Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
J. R., Y TYST, ABERTH MOLIANT,…
J. R., Y TYST, ABERTH MOLIANT, A MINNAU. Fonoddigion,—Yn 7 'Cronicl' am Daclrsredd, t.d. 106, dywed adolygn Aberth Moliant' yn oithaf tag, eithr nid hyn wneir, ond ei ddefnydd.lo yn gjsgod i orgydio ar gasgliad au oreill, yn cnwedig 7 'Ddw'y M'il'—hwn sydd ar y ffordd. Gwiogir menyg i (laro pob un o'rlleill. Deehreuwyd yr ymosodiad yn Rhifyn cyntaf y TYST, dyoddefwyd hwnw heb yngan ga,ir;. ac ymhyfhaodd yr ymosodwr erbyn yr ail Rif. u Gweirydd" yw enw yr ymosodwr. s Dealla y miloedd ein bod am liir amser wedi troi y glust fyddar at ymofiodiad&u y TYST, a buasai yn dda genyrn adasl rhwn, Aberth .illollant a llais y cylioedd, heb ys- grifeiiu llinell, oni buasai fod haerllugrwydd yn ym- tyflri' Os oes rhyw ystyr i'r ymadroddion yma, dyma fo :— Ymosododd y TYST ar y 'Dclivy Fil;' Gweirycl(I yw enw yr ymosodwr, gan hyny, Gweiryddd yw'r TYGT, a'r Ty- ydyw Gweirydd. Felly Cyhudda J. R. y TYST (Gweirydd) o ymosoct ar y 'Ddwy Fil,' ac o awgrymu 'fod y Dchyy Fil" wedi cael gormod o chwareu teg i srymmeryd a chadw y farchnad.' Y mae sylw byrar'AberthMoIiant' yn y Rhifyn 1 o'r TYST, o waith rhywun anadnabyddus i mi; oncl nid ocs yno un gair o gyfeiriad at y Ddwy Fil' na neb o'r clique pwffyddol. Felly, nid oes dim' ymcsod- iad' yn y Rhif. 1, 03 nad yw J. R. yn cyfrif fod galw sylw o gwbl at yr Abertli Moliant' yn ymosodiad."Kid yw yr ail Rif. yn son dim am y llyfr," hyd y gwelaio i, am hyny nis gall fod ymosodiad yn hwnw chwaith, os nad ystyriai J.R. fod gwaith y Gol yn peidio profiesu edifeirvveh yn yr ail, am son am y llyfr yn y cyntaf yn ymosodiad.^ Yn y 3ydd, y 4ydd, y 6ed, a'r /fed Rhif. y mae adolygiad Gweirydd ao nid oes yn yr holl ysgrif gymmaint ag enw y 'Ddwy Fil' na neb o'r clique. g- Dywedoda y r yn y 7fed Rhif. o'r TYST fod ir-,Lwcldcg yn y yed Rhif. y -eybient hwy y buasai yn well ei gadael allan sef hon:—' Y syniad isel yma am archwaeth y wlad sydd wedi bod wrth wraidd yr hys- bysiadau gwaradwyddus a welsom yn nghorph yr ugain mlynedd diweddaf, fod hyn a hyn o filoedd o hymnau i'w cael am hyn a hyn o bres.' Yr wyf yn sefyll at yr hyn a ddywedais yn y nawfed Rhifyn yn ateb i'r sylw a wnaed ar yr ymadrodd yna; sef, Na nodais unrhyw gasgliad ond Abertli Moliant trwy ystod yr holl ysgrif: y mae fy holl awgrymiadau i at ddiffygion casgliadan craill yn rliai cyffredinol; ac nid rhedeg i wddf cassrliad neillduol ydyw hyny. Os dywedais rywbetli yn fy syl- wadau cyffredinol y teimla rhyw gasglydd neillduol ei fod yn cyffwrdd ag ef, nid oedd genyf fi ddim help i hyny.' Foneddigion, gan nad wyf 11 weinidog mewnunman, ac am hyny nad rhaid i mi ofni i unrhyw ymyrwr dieg- wyddor ymlusgo yn llechwraidd at fy niaconiaid i greu vhagfarn gwenwynllyd yn fy erbyn, er ceisio fy mwrw allan o'm gwinllan dan fy ngwarth yn ddiachos; a chan nad arswydwn ryw lawer rhag y canlyniad ped ymunai holl' blant y felldith' i ysgrifenu llythyrau bradwrus a chelwyddog o'r tu cefn i mi, er ccisio gwenwyno y rhai a allant dybiedfod genyf ychydig 'gymhwys derail,' nid yn Linig i gasglu geiriau at eu gilydd i wneud geirlyfr,' ond hefyd i roddi rhesymau a meddyliau ynddynt mewn dull hudol i'w darllen '—gan nad wyf fi yn ofni dim a all clique gwenwynllyd wneutliur trwy fudr- gampaufelhyn a'u cyffeiyb, yr wyf yn ymdeimlo yn ddigon liyf i ddywedyd yr hyn a faniaf yn wirionedd, a hyny yn wyneb y clique mwyaf dichellgar a'r a all Ty- wysogaefcli Cymru ac Unol Daleitliiau yr America ei gyiihyrchu. Gwyddocli chwl, a llaaws eraill yn Ngliymru, yng Ngeirlyfr pwy y mae'r gair dysgedig clique fynychaf. Dyrna eaianipl fer Clique y gynnadledd—clique y pwyllgor-—clique ,elw'r enwad—clipue y Dysgedydcl- clique yr Anmbynwr—clique y Diwygiwr—clique y Beirniad—clique y Dydddiadur—clique Trysorfa yr hen Weinidogionac yn awr cziqtte Aberth Moliant, clique y TYST.' a 'phob clique Clique, clique, clique ydyw pawb a phobpeth ond y gwir ylique—clique y Cronicl a cMique y Ddwy Fil!' Wrfch wrando ar ud- iadau parhaus fel hyn, ni fedruii i yn fy myw bsidio meddw.1. 