgrifenaf yn wythnosol i'r TYST, dan y penawd uchod, hyd oni ddiseddir J. W. Miles yn y Senedd; a gobeithio y bydd dydd wedi gwawrio cyn pen mis, pan bydd Samuel Morley, Ysw., yn A.S. dros Fryste. Y mae y bribery a'r intimidation mwyaf gwarthus a chywilyddus a glywyd erioed am danynt wedi cael eu defnyddio gan y Toriaid yn nychweliad Miles. Fe gafodd tafarnwr-y mae'r enw hwn yn awr yn drewi yn ffroenau y Rhyddfrydwyr—fe gafodd y tafarnwr a nodais lwgr-wobrwy o 300p. Darfu i un hen fonedd- iges roddi 18,000p. o arian sychion tuag at gario ei nai i'r Senedd, ar ddydd Mawrth y nomination. Heblaw hynyna, fe ddaeth telegram yma o'r Carlton Club i ddyweyd fod etholiad y Tori i gael ei gario-let the cost be what it would. Y mae gan y Toriaid ddigon o Iwch aur at ddwyn oddiamgylch anghyfiawnder, gorthrym- der, a. thraha; ond fe wyr llawer o ffermwyr y Dywys- ogaeth mai ychydig iawn o aur sydd ganddynt os bydd eisiau drws newydd ar yr ystabl, y beudy, neu'r ys- gubor. Y mae ganddynt ddigon o aur, ond ychydig o ddawn a synwyr. Pe byddai i anatomist chwilio clopau llawer o honynt, cawsai allan fod yno fwy o ddwfr nag o ymenydd. Danfonodd S. Morley lythyr complimentary iawn i'r 4977 etholwyr a etholasant erddo. Dywedodd ein bod, er i ni golli, yn llafurio dros egwyddorion tragywyddol. Na phrynwyd ein votes, am y rheswm mawr a digonol, eu bod yn anmlirynadwy. Y mae papur-leni ar y muriau yn awr, y bydd i'r holl dystion ag sydd wedi eu llwgr-wobrwyo gael eu gwysio i ymddangos yn un o Committee Booms Ty y Cyffredin, mor gynted ag y gellir trefnu ar gyfer hyiiy.-T. J
CAERGYBI.
CAERGYBI. Nos Lun, yr lleg cyfisol, yn addoldy Annibynol y Tabernacl, cynhaliwyd cyfarfod yn gynwysedig o am- ryw gyfeillion o wahanol enwadau, i gymmeryd i ystyr- iaeth, ac i wneuthur trefniadau, er cyrhaedd dangosiad o olygiadau trigolion Caergybi gyda golwg ar gau y tafarndai ar y dydd Sabbath. Wrth gwrs, yr oedd pawb yr un don, sef o blaid y symudiad. Wedi pen- derfynu ar nifer digonol o canva,ssers gwirfoddol i ym- gymmeryd a'r gorchwyl, a rhanu voting papers iddynt, ymadawodd pawb yn awyddus am lwyddiant ar eu hamcan. Nid ydym yn awr yn alluog i roddi y cyfrif, ond sicr yw fod corph mawr y trigolion wedi arwydd- nodi dros gau y tafarndai ar ddydd yr Arglwydd, ac yn eu plith liaws o dafarnwyr. Boed llwyddiant ar yr ymdrech dros y deyrnas.-S. J. G.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Yr Ysgrif i Gau Tafarnau ar y Sabbath.-Yr ydys wedi cael allan fod teimlad cryf iawn yn bodoli yn Aberystwyth a'r eyffiniau o blaid yr ysgrif uchod. Wele gyfrif o'r pleidleisiau a gafwyd ar y pwnc:-Yn erbyn eu cau (ar wahan oddiwrth y rhai sy'n dwyn cysylltiad a'r fasnach), 9; canolwyr (neutrals), 17; rhai a wrthodasant bleidleisio, 8; o blaid eu cau, 1433 tafarnwyr, ac eraill yn y fasnach,—yn erbyn, 3; canol- wyr, 9; y rhai a wrthodasant bleidleisio, 8; o blaid, 44. Cyfanrif o bob dosparth, yn erbyn, 12; canol- wyr, 26; y rhai a wrthodasant bleidleisio, 17; o blaid, 1,477. Yr oedd 13eg o anneddwyr oddicartref. Y mae hyn yn dangos fod 96 y cant o'r trigolion, ac yn agos i dair rhan o bedair o'r tafarnwyr, yn bleidiol i rwystro'r fasnach ar y Sabbath. Amlygwyd yspryd caredig tuag at y symmudiad hwn gan bawb, oddigerth rhyw nifer bychan o bersonau anfoneddigaidd a diras. Cedwir hwynt mewn cof gyda dirmyg am lawer o amser.
CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB…
CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB GOR- LLEWINOL MORGANWG. A gynhaliwyd Mai 5ed a'r 6ed, yn Waunarlwydd. Y Parch. J. Bevan yn y gadair. Penderfynwyd: 1. I'r cyfarfod chwarterol nesaf fod yn y Gwrhyd. 2. Ar ran Eglwys Seisnig Ystalyfera, penderfynwyd —■" That this Conference strongly commend the case of the English Church at Ystalyfera, to the favorable con- sideration of the English Chapel Building Society." Ymddiddanwyd hefyd am grefydd bersonol a'i hym- arferiad; y ddyledswydd i bob un feithrin teimlad o gyfrifoldeb, a gweithredu yn ol ei allu a'i ddylanwad dros Grist, fod amgylchiadau yr oes yn gofyn, a chref- ydd yn ei natur a'i gorchymmynion yn cymhell at hyn. Yr liyfrydwch f) gae] yr aelodau yn weddiwyr gwresog fel i feithrin teimladau cynhes gyda chrefydd, eto nid gyda dyben i gyffroi teimladau arwynebol a chyfnewid- iol, ond addysgu a dwyn allan adnoddau y meddwl er adeiladaeth a nerth ysprydol. Ofnid y gallai y diifyg o hyn gyfodi i raddau, oddiar esgeuluso y ddyledswydd deuluaidd, gartref. Dechreuwyd y cyfarfodydd cyhoeddus gan y Parchn. Jones, Drefnewydd Thomas, Bryn Thomas, Glan- dwr; a Pritchard, Sciwen. Pregethwyd gan y Parchn. Thomas, Hermon; Owens, Clydach; Davies, Treforis; Morgan, Glynnedd; Jones, Drefnewydd; Matthews, Castellnedd; Stephens, Taibach; Morgan, Felindre; Jones, Saron; a Rees, Siloh, Maesteg; Thomas a Williams, y Bryn. Traddodwyd hen wirioneddau yr efengyl gyda hwyl- usdod a nerth, a hyderwn fod argraffiadau parhaol wedi eu cynhyrchu.—J. LI..Tones. Ysg.
Y CYHUDDGWYN YN ERBYN YR ARLYWYDD…
Y CYHUDDGWYN YN ERBYN YR ARLYWYDD JOHNSON. Y Bleidlais.-Ddydd Sadwrn diweddaf gwrthod- odd y Senedd-lys euogfarnu Johnson ar yr unfed erthygl ar ddeg o'r cyhuddgwyn, yn mha un y cy- huddid ef yn mysg pethau eraill, o geisio atal cyf- lawniad cyfraith Daliad Swyddogaeth trwy gynhyg- iad angbyfreithlon i atal Mr Stanton i adymgymeryd a dyledswyddau Ysgrifenydd Rhyfel. Pleidleisiodd pymtheg ar hugain dros ei gael yn euog, a phedwar ar bymtheg yn erbyn hyny; collwyd yr erthygl felly trwy un bleidlais, gan fod dwy ran o dair o bleid- leisiau yn ofynol. Ymohiriodd j llys hyd y 26ain, heb ymbleidleisio ar a penranau eraill. Y Rhyfel yn Neheudir America.-Yn'ol y newydd- ion sydd wedi cyrhaedd o Rio De Janeiro, hyd y 24ain o E brill, ymddengys fod dwy o agerddlongau y Paraguayaid wedi eu suddo gan y Braziliaid, ac yr oedd tanbeleniad cryf yn parhau i fyned yn mlaen yn erbyn Humaita, a bwriedid gwneyd rhuthrgyrch yn fuan. Dywedir fod y llong lyfel Brydeinig Linnet wedi cael tanio arni a'i niweidio tra yn pasio Humaita. Pmwf -Honoveriaid.-Y mae prawf 22 o Hano- venaid wedi dechreu yn Berlin ar y cyhuddiad o deyrnfradwriaeth yn erbyn brenhiniaeth Prussia, trwy restru eu hunain yn Lleng Hanover, neu res- tru eraill.
Y RHYFEL YN ABYSSINIA.
Y RHYFEL YN ABYSSINIA. MANYLION AM GWYMP MAG DA LA. ] Y mae manylion helaeth o'r ymgyrch Abyssiniaidd wedi dyfod i law yr wythnos hon, ar ol llawer o ddis- gwyliad pryderus am danynt. Nid heb luaws o draff- erthion, teithio caled, a blinder mawr y cyrhaeddodd ein milwyr eu nod, sef Magdala, lie yr oedd ein cyd- wladwyr diniwed mewn cadwynau o dan awdurdod y brenhin Theodore, un o'r gormesdeyrn bryntaf a anadl- asant awyr y ddaear hon erioed. Yr oedd anesmwyth. dra mawr yn y fyddin am weled taniad YR ERGYD GYNTAF. Cymmerodd hyny le ar Ddydd Gwener y Groglith. Yr oeddis i groesi afon gref-y Beshilo-yr hyn a wnaed yn llwyddianus. Oddeutu chwech o'r gloch yn y bore, cychwynodd y cadluoedd tua'r ddinas, ac wedi teithio am chwe awr, dros fryniau carregog a thrwy geunent- ydd diffaeth, cyrhaeddasant o fewn pellder cyfleus i saethu at y gelyn. Symmudid y gynau mawrion gan fulod, ac nid oedd ond ychydig o filwyr yn eu dilyn o flaen y llu ymosodol. Pan ganfu Theodore hwy, mewn dyffryn o'r enw Arogee, rhoes orchymyn i'w filwyr danio arnynt, ac felly y gwnaethant, yn fuan a gwrol am ennyd. Disgynodd llu mawr o wyr meirch a dryll- wyr, dim llai na4000 ar eu gwarthaf, gyda ffyrnigrwydd