Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

-CYFARFODYDD MAWRION MAI.

News
Cite
Share

CYFARFODYDD MAWRION MAI. WmiiSmrnod eto. Dywedodd rhyw un fod bywyd dyn i'w gyfrif nid wrth nifer y blynyddpedd sydd yn rhedeg dros ben dyn ond wrth sww y gwaith; a lwne4 gauddoyn, y blynyddoedd hyny. Fod ambell un i bob amcan byw triugain a deg mewn deng mlynedd ar hugain —a llawer un er cyrhaedd o gryfder i rif pedwar ugain mlynedd, eto heb fyw yn briodol ugain mlyn- edd. Os ydyw hyny yn gywir amfywyd yn gyffred- inol y mae dyn yn byw mewn mis yn LIundain yn nghyfarfodydd Maifwy nag a all fyw yr un mis ar ddeg arall; ac y mae un diwrnod yn crynhoi ynddo ei hun fwy na digwyddiadau mis cyffredin. Rhodd- ais o'r blaen hanes un diwrnod, ac y mae gonyf ynl awr roddi hanes diwrnod arall. Nis gallaf roddi hanes pob dydd. onide cymmerai y TYST i gyd, a byddai yn llawer rhy fach yn y diwedd; a hyny wediei helaethu i fod y Newyddiadur Ceiniog mwyaf yn yr Iaith Gymraeg. Ond art y diwrnod. Cym- merais ddydd Mercher y tro o'r blaen; ond cymmeraf ddydd Iau y tro yma, sef dydd lau, lVIai 14eg; Dechreuaf gyda'r Gyfarfod Cenhadol. Dyma gyfarfod mawr y diwrnod, ac un o gyfar- fodydd lluosocaf a phwysicaf y tymhor. Yr oedd Exeter Hall ynllawn-yn llawnach nag y gwelais hi yn yr un o'r cyfarfodydd eleni. Mae o leiaf 500 ar y Platform, Gweinidogion a laymen-dynion blaenaf yr enwad. Mae gwaelod yr Hall a'r orielau yn orlawn-Turn out ardderchog ydoedd. Ceisiais gyfrif y bobl; bai neu beidio fellu y bu. Yr oedd ar y gwaelod 40 rhestr o'r platform i'r pen pellaf dan y gallery; ac ar bob rhestr o leiaf 60 at eu gilydd, gwna hyny 2,400. Safai llawer o gylch y drysan fel yr wyf yn sicr fy mod dan y marc wrth ddweyd 2,500 ar y Ilawr. Yr oedd 400 ar y galleries, a 500 ar y platform yn gwneud 3,400. Nid wyf yn mhell o fod yn gywir. Pe gofynasid i lawer un dywedasai fod yno 7000. Bum mewn cymanfaoedd y dywedid fod ynddynt 10,000 nad oedd ynddynt gynnifer. Nid oes yn twyllo dynion, neu beth bynag nid oes dim ag ymae dynion yn twyllo eu hunain yn fwyarnynt na rhifedi fyddo mewn cynnulleidfaoedd. Ond y mae 3500 yn 'dorf ofnadwy' ys dywedai ryw fach- gen am y nifer oedd yn ei wrando unwaith mewn ty annedd, Merched (boneddigesau, ddylaswn ddweyd) oedd gan mwyaf ar waelod yr Hall. Boneti yn ddi- bendraw, ac nid boneti ychwaith ond soceri ar gopa en pen. Mae y Ladies a'u gwniadwaith gyda hwy yno ac yn brysut wrthi yn disgwy] i'r cyfarfod ddechreu. Yn fuan wedi 10 dyma y Cadeirydd W. < E. Baxter, Ysw., M.P., i fewn a swyddogion y gym- • deithas yn ei ddilyn. Mae y Cadeirydd yn rhoddi ■i anerchiad grymus, a derbynir ei eiriau gyda chym- meradwyaeth. Yn awr am yr adroddiad. Dcrnyn sych yn gyffredin, ondlY mae gan Dr Mullens ryw tact ar wneud report a myn'd ynddo. Mae yr ys- grifenydd newydd wedi taflu gwaed newydd i gyf- ansoddiad y Gymdeithas Genhadol. Dyn da oedd Dr Tidman, gweithiwr difefl''—ni bu neb erioed yn deall ei waith yn well, tiac yn ei gyflawni yn fwy meistrolgar. Ond yr oedd yn bur dyn am