'am gi Esop a'r cig yn ei safn; ac os na ddig- wydd yr un anffawd iddynt hwy ag a ddigwyddodd" i hwnw, sef colli ei ysglyfaeth wrth ysgyrnygu ei ddan- uedd ar ei gysgod ei hun, y mae dawn proffwydoliaeth mor ddieithr i Gweirydd ag ydyw egwyddorion heddwch i jrlique y Cronicl. Y mae'r clique gwirioneddol wedi casglu Llyfr Hym- nau ond er bod hwnw wedi cymmeryd a chadw y farchnad,' yr oedd lluaws o'r Ci'tvi\ulleidfaoedd mwyaf coeth a gwybodas, heb son am y gweinidogion, yn teimlo y dylai Llyfr Hymnau addas i'w ddefnyddio mewn addoliad cylisedd, yn hytrach na chynnwys rliyiv fiJ.oedd o hymnau, a'r rhan fwyaf o'r rhai hyny yn sothach, ac ar fesurau nas defnyddir yn dragywydd mewn cyniiulleidfaoedd addoliadol, gynmyys cynnulliad cymmedrol ei faint o'r emyi-iali goiuit a mwyaf ysgrytli- ,;r yrol a fedd y genedl, a'r rhai hyny ar y gwahanol fes- tiraii mwyaf arferedig yn nghyfarfodydd" crefyddol y Cymry. Yr oedd y teimlad am y cyfry w lyfr yn cyn- hyddu yn naturiol, fel yr osdd gwybodaeth, a chwaeth, a barn y cynliyddu am hyny, dyrnunodd amryw gyn- nulleidfaoedd ar eu gweinidogion gasglu Llyfr Hyirraau at eu gwasanaeth, a'r hyn y cydsyniwyd ar ddau neu dri o achlysuron. Ond, am nad oedd y casglwyr hyny yn meddu yspryd pwffyddol rhai cliques, nid aeth y cyf- ryw gasgliadau neppell y tu hwnt i derfynau'r cylch- oedd y darparwyd hwy'n wreiddiol ar eu cyfer. O'r diwedd, cycisyialodd 'n-.tab hynaf Hiraethog' i wneud casgliad o Hymnau ar gyfer yr eglwys y perthyn iddi, heb feddwl dim, fel yr ymddengys, ar y declireu, iddo fyned allan o gylch yr eglwys hono.* Pa wedd bynag, digwyddodd i'r Llyfr fyned i law amryw wyr deallus, oedd yn teimlo er ys Iiir amser fod yn bryd cael diwyg- iad yn Emynyddiaeth yr Annibynwyr, y rhai a gytun- ent a'r hyn a ddywedodd un o brif ddynion yr enwad um CILlno,D. y Llyfr yr oedd arnom ei eisiau.' Adolygwyd y llyfr gan ddau berson givalianol yn y TYST, heb wneud dim cyfeiriad neillduol at unrhyw gasgliad arall, fel y dywedwyd eisioes. Ymddangosodd adolygiad galluog hefyd arno yn y Dysgedydd; ond ni pherthyn i mi dJywedyd dim chwanog am hwnw' ymn. Rhwng pobpeth, declireuodd- eirchion ddylifo at y casglydd o bob cyfeiriad. Ond gan nad yw'r mab mwy E.a'r tad, fawr o bwffiwr, ymddongys iddo ddywedyd yn wylaidd ei fod ef yn barod i roddi ei gasgliad yn eiddo yr enwad, ao i'r elw fyned i Dry sorfa'r Dysgedydd,' &c., at gynnorthwyo hen weinidogion. Daeth hyn i glust- iau'r cliqtie pwliyddol: dychrynodd drwy'i galon, rhag fod gobaith yr olw' ur fyned ymaith a dynalii'ii 'gicio row,' debyg, na welwyd erioed ei gyffelyb ond yn N ghronicl y Cymdeithasau Crefyddol Ceisiodd wneud sport o'r syniad, yn ol arfer rhai' am bob syn- iad elusengar ond 'Tystei'mu' iddynt eu hunain. Bostia fod ei gasglydd yntaa wedi rlioddi ei lafur yn elw i'r enwad. Nid wedi ei roddi i Drysorfa' (choelia'i fawr !) i'w ranu yn y tywyllwcli yn ol mympwy pen- arglwyddiaeth cynnadledd neu bwyllgor:' (nid oes ganddo dryst yn neb ond ei hunan !) ond rhanwyd yr elw yn anmhleidiol i'r enwad drwy racllonrwydd y casgliad.' Debygiawn y mae rhadlourwydd—rhatach 11a neb—wedi ei gerfio bob amser ar nwyddau pob pwffyddion o Barnuiu i waered. Ond ystyr 'rhadlon- rwydd yn ngeirlyfr cyfriniol pwffyddion, bob amser, ydyw drudfmiaeth ac fe wyr y doeth hyn, ac fe'i gochel; canys os bydd y swm (t'r rhif yn o fawr, fe fydd y sylwedd yn sicr o fod yn bwdr a diddefnydd. Nid yw'r TYST byth, ar ol dwyn sylw'r wlad at 'Ab- erth Moliant, ond un llinyn o ymosodiad ar y Ddwy Fil,' &c., er nad yw enw cyssegredig, na neb o'r clique, hyd y gwelais i, hyd yn hyn, gymmaint ag unwaith o fewn ei glorian Ond waeth er hyny, y mae'r clique yn haeru hyny ac er nad oes rithyn o sail na gwir i'r haerjad, y mae amcan iddo sef cychwyn Papur New- :ydd,' I Newydcliaclur Cronicl Wythnosol, Cein- iogrhywbeth ar draws y TYST Ac y mae un o ael- --odau'r clique yn teithio5 yn awr trwy Gyiurti, fer mwyn darllaw'r cawl; a byddai yn golled drom iddo yn awr i beidio teithio am rai misoedd,' canys bernir gan laweroedd y eymmerai Newyddiaclllrteg (?) yndda. Y mae amryw gyfeillien' (adar o'run lliw) 'ynmeddwl y gweithiau Cronicl wythnosol, Ceiniog y Rhifyn yn dda.' Ystyr y geiriau cymmeryd' a 'gweithio yn dda,' mewn geirlyfrau clicyddol, yw g-werthu yn dda' ym mysg y miloedd' twylledig. Hawdd canfod weithian, fed y dwfn gy nlluniam hyn wrth wraidd yr ymfuclo o'r A.raejica, j Dystej, a'r cwbl; a tiara yr oedd y ca.