Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
NODIADAU KWNTFORAWL
NODIADAU KWNTFORAWL CAn Y PARCH, G. GRIETlTHS, CINCINNATI. LL'/THYR III. Poneddigion,-Y mae y Parch. Newman lIall ar daith trwy y wlad hon yn bresenol, acya cael. y der- byniad mwyaf croesawgar a pharchus a ellir ei roddi i un dyn yn mhob Euan yr crys ond ychydig. Di- gwyddwn fod gyda'm teulu tua dau can imilld-ir o gartrcf pan y g-welais liyspysiad ei fod i draddodi anerchi&d o fiaea Cymdeithas Gristionogol Gwyr leua inc ein dinas z.os dranceth, ar ei dtiychvreliad o St. Louis. Nici hawdd oedd ymrwygo o fynwesau y cyfeillioa caredig ar fryniau Jackson, na thori ar uL gan Ileied rhybudd, trwy yr anhawsderau ar ein ffordd i ddychwolyd eto gwnaethem trwy rwystrau mwy na'r i-hai hyn, pe rhaid fuasai, i gael dwy awr yn nghwmni olynydd yr efengylaidd Sherman, a'i anefelychadwy Rowland Hill. Felly brysiog wnaethom ein. paciaa i fyny, ac yr oeddyiTit ni a'r eiddom, oddi eithr iar a cheiliog chwitii-bluog, a dyddorol yr olwg arnynt—ihodd y brawd Evans, Portland, i Joseph Fremont, a Minnie fach, yn foreu dranocth yn eyilytrii tua'r Queen City mor gynted ag y goddefid i agerdd ein cario gyda gobeithion uchel am wledd feddyliol felus yr hwyr bwnw. Ond ni chawsom hi wedi yr lioll drafferth. Dywed un o'r Efengylwyr fod yn rhaid i'r Athraw Mawr fyned trwy Samaria ryw dro, pan ar ei siwrne o Judea i Galileo. Ond ymddengys nad oedd dim rheidrwydd felly ar Esgob Surrey Chapel i basio trwy Cincinnati ar ei daith o'r Gorllewin i Buffalo. Felly fife a aeth heibio i ni ar hyd ffordd arall er siomedigaeth nid bcchan i filoedd heb law fy hunan. Dichon yr ystyria am bell un ef yn sarhad i'r gwr uiddasol uchod i mi gyplysu ei enw yn y rhifyn hwn ag enw ein merthyr Ptiritinaidd John Brown. Dyna fi wedi gwneud er hyny, a chewch chwithau yn fnan wybod y rheswm pa ham. I.Iae gohebvdd un o newyddiaduron New York yn ysgrifenu fel hyn am dano o'r Cats-kill Mountain House:—'Yn ystod ei ymweliad a'r lie hwn ddydd Llun, holai y Parch. Newman Hall fwy am John Brown nac am un dyn arall a berthyncti i America. Myntumia fod gan yr hen arwr hwnw fwy o law yn nygiad yr ymrysonfa anattaliadwy i bwynt a therfyniad na neb arall. Synai iddo gael ei ddienyddio, ac nad achubesid ef cyn ei ddwyn i'r crogbren. Digwyddai fod yn y Mountain House yr un amser a'r gwr parchedig foneddwr a adwaecai John Brown lawcr o flynydd- oedd yn ol, yr hwn a adroddodd i ni yr hanesyn canlynol am Idano Pan oeddwn ddyn ieuanc," rned lai, dvgwyd fi i gyssydltiad masnachol a John Brown. Nid anghofi&f byth ein cyfarfyddiad cyntaf. Ar giniaw y bu hyny mewn ffern-idy. Yr oeddwn i wedi bod yn eymmeryd gwerai mown cwffio celfydd- ydol, fel Tom Sayers, ac yn meddwl llawer iawn o'm medrusrwydd yn hyny. Daeth John Brown at y bwrdd yn ddyn plaen yr olwg arno (Iystaw, heb got am dano, a llewys ei grys wedi eu torchi i fyny, yn dangos breichiau preiffion cyhyrog. Daeth i fy meddwl fod yno gylleusdra da i mi brofi rhagoriaeth celfyddyd ar nerth anifeilaidd, a dechreuais bigo ft'rae ag ef. Dywedais rywbeth am wrthuni ei waith yn dyfod at y bwrdd yn llewys ei grys, a'i anfedrus- rwydd gyda'i gyllell a'i fibre. Ond wedi methu a'i gythruddo felly, myfi a'i heriais mewn geiriau eglur i baffio a mi, gan ei sicrhau y chwipiwn i of yn ddi- drafferth." Wei," meddai yntau o'r diwedd, "ddyn ieuanc, nid oes gwell amser nag yn awr at un peth am hyny, gad i ni fyned allan i'r cefn yna i sello y mater. Felly aei hom a thra yr oeddwn i 118wyclcl roddi fy hunan mawn agwedd gelfyddydol i daro neu i dderbyn dyrnod, ac yn llongyfarch fy hun ar y chwenglog a fwriadwn roddi i'r creadur carbwl o fy mlaen, dyma rywbeth yn disgyn gydrhwng fy llyg- aid, a dybiwn ar v cyntaf oedd ben haiarn pump handle. Y peth. cyntaf a wybum wedi agoryd fy llygaid ar ol hyny oedd fy mod yn mreichiau noeth- ion rhyw ddyn garw yr olwg arno, eto tyner fel benyvr, a'i fod yn dyweyd wrthyf, Fy nghyfaill, y peth goraf elli di ei wneud er iachad hwn yw cadw tafell o beef amrwd arno."
