Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
CYNWYSIAD.
CYNWYSIAD. Yr W ythnos- Bil Mr Gladstone ar yr Eglwys Wyddelig 1 GOHEBIAETHAU. 2 Cyfarfodydd Mawrion Mai-Ellis Owen, Cefn- meusydd—Caerfyrddin 3 Anghyffredinol! Nellltuol! Arbenigol!Cryn hodeb Seneddol 4 Y Rhyfel yn Abyssinia-c- Y Tywysog Alfred—Ethol- iad Bristol-Marwolaeth Mam y 'Gohebydd'- Liverpool a'r Cylchoedd-Newyddion Tril.mor- Llith o Arfon-Llundain-Marwolaethau, &c. 5 Merthyr Tydfil—Rho.slan a Llanystumdwy—Cyfar- fod Chwarterol Mon—Ffaldybrenin—Nodion a Nidiau—Y Gymdeithas Ddiwysriadol Gvmreie 6
"r ythuø.•
"r ythuø. ANFYNYCH iawn y ceir manteision hollol a di- gymmysg yn y byd hwn yn nglyn a'r manteis- ion penaf mae rhyw anfanteision-rhyw draw- backs. Yn y dyddiau hyn, yr ydyrn yn derbyn ein newyddion pwysicaf ar ddwy waith—yn gyn- taf y blaenffrwyth, gyda y telegraph, ac wedi hyny y cynbauaf gyda y cerbydau a'r llongau. Yr oeddym er's tro yn gwybod fod eiD milwyr wedi gwneud yn Abyssinia y peth yr anfonwyd o'i blegyd; yr ydym bellach wedi cael adroddiad manwl a helaeth o'r gweithrediadau, ac y mae yr adroddiadau diweddaraf yn hollol gyson a'r hysbysiadau byrion blaenorol. Canmolir Syr Robert Napier i'r cymmylau, gan oraclau y wasg Seisnig.—Dywedir ddarfod iddo yn yr holl anturiaeth anhawdd a pheryglus brofi ei hun yn filwr o farn, a doethixxeb, a medr Gallesid rhagweled o'r dechreu mai yr hinsawdd, a'r ffyrdd, a'r rhiwiau serth, a'r sychder, fyddai gelynion penaf ein milwyr yn Abyssinia. Nid oedd neb yn disgwyl brwydrau poethion. Trodd pethau allan yn ol y disgwyliadau, ac yn well na'r ofnau, Bu raid yraladd, ymae yn wir, a chlwyfwyd bagad o'n milwyr, eithr ni bu colled am einioes neb o honynt. Fel yr hysbyswyd o'r blaen, y mae y milwyr a'r carcharorion a waredwyd ganddynt ar eu ffordd adref. Ych- ydig cyn y frwydr ni bu oad dim, megys, rhwng ein holl fyddin a dwylaw eu gelynion. Trwy gamsyniad neu anufudd-dod y Milwriad Phayre y bu hyn. Yr oedd ef a'i wyr wedi eu hanfon i wylied y ffordd hyd yr hon yr oedd corff y fyddin i ddilyn. Esgeulusodd y Milwriad wneud hyny, ac oni buasai i Syr Robert Napier gael y diffyg allan yn brydlon, gallasai y rhyfelgyrch ddyfod i ddiwedd truenus. Y mae genym hetyd adroddiadau helaeth fel yr ymddangosasant yn newyddiaduron Sydney a Melbourne, o'r cynhygiad uffernol i gudd-lof- ruddio y Duke of Edinburgh. Yr oedd Syr William Manning gyda y Duke pan saethwyd ato gan yr adyn bradwrus. Pan glywodd Syr William swn yr ergyd, efe a drodd ac a geisiodd ddal y Ilofruddl, cynhygiodd y llofrudd saethu at Syr William, yr hwn wrth weled y pistol wedi ei anelu ato, a ymgrymodd, ac a syrthiodd. Y pryd hwn aeth un o'r enw Mr Vale, y tu ol i'r llofrudd, ac a ymaflodd yn ei freichiau; gwnaeth yr adyn gwaedlyd ei oreu i anelu at Mr Vale, a phan welodd na allai wneud hyny heb beryglu saethu ei hun, anelodd drachefn at y fan lie yr oedd y Duke yn gorwedd. Allan o law diaeth lluaws yn nghyd, bu pyffro mawr, a chafodd yr heddgeidwaid ddigon 6 waith i rwystro y werin i roddi y llofrudd i farwolaeth ar y