rhyfeddol, gan feddwl yn ddiau Uwyddo yn rhwydd i gymmeryd meddiant o'r mulod a'u beichiau. Ni wnaeth yr ergyd gyntaf gan Theodore ddim amgen nag achosi i'r Prydeinwyr dori allan i lawenfloeddio hyd nes peri i'r nefoedd grynia, fel arwydd o'u hawyddfryd i lwyr ddarostwng ucheldrem a thraha y teym diras. GOROHFYGIAD THEODORE. Druan o hono, cyn pen hanner awr o ymladd, yr oedd ein gynau ni wedi creu galanastra arswydus yn ei rengoedd, y rhai a giliasant gyda dychryn am eu bywyd tu ol i'w hamddiffynfeydd. Ymlidiwyd hwy yn egniol, ar flaen y bidog, a syrthiodd lluoedd o honynt yn gelaneddau ar y ffordd. Yr oedd eu colled o leiaf yn 400 o laddedigion. Erbyn hyn yr oedd y nos yn prysuro yn mlaen, a thrymhawyd y tywyllwch gan ystorm o wlaw a tharanau. Gan hyny, dychwelodd y Prydeinwyr i'w gwersyll, yn gwbl foddlon eu bod wedi dysgu gwers ddifrifol i Theodore fod gallu milwrol Prydain Fawr ynfoddion i effeithio ymostyngiad mawr. Nid ymddangosodd y brenhin ei hun yn y frwydr hon, ond ymgadwodd yn un o'r amddiffynfeydd i arolygu y saethu o'i ynau mawrion. Yr oedd yr Abyssiniaid yn ergydio yn gyflym arheolaidd, ond yn hollol ddibwrpas, canys yr oedd eu bwledi oil yn methu lladd, ac ni anaf- wyd ond un swyddog, o'r enw Cadben Roberts (Cymro o enw beth bynag, os nad o waed a genedigaeth) a deu- naw o filwyr cyffredin. Burstiodd y gwn mwyaf oedd gan Theodore gyda'r ergyd gyntaf, a gwnaeth ddinystr mawr yn mysg ei wyr ei hun, heb wneuthur unrhyw niwed i'n byddin ni. Yr oedd ergydion yr Abyssiniaid yn gynwysedig o haiarn ac alcan (tin,) ac yn ami dim ond cerrig Uyfnion. Lladdwyd goreuon byddin Abys- sinia yn mrwydr Ar ogee, yn nghyda phrif gadfriaog Theodore. Yr oedd bellach 3000 0 filwyr yn Magdala, a dywedir nad oedd y rhan fwyaf 0 honynt yn werth eu halen. Y DIWRNOD AR OL Y FRWYDR. Boreu y diwrnod ar ol y frwydr yr oedd yr olwg ar y dyffryn yn dra sobr a thorcalonus. Yr oedd yno wyr a meirch yn gorwedd yn garneddi mewn gwaed, a'u cnawd wedi ei ddryllio yn arswydus-oll wedi eu medi i lawr ar yr un munud, os nad 4'r un ergyd. Yr oedd ystaeniau c'yfnion o waed yn marcio'r manau lie y bu y clwyfedigion yn ymrwyfo am eu bywyd. Yn mysg y lladdedigion, yr oedd corph Prif-gadfridog Theodore yn bur amIwg, oddiwrth wyohder ei wisg. Tybiwyd y dydd o'r blaen pan welwyd ef yn y frwydr mai Theo- dore ei hun oedd efe, ac am hyny, annelwyd ugeiniau o ergydion ato, fel y gwnaed ei gorph yn ddarnau RHYDDHAD Y CAETHION. Yn ystod y bore, gwelid cwmni bychan yn gadael Magdala at wersyll y Prydeinwyr, ac yr oedd yn eu plith ddau mewn gwisg filwrol Brydeinig, ac yn cludo flag of truce. Dau benaeth oedd y rhai hyn, yn nghyd a dau o'r caethion, sef Mr Flad, a'r Is-gadben Pride- aux. Danfonwyd hwy gydag ammodau heddwch, a derbyniwyd eu hymddangosiad yn y gwersyll gyda brwdfrydedd mawr. Tua chanol dydd, dychwelasant i Magdala, gydag atebiad y byddai'n rhaid i Theodore ryddhau y caethion yn ddiammodol, ac ymostwng i Frenhines Lloegr. Ni fynai ei yspryd balch wrando ar hyn, ond efe a yrodd neges drachefn na wnai ef byth ollwng y caethion yn rhydd, heb i'r Saeson ymrwymo i'w gynnorthwyo ef i ailsefydlu ei deyrnas. Teimlai Syr Robert Napier, ein prif-gadfridog campus ni, anhaws- der i ateb hyn; cymmerodd amser i ystyried y pwngc o'r diwedd penderfynodd i oddef i'r negeswyr ddych- welyd heb atebiad o un math. Ni wyddis yn awr beth a wnaethai Theodore,—ofnai ein milwyr ni iddo ym- gyndynu, oblegyd nid oedd arnynt eisiau gwastraffu eu powdwr mwy a gwrthwynebwr mor eiddil. Ond yn y man, wele hyfryd wawr yn tori, canys gollyngwyd Cadben Cameron, Mr Rassam, ac yn wir yr holl gaeth- ion, oddieithr M. Bardel, yr hwn oedd yn rhy wael ei iechyd i gael ei symmud. YR YMOSODIAD AR MAGDALA. Dydd Llun y Pasg, ar ol methu plygu Theodore i ymostwng i awdurdod Victoria, trwy deg,' dechreuwyd rhuthro arao yn ddidrugaredd yn ei loches gref. Rhoddodd y caethion i fyny, ond ni fynai roddi ei hun. Am wyth o'r gloch yn y bore, cychwynodd y colofnau nerthol o wyr, offerynau, a than, at furiau y ddinas, megys i ddannedd y gelyn. Yr oedd yr olygfa er yn ofnadwy