¡-,l yn berwi, fe neidiodd y TYST digywilydd i hanfod, nes taflwyd y clique dros en- cyd i ddyryswch Bellach, nid oedd dim i'w wneud ond ceisio achos yn ei erbyn a phryd nad cedd dim i'w gael ar sail gwirionedd, yr oedd yn rhaid dyfeisio gau dystiolaeth yn ei erbyn, eef ei bod yn c ymosod' ar nwyddau'r clique, h.y. peidio eu pwffio na son -dim am danynt; a mwy haerllag fyth, 'ymhyfhau _5 i ddwyn nwyddau pobl eraill i faes a ddylasaifod yn etifeddiaeth dragywydd i glique y Ddwy Fil i' Eelly, hanfod y TYST, ac kbrtli-iA,Olivil yd yw"i: gwir yr diad. JBeiiacli, ar ol teithio am rai niisoecict-hannqr blwyddyn o leiaf,' nes gweled a weithid' breci'r clique ac a gvmmer yn dda,' gellir dic~wjl cloben o Geiniog- werth Wythnosol, cryn wertii neu chwaneg, tua 1 dechreu infai canys y mao'r CZÙr;2 vma yn arfer rhoddi ei lafur yn eiddo yr enwad trwy roddi'r cwbl yn ei ffordd ei hun, cofier Os nad ydyw'r syniadau uchod gywir, y mae :cel-gynlluni--u clicyddol a phwff. yddol yn ddirgelwcli perffaitli. i GWEIRYDD. Y dystiolaeth uchod sydd wir bob llytliyren yn mhcrthynas i'r llyfr, Aberth Moliant.' Ar ddymuniad cantorion ac Eglwys Salem, ac iddynt L'\7Y yn unig y bwriedid Ef. Ond os ewyllysiai rhyw gynnulleidfa neu gynmillGidtaoedd ereill alw am dano, wrth reswrn ni fwriedid ei gadvr rhagddynt.—W. REEs. [Y mae y cyh-LLcldiadau a ddug y ddau frawd yn erbyn y TYST, y.eyfeiria, ein Gohebydd at-ynt yn yllyth- yr uchod, yn rhy ddrwg a dweyd y lleiaf am danynt. Ni ddygwyd cyhuddiadau mwy disail trwy y wasg erioed, fel y gwyr holl ddarllenwyr y TYST yn dda. Cafodd S. R. bob croesaw a allasai ddymuno' yn Liver- pool, ar ei laniad o America. Cafodd swyddfa y TYST a chrcesaw at ei wasanaeth bob dydd tra bu yn y dref. Cyhoeddwyd pob hysbysiad am ei symmudiadau yn y Dywysogaeth, a'r holl ganmoliaethau a roddid iddo ef a'i ddarlithiau, &c., a ddaethant i'r Swyddfa; ac ni ddywedwyd cymmaint ag un gair anraharclius am dano yn y TYST g»n un o'i Olygwyr na'i Oliebwyr.—GOLYG- WYIt Y TYST. 'i
PRAWF Y FFENIAID YN MANCHESTER.
PRAWF Y FFENIAID YN MANCHESTER. Dygwyd prawf y fintai gyntaf o'r carcharorion i dor- fyniad nos Wener, pan y dygodd y rhoithwyr, wedi awr a phum munud ar hugain o ystyriaeth, y rheithfarn o EUOG o LOFRUDDLETH, yn erbyn pob un o honynt. -,lc Pa,n y gofynwyd i'r carcharorion a oedd ganddynt rywbeth i ddyweyd cyn i'r ddedfryd gael ei chyhoeddi, Atebodd Allen, ei fod yn teimlo cymmaint a neb yn herwydd marwolaeth Brett, athystiaiger bron yr Holl- wybodoI 01 fod yn ddiniwed—mor ddiniwed ag un dyn yn y llys. Dywedai hyn, nid er mwyn cael maddeuaut yn y llys. Dywedai hyn, nid er mwyn cael maddeuaut —nid oedd arno eisiau hyny, ac ni fynai hyny. Yr oedd yn barod i farw fel y bu miloedd farw dros ei wlad. Achwynai ar y rnodd y cynnorthwyid y tystion i'w ad- nabod, ac ar waith yr heddgeidwaid yn ei lawgyfiio. Dywedai nad William O'Meara Allen oedd ei enw, ond William Phillip Allen. Tystiai Larlrin fod yn dclrwg iawn ganddo am lot- raddiaeth Brett, ond nid oedd of wedi defnyddio un offeryn y diwrnod hwnw a fuasai yn cymmeryd ymaith fywyd plentyn rhagor dyn. Nid oedd am wadu nad oedd wedi myned yno gycla;r bwriad o wneud yr oil a allai i ryddhau y gwroniaid oeddynt yn y cerbyd, ond nid oodd yr un a,, laddodd Brett eto mown dalfa. Gwnaeth Gould araeth faith. Dywedai fod pob tyst oedd wedi tyngu yn ei erbyn wedi tystio yr hyn nad oedd wirionedd. Nid Gould, ond Michael O'Brien yd- oedd ei enw. Condemniai ormes y Llywodraeth Bryd- einig yn yr Jworddon. Ceisiodd y Barnwr Blackburn ei atal er ei fwyn ei hun rhag myned yn mlaen yn y dull hyny, ac annogai Mr Ernest Jones ef i clewi, ond mynai gael dyweyd, neu yn hytrach ddarllen ei druth. GwacLai M'Guire ei fod yn agos i'r lie, ac na f u erioed yn dal un gyfathrach a'r Ffeniaid. Yr oedd er ysblyn- yddoedd yn y Royal Marines,' ac ar y pryd y o-wilted yr ymosodiad ar y van ar furlough. Dywedai os bu un dyn diniwed erioed o flaen y Barn wyr ei fod ef felly. Ni fu crioed yn ei fynvyd yn nghyfeiria.d Belle Vue. Gofynai yn bryderus, os oedd y ddedfryd i gael ei chy- hoeddi arno, pan nad oedd yn gwybod dim am y peth. Gwadai Shore hefyd ei fod yn y lie, a dywedai mai ei enw priodol ydoedd Edward O'Meagher Connor. Dadl- euai fel Allen ei fod yn ddinesydd Aniericanaidd, ac yr oedd wedi disgwyl amddifyniad Mr Adams y negesydd. Nid oedd arno yntau ddiru ofn marw dros ei wlad, a dywedai ar y diwedd, Duw waredo yr Iwerddon,' a chyderfyniai y carcharorion eraill am hyn. Yna cyhoeddwyd y ddedfryd o Farwolaeth' ar y pump gan y Barnwr Mellor yn y modd mwyaf pwyllog a difrifol. Annogai i bob un o honynt barotoi gogyfer a'r amgylchiad difrifol oedd o'u blaenau.