EGLWYS HEB YfElNIDOGAETH SEFYDLOG.
EGLWYS HEB YfElNIDOGAETH SEFYDLOG. Foneddigion y TYST,-Dy-,vedodd Mr Morris, Penrhyn, yn ei sylwadau ar ysgrif A. B. C. :—'Fod gaa eglwys Aanibynol hawl i fyw ar weinidogaeth gynnorthwyol, pun y mae y eyffredin o'i liaelodau dros weinidogaeth sefydlog.' Ymddangosai y dy- wediad i mi yn annealladwy, neu yn anghysson, ac ysgrifenais y tri sylw caulynol a welir yn y TYST am Hydref 22ain. 1. Os ydyw yn honi ei hun yn eglwys i Grist, dylai fod gauddi weinidog, ac nid oes ganddi hawl i fTV" hebdclo, mwy nag heb ddincon.' 2. Os ydyw am alw ei hun yn eglwya Aunibynol, dyla.i fod ganddi weinidogaeth sefydlog, yn debyg i'w chwioryd i. sydd dan yr un enw.' :3. Os yw barn y cyffredin o'i haelodau dros wein- idogaeth sefydlog, dylai weitliredu yn gysson a'i barn.' Fal caagliad oddi wrth sylwadau Mr Morris a min- nau, dywedai, Y mae rheswm, cyfiawnder, a Beibl yn cyiawiihau ei chondemnio am yraarfer a gwein- anghysson a'i chymmeriad ac a'i barn.' Dytnuiiitt Mr Morris ar i'r cyfryw eglwysi gael llon- vdd, s. dymunais innau na, adawer llonydd iddynt. Gun na ddaeth Mr M. i amddiflyn ei ddywediad, cymrosruf fy rhyddid i farnu pa ham, ond ni ddy- we(laf fy raarn ar hyn o bryd. Nid wyf yn meddwl ei fod wedi celu ei enw pciodol yn nghysgod y ffug- enw Dafydd Morgan, Penmon.' Yr ydwyf wedi adystyried y syhradau blaonorol, ac nid wyf yn gwel- ed fod eisiau galw yr un o honynt yn ol. Nid oes arnif gywilydd o honynt. Ilhoddaf ganiatad i'r brawd Dafydd Morgan, Penmon, i'w cyfieithu i'r Lladin neu yr Italaeg, a'i anfon i Rufain; as os gwna Pio Nona yn ei drallod ailrhydeddu a'i law hyd yr arddwra' am ei wasanaeth, y mae iddo grossair o'r fatii anrhydedd. Drwg iawn genyf fod "Jftal'ydd Morga* 'yn cael ei boeni gan ryw gynnull- eidd, ae yn enwedig eu diaconiaid anwybodua, ag ydynt yn ortkrymwyr annioddefol, gan ymddwyn at eu gweinidog fel at was cyflog mewn ffarm.' Peidiwch a bod mor anwybodus eich hun ag anmheu feodwlaoth y swydd esgob yn eglwys Crist, am fod rhai I diac-onima anwybodus yn orthrymwyr anni- odd»f«l.' Na wyrwch oddi wrth un gwirionedd am fod yr anwybodua yn camddeall gwirionedd arall, ao yn caru ymddwyn ato. Cofiwch fod genym lawer iawn o gynnulleidfaoedd, ac yn enwedig diaconiaid gwybodus a chrefyddol nad ydy-nt un amser yn or- tljrymwyr annioddefol,' ond yn hytrach yn gysur ac _yn gymhorth i'w gweinidogon. Na orchfyger chwi gan yr anwybodus. Os yw y rhai anwybodus hyn yn ngbymmydogaeth Penmon, gwyliwch a gweddi- wch rhag eich cael yn eu cyfriBach. Haiyd, cyfan- aoddwch draethawd g-rymus, yn profi tu hwnt i bob -da.dl n&d gwaith esgob ydyw ymweled a'r cleifion,' .&c., a llawer o beihau eraill a giedir genych am y Jiwydd hon. Boed beadith ar eich llafur yn dyweyd yn erbyn yr Hunanoldeb a'r cybydd-dod sydd yn andwyo achos y Gwaredwr yn y byd.' Wrth ddiweddu, cynghoraf chwi i chwilio yr Ys- grythyrau yn fanwl am brofion digonol nad oes gan eglwys Crist hawl i fyw heb ;vasanaeth y swyddau hyny a neillduwyd gan ei Brenhin—sef gweinidog a diacon. Tra y byddoch yn gwneud hyny, mi a ym-1 dawelaf, ganddisgwyl gair yn mhellach oddi wrthych wedi i chwi orphen eich gwaith. Llaagiwc, C'CEK JONES.