yn ardderchog iawn-y banerau yn chwifio, a'r seindyrf yn chwareu yn fywiog a pheraidd, ac agwedd benderfynol y milwyr yn argoeli fod gwae ac ochain a dinystr echrydus ar gymmeryd lie. Yr oedd cannoedd o'r Abyssiniaid cylchynol ar y pryd yn dylifo i le cysgodol i aros hyd nes yr elai yr ystorm drosodd. Yr oedd milwyr Theodore wedi diangc o'r amddiffynfeydd y tu allan i'r ddinas, ac felly goddefwyd i'n milwyr ni fyned o fewn 1000 o latheni at y muriau cyn i'r un er- gyd gael ei thanio o un ochr. Yna, daeth llu o wyr meirch allan o'r ddinas, ac yn eu plith yr oedd Theo- dore ei hun. Taniasant ychydig o ergydion, ac yna diangasant i'r ddinas, wedi cael prawf eu. bod yn rhy agos i'r bwledi Prydeinig. Yr oeddis yn disgwyl y buasai'r brenhin yn taflu ei arfau i lawr, yn ngwyneb ei aflwyddiant ar bob modfedd o'i dir. Ond, dichon ei fod yn ofni cael ei drin yn greulon, neu yn brawychu rhag cael ei gaethiwo,-ac yn y teimlad yma, pender- fynodd i amddiffyn ei hun hyd yr eithaf, ac yna i ladd ei hun. Tua 4 o'r gloch, agorodd ein gynau dur ni dan ech- ryslon ar brif borth y ddinas,, a, buan y gwnaed y lie hwnw yn rhy boeth i'w amddiffynwyr. Taflw yd peleni hefyd i ganol y ddinas, y rhai a wasgarasant ddinystr ofnadwy ar bob Haw. Ar ol tua dwy-awr o ergydio oddiallan rhoddwyd y gorchymyn i fyned i mewn i'r ddinas. Rhuthrwyd ar y muriau—yn nghanol twrf er- gydion arswydus, a bloeddiadau calonog ein milwyr. Esgynwyd y muriau a'r pyrth gydag ysgolion, ac ni safai yr Abyssiniaid ennyd 0 flaen y Prydeinwyr. Cad- ernid y muriau a'r pyrth oedd yr unig rwystr ar eu ffordd, ac ni safodd yrhwysr yma yn hir, canys yr oedd y ddinas yn meddiant ein byddinoedd ni cyn pen yr awr. THEODORE YN SAETHU EI HUN. Ymladdodd Theodore m'i ddwylaw ei hun hyd y gallodd. Cymmerodd ei ymdrech olaf le mewn ym- guddfa gadarn yn y prif borth, a phan welodd ei hun I yn ddiobaith, gosododd ffroen ei ddryll yn ei safn, ac felly saethodd ei hun yn farw yn y fan! Wedi colli eu blaenor, bwriodd yr Abyssiniaid eu karfau i lawr yn ddioed, a danghosasant sirioldeb mawr i'n milwyr ni. Croesawyd hwy hefyd yn wresog iawn gan wragedd a phlant, gyda dagrau llawenydd yn lJi ar eu gruddiau. Nid oedd neb yn drist o herwydd marwolaeth Theo- dore. GOLYGFEYDD AR OL CWYMP Y DDINAS. Ymlusgodd lliaws o gaethion yn eu cadwynau at ein milwyr i gusanu eu traed a'u dwylaw, fel arwydd o'u diolchgarwch am eu gwaredigaeth oddiwrth ormesiad Theodore. Yn ymyl palas y brenhin, gwelid un o'n sergeants ni ar ei liniau gyda file yn ei law yn brysur yn tori cadwynau twr o gaethion. Ymwelwyd ag un o'r brenhinesau gan swyddogion y fyddin yn ei phalas, ac amlygwyd cydymdeimlad dwfn tuag ati. Nid oedd hithau wedi ysgoi crenlondeb ei gwr, canys bu yn frwnt iawn wrthi yn ei fywyd. Derbyniodd y swydd- ogion yn hynod foesgar a charedig, ac ni ddanghosai unrhyw bryder am ddim na neb, ond am ei mab bychan, yr hwn a chwareuai yn ddiniwed a lion wrth ei thraed. Aeth un o'n milwyr at ei mawrhydi, a'i galon yn llawn o dynerwch, a tharawodd ei law yn ysgafn ar ei hys- gwydd, gan ddyweyd gystal ag y medrai, Peidiwch ag ofni, y mai Theodore wedi darfod am dano.' Yr oedd ei mawrhydi yn ddynes foneddigaidd a hardd yr olwg, oddeutu 26ain mlwydd oed. Yr oedd gan y brenhin wraig arall-dynes gref a chawraidd-yr hon a hoffai yn fwy na'r llall. CLADDEDIGAETH THEODORE. Cludwyd corph marw yr adyn truenus i'r bedd yn eglwys Magdala, ar y 14eg o Ebrill, gyda ychydig iawn o seremoni. Yr oedd ef yn ddyn haner can' mlwydd oed—hoenus a thalgryf. Yr oedd creulondeb, megis yn ei fywyd, yn teyrnasu ar ei wynebpryd yn angeu, a bydd ei enw yn drewi am lawer o genhedlaethau. DINYSTRIAD MAGDALA. Dydd Gwener, 17eg o Ebrill, wedi ei chlirio o bob peth gwerthfawr, llosgwyd Magdala yn lludw, ac ni adawyd o honi garreg ar garreg. Gwnaed hyn yn nghanol peroriaeth y seindyrf yn chwareu 'When Johnnie comes marching home,' a phan gwblhawyd y dinystr, bloeddiwyd hwre i Victoria,' a chwareuwyd yr anthem genhedlaethol. A dyma ddiwedd yr ymgyrch i Abyssinia, ac yr ydym yn ddiolchgar am ddiwedd mor fuan ac mor lwyddianus.