PFIAWR CIIWECH ERAILL.
PFIAWR CIIWECH ERAILL. Dygwyd John Francis Nugent, Patrick Coffey, John Bacon, John Brennan, William Martin, a Timothy Featherstone, ger bron boreu Sadwrn. Dywedai y Barnwr Blackburn ei fod yn bwriadu rhanu y gwaith rhwng y Barnwr Mellor ac yntau, ac iddynt eistedd mewn dau gwahanol lys, a chael rheithwyr bob un, a nifer o garcharorion i'w proii ar wahan, ond gwrth- wynebai Digby Seymour hyn fel peth hollol annheg a'r carcharorion. Gallai y byddai ei eisiau ef a'i gyd- ddaclleuwyr dysgedig yn y ddau lys ar unwaith. Felly trefnwyd i beidio gwahanu gyda'r lintai hyn o garchar- orion, ond awgrymai y Barnwyr y byddai raid gwneud hyn er mwyn hwylusdod cyn y diwedd. Felly aed yn mlaen i holi y gwahanol dystion, y rhai a gymmerent eu llw weled pob un o'r carcharorion yn cymmeryd rlian yn yr ymosodiad. Gorpheuwyd yr achos o du yr erlyniad ddydd Llun. Yr oedd y dystiolaeth yn erbyn un o'r carcharorion, sef Bacon mor wan, fel y dywedodd y Barnwr y byddai iddo yn yr amser priodol gyfarwyddo iddo gael ei rydd- hau. Gwnaeth Mr Seymour araeth faith a grymus dros y carcharorion Martin, Nugent, a Coffey a boreu Mawrth gwnaeth Mr O'Brien ei anerchiad dros y ddau garchar-, or eraill; a tlirculiwyd y dydd i holi tystion dros y car- charorion.
CASNEWYDD-AR-WYSG.
CASNEWYDD-AR-WYSG. Dyfodia/1 y Welsh Fusileers.—Cycliwynodd y dywed- edig o Quebec Hydref yr 17eg, ar fwrdcl yr agerlong Himalaya. Cyrhaeddasant Spitliead tua G o'r gloch boreu dydd Mawrth diweddaf, ac hwyliasant yn mlaen i Portsmouth yn ystod y prydnawn. Boreu tranoeth, glaniasant fel y canlyn :—Majors S. Mostyn, G. C. Norton; Capts. Sydney C. Millett, George J. Provost, Luke O'Conor, V. C. James, D. V. Tupper, Annesley Cary, James H. Welwyn; Lieuts. Gerald George Lid- dell, Charles Morgan, J. 0. M. G. W. Adolphus, Fitz- george (Adjut.), Edwin Stanley Greek, Robert F. Williamson, A. F. Ramsbottom; Ensigns George C. E. Rowley, Charles John Gilbert, Robert T. Webber, Walter F. J. Cowan, Sydney It. Blyth, Edward T. C. Stone, W. A. Johnston; meddyg, Benjamin Tydd a'i deulu; llawfeddyg, T. F. Barrow, M.D.; talydd, George Knox Leer; Quartermaster Abraham Button, ei wraig, a'i blent yn Mrs Provost, Mrs Rowley yna 676 o wyr, 57 o wragedd, a 81 o blant. Gadawsant Portsmouth prydnawn dydd Mercher, gyda. thren neillduol i'r per- wyl, trwy Basinstoke, Reading, a Swindon, i Grange Court, lie y neillduwyd dau gwmpeini i fyned i Aber- honddu. Cyrhaeddasant yma tua 6 o'r gloch boreu boreu dydd Iau. Er ei bod yn gynnar yn y dydd, yr oedd cannoedd wedi ymgynnull i rhoddi croesawiad iachus i amddiffynwyr ein gwlad. Hefyd, gyferbyn a dyfodiad y gorbydres, yr oedd wedi eu planu ar hyd y llinell arwyddion y ni wI' (detonoters), a phan dclaeth y gerbydres dyma hwy yn tanio, a seindorf y gwirfodd. olion yn dechreu ehwareu, nes gwneud 11awer o'r hen bobl i feddwl am y Chartists gynt, Wedi cael pobpeth yn all right, cychwynasant tua'r barra^cks, yn cael eu blaenori gan eu seindorf, yn nghyda chymorthseindolf y gwirfoddolion. 0 ie, yr oedd rhywbeth yn naturiol iawn gweled y "Velsh Billy'—bwch gafr-yn flaenor iddynt. Gallaswn feddwl fy mod yn clywed rhyw swn distaw bach yn meddianu'r hen Gymreigwyr, 0 am lywodra,eth unwaith eto.' Gadawyd un ewmpeini yn safle'r gerbydres hyd honner awr wedi wyth, pryd yr anfonwyd hwynt i Gaerdydd. Rhif y rhai sydd i aires) -ma yw 14 o swyddogion, 326 o wyr, 21 o wragedd, a S3 o blant, heblaw y rhai oedd yma o'r blaen. Nifer y :• hai a aethant i Gaerdydd oeddynt i' o swyddogion, 110 o wyr, 6 o wragedd, a 10 o blant. Maent yn bwriadu i'r 23ain fod o blant Mynwy, ac fod y lie i fed yn Ifead Quarters, fel y dywodir, gan y bydd yn gyfleus i'r mil- wyr fyned i'w c&trefi, ac mewn lie parod pe bai galwad 1 fyned dros y dwr, neu y maent ar fin llinell y Great Western, yr hon sydd yn alluog idd eu cludo i unrhyw fan o'r dyvyycogaeih Kcewn yo'lydig oriau. Gnd gobeith- iaf na fydd eu gwasanaeth milwrol yn angenrheic'iol. Yf. MORGAX.