spot. Trin- iwyd Mr Vale, yn arw am foment, gan i'r werin ar y cyntaf dybio mai efe, oedd y llofrudd. y Syrthiodd un o'r heddgeidwaid hefyd, a bu agoa iddo gael ei sathru i farwolaeth.. Digon tebyg fod yr Esgobion yn llawer mwy prysur y dyddiau hyn nag y buont er's blynydd- oedd. Mae gwaddol yr Eglwys Wyddelig mewn perygl, yr hyn yn unig yw yr achos o'r holl brysurdeb. Pe buasai yr Esgobion yn y dyddiau gynt wedi bod mor ofalus o'u gwaith ag ydynt o'u cyflogau y dyddiau hyn, y mae yn ddigon tebyg y buasent yn cael eu cadw o'r cyfyngder presenol; ond bellach y mae yn rhy ddiweddar. Y dydd o'r blaen, bu Archesgobion ac Esgobion yr Eglwys Wyddelig yn ymbil a'r Frenhines, yn Windsor. Nid oedd gan ei Mawrhydi nemawr cysur i'w roddi iddynt, canys nid oedd ganddi ddim i'w ddywedyd mewn atebiad iddynt ond, Fod ganddi hi berffaith ymddiried yn noeth- ineb ei Seneddwyr.' Ni chaed mwyafrif digonol yn y Ilys i gondemnio yr Arlywydd Johnson. Hwyrach fod hyn ar y cyfan yn dro ffodus. Llon- yddwch i gvfanu rhwygiadau, i rwymo ar- cholion, ac i ysgafnhau beichiau trymion y rhyfedd sydd yn eisiau ar hyn o bryd ar yr Unol Dalaethau. Ac eto, y mae yn ddigon tebygol y bydd raid iddynt yn hwyrneu yn hwyrach benderfynu pwy sydd ben-yr Ar- lywydd neu y Senedd F Mae Disraeli a'i frodyr swyddogol mewn cyfyng-gyngor unwaith eto.—Rhanwyd y Ty nos Lun ddwywaith ar Reform Bill Scotland, a chafwyd y mwyafrif o 21 y tro cyntaf, a 22 yr ail waith. Gofynodd y Prif Weinidog am amser iddo ef a'i frodyr ystyried eu cyflwr. Na ryfedded neb os cawn etholiad cyflredinol yn ddioed. Mae Cyngor y Gymdeithas Ryddfrydig Gymreig, Liverpool, wedi dangosplwcac yni ardderchog-y maent wedi llwyddo i gael addewid gan Mr Bright i fod yn bresenol yn y cyfarfod cyhoeddus yn yr Amphitheatre. De- allwn fod y ceisiadau am docynau i'r cyfarfod yn dylifo o bob cyfeiriad. Gwneir parotoadau ar grand scale, a disgwylir cyfarfod lliosog a brwdfrydig. Parhau yn ddigon tywyll y mae rhagolygon masnach, ac y mae y strikes yn ychwanegu at y cyfyngder. Gan fod pris y bara ac angenrheid- iau ereill bywyd mor uchel, nid ydym yn rhy- feddu fod y gweithwyr yn anesmwytho. Da genym ddeall fod argoelion am gnydau toreith- iog o yd ar y Cyfandir y mae hyn, yn gystal a'r tywydd hyfryd ydym wedi gael yn ddiwedd- ar, wedi achosi mymryn bach o ostyngiad yn mhris yr yd. Os cawn haf dymunol, a chnydau toreithiog, gallwn ddisgwyl amser gwell. Dydd Llun, aeth ei Mawrhydi y Frenhines i Balmoral. Gwelsom gwyn o herwydd hyn yn un o newyddiaduron Llundain. Mae y Wein- yddiaeth yn y fath gyflwr y dyddiau hyn, fel y mae yn ddigon tebyg y bydd angen ymgyng- harl- yn fynych a'i Mawrhydi. Nis gellir gwneyd hyny yn gyfleus trwy y telegraph, ac mewn un ffordd ond wyneb yn wyneb. Teimlir y buasai yn ddymunol pe buasai ei Mawrhydi yn hunan-ymwadu ac yn gohirio y daith i Scotland am ychydig wythnosau. Dywedir na bydd i'r mwyafrif diweddar dros newid Reform Bill Scotland i achosi goll yngiad y Senedd, am fod aelodau rhyddfrydol 8cotlandwedi dtirbyn boddlonrwydd -om- ise) gan y Weinyddiaeth.