Y TYWYSOG ALFRED.
Y TYWYSOG ALFRED. Y mae newyddiaduron Awstralia, a ddaetbant i law nos Sabboth, yn cynnwys manylion llawn o'r cais i lofruddio y Tywysog Alfred yn Clontart, Syd- ney. Yr ydym eisioes wedi cyhoeddi swm y cwbl" ac nid oes dim newydd i'w ychwane u-o(idi-erth' 9 11 un peth, sef fod y gwyddfodolion wedi ymgynddeir- iogi yn erbyn y bradlofrudd O'Farrell. Ymosodwyd arno yn ddidrugaredd, a chafodd yr heddgeidwaid drafferth i'w amddiffyn rhag cael ei rwygo yn ddarn- au yn y fan Anafwyd ef yn dost. Y mae ef bell- ach fel y gwyddis weli ei euogfarnu a'i ddedfrydu i gael ei grogi.
MARWOLAETH MAM ' Y GOHEBYDD.'
MARWOLAETH MAM Y GOHEBYDD.' r^aA, 13eg; yn nhy ei meibion yn Llangollen, bu farw Mrs Maria Griffiths, (gweddw y diweddar Mr G. Griff- iths, a merch hynaf y diweddar Barch J. Roberts, Llan- brynmair,) yn 70 eed. Yr oedd Mrs Griffiths yn adnab- yddus i luaws mawr yn Nghymru. Llettyodd ganoedd o bregethwyr yn Bodwilym gerllaw yr Abermaw. Hen Gnstiones dda ydoedd, 4 Un o heddychol ffyddloniaid Israel. Hebryngwyd hi i'w bedd yn mynwent newydd Ym- neillduol Llangollen—mynwent sydd yn sefyll ar un o'r llanerchau tlysaf o fewn Cymru, a'r man lie y dymun- asai Mrs Griffiths gael beddrod, a'r man y mae un o'i meibion Samuel, wedi ei gladdu. Hebryngwyd hi gan bedwar o'i meibion, a chan ei brawd J. R., a'i mab yng- hyfraith D. M. Jenkins, Drefnewydd, gan nifer o'i pherthynasau, a chan ei hen weinidog y Parch E. Evans, r IJrich»rd, Bartlett, y Professor Jones, Edwards Hugh Jones, It. Winter, a T. Jones, Llangollen • H Ellis, Llangwm; E. Roberts, Coedpoeth, (Carno gynt); Thomas, Wern; Thomas, Rhosymedre, a chan dorf fawr o'i hen gymdogion. Darllenwyd a gweddiwyd wrth y ty gan Thomas y Wern ac H. EUis a siaradwyd yn fyr a phwrpasol ac effeithiol yn y gladdfa gan E. Roberts, yr hwn oedd yn gydnabyddus iawn ac a gawsai lawer awr o gyfeillach ddifyrus ac adeiladol a Mrs G. yn ystod y deng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth yn Carno; a chan Mr Bartlett, Mr Edwards, Or Prichard, a Mr Evans. Cyn ymadael rhoddodd Mr Evans i'w ganu, yr hen emyn a adroddai Mrs Griffiths wrtho^y tro diweddaf y bu yn ymweled a hi, Ymado wnaf a'r babell, &c. Ffy pob gwahanglwyfymaith Glan fuddugoliaeth mwy, 'Rwyn canu wrth gofio'r bore Na welir arna i glwy.' Methoddei brawd hynaf S. R. a chyraedd mewn pryd erbyn yr angladd. Yr oedd ar y pryd ar daith drwy ranau o Fynwy, ac ni chafodd y lly thyrau yn ei hysbysu am ei marwolaeth tan fore Sabboth.—Cyfaill.
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD.!
LIVERPOOL A'R CYLCHOEDD. Y mae y Cymry wedi eu tanio drwyddynt a'r newydd fod John Bright yn dod i Liverpool. Bydd amryw enwogion eraill yn bresenol. Nid oes dim amser i'w golli i ymaelodi yn y Gymdeithas Ddiwygiadol Gj mreig, oblegyd trwy hyny y ceir cyfranogi o'r gynhadledd yn y prydnawn, a'r cyfar- fod cyhoeddus yn yr hwyr. Ymwelwyd a'r parthau hyn nos Fawrth ag Ystonn erchyll o FeW a Tharanau. Yr oedd yn hyuod drymaidd a lluddedig ar hyd y dydd, ac ychydig wedi wyth o'r gloch y nos, dech- reuodd felltenu a tharanau yn ofnadwy. Oddeutu naw o'r gloch yr oedd y taranau mor ddychrynllyd nes y gellid tybio fod seiliau y ddaear yn siglo, ac yr oedd y mellt mor angherddol danbaid, nes pylu y nwy a'i ddiffodd mewn rhai manau. Gorlifid yr heolydd gan y trymlaw a ddisgynai. Taflwyd rhan o fur yn Rupert-lane, Everton, gan fellten. Llan- wyd seleri Compton House gan bum troedfedd o ddwfr. Tarawodd fflachiad o fellten y dwfr yn ymyl Hong oedd yn gorwedd ger Seacombe, nes peri i'r dwfr godi i fyny yn sytb am lawer o droedfeddi. Yn rhagluniaethol ni chlywais am un bywyd wedi ei golli.