MAN NE WYE DION.
MAN NE WYE DION. Dywedir mai Mrs Ella Merrick Thomas, o Amherst, Mass., ydyv; y f,r- ieuengaf yn yr America—nid ydyw ond tair-ar-d&eg cad. Y mae rhyw afiechyd yn ffynu yn West Pittsfield, yr hwn sydd yii cyfranogi o natur clefyd a'r freca goch. Bu deuddeg o'r un teulu yn glaf o hono ar unwaith. Dywedir fod un George Leeming, gof o Jeansville, wedi dyfod i etifeddiaeth yn Lloegr, gwerth mwy na miliwn o ddoleri, a'i fod wedi cychvryn o'r wlad hono i gymmeryd meddiant o hom. 'Torwyd coeden llwyfen yn Ohio, a dywed rhai cyfar- wydd ei bod yn saith gant a deuddeg a pbedwar ugain oed. Oyhosddir archiad yn y Gazeiie i etliol pondefig Ys- gotaidd yn lIe y diweddar Earwn Polwarth. Dychwelodd y IVonhinoa o Balmoral i Gastell Windaor ddydcl Sadwrn. Cadwyd adeg ei dychweliad yn liynod o ddirgelaidd, yn ngwyneb sefyllfa derfysglyd y wlad- wriaetli yn bresenol. Y mae y senedd wedi cael ei goliirio hyd y 19og o'r mis hwn. Llosgwyd dau blentyn nos Sadwrn yn St. Helens, yn ystod absenoldeb en mam oddi cartrof, a buont farw ill dau nos Sabbath. I jjCariodd Mr Tyrcr, y Toryad, ar Mr Stitt, y Rhydd- frydwr, yr etholiad i'r Cynghor Trefol yn y dref hon, tr .vy fwyafrif 0 49. Y mae yr Anrhydeddus a'r Parch. Baptist Noel, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymneillduo o'r weiiiidogaetli yr haf nesaf, o herwydd ei oedran, sef G9 mlwydd oed. Nid ydyw y Ffeniad a saethodd y ddau heddgeidwad yn Dublin, wedi dyfod i'r ddalfa eto. Y mae amryw Ffeniaid Aniericanaidd wedi eu cymmeryd i fyny. Y mae Canghellydd y Drysorfa, a Mrs Disraeli, wedi dycliivel),cl o Edinburgh, i Grosvenor-gate, Llundain.
ttur!j(hn$n (E;r¡rmcr.
ttur!j(hn$n (E;r¡rmcr. Hilwjir Ffrainc wedi cyrhaedd i Rufcvin.—Anfona y Cadfridog Failly, hysbysiad swyddogol, fod y Cadfridog Dumont, gyda nifer o fil wyr Ffrainc, wedi cyrhaedd i Rufain, ac iddynt gael derbyniad brwdfrydig gan y trigohon.
TRI DATGAXIAD AR ACHOS RIXUFAIX.
TRI DATGAXIAD AR ACHOS RIXUFAIX. Datganiad Mazzini.—Cyfarcha Mazzini yr Italiaid ar ol y cyhoeddiad cyntaf a wnaeth gweinydditteth Menabrea mown iaith grof, gan. en galw i achub eu hunain rhag ymostwng i fod yn slafiaid i Ffrainc. Bydded i'r genedl,' meddai, 'a chub y genedl.' Dy- wed os na bydd i'r Llywodraeth fyned i Rhufain yn ngwaethaf Ffrainc, y dylai y genedl gymmeryd y mater i'w llaw ei hun, a gwneud brysgaerau trwy yr holl ddinasoedd, a chyfodi fel un gwr. Datganiad Gweinyddiaeth Menabrea.—Tystir yn hwn fod Llywodraeth Itali wedi gwneud yr oil a allai i atal y Garibaldiaid fyncd i diriogaethau y Pab. Mewn gwlad fel Itali, yr oedd gan bob dinesydd liawl i fyned i'r man y mynai heb hawl gan neb i ymyraoth ag ef ac yr oedd yn anmhossibl gwylio y tcrfynau fel nad allai personan en croesi. Rhoddir y bai ar wendid Llyw- odraeth y Pab i'w cadw draw. Nid ydyw yn cydnabod fod angen am ymyriad Ffrainc, ond gan fod milwyr Ffrainc wedi myned i mewn i diriogaethau y Pab, barnai y dylai milwyr Itali feddianu yr nn safle er mwyn anrhydedd tt lies Itali. Datganiad Llywodraeth Ffrainc.—Cyhoedda Marquis de Moustier, y Gweinidog Tramor, fod Ffrainc wedi disgwyl ar ol i'r Weinyddiaeth gael ei newid yn Flor- ence, y buasai i Lywodraeth Itali ddarostwng ar un- waith y Garibaldiaid, ac mai gyda siomedigaeth mawr y deallodd fod milwyr Itali wedi croesi i diriogaethau y Pab. Edrycha ar hyn fel ymyriad annheg o eiddo Itali, ac na ellid disgwyl i Ffrainc ei gymmeradwvo. Amryw drefydd Rhufeinaidcl yn galiv am gael ymuno ag itaii.