Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

BRYSNODION HWNTFORAWL

News
Cite
Share

BRYSNODION HWNTFORAWL C-AH Y PARCH. G. GRIFFITHS, CINCINNATI. IV. Eoneddigion,—Gofidus genyf eich hyspysu, a gwn mai gofidus a iydd genych chwithau wybod fod yr etholiad wedi troi yn erbyn rhoddi yr etholfraint i'r dyn du t,, wy fwyafrif lliosog iawn. Ond y mae gen- ym y cysur hwn yn ein haflwyddiant, fel cyfeillion yr Undeb, a gwir bleidwyr rhyddid, sef i ni wnead ein rhan tuag at ei sicrhau iddo, ac y gallwa edrych yn ol oddi ar gyfEniau y byd a ddaw heb ofid, ac yn ngwyneb y Negro heb gywilyddio o herwydd ein vote ddydd Mawrth diweddaf. Yr ydym wedi ein bwrw i lawr y waith hon, trwy i blaid yc heddwch, yn mlynyddoecld y rhyfel, ac i rai o'r Gwerinwj r hefyd ymuno gyda hwynt i'n gwrthwynebu ar y cwestiwn pwysig hwn ond nyni a gyfodwn eto— 'ie, yr ydym wedi cyfodi eisoes, ac ail darianwn ein Imnain i'r ymdreclt, ac ni roddwn i fyny nes y dygir ein bam i fuddugoliaeth. Gan fy mod oddi cartrei er's dyddiau, mewn lie gwledig yn nghanolbarth y dalae'd?., is gallaf roddi i chwi fanylion yr etholiad yr wythncs ddiweddaf; odid na chyfeinaf at hyn ryw dro vn ol 13aw. Mewn cyfarfod chwarterol a gynhaliwyd genyim yn y lie hwn (Browntow nship), ddoe ac echdoe, pasiwyd yn mysg pethau eraill I Ein bod yn derbyn eiu brawd, y Parch. J. T. Lewis, Rhesycae, ya y modd mwyaf caredig, as- gymmeradwyaeth brodyr o ymddiried mawr yn Nghymru, i gydwsithredu a ni ar yr achlysur pres- enol, ac yn rhoddi iddo groesawiad gwresog i'n heg- lwysi, os tueddir ei feddwl, ac os caniata amgylch- iadau iddo ymweled t iii.' A hwn liefyd yn nglyn a'r TYST CYMRETG. Yn gymmaint a bod y TYST CYMREIG newydd- iadur cyssegredig i achos crefydd, rhyddfrydig tuag at enwadau eraill, eto yn ddealleclig amddiffynydd golygiadau neillduol y Cynnulleidfawyr, wedi ei gy- chwyn gan nifer o weinidogion blaenaf ein henwad yn Liverpool a Chymru, yr ydym yn llawenhau yn y symmudiad—yn liyderu y cynhelir eu breichiau yn yr anturiaeth, ac yn dymuno ei gymmeradwyo i sylw Cynnulleidfawyr Cymreig y taleithiau, fel cyf- rwng cyfaddas i fod o wasanaeth mawr i'n hegwydd- orion yma, yn gystal ag yn y Dywysogaeth, ac yn rhwymyn undeb efengylaidd cydrhwng ein heglwysi a'n gweinidogion o'r ddau tu i'r Werydd.' Dim yn ycliwaneg heddyw. Rhaid rhoddi yr Tsgrifell lieibio i gychwyn i gyfvvrdd y train, neu ni chyrhaeddir y Queen City cyn nos, a pharai hyny anesmwythder a siomedigaeth i rywrai yno.

GAIR AT ' ALLTUD,' YNYSMUDW.

Y COLEGDY NEWYDD YN ABERHONDDU.

MR HENRY RICHARD AC ETHOLIAD…

CYCHWYNIAD YR YSGOL SABBATHOL.

ETHOLIAD BLYNYDDOL DIACONIAID.

------GAIR 0 LLANFAIRCA EREINION.

BUCHEDD GITTO GELLY DEG YX…