AT OLYGWYR Y ' TYST.'
AT OLYGWYR Y TYST.' Foneddigion,-Beth vdych chwi yn feddwl sydd wedi d'od o honof, wrth fy mod cyhyd heb anfon gair atoch 1 Wel, os nad ydych ein i yn clywed dim oddiwrthyf C yr wyf fi bob wythnos yn clywed oddi- wrthyahchwi. Yr wyf wedi bod yn lledbrysur er pan ysgrifenais ddiweddaf, ac o hyd yn disgwyl hamdden i ysgrifenu ond, o ran hyny 'does dim hamdden i hen ffarmwr i gael; erbyn y byddo un peth drosodd bydd rhywheth ar ei sodlau. Cyda'c. bod ni wedi cael y llafur i'r ydlan, yr oedd rhaid hwylio yn union at godi tatvrs a thrin tir gwenith. Yr wy? .yn dis- gwyl fel yr a y dydd yn fyrach a'r nos yn hwy y bydd genyf fwy o amser i dciarllen ac ysgrifenu. Ond 'rwyf wedi mynu amser er pob prysurdeb i ddarllen pob gair o bob rhifyn o'r TYST a ddaeth allan er y dechreu. Cefais dipyn o drafferth i ddar- llen un rhifyn, rhwng fod y llythyren yn fan a'r print yn bwl, a'm llygaid inau hwyrach yn dechreu tywyllu. Ond nid wyf yn rnyji'd i drin am hyny gan max peth ddigwyddodd am unwaith ydoedd. Mae helaethiad y TYST yr ail gwarter yma ) n bodd- loni pawb o'r derbynwyr ffordd hyn. Rhai enbyd i ni yn y wlacl am gael tipyn go lew am ein harian. Ac wrth y swm mae llawer yn barnu, ac nid wrth y sylwedd. Ond mae'r TYST yn rhoddi i ni y ddau, Gobeithio na bydd yr helaethiad yn golled i chwi, a'ch bod cyn hyn wedi cael y nifer ychwanegol o dderbynwyr oedd yn ofynol i'ch digolledu. Da iawn genyf eich gweled yn cadw at eich penderfyniad cyntaf o gau bob cecraeth a difriaeth allan. Nis gwn a wnaethoch yn iawn i ollwng y Ddwy Gein- iog a'r Lleisiau i mewn i'ch colofnau a'i peidio. Mas eu swn yn cleby, iawii i eiddo own ymladdgar; ond mae yn anhawdd feallai gau pethau fel yna allan heb i rywrai daeru eich bod yn cyfyngu ar eu rhyddid hwy ac ar ryddid y wasg. Ond nid wyf er ei ddar- llen yn fanwl wedi eich gwelzd yn ymosod ar neb. Os cyferthir arnoch peicliwch a chymmeryd arnoch glywed, ac eto 'gochelwch gwn.' Mae fy llythyr wedi myn'd yn rhagymadrodd i gyd, onide yr o dd ar fy meddwl i dd we v d gair ar I Ai-nser cydioeddiad eich papur.' Ai ni ellid ei gael ddiwrnod neu ddau yn gynt? Er fy mod i yn ei gael yn lied rheolaidd bob rydnlia-,in dydd Gwener, ond rhyw unwaith neu ddwy aeth yn foren Sadwrn, ac unwaith yn nos Saclwrn. Yr oedd hyny yn rhy agos i'r Sabbath genyf i ciclarllen papur newydd. Er fod y TYST yn llawn mor grefyddol a llawer o gyhoeddiadau a ddosberthir ac a ddarllenir ar y Sab- bath nid wyf yn dweyd hyn er cymmeradvvyo ei ddarllen ar y Sabbath na'i ddospartliu yn y Capel. A chyda llaw gadewch i mi ddweyd ei bod yn llawn bryd troi y cyhoeddiadau allan o'r Capeli a rhoi heibio eu dosparthu ar y dydd Sabbath. Hwyrach y dywed rhywrai mai dylanwad hen ragfarnau sydd yn peri fy mod yn teimlo fel hyn, ond gobeithiaf gael fy nghadw rhag myn'd byth i dir i golli parch i le- oedd a phethau cyssegredig. Ond at y cwestiwn, a fyddai yn rhyw anfantais i chwi yna ei gyhoeddi ar ddydd Gwener neu yn wir ddydd Ian? Pc cyr- baeddai i law y dosbaHhwr ddydd Iau byddai yn hawdd i bawb ei gael cyn nos Wener, oblegyd di- gwydd yn ystod dau ddiwrnod na bydd rliywun yn myu'd eisioes i'r Pentre i'r siop, neu i'r efail, neu i dy'r crydd. Mae ein marchnadoedd ni yn gyffredin dydd Sadwrn, a byddai yn dipyn o beth i gael gwel'd prisiau yr wythnos o'r blaen, a marchnad Llundain ddydd Llun a marchnad Liverpool ddydd Mawrth, cyn myned oddicartref i'r farchnad. Gyda'ch cennad chwi, yr wyf yn cynnyg os caf rhywun i'm cefnogi fod dydd ei gyhoeddiad i gael ei newid. Os na chaf neb i nghefnogi 'does dim help, ac os bydd v lluaws yn barnu yn wahanol, ni rwgnachaf. Yr wyf wedi arfer ymostwng i'r major- ity. Byddaf yn myned yn fuan i'r Gweithiau i werthu'r caws a'r 'menyn, a thebyg y byddaf yn bwrw Sabbath yno os caf hwyl i ysgrifenu cewch lythyr yn cynnwys fy marn ar wyr y Gweithiau. Yr eiddoch, H VWEL O'R CWM.