-Y mae amryw drefydd wedi anfon cais i gael ymuno ag Itali. Rhoddwyd y peth i bleidlais yn Vel- letri, a chaed 4,037 dros hyny, a dim cymmaint ag un bleidlais yn erbyn. Ymwrthodir a Llywodraeth y Pab yn y lleoedd hyn, a ffurfir IIywodraeth ragddarparol. Garibaldi yn gwrthod tynu yn ol.-Dywed yr Opinione fod Garibaldi wedi gwrthod cydsynio a'r cais iddo dynu yn ol, a'i fod yn Monte Rotondo yn codi amddiffyn- feydd. Garibaldi wecli ei orchfygu, ac yn garcharor !-Aeth milwyr y Pab, gyda nifer o filwyrFfrainc, allan o Ruf- ain ar ol Garibaldi; a dydd Sabbath diweddaf, ymosod- wyd arno gyda magnelau mawrion rhwng Tivoli a Monte Rotondo. Ar ol brwydr faith a phoeth, ar ol lladd a chlwyfo llawer o bob tu, gorfodwyd Garibaldi i encilio, a chariodd ei glwyfedig-ioil gydag ef i Corresse, lie y gwnaed iddo roi ei arfau i lawr i'r Italiaid. Bwr- iada y Llywodraeth ei gadw yn gaeth yn Amddiffynfa Palmeria. Y mae Nicotera wedi cilio yn ol o Frosinone, ac wedi croesi i diriogaethau Naples, ac y mae Ascerbi wedi gadael Viterbo, ar ol codi treth orfodol o 8,000 o goronau. Dychwela y gwirfoddolion o diriogaethau y Pab bob dydd i Florence.
Y MODD Y GORCHFYGWYD Y GARIBALDIAID.
Y MODD Y GORCHFYGWYD Y GARIBALDIAID. Aeth Garibaldi a'i filwyr allan o Monte Rotondo ar y 3ydd, i gymmeryd Tivoli, yr hon oedd wedi ei hadfedd- ianu gan filwyr y Pab. Ychydig tu hwnt i Montana, daeth yn ddisymmwth ar draws y gelynion, y rhai yn union a daniasant fagnelau arno. Dechreu odd brwydr, yr hon a barhaodd am dri chwarter awr. Ciliodd Gari- baldi ar ol cael colled drom i Moate Rotondo, a dilyn- wyd ar ei ol gan filwyr Ffrainc a'r Pab. Adnewydd wyd y frwydr, ac ar ol ymladd yn galed am ddwy awr a banner, diangodd Garibaldi a'i staff tua thiriogaeth Itali. Danghoswyd y gwrhydri mwyaf o bob tu, ond yr oedd 12 mil o filwyr y Pab a'r Ffrancod yn erbyn rhyw 3 mil a hanner o'r Garibaldiaid. Collodd y Gari- baldiaid 450 wedi eu lladd, a 900 yn garcharorion-nid yw nifer y clwyfedigion wedi ei gyhoeddi. Cafodd Menotti Garibaldi ei glwyfo yn ysgafn yn ei goes. Dywed amryw newyddiaduron Paris fod Garibaldi wedi gadael 3 mil ar y maes yn lladdedig, clwyfedig, neu yn garcharorion ond dywed yr Opinione nad oedd ei golled ond rhwng 300 i 500 o laddedigion a chlwyfed- igion.
PA BETH A WXA FFRAINC BELLACII…
PA BETH A WXA FFRAINC BELLACII ? Tybir yn gryf y bydd i Ffrainc dynu ei milwyr o Rufain i Civitta Vecchia, nes y gwelir both a ddaw o'r Gynhadledd, ac y galwa Itali hefyd ei milwyr yn ol o diriogaethau y Pab ar hyn o bryd.
PA llETH A WNEIR A GARIBALDI…
PA llETH A WNEIR A GARIBALDI ? Dywed yr Opinione ei fod wedi myned trwy Florenco i Spezia. Tybia eraill y oaiff ei anfon yn ol i Caprera.
Y NEWYDDION7 DIWEDDARAJF 0…
Y NEWYDDION7 DIWEDDARAJF 0 FLORENCE. Cyhoedda y Gazette swyddogol, fod y woinyddiaeth yn ystyried yn angenrheidiol er mwyn iawn drefn, an- ion Garibaldi i Varignano, yn Mergilfaeh Spezzia. Gelwir milwyr Itali o derfynau y Pab, ac ystyrir fod hyn, a gorchfygiad y Garibaldiaid, yn symmud pob esgus dros i filwyr Ffrainc airos yn Rhufain. Y mae yn gynhwrf mawr trwy Itali. Bernir 11 bydd y Pab un mymryn gwell allan na pho buasai Garibaldi heb ei ddal.
CYNNYG I SAETHU HEDDGEIDWAD…
CYNNYG I SAETHU HEDDGEIDWAD YN MANCHESTER, Dydd Mawrth, dygwyd dynes ger bron ynadon Manchester dan y cyhuddiad o gynnyg saethu un o heddgeidwaid j ddinas. Dywedai y ddynes ei bod wedi dyfod o Liverpool, a'i bod yn gydnabyddus ago Allen, yr hwn oedd a'r llaw flaenaf ya llofruddiaetk Brett. Gobiriwyd yr achos am wythnos.
