Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

(!tMtft(nnot.

News
Cite
Share

(!tMtft(nnot. S. R YN MSKTHYB.—Sabboth a Llun, Taehwedd 3ydd a'r 4ydd, cynhaliodd y cyfeillion yn Salem eu Cyfarfod Blynyddol. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn S. R, D. Hughes, B.A., Tredegar, a Williams, Nefyn, gynt. Nos Lun, traddododd S. R dclarlith ar ;America,' yn nghapel Ynysgau, am. yr ofnid y buasai capel Salem yn rliy fychan. Cafodd pawb eu siomi; nid eu siomi yn yr hyn a ddywed- odd, ond am na ddywedodd ychwaneg. Ni ddy- wedodd y pathau yr oedd y gynnulleidfa yn disgwyl gael ginddo. Yr oedd pawb yn disgwyl mai baich y ddarlith fuasai y rhyfel, ac yn neillduol ei helynt- ion efyn nglyn a hi. Ni wnaeth ond prin grybwyll am y rhyxel wrth derfynu. Y mae S. R. yn dyfod i Soar y nos Lnn cyntaf yn Rhagfyr, ac fel y dywed- odd yn yr Ynysgau, bydd yn dweyd tipyn y pryd hwnw ar Adgofion Gwlad ei Dadau, ac ychydig ar America. Felly y tro nesaf, yn Soar, y mae yr hen frawd yn bwriadu dweyd ei helyntion yn amser y rhyfel, ac yn wir, y mae ei glywefl yn adrodd rhai o'r amaylchiadau yn ddigon i beri i'r graig i wylo. -Goheby(ld. PBXRHYNDEUDRA.ETH.—Nos Sadwrn, Taehwedd 2il, cynhaliwyd cyngherdd rhagorol yn y lie hwn gan gor Salem, Porth Madoc, dan arwelniad Mr John Williams. Y llywydd oedd y Parch. N. Cyn- hafal Jones. Cawsom ddigon o bra-wf yn y cyfarfod hwn mai nid cantonon o bell bob amser sydd yn medru canu yn dda, er mai yr hen syniad cyffredin yw,_ pan fo elsiau rhyw wasanaeth arbenig, fod yn rhaid cael offerynau o bell i\v gyflawni. Mae yn hynod o beth os yw cantorion da, pregethwyr da, areithwyr da, &c., yn digwydd bod yn bell o bob man. Ehoddodd y cor eu gwasanaeth yn rhad, er mwyn i'r elw gael ei droi at ddyled addoldy y Pen- rhyn. Canodd y plant rai darnau mor effeithiol, nes oedd y dagrau yn llifo dros radciiaa llawer. Diolch- wyd yn gynhes iawn i Mr Williams a'r cor am eu. gwasanaeth, ac i'r cadeirydd medrns, am ei sylwad- au pwrpasol, difyrus, ac addysgiadol. LLUNDAIN.—Br ys ychydig wythnosan yn ol, hys- bysasom yn y TYST am lwyddiant y Cymro ieuanc talentog, Mr J. D. Thomas, mab y Parch T. Tho- mas, Glandwr, ger Abertawe, yn nghyda'i fwriad i fyned ar fordaifch i Awstralia. Rhoddodd y bwriad hwnw i fynu, a lion genym hysbysn oi fod yr wyth- nos ddiweddaf wedi pasio arholiad, a cliael ei ethol yn Assistant Physician i'rDr Jenner aDr Reynolds, yn y Prif Ysgol, yn Llnndain. Y mae yr enwogion hyn yn mhlith prif feddygon ein teyrnas, ac y mae y blacnaf yn un o feddygon ein Grasusaf Frenhines Victoria. Ystyriwn hyn etto yn ddyrchafiad ac yn anrhydedd ychwanegol icldo. PARSON'S HILL, WOOLWTCH.—Cynhaliodd yr eg- lwys Gymreig yn y lie uchod ei chyfarfod te blyn- yddol ar y 6ed o'r mis hwn. Ar ol to, cafwyd cyfarfod yn y capel Seisnig, o dan lywyddiaeth y Parch W. Woods, gweinidog y lie. Wedi anerch- iad gan y llywydd, canwyd < Hen vVlad fy Nhadau yna ancrehiad gan y Parch E. Evans Pedrawd gan barti o Woolwich wedi hyny Can gan Miss Lloyd; yna anerchiad gan y Parch D. C. Davies, M.A. Canwyd Dcuawd gan Miss Evans, a Mr W. E. Williams, Wood-street; dilynwyd hwy ar y ber- doneg gan Miss Lloyd; yna Can gan Miss Jones, Farrington-street. Dilynwyd hi gan Miss Rogers, un o Woolwich. Deuawd gan Mri Hughes a Jen- kins, dau o Woolwich School. Cor Fetter Lane yn canu un o'r hen Ala won Cymreig, dan