ei ffordd, ac yn bur anffaeledig yn ei farn; ac hid yw y dynion hyny yn gyffredin yn rhai hawddafi gydweithio a hwy bob amser. Mae Dr Mullens yn fwy medrus i ennill serch a sicrhau cydweithrediad; ac y mae yr ysgrifenyddion newydd eraill ynsicr o brofi yn well- iant mawr ar yr hen. Nis gallaf fyned drwy y Report yn awr. Os creffais yn gywir, dywedodd fod derbyniadau cyffredinol y gymdeithas yn 82,569^, ae at achosiocl neilictuol 15,049p, yn gwneud cy fan- swm o 97,6a8p, a bod y cyllid o ffynonellau eraill wedi codi y swm i ll l,306p. Yr oedd diweddglo yr adroddiad yn cynwys apeiiad difrifol at yr EsHwysi am help ychwanegsl. ° J i Cynhygiodd Newman Hall mewn araeth dda, o hyd rhesymol, fod yr adroddiad a ddarllenwyd yn cael ei dderbyn a'i gymeradwyo. Yr oedd Newman Hall wedi fy nigio yn fawr y nos Fawrth cyn hyny yn nghyfarfod yr Home Missionary' yn Finsbury. Siaradodd am ddeugain muhyd. Yr oedd yno dri phenderfyniad i'w cynhyg a thri i siarad ar bob un. Cymmerodd y tri ar y cyntaf fwy na'u share o amser ae ystyried fod,9 i siarad, ond wrth gynhyg yr ail benderfyniad siaradodd Newman Hall am ddeugain munyd ac nid oedd un rhaid am hyny. Rhoddodd ddarn o'i ddarlith ar America i ddechreu; ac yna. darn o rywaraeth ddirwestol ddywedodd o ganwaith; ac yna ryw ddarn o hen bregeth i orphen. RhaicP fod y dyn a gymer fwy na'i share o amser mewn unrhyw gyfarfod yn hunanol iawn cyn y credai fod gaiiddo :ef fwy o hawl ar yr amser na neb arall. Bu yn bur gymhedrol yn Exeter Hall, fel yr hanner maddeuais iddo eigamwedd yn Finsbury. Y Parch. William Muirhead Cenhadwr wedi bod 21 mlynedd yn China—a gefnogedd y cynhygiad. Cynllun da oedd eiddo Dr Mullens yn codi ac yn hysbysu y cyfarfod pwy oedd y cenhadon oedd yn myned i'w hanerch, pa le y buont yn llafttrio, a'r gwasanaeth a wnaeth- ant. Yr oedd hyny yn fath o introduction iddyat i sylw y gynnnlleidfa Derbyniwyd Mr Muirhead yn groesawgar, a thraddododd yntau araeth ragorol. Hawdd oedd deall ei fod yn gwybod pa le y bu, a pha le yr oedd, a pha beth a ddisgwylid iddo ddweyd. Yr oedd diweddglo ei araeth yn wir hyawdl; a gweithiod4 fel trydan drwy y dorf fawr. Yr oedd yn eglur ei fod ef wedi meddwl pa fodd i ddybenu yn gyatal a pha fodd i ddechreu. Cafwyd araeth hyawdl, humorous, ac eto yn fach- og, gan G. W. Conder, o Manchester, wrth gynhyg penderfyniad o gydymdeimlad a'r Cenhadon yn yn- ysoedd Mor y De, oblegyd colli y John Williams— o lawenydd a diolchgarwch am haelioni yr Eglwysi brodorol, am gynhydd parhaus y Geiahadaeth yn Madagascar, Travancore, ac Affrica, ac am nrth cynnyddol addysg Gristionogol yn India. I gefnogi y cynhygiad hwn y mae y Cadeirydd yn galw ar ein Cvdwlctdwr William Joneg. Cyn iddo gbdi y mae Dr Mullens yn galw sylw y ,gynulleidfa ato, yn hysbysu pwy a pha beth ydoedd, Iddo fyned allan ddeng mlynedd yn ol o'r Cole.? i ymuno a'r Grenhadaeth yn Benares. Iddo gaefei analluogi ddwywaith gan afiechyd i ddllyn ei waith, ac ertnwynadnewyddiadiddoddychwelyd i'r wlad hon tua blwyddyn yn 01. Ei fod wedi ei anrhyd- eddu nid yh unig i bregethii i Hindwaid un Ö ddinasoedd mwyaf India; ond ei fod hefyd wedi bod yn offeryn i sefydlu cenhadaeth mewn congl anghys- bell o'r Ymerodraetli, a hyny yn mysg pobl. na chlywsant yr Efengyl erioed o'r blaen.