BIL MR. GLADSTONE AR YR EGLWYS…
BIL MR. GLADSTONE AR YR EGLWYS WYDDELIG. A ganlyn yw Bil Mr Gladstone i atal am amser terfynol apwyntiadau newyddion yn yr Eglwys Wyddelig, ac i gyfyngu, am yr un tymhor, mewn rhai ystyriaethau, weithrediadau y Dirprwywyr Eglwysig dros yr Iwerddoa. "Yn gymmaint ag fod ei Mawrhydi yn rasol wedi gweled yn dda i ddyriodi ei bod wedi gosod at reolaeth y Senedd i'r diben o ddarddeddfu yn ystod yr eisteddiad presenol ei hawl yn meddianau tymhorol y gwahanol archesgobaethau, esgobaeth- au, ac urddinebau, a bywioliaethau eglwysig eraill yn yr Iwerddon, ac yn eu cadwraeth "Ac yn gymaint a'i fod yn fuddiol i atal cread- igaeth buddianau newyddion yn yr Eglwys Sefydl- edig yn yr Iwerddon, trwy weithrediad unrhyw nawdd cyhoeddus, ac i gyfyngu mewn rhai ystyr- iaethau awdurdod Dirprwywyr Eglwysig dros yr Iwerddon Deddfer gan hyny gan ei Godidocaf Fawrhydi y Frenhines, trwy a chyda chyngor a chydsyniad yr Arglwyddi ysprydol a thymhorol, ac aelodau Ty y Cyffredin, ymgynnulledig yn y Senedd presenol, a thrwy awdurdod yr unrhyw, fel y canlyn "1. Os digwydda un o'r archesgobaethau neu esgobaethau fyned yn wag, neu unrhyw urddineb eglwysig neu fywioliaeth yn yr Iwerddon yn rhodd ei Mawrhydi, neu i ba un y mae unrhyw arch- esgob, esgob, neu gorfforiaeth eglwysig, fel y cyf- ryw, neu unrhyw ymddiriedolwr neu ymddiriedol- wyr yn gweithredu mewn cymeriad cyhoeddus, yn meddu neu i feddu hawl i gyflwyno neu apwyntio na fydd yn gyfreithlon i apwyntio unrhyw berson i olynu i'r archesgobaeth, esgobaeth, urddineb, neu fywioliaeth hyny, ac ar ddigwyddiad gwagfuddiad o'r fath, fod ardrefniant a derbyniad y rhenti, a'r enillion, yr holl diroedd, degymau, a buddlesau eraill perthynol i'r archesgobaeth, esgobaeth, urdd- ineb, neu fywioliaeth hyny, i gael eu trosglwyddo i, a'u rhoi i orwedd yn meddiant y Dirprwywyr Eglwysig dros yr Iwerddon, yn ddarostyngedig i'r holl gostau cyfreithiol yn nglyn a'r unrhyw, ac fod y dirprwywyr dywededig i gael awdurdod i ganiatau adnewyddiadau ac iwaeudpob gweithrediad arall angenrheidiol a fydd yn ofynol i iawn a pliriodol reoliad o honynt, ac a barant i'r unrhyw a'r cyn- nyrch oddiwrthynt i gael eu cadw ar wahan oddi- wrth bob rhoddion eraill i gael eu defnyddio yn y fath fodd ag y cyfarwydda y Senedd. 