ETHOLIAD BLYNYDDOL DIACONIAID.
ETHOLIAD BLYNYDDOL DIACONIAID. At Olygwyr y I Tyst Cymreig.' Foneddigion,—Dymunaf eich caniatad i alw sylw at y penawd uchod. Bum yn meddwl am dano lawer gwaith fel peth angenrheidiol er dwyn yn mlaen ein cynllun eglwysig gyda mwy o dangnefedd a llwyddiant yn ein plith fel enwad crefyddol. Mae ein gweinidogion yn newid, ac mae hyny, yn ngwyneb amgylchiadau, yn angenrheidiol, a phaham na eilid dwyn rhyw gynllun yn mlaen i drefnu cyf- newidiad yn y ddiaconiaeth. Dichon y byddai cyn- llun rheolaidd yn esmwythach ac yn fwy efFeithiol na newidiad achlysurol. Mae yn beth posibl trefnu felly gyda y ddiaconiaeth, ond ni chaniatai y weini- dogaeth hyny heb cyfnewidiad hollol yn ein system eglwysig, yr hyn beth eto nid ydym yn gweled yr angenrheidrwydd lleiaf am dano. Mae yn wir fod cyLhraul dewis swyddogion' yn un poenus iawn ar adegau, ond mae yn amheus a ydyw mor niweidiol a'r cynllun sydd genym o oddef yr un personau mewn swydd dros eu hoes, pan y mae dynion eraill yn yr eglwys a lanwai y swydd yn well, Heblaw hyn, byddai newidiad yn debyg o effeithio er rhoddi bywyd newydd yn y diaconiaid, ac yn yr eglwys. Gofalai y diaconiaid am gyflawni eu swydd, gan gofio fod adeg cyfrifoldeb yn neshau, pan yr amlygai yr eglwys eu barn am eu Ilafur trwy eu hail ddewis neu eu gwrthod ar y tymhor penodol. Felly y gwneir gyda sefydliadau eraill yn ein gwlad. Etholir ein seneddwyr bob saith mlynedd, a thybia llawer y dygid yn mlaen materion y wladwriaeth yn llawer gwell pe byddai etholiad yn amlach. Etholir swyddogion ein cynghorau trefol yn flynyddol yr un modd swyddogion y banciau, y cymdeithasau ys- wirol, y cymdeithasau cleifion, &c. ac yn hyn, ya sicr, y golygir y mae eu dyogelwck a'u cynnydd. Nid wyf yn golygu i'r diaconiaid oil roddi eu swydd i fynu ar unwaith, ond eu bod oil i sefyll etholiad bob tair blyaedd, drwy i'r drydedd ran fyned allan yn flynyddol, ac wrth gwrs, yn agored i gael eu hail ddewis neu beidio, fel y gwneir mewn cymdeithasau eraill. Yr byn a dynodd fy sylw yn bresenol at y mater hwa oedd y cyfeiriad a wnaed ato gan Mr Lee, un fj'n diaconiaid ffyddlonaf yn Lancashire, yn y papur ar Gynbaliaet.h y Weinidogaeth,' a ddarlleawyd ganddo yn nghyfarfod yr Undeb Cynnnlleidfaol yn Manchester. Cyfarfod da oedd hwnw, ac yr oedd yn dda iawn genyf glywed y fath gyfeiriadau difloesgni yn cael eu gwneud gan rai o ddynion blaenaf ein henwad, yn weitdlogson a lleygwyr, at y pethau hyny sydu yn mawr fliuo ein heglwysi, ac yn cael eu nodi ali.»n gan in gwrthwyoebwyr fel diffygion ein Cynnulleidfaoliaeth. Yr oedd y gwynt- ylliad diofn a roddid yno ar wahanol bethau yn dy- nodi hyder sicr y siaradwyr yn eu hegwyddorion, ac yn argoeli yn dda am ddyogelwch a llwyddiant ein henwad. Bu pwnc y ddiaconiaeth dan sylw yn nghyfarfod yr Uadeb arnryw weithiau, ac y mao hyn yn dssgos y tclmlir fod rhywgyfeewidiaa yn angen- rheidiol. A gaf fi alw sylw swyddogion ac aelodau Eglwysi Annibynol y dywysogaeth at y mater ? A oes gan ryw rai gynilygiad arall neu welliant ar y cynllun hwn ? EENURJAD.