[No title]
CABR.—Yr oedd dydd Mawrth diweddaf yn ddydd o lawenydd cyffredinol yn Nghaer, Yr achlysur oedd agoriad y Pare Newydd yr hwn sydd ar y de. ddwyrain i'r ddinas. Yr oedd y gwyr urddasol can lynol yn bresenol:—Esgob, a Deon Caer, larll Gros. uenor, W. E. Gladstone, Ysw,, A.S., a'i fab W. H. Gladstone, Ysw.,yn il,liy(:Ia IlaNver eraill. Y mae y Pare .Newydd hwn yn un o'r rhai hyfrytaf yn ydeyr- nas. Costiodd 70,000p. Rhoddwyd ef gan Ardalydd Westminster i ddinasyddion yr 'hen ddinas.' Da iawn weled y pendefigion yn dechreu ystyried fod Parciau yn betbau i'r bobl vyn gystal ag'i'r gwyr Pa ryfedd na theimlai rhyw foneddwr yn Nghymru awydd gwneud rhywbeth o'r natur yma i'r werin.
[No title]
Y FASXACJI Yn.—Mae y cyfodiad a gymmerodd le yn mliris«. iau y gwenith y u Mark Lane wodi cael ei ganlyn gan gryn. lawer o farweidd-dra. Ychydig iawn o ofyn am wenith coch a gwyn er hyny inae y_ eyi'odiad j'ri y prisiau wedi parhau ya sefydlog. Mae America, beah ttynag, yn gwneud ei goreu er lleih.au y drudaniaeth presenol. Mao rAYni mawr o wenith a blawd yn parhau i gael eu llwytho yn New York ar gyfer T wlad hon, ac am brisiau y gellir cael rhyw elw oddi wrtho. Y mae llwythi mawrion hefyd yn parhau i ddyfod o borthladd- oedd y Mor Du, fel ag yr ydym yu dobyg o gael cyflawnder o yd am rai misoedd.
M A R C II NAD LLUNDAIN.
M A R C II NAD LLUNDAIN. Ddydd Llun dhoecldaf. GWEITITK.—Goslyngodd y gwenith o Is i 2s y chwarter heddyw. ILuDD,Masnaoh araf, a'r priiau yn tnoddu at ostyngiad. BKAG.—Gwnaed masnach gymmedrol mewn brag, a cedwid at y prisiau blaenorol. CEIBCH.—Y fasnach yn sefydlog, a eliedwid at brisiau sefydlog, l'ys A FFA.—Ffa yn eadw at brisiau yr wythnos. Y pys yn sefydlog, er nad oedd yr alwad yn fywiog. BLAWD.-Y blawd cartrefol athramor yn gwerthu am braidd brisiau sefydlog. HAD.—Masnach gymmedrol a wnaed mewn liadau amaeth- yddol am brisiau seiydlog.
DIWEDD Y FAPCTINAD.
DIWEDD Y FAPCTINAD. Ni chymmerodd un cyfnewidiad le ar y prisiau a nodwyd uchod, oddi eithr haidd, yr hwn oedd o Is. i 2s. y chwarter yn is. Ceirch Ge. yn rhatach.
MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.
MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD. Dydd Llun dhoecldaf. Nifer yr holl anifeiliaid tramor a ddaeth i Lundain yn ystod yr wythnos ddiweddaf oedd 8,168. GWAETHEG.—Masnach sefydlog am bob math am brisiau yr wythnos. DEFAID.—Gwnaed masnach dda mewn defaid, a'r mathau goreu mewn rhai amgylchiad au ychydig uwch. LLOI.—Galw da am y Hoi bychain goreu am y Ihwn brisiau, ond y rhai mwyaf yn gwerthu yn araf. Mocn.—Yr oedd moch bychain da yn gwerthu yn sefydlog am lawn brisiau, ond y rhai mwyaf yn fanvaidd. Y prisiau yn amrywio o 33. 4c. i -Is. 2c. yr 8 pwys.
MARCHNAD LIVERPeOL.
MARCHNAD LIVERPeOL. Dydd Mawrth, Ilydref 22'ain. Araf oedd y fasnach heddyw. Yr oedd llawer wedi dyfod yn rigliycl; ond yr oedd y prynwyr yn hwyrfrydig i brynu, gan ei bod yn disgwyl gostyngiad yn y prisiau; ond yr oedd y gwerth.wyr yn. anewyHysgar i ostwng. Peilliad Is. y sach ya is na'r wythnos ilaenorol.
MARCHNADOEDD OYMRETG.
