Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
OXTON & Co.'s SEWING MACHINES, for DRESSMAKERS$TAILORS, with stand, £ 5 5s AXTON'S REPAIRING MACHINES, for REPAIRING OLD BOOTS, £ 10 10s. complete. WILLCOX & GIBBS—NOISELESS FAMILY SEWING MACHINE from £ 8. It is the simplest; least liable to get out of order; best made; runs the stillest; runs the easiest; runs the fastest; requires the least mechanical skill to use it; has the best hem- mers and feller has no equal. OXTON & Co., 122, BOLD STREET, LIVERPOOL, Importers and Exporters of ALL KINDS OF SEWING MACHINES NEEDLES, SPRINGS, THREADS, TO SUIT ALL MACHINES. MACHINES REPAIRED. AGENTS WANTED. (5S AIS AR WERTH. DYMUNWYF hysbysu Adeiladwyr, Masnach- w \J wyr, ac eraill, a ddefnyddiant Ais, fod genyf yn wastad Stock dda ar law, yn un o'r lleoedd mwyaf eyfleus at Stations y Rheilffyrdd, i'w hanfon i bob man. Pris rhai 4 troedfedd 13s. y fil. Eto 3 eto 119. y fil. Cyfeirier at DAVID ROBERTS, 14, Victoria Road, Tran- mere Park, Birkenhead. (Gyat o 41 Great Howard St., Liverpool.) JOHN BRIGHT YN LIVERPOOL. Bydd y Ssneddwr enwog uchod yn nghyd ag amryw fonedd- igion eraill yn areithio yn un o N euaddau mwyaf y dref nos Fercher, Mehefin 3ydd, 1868, yn nglya a'r GYMDEITHAS DDIWYGIADOL GYMREIG. Gynhelir cynhadledd am ddau o'r gloeh y prydnawn, pryd y disgwylir preaenoldeb amryw gyfeilhon Rhyddid a Diwygiad o bob garth o'r Dywysogaeth. Derbyniad i mewn trwy Docynan. Ceir manylion pellach yn y rhifyn nesaf. L. WILLIAMS, Ysgrifenydd. 2, Canning Chambers, South John St. y TABERNACL, NETHERF1ELD ROAD, i LIVERPOOL. .tSTNHELIR Cyfarfod Pregethu yn y Oapel \J pehod ddydd Sabbath, Mai 24ain, 1868. Pregethir ar yr achlysar gan y Pa^chedigion W. Rees, D.D.; E. Evans, Llan- gollen; J. Roberts, Brymbo, (gynt o Lanerehymedd), a J. ]Bowlan4s, Rhos. IØ' Gwaeir casgliad tuag at ddyled y capel yn mhob oedfa. YR UN SABBATH, YN NGHAPEL OLIVER ST., BIRKENHEAD, CYNHELIR Cyfarfod Pregethu, pan y gweinyddir gau y N-) Parchn, N. Stephens; J. Rowlands; Rhos; a J. Roberts, Brymbo, (gynt o LanerchyBiedd). Bydd y Parch Joshua Davies, (T.C.), yn pregethu yn un am ddauo'r gloch—y oregeth olaf yn Birkenhead .cyn ymsefydlu yn Llundain. -Bydd yn dda gan ei gyfeillion o wahanol enwad.au gael cyfle w Oedfaon,—10^, 2, a 6 o'r gloeli. Cesglir^bob O0CuSea AT GYSSODWYR. YN EISIATJ, ya ddioed, Oyssodwr da, a sobr, ar y TYST CYMBSIG. Ymofyner a Mr. A. Rowlands, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool. Bydd agoeiad CAPEL NEWYDD GIBEOIf ger St. Clears, Caerfyrddin, ar y 9fed a'r 10fed o fis Mehefin nesaf. Dechreuir y cyfarfod prydnawn y dydd cyntaf am 6 o'r gloch, ae am 9 J, 2, a 6 0'1,' gloch y dydd canlyn- ol. Teimlir yn ddiolchgar iawn am bresenoldeb a chynorthwy pawb a alio fod yn bresenol, er cynorthwy yr eglwys i ddileu y ddyled fawr. A. Jenkins, Gweinidog.