!SABBATH YN BELFAST,
SABBATH YN BELFAST, Pymthsng Eilynedo. yn ol, cawsom y fraint o wrando ar Dr Cool: yr hwn oedd y pryd hwnw yn Professor of Ehdoric yn IVgoleg Belfast. Wedi ein taflu ar y traeth, megys, gan amgylchiadau, a gorfod treulio Sabbath mewn unigedd yn mhrif dref Gog- ledd Iwerddon, a'n ymholiad cyntaf oedd am Dr. Caok. Deallem er ei fod yn bedwar ugain oed, nad oedd wedi rhoddi i fynu bregethu, ac y byddem yn debyg o gael ei glywed yn ei eglwys ei hun yn y boreu. Aethom yno, set i'r Eglwys Bresbyteraidd, ar gongl Prince Arthur Street, erbyn Inner awr wedi unarddeg, a'n meddwl yn llawn o hen adgofion am y wledd a gawsem g&nddo unwaith. Cyrhaedd- asom ychydig cyn yr amser, yr hyn a roddodd gylie ini weled yr hynafgwr hybarch, yn dringo i'w bwl- pud. Gwelem ar yr olwg gyntaf fod amser wedi cyfnewid llawer arz, o er's pan welsem ef o'r blaen, ac er ei fod yn pirhau gan syfched a gwaywtTon, eto, pwysai henaint Jmor drwm arno fel mai arafaidd iawn y cerddai i fynu y grisiau. Pan godsdd i roddi allan yr emyn gyntaf yr oedd golwg ardderchog arno. Saif dros chwe' throcclfcdd o daldra, o led a thrweh cymhesurol, ac o wneuthuriad lluniaidd 2 chadarn. Mae ei wallt wedi gwynu, ac yn aros yn gnwd tew ar ei ben. Ymddengys ei dalcen llydan ac uchel fel y marmor gwyn, heb na brycheuyn na chrychni arno, a'i wallt fel coronbleth o edafedd arian yn ei addurno o amgylch. Er fed ei lygaid wedi pylu, gwelir ynddyot weddillion y titn fu unwaith yn eu gwneud yn iflam. Chwery gwen hunan-foddiant ar ei enau yn barhaus, yr hon a ymnewidia ambell waith i ryw ffurf ongclaidd, ni a debygem. Mae holl linellau ei wynebpryd yn ein meddwl ni yn ddifai, a'i holl wedd a'i osodiad yn arddangos grym, awcli- lymder, aeddfedrwydd, a thynerweh Cristionogol. Tarewid ni y tro cyntaf y clywsom ef gan ber- ffeithrwydd ei ynganiad with ddarllen a llefaru. Meddyliem ei fod yn deilwng o'r gadair a lanwai, yn mhob ystyr- Ni ehawsom achos i newid ein bam am dano y tro hwn ychwaith. Yn lie merthyru iaith gyssegredig y Beibl fel y mae arfer rhai dar- llenai bob gair yn groew, ac yn glir, gan osod allan y synwyr wrth ddarllen. Yn lie yr arddull fursen- aitid o banner swnio rhai llythyrenau, a rhoddi swn dieithr i eraill siaradai ef fel dyn yn dealt yr iaith a lefarai, acyn credu y gwirionedd a gyfleai yr iaith hono, ac awydd ynddo am argyhoeddi ei wranda- wyr. Mae wedi myned dipyn yn athrawaidd a siaradus. Anrhegodd ni a rhagymadrodd go faith ar y Salm a roid allan i ganu. 6awsoin esboniad lied wasgarog ar yr Ysgrythyrau a ddarllenid. Argoelion luenaint oedd pethau fel hyn ond henaint teg ydoedd, a ffrwyth gorbwysol meddwl toreithiog. Yr oedd yna ryw symlrwydd prydferth, a chymhwysder naillduol yn ei weddiau fel un wedi hen arfer a siarad a'i Dad nefol, a disgwyl yn hyderus wrth byst ei byrth Ef. Gymmerodd yn destun ymadrodd y gwr doeth, Pa beth bynag yr ymafael dy law ynddo i'w wneu- thur, gwna a'th holl egni.' Buasai yn pregethu ar yr un testun o'r blaen, a chyfemai at y sylwadai a woiaethai eisioes arno. Yr oedd hyn yn anfantais ini farnu cyfansoddiad y bregeth, oblegyd yr oedd wedi ei thori ar ei banner. Defnyddiodd un sylw o'r feiddo Harvey, awdwr y Meditations, sydd yn werth ei gofnodi. Ei fod yn penderfyuu i beidio gadael i un llythyr cyfrinachol f ned o'i law, heb ddweyd rhyw air am lesu Grist yoddo. 