Family Notices
grMmtt. Mai 8fed, yn nghapel 'yr Annibynwyr, Queen Street, Wrexham, gan y Parch S. Evans, Llandegla, Mr Evan Edwards, a Miss Charlotte Jones, y ddau o Landegla. Mai 12fed, yn nghapel yr Annibynwyr, Croesoswallt, y Parch J. M. Prydderch, Llanarth, swydd Aberteifl, a Sarah, merch ieuangat- y diweddar Rowland Evans, Ysw., Morben, ger Mach- ynlleth, gan y Parch R. Evans, Llangollen, ewythr i'r briod- terch. Gan mai dyma y briodas gyntaf a weinyddwyd yn yr addoldy uchod, cyflwynwyd Beibl nodedig o brydferth yn an- rhfigi'r par priodasol oddiwrth gyfeillion y lie trwy law y Parch MT Far, gynt o Awstralia. Mai 12fed, yn yr un capel, Mr Evan Evans, otone cutter, Croesoswallt, ag Ann Evans, o'r un lie. Cyflwynwyd Beibl .hardd iddjnt hwythau hefyd, gan yr un cyfeillion, trwy law v Parch Mr Far. > J J Mai 13eg, yn addoldy Glynnedd, gan y Parch B. Morgan, I^RF7/D.«eia^SMO*G"N- *M™ H»°*H R'"D" grocer, y ddau 0 Glynnedd. ITAIOTTEFTFATT. Mai laf, yn nhy ei nai, Mr W. W. Morris, Porth Amlweh, Mrs Mary Jones, gweddw y diweddar Mr mis Jones, Llanael- haiarn, yn 84 mlwydd oed. Yr oedd yu ftelod ffyddlon gyda'r Anuipyawyr er s llawer 0 flynyddau.
I - ' LLITH O ARFON.
LLITH O ARFON. (GAN Y FRAN WEN.') Meistri Gol.,—So ddiog braidd ydw i chwedi bod efo y agwenu ma es tipin-nid am na todd gen i ddigon, faint fynir, o destynau-ond fel arall,—gormod braidd o'rheini oedd,—a'r pwngc oedd cael pen arni i ddeehra-a dyma fi chwedi dechra rwan hefyd (tae fater am hyny) heb ddim pen. Mae llawer iawn iawn o bethau chwedi digwydd mewn tref a gwlad es pan fu y Fran Wen' ar faes y TYST (na dim arall) o'r blaen. Mi ellwn enwi cant o bethau lied bwysig yn y sir yma, ond wath heb bellach, mae hi yn de affter cldiffer (fel dwad y Sais) rwan. Mae gynoch chi lawn ddigon am wn i o hanes y South yn y T-RST yn gyffredin, neu mi faswn yn sgwenu tipin o hanes y nhaith yno yr wsnos o'r blaen, a chryn lawer o ryfeddodau i Northyn (fel fi ac arall) sy i'w weled yno tua'r gweithydd glo, a'r ffwrnasus, a chant a mil o bethau rhyfeddach nai gilydd sy yno. Rwan Meistri Golygwyr, mae gen i b-.ragc i osod i lawr, ag y dymunwn i bob darllenwr o'r TYST beth bynag, i weled o—(a thuag at hyny byddwch cystal a'i roi o mewn llythyrenod pur frei sion) a thyma fo-
TYSTEB I'R PARCH. D. -ROBERTS,…
TYSTEB I'R PARCH. D. ROBERTS, CAER. NARFON! Bravo! Dyua linell y bydd yn dda gen galon llawer un ei gwel'd hi,—mi wn—ac yn enwedig i glywed ei bod hi ynffaitk. Gan ma oes y tystebau ydi yr oes hon, mi ddylid' gwneyd tysteb i bob un sydd yn deilwng o hynu beth bynag. Da iawn y gwnaethbwyd gyda thystebau y Parehn J. Thomas, Lerpwl; Dr Rees, ae S. R., a Ilawer eraill o weinidogiou teilwng iawn; hefyd Talhaiarn (?) a Robin Ddu Eryri (?) a llawer eraill o dosbarthiadau gwahanol-oeddynt deilwng (mae'n debyg). Y mae yn dda genym gael y cyfla hwn i hysbysu Cymru Lerpwl, Maneeinion, Llundain, a threfydd ereill Lloegr, ynghyd a Chymru benbaladr, fod tysteb wedi ei chychwyn i'r Pregeth- fvr anwyl 0 G'ynarfon: Y mae yr hen eglwys weithgar a phareh- us Pendref-wedi, ac yn gweithio, yn ardderchogoblaid y symudiad. Y mae cyfraniadau Pendref eisoes yn agos i 945 (yn annibynol ar Salem, a'r dref yn gyffredinol). Well done, Pend¡"f.!f! Yr oedd yn dda iawn genym hefyd weled rhestr mor dda o Weinidogion yn subscribers. Gan y bwriedir gorphen y T ymhen oddeutu dau fis bydd yn dda gan ganoedd o'i edmygwyr anfon eu cyfraniadau i mewn cyn hyny. -Da genym weled y Parchedigion E. Evans, Caernarfon, (Cadeirydd y Pwyllgor), a W. Ambrose, Porthmadoc, ac am- ryw ereill wedi ymaflyd yn y pwngc o ddifrif (a gweithwyr da iawn ydynt hwy fel y gwyr pawb). -rar^TnW^Sw-r<^ r ^Castle House, i fod yn Drysorydd, a W. E. Williams, (Gwilyrn Alltwen), y Twthill Terrace, (Caer- narfon, wrth gwrs) i fod yn Ysgrifenydd,—a deallwn eu bod yn parotoi Jlyfrau casglu, a circulars i'w hanfon i gyfeillion yn y gwahanol ardaloedd, a hyderir y ceir cydweithrediad selog i gyrhaedd yr amcan mewn golwg, sef cael tysteb deilwng o'i gyfeillion, a 1 edmygwyr Uuosog. Nis gwyddom pa un a fwr- lean- rhoddi hysbysiadau yn y TYST a newyddiaduron ereill a'i pernio ynghylch y dysteb, fel ag y gwnaed, ac j gwneir, gyda tnystebau ereill ond hyn a wyddom-—y ceir pob hy3bysrwydd angenrheidiol ond anfon at y Cadeirydd, y Trysorydd, neu'r Yrgnfenydd, a diamau genym y teimlant yn dra diolohgar am bob cynhorthwy ac am unrhyw gyfraniad a anfonir iddynt yn umongyrchol. HEI BWAK ATI 0 DDIFBIF
————— ,LLUNDAIN.