•■"i ii »——^———tmmmmmmm— AT…
•■ "i ii »——^———tmmmmmmm— AT Y CYHOEDD. DDARLLENWYR CRAFFUs,-Wele hanes rhyfeddol a theilwng, am Y PROFFESWR JOSEPH THOMAS (Josephvs Bryri), 33, CLARENCE STREET, MOUNT PLEASANT, LIVERPOOL. (Professor of the Remedial Power of the Electric Fluid Medical Magnetism, and Galvanism, and Practical Phrenology), yn meddyginiaethu, trwy y Fywydol Elfen, wedi i bawb a phob peth fethn, yr hwn sydd er's blynyddoedd meithion gerbroin y cyhoedd fel meddyg, a'r gwelliadau hynod a wnaeth wedi peri syndod i Gymry, Saeson, a iluaws o'r. Cytandir, Sylwer ar y llythyr hwn sydd fel y canlyn Aethum at Proffeswr Thomas tan effeithiau an- wyd trwm ar fy nglun. Yr oedd yn amesmwyth a phoenus angerddol am amser maith, nes yr oedd fy nghyfansoddiad drwyddo yn gwanhau. Gwnaeth- um brawf ar bob moddion i'w dadgloi, ac i liniaru y boen, cyn dyfod ato, megys ymdrochi yn y mor, mewn ffynhonan, acj mewn baddan, &c., ond y cwbl yn hollol ofer. Nid oedd y nos yn dymhor gorphwys i mi, na'r dydd yn adeg o lawenydd, gan mor fawr fy mhoen. Cefais ef yn hollol ddifost—dywedai fel dyn gonest y eymme-rai dipyn o amser, fel ag yr oedd wedi cyhoeddi ugeiniau o weithiau foci pob hen anhwylder yn gofyn llawer o wythnosau o brawf, pan na bydd y rhai na fu cynddrwg a chyhyd o amser yn gofyn cymmaint. Sicrhai y gwnai ei oren i mi. a gwelais ei fod yn ddyn i'w air. Gwell- Jiaodd fi yn hollol. Effeithiodd nid yn unig ar fy nrrlun, ond ar fy holl gyfansoddiad. Symmudodd boenau echryslon iawn, trwy foddion tyner iawn. Sylwer mai nid a.'r peirianau y mae yn gweithredu bob amser, fel y cyffredin, ond defnyddia natur ei hun, sef yr eIen wefrol fywydol, er fod ganddo y! peirianau goreu a ddyfeisiwyd erioed, pa rai a all gymhwyso at lygad plentyn, yn gystal ag at y oyf- ansoddiad mwyaf cawrfilaidd. Yn sicr fe ddylai ei gymywysderau gael eu cyd- nabod yn gyhoeddus. Gwir nad yw yn fyr o lythyrau canmoliaeth "-buom yn darllen canoedd o honynt, oddiwrth bersonau pwysfawr a geirwir, wedi derbyn gwelliadau hynod, rhai o honynt yn ail i wyrthiau, ac y mae croesaw i unrhyw un gael eu gweled (gan eu bod yn llawer rhy luosog i'w cy- hoeddi) a gwneud yr ymchwiliad manylaf yn eu Y mae Proffeswr Thomas yn deall natur, ac yn medru gwneud y defnvdd goreu o honi. Y mae yn node dig- o fedrus, fel y mae canoedd yn dystion. Y mae yn myned ar gynydd yn barhaus. Trwy brofiad a myfyrdod, ymae wedi cael amrai bethau newyddion allan yn ddiweddar, sydd yn sicr o fod yn wasan- aethgar iawn. Dymunaf y llwyddiant mwyaf iddo i symmud ymaith wahanol boenau y ddynoliaeth. Sylwer, a dealler, y geill pawb weled fy enw i a ewyllysiant ond ymofyn gyda Proffeswr Thomas, a chael llwvr foddlondeb o barth gweled digonedd o dystiolaethau, ac enw pob un yn gyflawn ac eglur, a'r cyfeiriad yn berffaith amlwg a dididwyll. Mae nifer mawr o hysbysiadau y naill amser ar ol y Hall yn y cyhoeddiadau er's llawer o Synyddoedd yn cyn- wys rbestr helaeth iawn fo enwau rhai yn sicrhau gyda thystiolaethau, eu bod wedi cael eu meddygin- iaethu trwy Ddymgyrchiad y corph dynol y wir Fywydol Elfen ganddo ef, er na lwyddodd neb arall i wneud dim lies iddynt. Geill yr ymofynydd hefyd weled enwau nifer luosog iawn o bob dosparth o bobl, uehel ac isel radd, y rfoai a iachaodd efe y cyfryw o herwydd llawer o ystyriaethau, a phethau rhesymol gwir deilwng, ac esgusodol, a chwennych- ant fel fy hun, yn hytrach i'r cleifion ac eraill weled eu henwau gyda ProffeswrThomas ei hun, nag yn gyhoeddus. Dymunwyf iddo bob llwyddiant i iachau y cleifion. GOHEBYDD." (Gwelsom enw y Gohebydd," ae enwau llawer- oedd eraill. Gallwn yn hawdd ddeall fod personau yn teimlo anfoddlonrwydd i gyhoeddi eu henwau trwy y Wasg, eto nid yw y ffeithiau yn llai gwir. Un o'r Golygwyr).