arweiniad Mr ■ W. E. Williams. Unawd gan Mr Humphreys Can gan Miss Evans, a dilynwyd hi gan Miss Lloyd Unawd gan Mrs Herbert, a dilynwyd hi gan Miss Rogers; Deuawd gan Misses Jones ac Evans, a dilynwyd hwy gan Miss Lloyd. Unawd gan Mr Davies, a dilynwyd ef gan Miss Rogers. Yll anerchiad gan Mr Lloyd, Kentish Town. Ar ol i Mr Harris, o'r Boro', i gynyg y diolchiadan, terfyn- wyd un o'r cyfarfodydd goreu a gafwyd yn Wool- wich erioed, trwy ganu Molawd Cymru' gan Gor Fetter Lane. Pan oedd y gynnulleidfa yn cychwyn alian, daeth y Parchedig J. Richards i mewn i wneyd apology am ei absenoldeh, ac addawodd y byddai yn brydlon y flwvddyn nesaf. Rhoddwyd y gymeiadwyaeth uchaf i'r cantorioii a'r cantoresan, a galwyd hwy i ganu eilwaith agos oil. Y mae y clod uchaf yn ddyledus i Mr W. E. Williams, yr ar- "weinydd.—Moelwyn'. LLAMFAjjiFECHAN. — Taii.—^os Fercher, y 30ain cynfisol, torodd tan allan yn y Washington Hotel, Pantyrhedyn, preswylfod Mr Smith. Oddeutu hanner nos, yn ol y manylion, yr oedd un o'r mor- wynion yn airio dilladyn un o'rlloftydd, ac fe gym merodd y dillad dan, a chyn iddynt allu gwoeud dim er ei atal, yr oedd wedi cymmeryd y fath afael fel ac yr oedd yn gwneud ei ffordd" allan trwy y ffenestr. Gan nad oedd fawr o ddwfr i'w gael, a'r tan mor uchel, nid oedd dim i'w wneud ond gadael i'r elfen ddinystriol wneud ei ffordd, a chcisio cario Thai o'r ddodrefn allan, ac yr oeddynt yn cario hyd nes yr oedd yn berygl aros oddimewn. Yr oedd yr olygfa yn un bur ddychrynllyd pan ag yr oedd'y HI am an crychiogyn bwrlymu allan trwy bob ffenestr; ond nid hir y bu cyn i'r to ymollwng i mown, ac i'r nenfwdydd (ceilings) gymmeryd tan a syrthio i lawr o'r naill uchder i'r ilali, a'r gwelyau, y rhai oeddynt, yn haiarn, yn dyfod i lawr yn bendramwnwgl. Yr oedd yr olygfa yn wir sobr; ond, trwy drugaredd, nid oedd neb wedi myned i'w gwelyau ond un plent- yn, ac fe'i cafwycl ef allan cyn i'r tan ei eyrhaedd. Fe ddaeth y peiriant tan (fire engine) yno oddeutu banner awr wedi pedwar, ond yr oedd y cwbl bron wedi llosgi. Y mae yn dda g-enym grybwyll fod y ddodrefn a'r ty wedi eu liyswirio.-GI. al) Gwilym. Y FPENIAD CONDEMNXEDIG MAGUIRE — Y mae deisebau wedi eu hanfon at yr Ysgrifenydd Cartref- ol, ar ran Maguire. Cynhydda y dyb ei fod yn ddi- euog. Dyna farn llawer o'r rhai oygsylltiedic a'r wasg o'r brifddinas, yn gystal ag o Manchester,' y rhai oeddynt yn y llys yn sylwi ar ymddygiad y carcharor, a'r rhai a dystient drosto. Disgwyiir y bydd i ddatganiad personau fel hyn gael cryn ddy- lanwad, ac y caiff ei arbed. EHYMNBY.—Damwain Angenol,—Hydref y 26ain, fel yr oedd un Thomas Rees yn dilyn ei alwedigaeth ynmhwll Nantllesg, syrthiodd darn o dir arno, gan ei lethu yn y fan. Yr oedd yn aeJod gyda'r Anni- hynwyr, ac fe deimla eglwys Seion golled fawr ar ei ol. KELLY WEDT DIANe I'a AMERICA. -Cyhoedcla y Limei tck heporter ei fod wedi cael ar ddeallfod Kelly wedi dianc i r America, trwy Gal way» AELOD SENEDDSSL DROS MANCHESTER.—Dywedir mai .1 ir100, BIight" Ysw., fydd yr ymgvsisydd ixhyddfrydig, ac mai Alderman Bennett, fydd vr jmgeisydd Toryaidd. Rhif y Ilongddrylliadau am yr wythnos ddiwedaf yd- 1274' CJ Y yn Y am y flwyddyn breaonol i

-.ç\\ty(l(liøn r,dlHt(toL

tcw!Jtt{Un" m;tnUxr.1

PA BETH A WNEZK A GARIBALDI…

..:.r."<:,..-..,,;c:;.:..,,-CYlnYYD,…

CRICCIETH.

--_--------LLOFFION.

--PRAWF Y FFENIAID YN MAN…