————— LLUNDAIN. Cynhaliwyd cymanfa flynyddol y Tabernacl, Aldersgate Street, ar yr 8fed y lOfed a'r lleg o'r mis hwn. Gweinyddwvd yn yr amrywiol gyfarfodydd cyhoeddus gan y Parchedigion Thomas Rees, D.D., ac E. Griffiths, Abertawy; R. Parry, Llandudno; D. Davies, New Inn; J. Thomas, Liverpool; J. Davies, Caerdydd; J. Davies, Taihirion; Henry Rees, Caer- lleon, ac F. Samuel, Abertawy. Yr oedd amrywiol weinidogion eraill hefyd yn bresenol. Cafwyd cymanfa dda iawn yn mhob ystyr, a hyderwn weled ffrwyth toreithiog mewn canlyniad iddi. Nos Iau, y 14eg o'r mis hwn, traddodedd y Parch J. Davies, Caerdydd, ei araeth ardderchog ar John Calvin, i gynulleidfa luosog, yn y Temperance Hall, N ewington Causeway, lie y mae hen eglwys y Boro yn addoli yn bresenol, ond gobeithio aa fydd yno yn hir etc. Yr oedd cynyrch yr araeth i fyned at y Building Fund. Nid oes angen i'r areithiwr talentog wrth gan- moliaeth, ond credaf y byddai yn fraint i bob Cymro o bob enwad, o ben Caerdydd i ben Caergybi, gael ei chlywed. Y talentog a'r doniol Hwfa Mon oedd yn v gadair, a llanwodd hi nes oedd yn rhedeg dros yr ymylau; taniodd y gynulleidfa yn ei anerchiad byr ar y dechreu, a chadwodd y parchus areithiwr hwynt yn y gwres hwnw am yn agos i ddwy awr-yn wir fe gawsom wledd. Hefyd yr oedd yn bresenol y Parchedigion Rees, Caer; Davies, New Inn; Griffiths, a Dr Rees, Abertawy. Y mae yr hen eglwys uchod, er i gwnnvl du ddod drosti tua deunaw mis yn ol, er iddi gael ei churo yn nghreigiau dreigiau, ac er 1 r baudd o'r coed geisio ei rhwygo, wedi dal ei thir ac enill nerth; a gobeithio y bydd ganddi deml hardd iddi ei hun cyn pen deunaw mis eto, fel y gallo y Cymry fyddo yn dyfod o'r dywysogaeth ac eraill gael lie i addoli Duw yn iaith eu mbamau. Yr ydym yn mawr obeithio pan y caffom ddaear i aaeiiadu capel y cawn gydymdeimlad unol a chalonog yr holl giwysi yn JN ghymru. Y mae gan drysorydd y Building Fund, ■ Fj1 bedwar cant o bunau mewn llaw. Dymunem trwy gan- latad Golygwyr y TYST, gydnabod yr eglwysi a'r personau sydd i m°r garedlS a" ateb y eylchlythyrau a ddanfonwyd tynt er s tro yn ol. Er i ni gael ein siomi yn ein bwriad yr amser hyny, yr ydym yn benderfynol i fyned yn mlaen gyda'r gwaith da. Derbyniwyd o Gvmru- „ £ s. d. Brymbo 0 10 6 Wrexham 0 10 6 Ebenezer, Ty Ddewi 1 9 0 Bryngwyn, Caernarfon 0 10 0 Maesycwmwr 0 5 5 Bagillt, ger Treffynon 0 5 6 Cyfaill o Gaerfyrddin 0 10 0 Providence Chapel, Saint Bride 1 0 0 Siloam, Brycheiniog 1 0 0 Bala 0 10 9! Mr Simon Jones, Bala 0 2 6 Tabernacl, Llandeilo, Caerfyrddin 2 14 6 J. Prytherch, Ysw., Sir Gaerfyrddin 10 0 Parch T. Davies, Llandeilo, do 10 0 gobeithio y gwnaiff y cyfeillion caredig uchod faddeu ein bod cyhyd cyn cydnabod eu rhoddion caredig, a gobeithio nad yw yr uchod ond ychydig o flaenffrwyth o Gymru at a gawn pan rraffom sicrwydd am dir, hi wnawn nino neb yn ychwaneg hyd hyny.- Un o'r Aelodau.