HELAETHIAD ':T Y ST:'.
HELAETHIAD ':T Y ST Anfonasom bapurau bychain i'n holl Ddosbarth- wyr yr wythnos ddiweddaf, yn cynyg helaethu Y TYST os cefnogeat- ni trwy ychwanegu y derbynwyr. Yr ydym wedi derbyn atebion sylweddol oddiwrth luaws o honynt eisioes, ac y maent yn parhau i ddylifo i'r swyddfa gyda phob Post. Nid oeddym erioed wedi dychmygufod ein gwasanaeth mor dder- byniol a chymeradwy gan ein derbynwyr a'n dos- barthwyr. Er nad ydym wedi cael ond ychydig, YCHYDrn IAWN o achwyniadau er cyhoeddiad y rhif- yn cyntaf o'r TVST a'r ychydig hyny wedi dyfod agos yn gwbl o'r un parth, ac oddiwrth bersonau nas gallasem ddisgwyl llawer o gefnogaeth oddiwrth- yiit; ond nid oeddym erioed wedi dychmygu fod ein TIafar mor foddhapl gan ein cyfeillion, nes y daeth y cynyg am helaethiad y TYST yn achlysur iddynt i'w ddatgan ini. Byddai yn rhyw beth rhy debygi ym- flfrcsb ynom i gyhoeddi y cymeradwyaethau a dder- byniasom, ond cadwn hwy yn ofalus, a derbynied ein cyfeillion ein diolchgarwch mwyaf diffnant am dan/nt. Yr ad-daliad goreu ganddynt fydd yr hys- bysiad ein bod wedi penderfynu helaethu y TYST yn ddioed. Gwneir pob Colofn yn HWY o DDWY FODFEDD a phob Tudalen yn LLETACH, fel ag lgynwys PUM COLOFN yn lie PEDAIR—y colofn- au oil yr un lied a'r colofnau presenol, bydd felly rhwng yr WYTH COLOFN ychwanegol ac estyniad yn y colofnau, yn cynwys TAIR COLOFN AR DDEG MWY o FATEK nag y mae yn bresenol, ac o ganlyniad y NEWYDDIADUR CEINIOG MWYAF YN YR IAITH GYMRAEG. Bydd yr helaethiad i ni yn draul ychwanegol bwysig iawn; ond y mae ein hyder yn ein dos- barthwyr a'n derbynwyr y fath fel y cwbl grert • wn y bydd yr ychwanegiad yn rhif y derbyn- wyr yn ddigon i'n diogelu rhag colled yn yr antur- iaeth. Nis gellir anfon ond tri, wedi yr helaethiad, trwy y Post am geiniog; ond disgwyliwn y bydd pawb sydd yn derbyn 4, bellach yn cymeryd 6—a'r rhai sydd yn cymeryd 8 yn cymeryd 12 ac felly yn y blaen yr ychwanegir haner rhif y derbynwyr presen- ol. Disgwyliwn y gellir gwneyd y cyfnewidiad gyda rhifyn Mai 29ain, a byddwn ddiolchgar iawn i'n holl ddoBbarthwyr a anfonarit i ni yr arcVieljion ych: wanegol cyn hyny.
I.'...., AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Daethi law Gwilym D. W.; Epenetus Bryniog; Penryn Fardd; Forpex; Ap Daearegydd; H. M. Fotty; Pererin ( yn ein nesaf); Gwilym Gwenffrwd (yn ein nesaf); Llanbrynmair ac America (yn ein nesaf); J. D. J. (Rhoddir yradolygiad mor eynted y gallom); Iolo Llantrithyd. r I. 'AN.-Yr ydym yn auf on y Llythyrau at Mr Gladstone bob tro, ac iluaws o aelodau Seneddol a boneddigion eraill. Cyfeiner y Gohebisethau ofl-To the EDITORS OF THE TTST CTMBBIO, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool.
