Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

PENMAENMAWR.I

News
Cite
Share

PENMAENMAWR. Cyfarfod Salent.-Cynlaaliodd yr eglwys Annibyn- 01 yn Salem ei chyfarfod blynyddol, nos Fawrth a ,dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf. Y gweinid- ogion a weinyddasant oeddynt—Mri Roberts, Caer- ynarfon Stephen, Tanymarian Williams, Bethes- da; a Thomas, Bangor. Yr oedd y eynnulleidfaoedd yn lluosog-yn lluosocach ar hyd y cyfarfod nag y gwelwyd hwy o'r blaen a theimlid nerth a dylan- wad daionus yn y pregethau. Y mae yr eglwys hon yn gystal a'i pharchus weinidog yn deilwng o glod am eu hymdrech i leihau y ddyled sydd ar yr add- Oldy eang a pbrydferth. Gallant ddiolch i Dduw, a chymmeryd sur,' am fod y ddyled. yr hon oedd drom pan adeiladwyd y capel ychydig flynyddau yn ol, yn debyg o gael ei llwyr symmud cyn yr a Ond ychydig o fiynyddoedd eto heibio. Llenyddiaeth yr ardal.-Y mae yn hyfrydwch genym hysbysu fod gradd o ddeffroad yn ein plith gyda gohvg ar hyn. Ffurfiwyd cymdeithas Ienydd- ol yn addoldy Salem, a chynhaliwyd y cyntaf o'i chyfarfodydd nos Iau, yr wythnos ddiweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. E. Edmunds. Cymmerwyd rhan yn y gyfran gantorawl gan Mri H. Williams, W. Williams, Thomas Jones, William M'. Clement^ M. a W. Browne, &c.; y gyfran ddarlleniadol, Mri John Roberts a J. Jenes; y rhan adroddiadol a dadt- euol, Mri R. Jones, S. Williams' H. Edwards, R Jones, T. Eoberts; ac yn y rhan areithiawl gan Alri 0. Edwards, a R. Parry. Yr oedd y cyfarfod yn boblogaidd o ran y gynnulleidfa, ac yn fuddiol a dyddorol o ran ei ddygiad yn rnlaen. Bwriedir cyn- nal cyfarfod bob pythefnos, a hyderir, wrth ei ddwyn yn mlaeu yn gysson a chwaeth dda, y prof a yn dda- ionus i'r lluaws ienenctyd a phobl ieuaino yn yr ardal. Da genym ddeall fod symmudiad o natur gyfEel^b ar droed yn Horcb hefyd. Pwy a wyr pa ynnifer o blant athrylith sydd yn mysg y lluaws ienenctyd yn y lie, ac fe ddichon mai cyfarfodydd cynelyb i'r un dan sylw a ddwg yn awr i'r golwg.

MR HENRY RICHARD YN CEFN-COED-Y-CYMMER.

TAITH TRWY MALDWYN.

tW!J ttdhttt (f!;rt(y d4øt.

curytt(nOU

BACHGEN AR GOLL.

EBENEZER A'I HAMGYLCHOEDD.