PattlwtfwM 1fr Wytlmos.
PattlwtfwM 1fr Wytlmos. YD. LLtrirDAlir, Dydd Llun.-Gostyngodd y gwenith 2s y chwar- ter heddvw. Yr oedd y fasnach mewn haidd yn araf, a chedw- id tua'r prisiau sefydlog. Yr oedd y fasnach mewn brag yn lied fywiog, a chedwid at brisiau diweddar. Yr oedd y ceirch da yn tueddu i godi, ond yn araf y gwerthai y mathau ailradd- ol. Ni ohymerodd un cyfnewidiad le yn mhrisiau ffa. Cedwid at y prisiau am bys, ond masnach difywyd a wnaed. Yr oedd y fasnach yn ddifywyd, a thueddai y blawd i ostwng. Ychydig i awn o fasnach a wnaed mewn pob math o hadau. LIVERPOOL, Dydd -Ifawrtli.-Yr oedd yma gyunulliad gwedd- ol yn y farchnad lieddyw. Grawn India heb gyfnewidiad. Gostyngodd y gwenith o 4c i 6c ar brisiau dydd Gwener. ANIFEILIAID. LLUNDAIB-, Dydd Llun.-Nifer yr holl anifeiliaid a ddae th i Lundain yn ystod yr wythnos ddiweddaf oedd 6,4-16. Galw da am wartheg am lawn brisiau. Yr oedd y fasnach yn sef- ydlog, a chedwid at brisiau yr wythnos. Y fasnach mewn wyn yn d ifywyd, heb gyfnewidiad yn y prisiau. Gwnaecl masnach ddifywyd mewn lloi am 4s i 5s yr 8 pwys. Gwerthai y moch bychain yn dda am lawn brisiau, ond araf y gwerthai y rhai mawr. LIVERPOOL, Dydd Llun.-Yr oedd y cyflenwad o wartheg yn llai na dydd'Llun diweddaf, a'r defaid yn debyg yr un fath. Yr oedd galw da am wartheg a defaid am brisiau llawn. Yr oedd llawer o wyn ar werth, ac yr oedd y mathau gwaelaf yn is; ond yr oedd wyn da yn uwch. Cig eidion, 5c i 7fc y pwys; cig dafad, 6c i 8î0 y pwys. Y nifer oedd yn y farchnad:- 1,117 o wartheg, ac 8,983 odefaid. MARCHNADOEDD CYMREIG. CAERFyRDpiir, Jfai 16.—Gwenith o 8s 9c i 9s 6c y bwsel o 61 pwys; haidd o 4s 10c i 5s 4c y bwsel o 54 pwys; ceirch o 39 30 i 3s 6c y bwsel o 40 pwys; blawd o 47s 00 i 63s 00 y sacho 280 pwys. CAERNARFON, Mai 16eg.-Gwenith o 74s 00 i 75s 6c y chwarter; haidd, 39s Oe i 41s Oc y chwarter; ceirch o 28s 6c i 30s 6c. y chwarter; blawd ceirch, o 42s i 43s Oc y 240 pwys ymenyn ffres, o 16c i 19c y pwys; wyau, 5s y 100; cywion ieir, Is 3c i Is 6c yr un. BANGOB, Mai 15.—jGwenith, o 73s 6c i 74s 00 y chwarter; haidd, o 39s Oc i 40s 0o; ceirch, o 29s Oc i 31 Oc; blawd ceirch, o 41s i 42s y 210 pwys; ymenyn ffres, o 17c i 18c y pwys; cig eidion, o o-c i 8c y pwys cig dafad, o 7c i 9c y pwys; hwyaid, o 3s 6e i 4s Oe y cwpl; cywion ieir, o 2s 0c i 2 s 6c y cwpl: wyau, 10 am 6e.
Advertising
Newydd ei gykoeddi, rhan laJ, pris Swlll, 0 R H YD D-WE IT HI A U HIRAETHOG; Sef Gweithiau Llenyddol Y PARCH. W. REES, LIVERPOOL. I'W gwblhau mewn 12 rhan. Danfonir pob rhan trwy y post ar dderbyniad 13 stamps. ■ Liverpool:—Cyhoeddir gan Isaac Foulkes, Peter's Lane. 48—49.
rJ1ukødtb cStUtddø1. ------------,--+_-
Darllemvyd Bil y Tollau a Threth yr Inewm y dryd- edd waith yn Nhy yr Arglwyddi nos Fawrth. Ymohir- iodd eu Harglwyddi hyd ddydd Gwener. Gofynodd Mr Gladstone yn Nhy y Cyffredin, i Mr Disraeli hys- bysu beth oedd bwriad y Llywodraeth mewn perthynas i ail ddarlleniad y Bil Oedfuddiadol, yr hwn oedd i gael ei ail ddarllen.nos Wener nesaf, ac atebwyd ef yn ben- dant eu bod yn bwriadu rhoi cymaint a allent o wrth- wynebiad i'r bil. Rhoddodd y MilwriadFrench rybndd y byddai iddo yn y pwyllgor ar Fil Diwygiadol yr Iw- erddon, gynhyg adran yn darparu na byddai i'r sir gyda llai na mil o drigolion gael dychwelyd aelod.