ANGHYFFREDINOL! NEILLTUOL…
ANGHYFFREDINOL! NEILLTUOL ARBENIGOL SONIWYD am y peth hwn yn y TYST o'r blaen, a aoniwyd am dano yn mhob newyddiadur yn y deyrnas ond y mae llawer o bethau i'w dywedyd am dano eto. Cyfarfod mawr yr Eglwyswyr yn Neuadd St. Iago yn Llundain i amddiffyn yr Eglwys Sefydledig yn Iwerddon yn erbyn penderfyniadau y gelynddyn Gladstone, oedd y peth anghyffredinol, neilltuol, ac arbenigol hwn. Nid oes hanes am gyf- arfod arall o'i fath erioed yn holl yrfabywyd Eglwys Loegr, o ddyddiau ei sylfaenydd cyntaf, Harri VIII, hyd y dydd hwn gan hyny yr oedd yn un anghy- ffredinol. Nid oedd neb ond cyfeillion calon yr Eglwys Sefydledig yn Lloegr a'r Iwerddon i gael myned iddo, hyd y gellid; gan hyny yr oedd yn un neilltuol. Nid oedd neb i gael cynnyg gwelliant, nac i ddyweyd yr un gair aryr ochr arall i'r pwnc,— gofynid cymeradwyaeth y cyfarfod i'r penderfyn- iadau, ond nid oedd caniatad i neb, ar ei berygl, i godi llaw yn eU herbyn; gan hyny yr oedd yn gyfarfod arbenigol iawn. Yr oedd yn bresenol ynddo bedwar Archesgob pedwar ar bumtheg o esgobion Seisnig, Gwyddelig, a threfedigaethol; pump o dctuciaid, pedwar ardal- ydd, deunaw o ieirll, wyth o is-ieirll, pedwar ar ddeg o farwniaid, a phedwar ugain ac un o aelodau seneddol, a thyrfa fawr o offeiriaid o bob gradd, ac urdd, ac enw, y cyfryw na chlywsai Aaron, dan yr hen Destament, na Phaul, dan y Testament newydd, son erioed am danynt. Cyfarfod cyffelyb ydoedd y cyfarfod hwn yn Neuadd St. Iago, i'r cyfarfod a alwodd Nebuchodonosor gynt yn ngwastadedd Dura, o fewn talaeth Babilon, i gyssegru y ddelw aiir a gyfodasai. Yr oedd yh gyhnulledig yn y cyfarfod hwnw dywysogion, duciaid, pendeligion, y7y rhaglawiaid, trysorwyr, oyfreithwyr, trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau. Yr oedd! y ddau gyfarfod yn debyg iawn y naill i'r Hall o ran. cyfan- soddiad a gwedd y gynnulleidfa. Yr oedd yr olwg Hlanol i'r llygaid ar y ddau yn debyg iawn i'w gilydd. Yr oedd holl wychder a mawredd Babilon yn cael ei arddangos ar wastadedd Dura y dydc? hwnw, ac yr oedd holl wychder a mawredd Lloegr a Liundain yn cael eu cynhrychioli yn nghyfarfod Neuadd St. lago, y dydd o'r blaen Yr oedd natur ac amcan y ddau gyfarfod hefyd yr un a'r unrhyw. Achos y ddelw aur' oedd gan y ddau i'w ddadleu. Y gwahaniaeth oedd, mai cyf- odi a chyssegru y ddelw aur a wnaethai, oedd am- can Nebuchodonosor yn galw y cyfarfod ar wastad- e d Dura; ond amddiffyn y ddelw aur a godasid yn Iwerddon, yn wyneb yr ymosodiad a wna cyssegr- yspeilwyr fel Gladstone a Bright arni, oedd amcan a dyben y cynnulliad mawr yn Neuadd St. Iago. Yr oedd trefn ac yspryd y ddau gyfarfod yr un a'r unrhyw hefyd. Nid oedd neb i gael dyweyd yr-un gair. yn erbyn y ddelw aur yn nghyfarfod gwastad- edd Dura, onide, bwrid ef i 'ffwrn o dan poeth.' Yr oedd raid i bawb blygu o flaen y ddelw neu losgi yn y tan. Felly yr un modd, ni oddefid yn nghyfarfod Neuadd St. Iago i neb ddywedyd un gair yn erbyn y ddelw aur a gyfodwyd yn Iwerddon, na dangos yr arwydd lleiaf o anfri iddi, onide, bwrid ef, nid i ffwrn dan