2. Os digwydda i unrhyw archesgobaeth neu esgobaeth i fyned yn wag, fod i'r persoa penoded- ig gan yr adran 31ain, o'r 3ydd a'r 4ydd William y Pedwerydd, penod 37ain, i weinyddu yr hyn a awdurdoda y Gyfraith hono yn ystod y cyfwng hyny, i fod yn wylydd pethau ysprydol y cyfryw archesgobaeth neu esgobaeth ac os digwydda un- rhyw fywoliaeth gyda bugeiliaeth eneidiau fyned yn wag, fod yr holl hawl ac awdurdod roddir trwy adran 116eg o'r Gyfraith ddywededig tuag at gyf- lenwi anghenion ysprydol y bywioliaethau oediadol i berthynu ac i gael eu harfer mewn perthynas i'r fywoliaeth wag hyny gan yr un personan ac yn yr un modd ag a gyfarwyddir ynddi tra wrth reoli cyflog y gweinidog gweinyddol yr ystyrir natur a maint y dyledswyddau i'w cyflawni. 3. Na bydd yn gyfreithlon i'r Dirprwywyr Eglwysig dros yr Iwerddon i wneud unrhyw rodd- ion newyddion tuag at adeiladu, neu ailadeiladu, neu eangu unrhyw eglwys neu gapel, neu tuag at adeiladu unrhyw landy, neu helaethu unrhyw fyw- ioliaeth, neu gynhaliaeth unrhyw weinidog, neu bryniad unrhyw dy, tir, neu ardrethbris degwm. "4. Y bydd i bob person a benodir i unrhyw swydd leygol mewn cysylltiad a'r Eglwys Sefydl- edig yn yr Iwerddon, ar ol pasio y Gyfraith hon, ddal y swydd ddywededig yn ddarostyngedig i ewyllys y Senedd. 5. Parha y Gyfraith hon mewn grym hyd y dydd cyntaf o Awst, un mil wyth cant a thriugaia. a naw Gwelir fod Mr. Gladstone wedi gafael o dd £ frif yn y mater, ac wedi gwneud trefniswat grymus iawn i atal dros dymhor penodedig bob apwyntiad newydd yn yr Eglwys Sefydledig, fel y gellir myned yn mlaen yn bwyllog, ond diogel, i'w llwyr ddadgysylltu a'i dadwaddoli, pan ddel yr amser priodol. Nid oes pefcrusder ar feddwl neb am dynged y bil yn Nhy y Oy- ffredin, ond prydera rhai am y modd yr ym- ddyga y Ty Uchaf tuag ato. Bernir fod eu Harglwyddi yn awyddus i gael trmtha eu syn- iad hwythau ar y mater. Y mae yn beth nod- edig i sylwi arno, er cymaint o siarad a fu yn Nhy y Cyffredin, na chynhygiodd neb ddim a ellir am funud edrych arno fel rheswrn tel. ac anwrthwynebol dros yr Eglwys WyddeEg, na. dim y caed y drafferth leiaf i'w symud. D y- wedai pob un, nid ei bod yn dda, neu ddefnydd- iol ynddi ei hun, neu ei bod mewn u-n; modd yn ateb i'r hyn yr haerir fod Eglwys Sefydledig: YJl ei gyflawni, ond yn unig, os caniateid iddi." gwympo, y gwnai ei dadfeiliad wneud' mawr niweid ini. Yr oedd i gael ei chynhal i fynu YIDL hollol er mwyn yr Eglwys yn Lloegr a CIlymru Dyma gyfle braf i'w Harglwyddi ddangos eu nherth a'u cryfder rhesymiadol. Os gall un o honynt gael gafael ar y rheswm nad ydyw eto wedi ei ddarganfod gan neb dros barhad y Sef- ydliad, gwna ei hun yn enwog mewn un diwrn- od. Y mae yn eithaf sicr fod y mwyafrif yn Nhy yr Arglwyddi yn awyddus i gadw yr undeb i. fyny (wedi gwneud ychydig welliantau), ao os gall awydd cryf ddeffroi holl ymadferthoadd