—Wedi y sylw yna o eiddo Dr Mullens, derbyniwyd ef gyda cheers oedd yn ringio yr Hall; a chyn iddo starad pum munyd yr oedd y dorf fawr oil yn ei law. Siaradai yngli a chroew o ran iaith a syniadau. Nid oedd dim mwys ac anmhennodol .o'i gylch. Edrychai ei lygaid byw, treiddiol, ef yn llygaid y dorf. Yr oedd yn wrol heb fod yn hyf. Llefarai fel un yn credu fod y cyfle yn un rhy bwysig i adael iddo fyned heb wneyd y goreu o hono., Mae yn ysgwyd y gynnull- eidfa weithiau i chwerthiniad iachus, a phryd arall i gynhyrfiadau a dorent yn daranau o gymmeradwy- aeth. Er ei bod yn awr yn un o'r glocb, a'r cyfarfod exsioes wedi parhau tair awr nid oedd awydd ar neb i fyned allan mwy na. phe buasent wedi eu hoelio yn ylle. Yr oedd y Ladies yn gallu gwraodo ar rai —i EC- p* areithwyr A.djlyn en ,^iadKaatbu,^ftj ^ymro bywiog wedi peri i bob un ollwng y gwaith" 'u llaw; fel merched Llahuwchllyn yn gollwng y' gweill o'u dwylaw panOeddLewisøe, er's llawer, dydd yn gweddio. Mae All on, a Dale, a Newman Hall, a Dr Mullens, a Barnes, a Dr Ferguson, a'r holl wyr mawr syddar front y platform yn mwynhau' nes y maent bron colli arnynt eu hunain. ,Yr oedd yno lawer o Gypiry yma atIIraw ar hyd yr Hall yn barod i godi y steam pe buasai raid; ond nid oedd dim achos yr oedd y dyn bach yn deall ei fater fel nad pedd arno oisiau neb i'w patronisio, a fair field i ddadleu achos India oedd y cwbI a geisiai. Teiml- wn yh falch o'r Cymro. Bachgen baeh o Lanwrin. Gall y pentref a'i magodd fod yn falch o. hono,; a'r gweinidog a'r eglwys a'i hannogodd i bregethu deimlo yn ddedwydd yh y weithred. Bydd y Cymry yn uwch ar ol hyn. life yn sicr oedd Lion j cyfar- fod. Dywedodd Dr Raleigh o'r Gadair yn nghyfar. fod yr Undeb Cynnulleidfaol, ddydd Gwener, na chafwyd Cyfarfod Cenhadol cyffelyb er's deng mlyn- edd, a dywed rhai, meddai, na chafwyd ei gyffelyb er's ugain mlynedd. Cyfarfod ardderchog ydoedd,! a'r Cymro oedd y goreu o ddigon. Mae yn llawen- ydd ini fod y Cymry yn sefyll mor uchel yn mysg ein Cenhadon. Yn nghyfarfod y Cyfarwyddwyr, ddydd Llun, dywedodd Dr Mullens, o ryw 800 neu 1,000 o lythyrau a dderbyniwyd bddiwrth genhadon yn ystod y flwyddyn mai Mr Griffith John o China, a Chenadwr arall o Travancore oedd yn sefyll flaenaf ar y rhestr yn eu Ilafur a'u llwyddiant. Bravo y Cymro. Pan yr eisteddodd William Jones i lawr adseiniwyd y lie gan dwrf cymmeradwyaeth a barhaodd rai munydau, a brysiai y dorf i fyned allan gan deimlo yn gwbl sicr fod gwaith y dydd hwnw wedi ei wneud. Ond pan oedd y dorf yn ym- ysgwyd i fyned allan, eododd Dr Mullens i fynu i gyflwyno y Parch Mr Nesbit i sylw y cyfarfod. Cenhadwr a aeth allan i New Hebrides a Samoa, wyth mlynedd ar hugain yn ol, ag oedd newydd ddychwelyd gyda'i deulu i Lundain, y dydd o'r blaen. Arosais i uno gyda'r gynnulleidfa i