Smithfield, yn wir,r--y mae hono wedi diffodd, coffa da am dani; ond bwrid ef allan o synagog y cyfarfod, a throediad iddo o'i du ol. Ac ystyried pob peth gyda'u gilydd, credwn na bu dau gyfarfod tebycach i'w gilydd un amser na'r hen gyfarfod hwnw yn Babilon, a'r cyfarfod diweddar hwnw yn Llundain. Yr oedd y Beibl a'r ddelw aur—gwaddol yr Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon (ac yn Lloegr heiyd), yn ddau gydymgeisydd am sylw, parch, ac anrhydedd, a chalon y clerigwyr y dydd hwnw, canys yr oedd cyfarfod blynyddol y Feibl Gymdeith. as yn cael ei gynnal yn Exeter Hall hefyd. Ond y ddelw aur aeth a hi, o ddigon. Yr oedd rhai- ychydig, a geisient ddangos parch i'r ddau, am geisio myned ar ol y Beibl a Baal,-preseuoli eu hunain yn ddau gyfarfod. Nid oedd gan Esgob Llundain am- ser i areithio llawer ar achos y Beibl yn Exeter Hall, canys yr oedd brys arno i fyned i areithio dros barhad y camwri anferth a gwrthun-delw aur, neu Eglwys Iwerddon, yn St. James' Hall! Mewn gwirionedd, beth a feddylia y dynion hyny o honynt eu hunain yn eu mynudau ystyriol a di- frifol ? Oni raid fod eu synwyr a'u cydwybod yn tystiolaethu yn erbyn y peth yr oeddynt wedi ym- gynnull i'w amddiffyn ? Onid oedd yn gofyn rhyw wroldeb mawr o ryw fath i sefyll yn gyhoeddus felly i geisie cyfiawnhau anferthwch y mae Asia afx byd oil,* oivwecli DeUJ.c1¡riu5, y got arian, yn Ephesus gynt, nid yn ei addoli,' ond yn ei gon- demnio, ac yn echrydu ato, ac yn gwaradwyddo ein gwlad o'i blegid ? Er hyny, nid oedd un achos a berthyn i grefydd, neu ddyngarwch, a allasai dynu Archesgobion ac esgobion o'u palasau ac oddiar eu meinciau, i'r platform i ddadleu trosto, fel y darfu i achos y ddelw eglwysig waradwyddus yn Iwerddon eu tynu i St. James' Hall y diwrnod hwnw. Ond rhyfedd mor ddieffaith fu y cyfarfod wedi'r cwbl. Nid oes neb yn meddwl dim am dano, nac yn teimlo dim oddiwrtho. Trodd Mr Gladstone ef heibio megis gyda pw pan gyfeiriwyd ei sylw ato yn Nhy y Cyffredin; a pw pw! medd y newyddiaduron a'r wlad yn gyffredin ar ei ol. Yr oedd llawer o ddynion da yn y cyfarfod yn ddiau, ond dynion da yn pleidio achos drwg iawn oeddynt, a Uawer o honynt mewn yspryd drwg iawn hefyd, fel yr ymddengys oddiwrth hanes y cyfarfod a thrueni mawr oedd gweled dynion da yn pleidio achos drwg felly. 0, ie, dylaswn grybwyll fod yn bresenol yn nghyfarfod Neuadd St. Iago, Shadrach, Mesec, ac Abednego hefyd. Anfonodd un o'r tri llanc adrodd- iad o'r cyfarfod, yr hwn a ymddangosodd yn y TYST yr wythnos ddiweddaf. Ond y mae yn ddrwg genym na fu y tri llanc yn Neuadd Iago mor wrol a ffydd- Ion a'r tri llanc ar wastadedd Dura, gan, yn ol addefiad y llanc a anfonodd yr adroddiad i ni, mai llechu yn y lluaws a gwasgu y glust a wnaethant hwy; ni churasant eu dwylaw mewn cymeradwy- aeth i'r areithwyr a'r areithiau, ac ni chodasant ddeheulaw i gymeradwyo y penderfyniadau, medd ef, ond lied addefa eu bod wedi codi eu dwylaw i gymeradwyo y bleidleis o ddiolchgarwch i Nebuch- odonosor, cadeirydd y cyfarfod, ar ei ddiwedd. Ai gwir hyn, Shadrach, Mesec, ac Abednego ?'
