Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

DR. MORTIMER 0 DREWELLWELL.

News
Cite
Share

DR. MORTIMER 0 DREWELLWELL. N m ydym byth rywsut yn disgwyl dim yn amgen na throion bryntion oddiar law angau. Ond ailaml yn mysg ei ddifrodiadau y gellir croniclo mwy o feiddgarwch ynddo na'r havoc a wnaeth ar fywyd y cyfaill anwyl, y meddyg medrus, a'r cymmydog caruaidd a pharchus, William Mertimer. Wedi'r holl ragbaratoi tuag at ddefnyddioldeb yn y dyfodol, yr ymroddi, y pryder, y gofalon, a'r costau. Gyda'i fod yn prysur esgyn tua phinaclau anrhydedd. Wedi esgyn yn fwy llwyddianus na'i gyfoedion yn gyftred- in, dyna iddo ddymod ddu gan frenin y dychryniad- au nes chwalu ei holl amcanion a siomi cannoedd o ddisgwyliadau a gobeithion oddiwrtho. Oh! angau pa fodd y beiddiait osod dy law oer ar un ac oedd a chymmaint o'i angen ar y wlad, a'i gipio mor ddi- seremoni o fynwes y cannoedd a'i cofieidiai! Ond waeth tewi Efe sy'n ben. Gweled yr oedd yn ddigon siwr, pe cawsai fyw, y buasai yn debyg o fod ar ei ffordd i wneud llawer o alanastra yn y gymmydog- aeth lie yr arhoai; ac er mwyn cael ei lwybr yn fwy dirwystr ar eraill, mai'r ffordd rwyddaf oedd cael gwared o hono ef ei hun. Dichon y bydd yn dda gan lawer o gyfeillion yr ymadawedig gael braslun o fanylion ei hanes. Yr oedd gogwydd ei feddwl er yn blentyn at y gelfydd- yd lawfeddygol. Ac wedi gorphen ei addysg rag- baratoawl o dan y Parch. John Griffiths, yn awr o St. Florence, a Dr Evan Davies, Abertawe, breint- waswyd ef at Dr Padden o Abertawe, yn y fl. 1856 Ba o'r fl. 1859 hyd y fl. 1861 yn Yspytty Guy, yn y brifclclinas. Wedi gadael yr Hospital, ymsefydlodd yn Hwlffordd, lie y bu yn dwyn yn mlaen ei gelfydd- yd yn hynod lwyddianus dros dair blynedd. Yn ystod yr amser hwn, bn yn gwbl hunanymroddol at ei alwedigaeth, a dringodd i fynu yn yr amser byr hyn i safle bwysig yn nghymmeradwyaeth ei gyd- feddygon oedd henach nag ef yn y dref. Yr oedd ei wasanaeth yn cael ei geisio jn fynych ganddynt pan y byddai petrusder yn nghylch unrhyw fater (case); yr hyn, fel y deallwn, nad yw arferol gyda gwyr leuanc o'i oed a'i brofiad ef, ond llefara hyn yn uchel am ei wybodaeth, a'i fedrusder yn ei gel- fyddyd. Bu ysywaeth, yn fwy manwl a gwyliadwrns yn nghylch iechyd eraill nag y bu am ei eiddo ei hun. Buan y dangosodd llafur gormodol ar ei gyfansodd- iad, yr hwn na bu erioed yn un o'r rhai crylaf. Gor- fuwvd ef i roddi i fynu ei alwedigaeth, ond nid oedd ei gyfeillion eto yn breuddwydio am un perygl; er ei fod ef ei hun yn drwgdybio hyn. Daeth i'r pen- derfjniad o newid ei wlad am hinsawdd fwy tym- herus a chydweddol a sefyllfa ei iechyd, gan obeithio y buasai hyny yn effeithio lleshad iddo. Ond dy- wedodd wrthyf ychydig cyn gadael ei wlad, ei fod yn anmheus iawn pa un a gawn ei weled yn fyw byth wed'yn. Yr oedd mor aahawdd gwireddu hyn i'm teimlad ar y pryd, fel na wnaethum ond ychydig sylw o'r dywediad. Ond fe ddyfnbawyd yr argraffiadau yn ddifrifol ar fy nheimlad wedi i'r peth droi yn wir. Bu yn ffodus iawn i gael myned i mewn i un o'r cwmniau mwyaf parchus ac enniilfawr,—< Y Penin- sular a'r Oriental Company.' Hwyliodd ar y 25ain o Ast, 1866, o Southampton, yn y 'Malaca,' am Bombay, Japan, Hongkong, Shanghae, &c. Y mae yn anmheus genyfpa un a oedd newid yr hinsoddau mor fynych yn effeithio yn ddymunol arno. Ond yr oedd newyddion hynod o galonogol yn parhau i ddyfod oddiwrtho hyd mis Medi diweddaf, pan y cafodd y cyfeillion galarus yn Trewellwell y newydd yn annisgwyliadwy ei fod ar ei ffordd adref, ac yn bur anmheus a gyrhaeddai ben ei siwrnai yn fywai peidio. Gadawodd Hongkong Awst, 1867, yn y Hong «Nubia,' gan fwriadu hwylio tua'i hen artre, ond bu orfod iddo lanio yn y Suez, yr oedd ei iechyd yn rhy fregus i ddyfod yn mhellach. Bu yn Alexandria o Medi laf hyd y 12fed, pan y dadebrodd ychydic ac y penderfynodd ailgychwyn tua thirei wlad'wed'yn yn y' Delta.' J Trwm yw'r hanes, er cymmaint oedd ei awydd am farw yn mysg ei anwyliaid, gorphenodd ei yrfa ar y 16eg o Fedi, cyn cyrhaedd y lan, yn y nawfed flwyddyn ar hugain o'i oedran. Cafwyd pob sicrwydd, yr hyn oedd yn foddlon- rwydd mawr i fynwesau clwyfus ei anwyliaid, eifod wedi cael pob ymgeledd, gofal o thynerwch ar law ei gydswyddogion yn ei oriau olaf. A thystia Mr Stmnil ^!ie WIpaI Jr jdjm 011 ° dan ddirfawr rwymau lddo-ei fod yn marw gan adael y tystiol- aethau eadarnaf o ddyogelwch ei gyflwr, yr hyn yn ddiau syn esmwythau llawer ar gl wyfau dyfnion y cyfeillion anwyl sydd yn alarus eu teimlad ar ei ol. Bellach nid oes genym ond ymdawelu a gadael i'r Hwn sydd yn rheoli gael ei ffordd yn ddirwgnach, oblegyd wedi'r cwbl Efe sydd yn gwybod oreu pa fodd y mae rheoli ei greadigaeth ei hun. Cysgoded o dan ei aden glyd y fam oedranus, llanwed phiol cysur yn Uawn iddi hi ac i'r brawd a'r chwaer sydd yn wylo yn chwerw yn nyffryn dwfn a du galar.— Eu cyd-alarwr.

GAIR AM Y DIWEDDAR BARCH.…

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…

TAITH TRWY MALDWYN.

CWM MORGAN.

FFENIAETH YN NGHYMRU.

MANION 0 FYNWY.

TANCHWA DDYCHRYNLLYD YN NGIIWM…