roddi croesawiad hearty i Mr Nesbit, yna ymadewais gan adael iddynt i ddiolch i'w gilydd, oblegyd y mae y Saeson yn ddigon medrus yn hyny heb help yr un Cymro. Wedi caeltamaid i gynhal natur aethum gyda'r Train o Broad Street i Hackney, ac wedi tipyn o chwilio cefais afael ar Gapel Cynnulleidfaol Lower Clapton; neu fel y gelwir y lie, Lower Clapton. Congregational Chureh, lie yr oedd Cyfarfod Blynyddol Bwrdd Addysg. r yncael ei gynhal Y Congregational Board, of Education. Yr oedd arnaf g-ryn awydd am fyned yno er deal] yr exact line y mae y Bwrdd yn ei gymmeryd rhagllaw. Sefydlwyd y Bwrdd 25 mlynedd yn ol gan bleidwyr gwresog addysg wir- foddol-addysg hollol rydd oddiwrth bob ymyraeth o eiddo y Llywodraeth. Yr oedd prif ddynion yr enwad yn selog iawn dros hyny ar sefvdlikd y Bwrdd. Codwyd Coleg athrawol yn Homerton, ac y mae wedi troi allan o hong athrawon na ddaeth o'r un Coleg .erioed eu gwell, Ond y mae cyfnew- idiadau mawrion wedi bod er hyny. Mae Pwyllgor addysg wedi bod yn fwy rhydd ac anmhleidiol nag yr ofnid ar y dechreu. Ni ddywedaf yn hollol an mhleidiol. Mae hanes Gellifor, a Thalgarth, a Pentraeth, a llawer lie arall yn Nghymru yn profi foi gan offeiriaid ac Eglwyswyr ddylanwad mawr ar Bwyllgor Addysg, ond ofnid. ar y dechreu y buasent yn llawei gwaeth. Mae enwadau eraill wedi rhoddi ffordd er's blynyddoedd i dderbyn arian y Ilywodraeth at addysg-, a theimlid fod yn anmhossibl i ysgolion ar yr egwyddor wirfaddol gan yr Annibynwyr allu sefyll ochr yn ochr ag ysgolion gan yr iSglwyswyr a'* Wesleyaid, yn der- byn cymhorth y Llywodraeth. Ac heblaw hyny yr ■ oedd anhawsdra i gael rhai i ddyfod i Homerton 1 dderbyn addysg yn mwynhau 'oblegid na chaniat- eid i neb o hOnjmt wedi myned allan fyned i ysgol- ion yn nglyn a'r llywodraeth • ac o ran hyny °nis gallasant hwythau gael yr arian oblegyd nad oedd- ynt yn cettified masters. Penderfynwyd newid yr adran honoyn. ngweithred Homerton oedd; yn rhwystro iddynt ar unrhyw delerau dderbyn arian y llywodraeth. Nid oeddynt yn penderfynu eu derbyn, ond yn unig symmud yr ahhawsder cyf- reithiol i wneud hyny os gwelent y llywodraeth yn barod i'w rhoddi ar delerau ag y barnent hwy na fuasai yn sathrii ar derfynau cydwybod a chrefydd. Nid oedd eu ffordd yn glir iawn iddynt, gallaswn feddwl, ond y maent yn awr ar dir y gallant gyf- addasu eu hunain i'r amgylchiadau fydd yn ym- agor o'u blaen. Bu siarad maith ar yr un mater yn nghyfarfod yr Undeb Cynnulleidfabl dranoeth, and yr oeddynt yn mhell iawn o fod yr un farn pa gwrs i'w gymmeryd. Nid oedd ond ychydig ynnghyd yn y cyfarfod yn Lower Clapton. Mr y p Morley yn y gadair. Efe sydd wedi bod yn etlaid, a chalon Bwrcld Addysg Cynnulleidfaol o'r dech- ieuad; a hwyrf?ydig iawn y mae wedi bod i ildio i'r llywodraeth gael gwneud dim ag addysg y genedl. Yr oedd Y Gohebydd wedi addaw fy nghyfar- fod yn Clapton i fyned oddiyno gyda'n gilydd. i Dy y Gyffredin ond ryw sut camddeallasoto y naill y Hall fel yr oeddwn i wedi myned o Clapton cyn iddo ef gyrhaedd yno. Arhosodd ef yno