[No title]
I, CYFARFOD UNDEB DIRWESTOL CYMREIG SIR BEN- FRO-A gynhaliwyd yn Solfach, ddydd Mercher, y 13eg o Fai, 1868. Aeth tua 160 o aelodau Bands of Hope Tyddewi a Solfach trwy y dref a'u baneri o'u blaen a'u cardiau dirwestol ganddynt yn tynu sylw pawb. Wedi cyrhaeddg yr Ysgoldy iBrytaidd, can- asant don ddirwestol. Yna aethpwyd i'r Capel An- nibynol, lie y dechreuodd Mr J. Owen (T.C.), Ty- ddewi, yr oedfa. Llywyddodd D. Williams, Ysw., Pentery. Cyfarfod oedd hwn i gydymgynghori, a threfnwyd fody cyfarfod hanner blynyddol nesaf i fod yn Nhyddewi, a bod ymdrech i gael ymweliadau a phob eglwys yn y Sir a roesawo y cyfryw ymweliad gan ddau weinidog dirwestol o wahanul enwadau. Ymgynunerodd y brodyr Davies, Woodstock (T.C.); Davies, Tyddewi (B.) ac Evans,! Hebron, ddwyn y mater ger bron eu gwahanol gyfundebau. Terfyn- odd y Parch. D. Jones, Ford, trwy weddi. Am 6, yr oedd y Capel yn llawn, gweddiodd Davies Ty- ddewi, pregethedd Davies Woodstock, ar 1 Cor.vili. 11 —13., a Evans Hebron, ar Esaiah v. 22. Hyder- wn fod y cyfarfbd wedi daloriogi dirwestwyr ieuainc a'u symbylu i weithgarweh gyda'r achos.—^ Evant,
rJ1ukødtb cStUtddø1. ------------,--+_-
rJ1ukødtb cStUtddø1. --+_- Nos Fercher, yn Nhy y Cyffredin, darllenwyd bil Mr Ewart, i fabwysiadu y gyfundrefn fesurol, yr ail waith, trwy fwyafrif o 217 yn erbyn 65 ond yr oedd yn ddealledig y gohirid ystyriaeth pellach o'r mater, hyd nes y byddai i'r ddirprwyaeth sydd yn awr yn eistedd ddyfod a?u hadroddiad, fel na wneir un cyfnewidiad amflwyddyn neu ddwy eto. Oyn- hygiodd Mr Coleridge y bil er diddymu y prawfebau yn mhrifyagolion Cambridge ac Oxford. Dadleuai yn gryf na fyddai diddymu y prawfebau hyn yn un niweid i Gristionogaeth, ond yn hytrach fel erad. Gwrthwynebai Mr Walpole y bil, a chynhygiai ei ail ddarllen yn mhen y chwe mis. Gwnaeth Mr Winterbottom ei araeth gyntaf, yr hon a dderbyn- iwyd yn ffafrioi iawn, dros ail ddarlleniad y bil. Adgoffai l r Ty, na byddai i'r bil roi dim cefnogaeth i ddylanwad y Babaeth, oblegid os sylwid mai y dyn- ion oeddynt wedi ymuno a'r eglwys Babaidd oedd y rhai hyny oeddynt wedi llyncu yr holl brawfebau a ofynid ganddynt. Gwrthwynebwyd y bil gan Syr W. Heathcote, Mr Hubbard, a Mr Powell. Yn unol a rheolau y Ty gohiriwyd y ddadl am gwarter i chwech. Cyfododd Mr Gladstone ar ei draed i gyn- hyg ei fil Oed-fuddianol, ond yr oedd yntau yn rhy ddiweddar y noson hon. Pasiwyd bil yr Income, ao amryw eraill, trwy y pwyllgor, Nos lau, cafodd Mr Sheridan hysbysiaeth oddi- wrth Ysgrifenydd Bwrdd Cyfraith y Tlodion, mor bell agy gwyddai ef, na fwriedid gwneyd un cyfnew- idiad gyda'r compoundio yr eisteddiad presenol. Ar y, cynhygiad i ymffufio yn bwyllgor ar Fil y Terfyn- au, cyfeiriodd Mr Gladstone at y gyfres fawr o wrth- wynebiadau oedd yn, erbyn y bil, ac