'Nid oes eisiau i chwi,' meddai yr hen bregethwr, i arfer geiriau ammherthynasol mewn gohebiaeth fasnach- ol ond 0! pe byddai i bawb ddilyn esiampl Harvey yn eu llythyrau cyfrinachol at gyfeillion, byddai y Post Office yn genadydd mwy eff eithiol dros Grist. na holl bwlpudau, a holl gymdeithasau crefyddol ein gwlad.' Y brif engraifft a ddefnyddiai oedd y Samaritan yn gwneud rhan cymmydog a'r gwr a syrthiasai yn mysg lladron. Dangosai fod gan yr Offeiriad a'r Lefiad, ryw fath o esgusawd, dros fyned heibio heb estyn llaw o gymhorth. Yr oeddynt yn myned i wasanaethu yn y Cyssegr. Pe cythvrddasent a'r adyn oedd yn gorwedd yn ei waed, buasent yn aflan, ac felly yn annghymwys i fyned trwy en gwaith y diwrnod hwnw. Anghofiasant fod trugaredd yn fwy cymmeradwy nag aberth—fod cynnorthwy mewn angen yn fwy rhinwedd na seremoni. Daeth y Samaritan heibio—tosturiodd wrth y truan—cym- merodd lawer o boen gydag ef arf&rudd ei holl skill i'w adferu—dangosodd ofal neillduol am dano-wedi gwneuthur a allai drosto ei hun, cymhellodd ef i sylw tyneraf y gwestwr—rhoddodd ei air drosto, gwystlodd ei anrhydedd y byddai iddo dalu y gost. Dyna esiampl deilwng o'i hefelycbu. Engraifft o ddyn a'i holl egni, yn gwneud gweichred o drugar- edd. Mae Dr. Cook wedi bod am dymhor maith bellach yn ddyn cyhoeddns yn Belfast. Lied doriaidd ydyw o ran ei bolitics, fel ereill ac sydd i raddau mwy iieu lai o dan ddylanwad yr Orangemen. Bu ef ynwrth- ddadleuwr cryf yn erbyn Daniel 0'Council. Pan ddaeth Dan yna yn anterth ei lwyddiant, mathodd a sefyll ei dir yn erbyn ym .sudiad Dr. Couk, a chiliodd yn ol dan gwyno fud gogledd Iwerddon yn anffyddlon i'r achos. Fel Athraw colegawl safai Dr. Cook yn uchel, ond nid ydym yn gwyb >d ei fo.1 wedi enwogi ei hun fal awdwr. Gwisga y teitlau o D.D. ac LL.D. Fel pregethwr ac areithiwr saif yn y dosparth uchaf. Rhed ei feddvsl yn naturiol i'r arddull rhes- ymegyddol. Ac er ei fod yn liyabys a boll adnoddau rhaitheg, nid yw yn euog o aifer geiriau af eidiol, neu addurniadau heb eu heisiau. Yr hyawcilodd penaf yn ein tyb ni, ydyw ei le i bob gair, a phob gair yn ei le. Cywirdeb yn hytrach aa swn, a defn. ydd priodol yn hytrach nagwybodaudiaughenrlwud. Boed i'r hen Ddoctor ddiweddu ei ddyddiau mewn tangnefedd, a chael mynediad helaeth i mewn i law- enydd ei Arglwydd. Yn yr hwyr, aethom i wrando ar yr unig weinid- og Annibynol yn y lie. Gwyddel poethlyd oeud hwn, ya pregethu ar gyflwr eglwys Laodicea. Maddeuer ini am ein lian-haredigrwydd ond yn wir, nis gullem beidio a meddv'l ei fod yn darluuio, oreu gallai, ei garitor ei hun fel pregethwr, wrth son am ddiffygion yr eglwys ymlfroatgar, a hunan- dwyllodrus hono. Capel neat -wdd hwn, a cbynnalleidfa led dda hefyd. Mae Belfast yn lleawi yn Jfast o wyr y oot- iau-dyiuoil a chad»chau gwynion. Cynnelir yxua ryw fafch o gong rest y dyddiau hyn. Dydd Marcher nesat' bydd ynia gy far fod mawr fel H&siwn y Bala yn y gyuiittydog*e<ih, er rnwyn ardystio yn erbyn y ) bwriad o ddaawaddoli yr Eglwys Wyddelig. Cym- j merir y gadair gan y Marquis of Downshire, a ehyn- 1 helir ef wrth gwrs gan yr liurtyn Iarll Roden, a lluaws o wyr melynawg ereill. Yma mae amddiff. ynfa gref y Philliotiaid hyn. Credant y gallant gynnal i fyny cu Dagon (y grefydd sefydledig) er i'r arch gyssegredig ddyfod i'w wyddfbd. Amser a ddengys. Disgwyliwn yn fnan weled yr eiluu wedi cwyaipo, Ei ddwylaw a'i draed (scf yr Egb^vyls Wyddelig) wedi eu dryllio, Ac yn fuan ei ben (sef cl Eglwys Loegr) wedi myned yn chwilfriw. Llwyddiant i grefydd rydd, yn gystal a masnach rydd, medd GOGLEDOWR.