MARCHNADOEDD OYMRETG. BAJTGOE, Tach. 1.—Gwenith, o G3s 0c i 09s 0c y chwarter; haidd, o 34s 0c i 3Cs 0c ceirch, o 23s 0c i 26s 0c; blawd ceirch, o_39s i 40s y 240 pwys ymenyn ifres o 13^c i 15 y pwys cig eidion, o 6c i 8c y pwys; cig dafad, o 7c i 8e y pwys; hwyaid, o 3s 6c i 4s 6c y cwpl; cywion ieir, o 2s 6c i 3s 6c y ewpl; wyau, 7 am 6c. CAEHFYRDBITT, Tach. 2il.—Gwenith o 8s Oc i 8s 9c y bwsel 0 64 pwys haidd o 4s 4c i 5s 3c y bwsel o 54 pwys; ceirch o 2s 6c i 3s Oe y bwsel o 40 pwys blawd o 53s Oc i 63s Oc y sach o 280 pwys. CAERYN-ARFOTT, Tachwedd 2.—Gwenith o 66s Oc i 70s Oc y chwarter haidd, 35s Oc i 37s Oc y chwarter ceirch o 23s Oc i 25s Oe y chwarter; blawd ceirch, o 40s i 4ls Oc y 240 pwys; ymenyn ffres, 13c i 14c y pwys. CORWEN, Tach. laf.—Gwenith o 35s i 37s y pwn; haidd o 12s i 13s yr bob; ceirch o 8s i 9s yr bob; blawd ceirch o 40s i 42s y pwn; cig eidion o 6Jc i ne y pwys; cig dafad o 7c i 8c y pwys eig llo o 0c i 0c y pwys ymenyn fires o 12c y pwys; ymenyn llestri o Oc i 0c y pwys. DINBYCH, Hydref 30.-Gwenith o 21s Oc i 23s Oc yr bob haidd o 12s Oe i 14s Oc yr hob ceirch o 8s Oc i 9s yr hob ffa o Os Oc i Os Oe yr hob; blawd ceirch o Os Oe i Os Oe yr bob pytatws o Os 0c i Os 0c ymenyn ifres o 14c i 15c ymenyn llestri o 111c i 12c y pwys. LLANGEFHT, Tachwedd 1.—Gwenith, o 61s Oe i 68s Oc y chwarter; haidd, o 33s Oc i 36s Oc; ceirch newydd, o 22s Oc i 25s Oc; ymenyn ffres, o 13c i 14c y pwys; hallt, o Oc i Oc y pwys; eig eidion, o 7c i 8c cig dafad, o 7c i Se; cig llo, o 5c i 7c pytatws, 4s 6c y 100 pwys. LLANDEILO, Tachwedd 2.—Gwenith, o 8s 6c i 9s Oc y bwsel; haidd o 5s Oe i 5s 6c y bwscl; ceirch, o 3s Oe i 3s 6c y bwsel; blawd ceirch, o 2e i 3c y pwys; pytatws 6c yr 10 pwys; ymenyn ffres, o 13c i 14c y pwys; eig eidion o 6c i 8c y pwys cig dafad o 7c i 8c y pwys. LtiANERCiiYMEDD, Ilydref 30.-Gwenith, o 64s Oc i 66s Oe y chwarter; haidd o 36s Oc i 37s Oc y chwarter ceirch o 24s Oc i 25s Oc y chwarter; pytatws 4s Oc y can pwys; ymenyn ffres, 12c i 12c y pwys; cig eidion, o 6c i 8c y pwys; cig dafad, o 7c i 8e y pwys; cig lio o 6c i 7c y pwys; cig moch ffres, o Oe i Oe y pwys, I:> MACHYNLLETH, Hydref 30.—Gwenith, o 33s 6d i 34s 6c y pwn; haidd o 6s 00 i 6s 6c y Winchester; ceirch, o 3s 6c i 4s 6c; ffa, o Os 00 i Os Oc eto; blawd ceirch, o 43s 6e i 4,ts 6c y 240 pwys; pytatws, 1 jc y 2 pwys; ymenyn ffres, o 11c i 12c y pwys; ymenyn llestri, o Oe i Oe y pwys; eig eidion, o 6c i 7c y pwys; eig dafad, o 6c i 7c y pwys;, gwer, o 5e i ojc y pwys. WYDDGRUG, Hydref 30.—Gwenith, 22s Oc i 23s Oc yr bob; haidd, 1;.1,8 Oc i 15s 0c ceirch, OOs Oc i OOs Oe; pytatws, Os i os ymenyn, 14c i 15c y pwys. BALA, Tachwedd 2.—Gwenith newydd o 35s l 35s 6c y pwn ;• haidd o 12s i 13s yr hob; ceirch o 8s i 9s yr hob; cig eid.on o 65c i Sic y pwys- RHUTHYN, Hydref 28.—Gwenith, o 24s 6c i 2oa 0c yr hob haidd, °.14s Oe i 14s Oc yr hob ceirch, o Os Oe i Os Oc yr hob blawd ceirch, o 2s Oc i 2s Oc y phiolaid; pytatws, Os Oe i 08 Oe yr hob ymenyn ifres, o 12e i 130 y pwys; cig eidion, 0 8c i ge; cig dafad, 8c i 9c y pwys. CROESOSWALLT, Hydref 30.—Gwenith newydd o 9s 00 i 9s 6c haidd at fragu 0 6s 00 i 6s 6c eto at falu o 5s Oc i 5s 9c ceirch o 4s Oc i 4s tic. ABBBTEIFI, Hyd. 25.—Gwenith a 78 i 8s y bwsel; haidd o 4a i 5s; ceirch a 2s 3c i 2s ge. ABERGELE, Tach. 2.—Gwenith o 20s 6c i 23s yr hob haidd o 12s i 13s 6e yr hob; ceirch o 7s 6c i 8s 6c yr bob blawd ceirch 0 41s i 428 y 2.10 pwys.
Family Notices
grioiaaoau. Hydref 22ain, yn Salem, capel y Bedyddwyr, ger St. Clears, "an y Parch. D. Wiliiams, y gweinidog, yn ngvl-ydd Mr J. Thomas, y cofrestrydd, Mr James, saer, Blewgyd, St. Clears, it Miss Anne Davies, merch y Parch. D. Danes, Bwlehgwynt, cer Whitland.. n „ Hydref 23ain, yn Llwyncelyn, ga* y Parch. E. Jones, Mr David Thomas, Nantgwynl'ynydd, a Miss Eleanor Griffiths,. Ffynnonddewi. pawctetta. Hydref 20fed, ar ol cystudd byr a ehaled iawn, yn 27.000, Mr Evan Jones, laor, Heol Ysgaw, Penybont-ar-Ogwy. Yr oedd yn arolygwr Ysgol Sabbathel yr Annibynwyr yn y dref. Yr oedd yn enedigol o Ffaldybrenin, sir Gaerfyrddin. Gadaw- odd wraig, a mab, a mereh, 1 deimlo yn ddwys a'i golli mor ddirybudd. Hydrof 28, Mr Kees Thomas, gwehydd, Cilyowm, yn 87 oed. Yr oedd wedi cael y fraint o ymuno a ehrefydd yn mhlith yr Annibynwyr er ya yn ago i llwyddyn yn ol; no yr oedd yn wrandawr cyssoti, ac aelod ffyddlawn o'r Ysgol Sabbathol drwy ai oes, a pherchid ef gan ei jydnabod yn gyffrodinel. A gan John Morris, yn ei swyddfa, 22 a 23, Chapel Walks, South Castle-street, Liverpool, dros, Gwroni y Newyddiadur Cymreis" CCv IS ngeduLL—