rheswm byth, dyma yr adeg, ie, dyma yr adeg i dynu allan holl ddawn, dysgeidiaeth, a. chyf- rwysder yr urdd esgobol. Ond os saif y mgter ar dir rhesymau teg a diysgog, ni fydd aniern fwy o ofn am dynged y bil yn Nhy yr Arglwyddi mwy nag yn Nhy y Cyffredin. Nid oes dim yit awr yn fwy tebygol na fydd i'r bil gael ei dafiu allan trwy fwyafrif mawr yn Nhy yr Arglwyddi yr eisteddiad presenol, ond nid oes neb a wyr YJl well na'u Harglwyddi nad allant fyned yh"mlp.el1 yn hir iawn gan daflu bil ar ol bil i ddadgyti- sylltu yr Eglwys Wyddelig, neu yn dwyn sylltiad- a rhyw fater arall ag y mae inwyafrii mawr yn Nhy y Cyffredin drosto, heb dynu au- mharch arnynt eu hunain, a pheryglu heddwch y wlad. Ynfuanneuyn hwyr rhaid i'w har- glwyddi ymostwng i roi eu cydsyniad i'r mesur. Cymmerer yr ystadegaeth ganlynol am naw o blwyfi yn yr Iwerddon, fel dangoseg lied gywir o sefyllfa gyffredin yr Eglwys Wyddelig PtwyR. Eglwyswyr. Pabyddion. Irxjwrn. TaU&gh 44 3723 5^p. Kilmichael 34 4485 756p. Derrymacross 14 1991 5G5p. Shandrum 23 2973 615p. Kilkerry 36 9300 524p. Orradown 47 5745 477p. Templeree 9 493 156p. Clashmore. 2/ 2148 153p. Guileagh 60 992 100p. Fe welir nad oes yn y naw plwyf cMim ond 293 o Eglwyswyr, ac eto fe roddir 3909p. am eu bugeilio Beth a feddyliai gweinidog, Anni- bynol am gael ei gydnabod wrth yr un mesur ? Mewn, difrif, pa Eglwyswyr teg a welai unrhyw gam yn cael ei wneud wrth atal pencdi offeiriad i Derrymacross, lie y mae dim ond; pe;dwar a r- ddeg o Brotestaniaid, pe byddai i'r ua presenol farw, ac felly arbed 565 ? Bydd ai pasio y Bil Oed-fuddiadol hwn yn addfeda meddwl y cyhoedd trwy y deyrnas i gyfnewicliae, mwy sydd yn. rhwym o ddilyn, ac uwchlaw. dim byddai mesur fel hwn yn brawf diymwad: i'r Iwerddo y Senedd, ac mai nidi chwarae a'i chwynion y mae. Cyrhaeddir on. peth da trwy y ddadl yn Nhy yr Arglwyddi,. sef cael allan fwriadau gwirioneddol y Weinyddiaeth, fel y gellir gosod yn deg ger bronc y wlad ddewis rhwng sefydtu a gwaddoli yr, Eglwys Babyddol ar y naill law, neu ddadgysylltu, a dadwaddoli yr Eglwys Brotestanaidd. ar y Uaw arall. Nid oes neb yn meddwl y gall yr anghydraddolder presenol rhwng y Pabyddion a'r Protestaniaid yn yr Iwerddon baxhau. Dyma bwynt ag y mae eisiau i Ymneillduwyr Cymru ei ddeall yn glir. Os oes rhai o honynt yn petruso rhag cefnogi Mr Gladstone rhag ofn Pabyddiaeth, ai tybed y bydd-ajit yn foddlawn i gynllun y Tory- aid i waddali Prifysgol y Pabyddion, a rhoi mil- oedd eraill o arian y wlad iddynt mewn gwa- hanol ffyrdd ? Cofier mai i hyn y mae hi yn. dod..T I ,1 i :1 •,