. ' . • YU HEN DEILIWR.
• YU HEN DEILIWR. LLYTHYR XIV. Rhaid i mi bellach geisio dychwelyd at ddyckliau fy ieuenctid. Dychwelyd o'r nefoedd hono yr oedd. wn ar derfyn fy llythyr cyn y diweddaf, os wyf yn colio yn iawn. O'r gore ar y ffordd wrth fyned tuag adref o'r lie da hwnw, gofynwn i meistr, I ble yr awn ni nesaf i bwytho V I Itliwli- y ddau oedd yr ateb. I Rhwng y ddau,' meddwn inau, I pie ydyw'r fan hono ? ni chiywais i erioed mo'r enw o'r blaen.' Yr Hafod Isa ydyw'r enw eytiredin arno, ond Khwng y ddau isa byddaf fi yn ei alw,' meddai Huw. 'Pa m yr ydych yn ei alw felly?' gofynwn. IVel, dyma'r pa'm,' atebai, 'nid yw yn He mor druenus a'r utrern hono, nac yn lie mor dda. a dedwydd i fyned iddo, a'r nefoedd yna y buom ynddi yr wythnos hon ond rhyw le cunolog ydyw, fel y cei weled. Y mae yno rai elfenau nefol, a rhai elfenau uffernol, a'r elfenau hyny yn fynych yli dyfod i wrtlidarawiad a'u gilydd. J Yr oedd tii Rhwng y ddau yn perthyn i Jywodr- aeth llathen a labwt meistr, Rhwng y c'dau uchaf a Rhwng y ddau ganol, a rhwng y°ddau isaf, a'u I galw ar yr enwau a roddai efe arnynt. Yr oedd ansawdd deuluol y tri lleyn gyffelyb y naili i'r Hall, mewn amryw bethau, ac yr oeddynt yn gwahan- iaethu hefyd. Wet, eto. Cychwynasom y bore tranoeth i'r dydd y daetliym o'r nef, gan gyrchu i'n dau tua Khwng y ddau isa. Yr oedd yn fore ystormus, gwlybyrog o fore Mai. Golwg dy well, bruddaidd, oedd ar wyneb wybren a daear, fei pe buasai y ddwy wedi tram- gwyddo wrth eu gilydd, Nid oedd un adervri yn teimlo ar ei galon i ganu pwt. Llechai'r ehedydd vn rhyw le allan o'r golwg, ac yr oedd pob Robin Goch a welem yu ysgrythu yn ei gwman, ac weithiau yn twitian yn duchanliyd. Ymlechai y gwartheg yn oehrau y cloddiau, pob un yn edrych mor ddifrifol a phe buasai yn gwneyd ei hewyllys. Sylwais ar darw ar un cae yn prysur grafu y ddaear a'i draed blaen, gan eu gweithio bob yn ail, megis pe buasai yn cloddio bedd i gladdu yr holl fuches. Yr oedd yspryd meistr mewn llawn gydgordiad a'r golygfeydd cylchynol. Cerddai rhagddo yn ddystaw fyfyriol. Ni chawn ond ateb sychlyd, cwta, ganddo pan ofynwn rywbeth iddo. Wel, meistr,' meddwn wrtho wedi hir flldandod nid ydych mor siriol a llawen, ac yn canu heddyw fel yr oeddych wythnos i heddyw, pan ooddym yn myned tua'r nefoedd, fel y gelwch y Ile. Rheswm da pa'm,' atebai yntau nid i'r nefoedd yr ydym yn myned heddyw. Da gallaswn i ganu, a bod yn llawen y bore hwnw, a minau'n gwybod am y lie da yr oeddvm yn myned iddo, ac heblaw hyny, nid oes calon nac yspryd mewn dyn na deryn i ganu, a bod yn llawen ar fore trwm, gwlybyrnog fel hwn. Weli di'r deryn do acw ? Gofya iddo pa'm na chanai o ?' Yr oeddym gyferbyn a ffermdy oedd (ac sydd eto ran hyny) ar oclir y Ifordd, pan gymerodd yr ym. ddiddan yna le rhyngom. Torodd i wlawio'n drwm ar yr adeg hono troisom ninau i fuarth y fferm, ac aethom i hofel yno i ochel y gawod. Yr oedd ar y buarth luaws o ieir, a hwyaid, a gwyddau. Dech- reuai y ceiliog ieir ar ei don yn y man. Dyna i chwi, meistr,' meddwn i, 1 y mae hwna yn medru canu y bore heddyw, os na fedrwch chi.' Canu wyt ti yn galw crygleisio