gan hyny i glywed Mr Binney yr hwn oedd i bregethu ar ryw beth cyssyiltiedig ag addysg, ac aethum inau rhyng- wyf a St. Stephen i gael Noson yn Nhy y Gyffredin. Cefais ollyngiad i'r Speaker's Gallery yn lied ddi- drafierth er nad oedd yno le i neb ychwaneg wedi i mi fyned i mewn. O greadur anlwcus bUill. yn lwcus am unwaith. Yr oedd dadl y Boundary Bill drosodd pan gyrhaeddais yno ond yr oedd sicrwydd fod y Suspensory Act i ddyfod yn mlaen ac oblegyd hyny yr oedd pob un ar y Galleries am gadw ei le. Gwag iawn oedd y Ty pan aethum i mewn tua hanner awr wedi wyth. Un yma ac acw ar eu lied orwedd ar y uieiriciaii. Eistedd yn Bwyllgor i votio arian y mae y Ty. Rhyw ddau neu dri oedd yno yn cymmeryd rhan yn y gwaith. Alderman Lusk a Bernal Osborne ac un neu ddau arall yn gwylio yn fanwl pa fodd yr oedd yr arian yn cael eu pleidleisio, ond eu pleidleisio yr oeddynt yn y diwedd wrth y degau a'r ugeiniau o filoedd. Mae y Ty yn dechreu Ilenwi a rhai yn myn'd a rhai yn dod. Mae yn ddigon eglur fod rhywbeth i fold heno. Arglwydd John Manners oedd yno dros y Weinyddiaeth yn rhoddi pob esboniad yn nghylch yr arian. Bu Disraeli i mewn am ychydig ond galwydarno allan gan ryw un yn bur fuan. Nid wyf eto wedi gweled Gladstone na Bright; ond y mae y ddau yn bur sicr o fod yn eu lie erbyn y bydd eu hangen. Tuag un-ar-ddeg y mae y Ty wedi llenwi yn dda. Y mae y Weinyddiaeth gan mwyaf yn ei He. Tua hanner awr wedi un-ar-ddeg dacw Gladstone yn slipio i mewn yn ddistaw trwy y dtws ta defu i'r Speaker. Mae yno lawer o ddifyrwch yn nglyn a'r votes ar yr arian. Hawdd deall eu bod newydd ddychwelyd o giniaw, canys y mae golwg foddlawn, siriol, ar bawb agos. Dis- raeli sydd yn edrych yn fwyaf digynwrf o bawb Mae wedi taflu y naill glun dros y llall, a'i wyneb mor ddigynwrf a'r marble. Pan y mae pawb -fl.11 U'i •»—r' — fybob ochr i'r Ty yn siglo gan chwerthin, mae ef cyn "^r^aV T'i«;K?jSl^>heb""Rn symmudiad lyn ei wyneb'. Dyti' p'ejyglus, onide, ydyw y dyn fna',fedr phwerthin. -Dyma un o honynt. Fergus O'Connor a ddywedodd wrtlio, os wyf yn cofio yh. iawn, wktli ei d gyfarfod.yn lopby y Ty ar un adeg, pan oedd hwnw yn dechreu dyrys\f1!Laugh" nmn, laugh, for once in your lifeOnd nid amser i ebwerthin oedd hi ar Disraeli y hotebii hono. gwaitli y Pwyllgor yn cael ei doi-i i fynu^-y cadfiii- ydd yn cilio o'i le—y Speaker yn cymmeryd ei eis- teddle, a phawb yn parotoi i ddisgwyl am brif waith y noson. Dacw Gladstone ar ei draed ac yn gofyn cenad i ddwyn i mewn y Suspensory Bill. Nid oes achos i mi ymdrpi i jgbonio cynnwysiad y mesur ym^i-ddarllenw^r y TYST. Ysgrif i atal unrhyw apWyntiad newydd i fywioliaethau a all fyned yn wag yh yr Eglwyp Wyddeligs^nes y bydd y Senedd newydd wedi rhbddi eu barn ar y mater. Cyn i Gladstone gael amser i ddyweyd yr un gair, dyna y Milwriad Knox, cynrychiolydd Orangemen Ulster, arei draed, ac yn gwasgu ar Mr Gladstone i beidio gwasgu ei gynygiad y noson hono, ei bod yn rhy hwyr i gael dadi deg arno, ac yna yn darllen darn o araeth o blaid yr Eglwys Wyddelig, ac