awgrymai gan y byddai yn anmhosibl. ei basio mewn pryd eleni, mai gwell fuasai mabwysiadu gwelliant Mr Hibbert, yr hwn gan adael yr holl hen fwrdeisdrefi, a ymdrin- iai a'r rhai newyddion yn unig. Yr oedd Mr Disraeli ar y cyntaf yn anfoddlawn i fabwysiadu y cynllun yma, ond ar ol i Syr F. Crossley, a Mr Russell Gur- ney, dan o aelodau Dirprwyaeth y Terfynau, ddat- gan eu parodrwydd i gyfeirio y bil i bwyllgor neill- duol a fyddai gandclo bawl yn unig i ymdrafod a'r yn -unig i ym lleoedd hyny ag yr oedd deisebau wedi eu derbyn mewn perthynas iddynt, cydsyniodd yntau a hyn, a boddlonodd y Ty hefyd, ar y dealldwriaeth y buasid yn cymeryd y gwelliantau ag yr oedd rhybudd wedi ei reddi am danynt i ystyriaeth yn gystal a'r deiseb- au. Yna cyfododd Mr Gladstone i ymofyn caniatad i ddod a Bil Oed-fuddiancl i mewn, i atal apwynt- ladau newyddion yn yr Eglwys Wyddelig hyd Awst 1869, ac i atal mewn rhan weithrediadau dirprwy- wyr eglwysig yr Iwerddon. Cyfododd y Milwriad Knox i wrthwynebu y cais, a datganai ei benderfyn- iad i wrthwynebu y bil yn mhob gris o hono, a chyn- hygiai ei fod i gael ei ddarllen yn mhen chwe mis. Wedi dadl lied drystiog, rhoddwyd caniatad i ddod a'r bil i mewn heb ranu y Ty. Yna cynhygiodd yr aelod anrhydeddus y darlleniad cyntaf, a phasiwyd hyny. Penodwyd ar nos Wener yr 22ain i'r ail, ddarlleniad. Yn Nhy yr Arglwyddi nos Wener, gofynodd Iarll Shaftesbury, ychydig yn frwdfrydig os oedd y Llyw. odraeth yn bwriadu gweithredu dim ar ddau adrodd- iad cyntaf Dirprwywyr Defodaeth; ac atebwyd ef yn nacaol. Dywedai Iarll Malmesbury ei bod yn rhy fuan i ddeddfwriaethu ar y mater nes i adrodd- iad llawn y dirprwywyr gael ei gyflwyno. Yn Nhy y Cyffredin yr un noson, rhoddodd Ser- geant Armstrong rybudd y byddai iddo wythnos i nos Lun canlynol, gynhyg- penderfymad, yr hwu yn gyiystyr a datganiad o ddiffyg ymddiriea- aeth yn y Llywodraeth. Addefai y Milwriad Knox, yr hwn oedd y noson o'r blaen wedi gwneyd cam- gymeriad chwerthinus trwy briodoli i Mr Gladstone araeth gref ffafriol i'r Eglwys Wyddelig, draddod- wyd ddwy flynedd yn ol gan Mr Whiteside, Toriad Gwyddelig, ei fod wedi gwneyd camgymeriad, a gwnai ymddiheuriad i'r aelod anrhydeddus, aci'r ty. Tynodd Mr Hayter, oddiwrth y Twrne Cyffredinol gadarnhad i'r adroddiad fod y Prif Farnwr Boviel wedi penodi ei fab, cyn-isgadben byddin o feirch- filwyr, yn ysgrifenydd brawdlysoedd yn y gylchdaith orllewinol, am yr hyn y mae i gael lOOOp o gyflog. Ymgeisiaiy Twrne Cyffredinol ddangos fod y penod- iad yn deg, ond rhoddodd Mr Hayter rybudd y gwnai brofi barn y ty ar y mater, yn mhwyllgor cyfrifon y gwasanaeth gwladol. Cynhygiodd Syr C. O'Loghlen ar i anerchiad gael ei gyflwyno i'w Mawr- hydi, i ddymuno arni drefnu cartref Brenhinol yn yr Iwerddon. Yn yr ymddiddan a gymerodd