fel yna ?' ebe yntau mae o'n meddwl mlii canu maeo: wyr oddim amgenach, druan o hono, ac ni ddysga fo byth wybod chwaith— mae o'n rhy benwan a hunanol i ddysgu dim.' Daeth gwr y ty allan o'r ysgubor ar hyny ac y ganddo mewn gogr, a thaflai ddyrneidiau o hono ar y buarth. Wel, af ati hi. Dyna He yr oedd rhedeg am y cyntaf, yn ieir, hwyaid, a gwyddau, a phob un yn crechwenu ac yn gorfoleddu a holl nerth ei gorn gweddw. Yr oedd yno goncert ardderchog. o ryw fath o ardderchogrwydd, hyd nes y daethant i gyr- haedd y grawn yd, yna gostegai y beroriaeth, syrthient ati bob un o ddifrif i achub ei gyfran o'r wledd. Canfu un o'r moch oedd gerllaw yr edyn- ogion yn gwledda, a chododd arno flys am gyfran. o'r dauteithion; rliuthrydd y ceiliogwydd iddo, ac ymaflodd yn ei ochr, a rhoddodd gernod iddo J 11. ei fochgern a. bon ei aden, fel y rhedodd hwnw ymaith am ei hoedl, gan wchian fel y gweddai i foch n yn y fath amgylchiad. Ymlidiedd y ceiliogwydd yn mheli ar ei ol, a dychwelai at ei gymdeithion gan ganu cloch buddugoliaeth yn hynod o soniarus. Yr oedd gorfoledd y gwyddau y tu hwnt i bob ttrfynau —rhedent i gyfurfod eu harwr i'w lawengyfareh, a'i fawrygu, am ei wrolder a'i wrhydri, a thrwy hyn collasant hwy ag yntau lawer o'r gyfran a bertbynai iddynt o'r boreufwyd a ddarparesid iddynt, canys yr oedd y ddwy genhedlaetli arall yn diwyd bigo y grawn i fyny tra buont hwy yn datgan clod y fudd- ugoliaeth a enillasai y ceiliogwydd ar y moehyn. Yr oedd y gawod wlaw drosodd erbyn hyny, ac ebe fi, Byddai gwell i ni gychwyn, y mae'lI deg y r,,vati Na, aros i ni gaul gweled y diwedd, gei di we I'd y bydd yma fatel eto niniondeg- eb efe, ac felly fu. Wedi i'r grawn fyned yn deneu ac alJuml ar y llawr, dechreuodd y gwyddau i mo.,od ar y ieir a'r hwyaid. Ymaflodd nil o'r gwyddau yn asgwrn cefn un o'r ieir, a gwaeddai hono yn ddychrynllyd. Si allai ceiliog y ieir oddef hyn, ymosododd ar y ceiliogwydd, a bu cadafael galed rhwng y ddau. Yr oedd y ceiiiog yn rhy chwimwth ei dioed a'i ysgof- iadan i'r ceiliogwydd, fel na allasai yn ei fyw ddyfod i done quarters ag ef. Methai gael pigaiaal arno, na chyrhaedd cernskl bOil aden iddo, tra y gwyliai y ceiliog ar bob mantais i wneyd rhuthr arno ef, a phlaaju ei yspeuduaau yn ei goesau. Aeth gwr y ty atynt o'r diwedd, a gahanodd hwyrnt. Ymddangosai y ddau fel yu hoai y fuddugoliaeth. Yr oedd y gwyddau yn neillduel yn clochdranu clod gorchest- ion ymladdgar eu tywysog. I Wol, tyr'd rwiui, Robin,' ebe meistr; 'y mae llawwr o addysg i gael oddiwrth y creaduriaid yna pe bai ni'n sylwi yn iawn arnynt,' xaeddai. Pa addysjj gewch chwi oddiwrth ieir a gwyddau, a hwyaid?' meddwn inau. Yr addyag oren wn i am daui a ellir gael oddiwrthynt ydyw eu bwyta. Yr wyf linau ynbur hofl o'r addysg hono.' 'Wyt, felly rwyt ti,' ebe yntau, 'yn un glew iawn am addysg i dy fol, heb feddwl fawr am addysg i dy ben. CoeÜa. di fi, gweli fyddai i ti goapi tipyn ar dy fol ermwyn dy ben, na phorthi biysiau v 1)4)1 ar draui esgeuleso moddion addysg a gwyboda:-th i'r pen. b 'Wei, rhowch chwithau dipyn o addysg a gwyo-- odaeth i'm pen oddiwrth yr ieir a'r gwyddau yna,