yn cy- huddo Mr Gladstone mai ei eiriau ef oeddynt, wedi eu traddodi ganddo yn Nhy y Cyffredin yn 1835. Aeth yn hwre fawr gan y Toriaid, a'r ochr arall yn ei hisio, gan alw arno i roddi i fynu ei awdurdod dros ei haeriad. Mae yn ferw aftywodraethus hollol. Gwasga Gladstone ar Knox i roddi iddo enw y llyfr lie y mae y geiriau a ddifynwyd ganddo, nad oedd ef yn cofio iddynt erioed ddiferu dros ei wefasau. Mae rhyw gyfaill i Knox yn ei helpu, ac y mae yn dyweyd fod y difyniad mewn rhan o araeth a dradd- ododd yn y Ty, ac mewn rhan o lyfr a gyhoeddid saith mlynedd ar hugain yn ol. Yr oedd plaid y Weinyddiaeth ar eu huchelfanau wedi cael Glad- stone i'r; trap, fel y credent. Mae dau neu dri o'r Toriaid yn codi ar eu traed, ond y maent wedi dyrysu yn lan, heb wybod pa beth i ddyweyd, na pha beth i wneud, ae oblegid hyny yn dyweyd ac yn gwneud llawer o bethau ffol iawn. Wedi amryw gynygion aneffeithiol i ohirio y mater, rhoddwyd cenad i ddwyn y Bill i mewn, ac felly hefyd pas- iwyd y darlleniad cyntaf. Mae yn: ddigon hawdd i bawb weled mai Mr Gladstone a'i blaid yw meistri. y Ty. Golwg brudd, ddiflas, sydd ar Disraeli, a holl aelodau y Weinyddiaeth ar y fainc isaf. Yr wyf yn sicr y buasai yn dda gan eu qalon allu eu distewi. Gwelais Disraeli fwy nag unwaith yn taflu ei lygaid arnynt "yn awgrym iddynt i fod yn dawel; ac yr oeddwn'bron credu ei fod yri gweddio yn ddistaw4- God save me from my friends. Yr oedclynty drygu. yr achos yn lan. Adwaenwn hen ffarmwr un o'r hen ysgol-ag y byddai crach-foneddigion ei gymydogaeth yn blino tipyn arno wrth ddyfod a" cwn hela trwy ei dir. Yr oedd gan yr hen tfarmwr —Robert y gelwid ef (nid F'ewyrth Robert chwaith) -gi pur gyfarthiog, a phan ddaeth yr helwyr a'u own at ei dy unwaith, dechreuai yr hen gi gyfarth yn ddychrynllyd, nes gyru ofn ar y cwn a'r helwyr." Dywedai un o'r bbneddigion yn gynhyrfus iawn,— Robert, gwaharddwch y ci, gwaharddwch y. ei mae e yn dystrywa yr hela wr.' Buaaaiyn dda gan Disraeli allu gwahardd y own oedd yn cyfarth, oblegid yr oeddynt yn distrywio yr hela yn laiij Ond pa lywodraeth allasai neb gadw ar y fath giwed oedd wedi eu cynddeiriogi gan ragfarn a dallbleid- iaeth. Yn nghanol y berw y mae Mr Gladstone yn troi dalenau cyfrol hardd o 1 Hansard,' a phan gaf- odd hamdden y mae yn darllen y darn a ddifynwyd gan Knox yn bwyllog a digynwrf. Mae ei wrth- wynebwyr wedi ei ddal, fel y tybient, ac ofer fydd iddo agor ei enau mwy. Mawr yw trwst eu gorfol- edd. Ond wedi ei ddarUen drospddy mae Gladstone, .cyjx^au y llyfr, yn dyweyd,—' Yr wyf yn cael fod hyn wedi ei ddyweyd nid yn 1835, fel y dywed yr aelod anrhydeddus, ond yn 1866, ac mai yr areith- iwr oedd Mr Whiteside.' Gwarchod pawb dyna gynwrf. Mae Knox wedi ei orchuddio a chywilydd. Cynygiodd godi ar ei draed—nis gwn i beth, ond y mae pawb yn hisio, yn udo, yn wban, iies boddi ei lais; Tri ni wyd ef fel ci, ond nid yn waeth na'i h&eddiant. Mae y Toriaid wedi cynddeiriogi i ben- tyru celwyddau ar Gladstone.

ELLIS OWEN, CEFNYMEUSYDD.

CAERFYRDDlir

[No title]