le mewn canlyniad i hyn, ni roddai Mr Disraeli unrhyw sail i obeithio y cyrhaeddid hyn yn fuan, ond addawai na chai y peth ei anghofio. Ar ol dadl fer mewn perthynas i'r cofrestriad dynesol, a gweithrediad cyfraith Hapchwarae, ymffurfiodd y ty yn bwyllgor cyflenwad. Yn Nhy yr Arglwyddi nos Lun, cytunwyd ar adrodd- iad Bil Rheoliad Rheilffyrdd, ar ol i fan welliantau gael eu dwyn i mewn. Darllenwyd Bil Ysgolion Gwaddol- edig, a Bil y Tollau a Threth yr Incwm, yr ail waith. Yr un noson yn Nhy y Cyffredin, penodwyd yn bwyll- gor neillduedig Mr Walpole, Syr W. S. Maxwell, Mr Whitebread, Mr A. Bruce, a Mr Hodgson, i ystyried terfynau amryw fwrdeisdrefi, yn eu plith Liverpool, Birkenhead, Birmingham, Caer, Manchester, Derby, Preston, a Wigan. Gwiiaed amryw gynhygiadau i gyfyngu awdurdod y ddirprwyaetli, ond taflwyd yr holl gynhygiadau hyn dros y bwrdd, a rhoddwyd yr awdur- dod angenrheidiol i'r dirprwywyr i alw am dystiolaeth ysgrifol yn gystal a rhai eraill gofynol. Ar ymffurfiad y ty yn bwyllgor arFil Diwygiadol Ysgotland, cynhyg- iodd Mr Baxter, fod cynrychioliadau ychwanegol Ys- gotland i gael eu cymeryd trwy ddadfreiniad y bwrdeis- drefi Seisonig hyny oeddynt a llai na 5000 o boblogaeth. Cynhygiodd Syr R. Knightley, fel gwelliant, fod i un sedd gael ei chymeryd oddiar fwrdeisdrefi Seisonig oeddynt a llai na 12,000 o drigolion. Yn y ddadl a gy- merodd le ar y mater, cefnogodd Mr Gladstone, Mr Yorke, Mr H. Baillie, a Mr M'Laren, y cynhygiad gwreiddiol, yr hyn a wrthwynebwyd gan Mr Disraeli, yr Arglwydd Ddadleuydd, a Syr H. Edwards. Ar ran- jad v tv, cafwvd Dros gynhygiad Mr Baxter 217 Yn erbyn 196 Mwyafrif yn erbyn y Llywodraeth 21 Yna oynhygiodd MrM Laren fod Ysgotland i gael 15 o aelodau newyddion, ond ar ol peth dadl, tynwyd y cynhygiad yn ol. Yna ymffurfiodd y ty yn bwyllgor ar adran trethiad personol. Cynhygiai Mr Bouverie ar iddo gael é adael allan, ond amddiffynid ef gan yr Ar- glwydd Ddadleuydd. Dywedai Mr Bright y dylid rhoddi tipyn o bwys ar ddymuniacl pobl yr Ysgotland, a hyderai y gwnai yr Arglwydd Ddadleuydd adael idd- ynt gael eu ffordd yn hyn o beth. Ar ol cryn ddadl, rhanwvd v tv. Dros welliaht Mr Bouverie 118 Yn erbyn 96 Mwyafrif yn erbyn y Llywodraeth 22 Derbymwyd cyhoeddiad y rhifedi gyda chymeradwy- aeth mawr gan yr Wrthblaid..Barnai Mr Disraeli fod yn well i'r Cadeirydd ohirio ar hyn, wedi y penderfyn- iad yma o eiddo y ty, er mwyn i'r Llywodraqth ystyr- ied eu sefyllfa mewn perthynas i'r cwestiwn. Gofynodd Mr Gladstone pa bryd yr elid yn miaen etc gyda'r bil, a dywedodd Mr Disraeli mai dydd Llun nesaf, Yna ymffurfiodd ytyyn bwyllgor cyfienwad. Ceisiwyd atal lOOOp, cyflog mab y Prif-Farnwr Bovill, ond gwrthod- wyd hyn ar yr amod i'r Trysorlys ystyried y mater, Ymphiriodd y ty am chwarter i un o'r gloch y boreu.