Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MH. HENRY RICHARD YN MERTHYR,

News
Cite
Share

MH. HENRY RICHARD YN MERTHYR, Nos Fawrth, Hydref 15, taloddMr Richard ei ym- weliad hir-ddysgwyliedi g a Merthyr. Yn mhell cyn 8 o'r gloch, yr awr bennodedig, yr oedd y Drill Hall yn orlawn. Cyfrifir fod yno o leiaf ddwy fil o ddyn-1 ion, os nad ychwaneg. Ar yr esgynlawr yr oedd yn' agos yr oll o weinidogion Ymneillduol Merthyr a'r cylchoedd, yn nghyd ag amryw o Aberdare, &c., a lluaws mawr o brifleygwyr Ymneillduol y dref a'r gymmydogaeth. Yr oedd yn bresenol hefyd-Dr. Davies, Abertawy; Proffesswr Roberts, Aberhonddu; y Parch. H. Griffiths, Aberhonddu; y Parch. J. Davies, Caerdydd; Handel Cossham, Ysw., &c., &c. Pan wnaeth Mr Richard ei ymddangosiad ar yr es- gynlawr, derbyniwyd ef gyda'r fath daranau o gym- meradwyaeth ac arwyddion o "groesawiad unfrydol iddo na chlywir yn ami eu cyffelyb. Cymmerwyd y gadair gan C. H. James, Ysw,, yr hwn a agorodd y cyfarfod ar fyr eiriau, ac yna galwodd ar Mr Henry Richard. Pan gododd Mr Richard ar ei draed dyna hwre eto. Wedi cael dystawrwydd, dywedodd:—Fy nghydwladwyr, yr wyf yma heno ar eich cais chwi. Heb hyny ni buaswn yn breuddwydio am ymddang- "08 ger eich bron mewn cyssylltiad a chynnrychiol- aefcn eich bwrdeisdref yn y Senedd. Chwychwi eich hunain sydd wedi dechreu yn y mater hwn, heb gael arwydd nac awgrym genyf fi na chan neb mewn eys- sylltiad a mi. Nid oedd genyf y wybodaeth leiaf am eich bwriad hyd nes y clywais am y cyfarfod cy- boeddus a gynhaliasoch yn y dref hon, yn yr hwn y passiwyd y penderfyniadau sydd yn awr yn fy llaw. Yr wyf yn diolch i chwi, nid yn unig am y pender- fyniadau, ond hefyd am y modd a gymmerasoch i'w oyfhvyno imi. Nis gallasech wneud hyny mewn modd mwy boddhaus i mi, drwy ddewis y bonedd- igion a nodasoch i ymweled a mi. Pe byddai rhyw un yn fy herio, ac yn gofyn i mi, 'Pa tlawl sydd genych chwi fel dyn dieithr i ddyfod i fyny yma heno ?' Y mae fy ateb wrth law. Yr wyf yma am fy mod wedi fy ugalw gaa lais rhydd y bobi, ac am fy mod yn credu fod gan y bobl yr liawl oreu yn y byd, nid yn unig i bleidleisio dros y rhai a anfonant i'r Senedd, ond hefyd hawl i ddewis euhymgeiswyr. Y penderfyniadau a bassiwyd genych mewn cyfarfod blaeuorol yw fy nhystlythyrau a'm teatyn heno. Wedi darllen y cyntal' darllenaf i chwi yr ail a <iyma fo:— VO(t y cyfarfod hwn o'r farn fod Henry Richard, Y sw., Utindain, Cymro, Annghydffurfiwr enwog, a Rhyddfrydwr trwyadl, yn berson cynimwys a phri- odol i gyHiirychioli bwrdeisdref Merthyr fel un o'i haelodau, ac yn ymrwymo i'w gefnogi os cynnygia hun i bleidiais y bobl.' Yr wyf am chwilio y mater hwn heno drwy ofyn y cwestiwn, A oeddech chwi ar dir cyfreithlon pan yn yn passio y fath benderfyniad, y dylai un o leiaf o'r aelodau dros Merthyr fod yn Annghydffurfiwr ac yn Rhyddfrydwr trwyadl. 0 waelod fy nghalon yr wyf yn credu, nid yn unig fod genych hawl gyfreith- Jawn i baasio y fath benderfyniad, ond hafyd fod ffyddlondeb i'ch egwyddorion yn gofyn am i chwi wneud hyny. Yr wyf wedi teimlo lawer o weithiau nad yw cynnrychiolaeth bresenol Cymru yn ddim amgen na thwyll a ffug. Nid am nad oes llawer o ddymon cyfrifol, a rhai galluog, yn cael eu hanfon o v»j'inry, ond mae y rhan amlaf o honynt yn amddifaid ° r anhebgorion angenrheidiol er iawn gynnrychioli y genedl, hyny yw, adnabyddiaeth o'r bob! a chyd- yrodeimlad a hwynt, Y mae gan eiii cenedl, ein niaith, a,i crefydd, eu neillduolion, ac yr ydwyf yn Credu y dylai y neillduolion hyny gael eu cynnrych- ioli yn y Senedd. Y rheswm nad ydym yn cael ein gynnrychioli yn deg yw, oblegyd fod ly personau a, anfonir, neu yn hytrach a ant heb eu hahfon genym, naill ai yn Saeson pur, neu yn Gymry mor Seisnig- aidd fel y gallant hwy a ninau wadn pob perthynas a'n gilydd. Feallai y dywed rhai mai mater o deim- ladyn unig ydyw cae\ Cymro i gynnrychioli Cymry yn y Senedd. Caniatawn hyny, ond rhaid ini gyd- nabod fod gan deimlad fwy o ddylanwad yn sym- mudiadau y byd nag a gredir yn ami. Ond, nid mater o deimlad yn unig ydyw. Credwyf ein bod fel cenedl wedi cael cam dirfawr yn y Senedd, am nad oedd yno ddynion wedi eu magu yn ein mysg, yn adnabyedus o'n sefyllfaoedd a'n hamgylchiadau, i'n cynnrychioli. Nodaf i chwi enghraifft neu ddwy. Dyna amgylchiad y Llyfrau Gleision oddeutu ugain mlyuedd yn ol. Pan oedd ein cenedl yn cael ei dar- lunio fel cenedl anwybodus, anfoesol, anllad, far bar- aidd, ac anifeilaidd, a hyny yn y Senedd, gan ddyn- ion oeddent wedi talu ymweliad ymchwiliadol a'r wlad; er fod genym ar y pryd ddeuddeg-ar-hugain o gynnrychiolwyr (?) yn Ny y Cyfftedin, er hyny, ni wnaeth un o honynt godi ei lef nac agor ei enau mewn amddiftyniad, ond eisteddasant yno fel own mudion. Pe buasai yno ar y pryd Gymro, a hwnw yn deilwng o'r genedl, nis gallasai eistedd yn ddys- taw tra yr oedd cymmeriad ei genedl yn cael ei bar- dduo a'r fath gabldraeth. Enghraifft ddiweddarach. Y flwyddyn ddiweddaf, pan yr oedd John Bright yn treio darbwyllo yr eglwyswyr brawychus i roddi i fyny y dreth eglwys, gan eu cyfeirio at y lluaws capelau sydd wedi eu hadeiladu gan Ymneillduwyr Cymreig drwy roddion gwirfoddol, cododd Mr Ga- thorne Hardy a dywedodd, diau fod nifer y capelau yn Nghymru yn fawr, ond nid rhoddion gwirfoddol y bobl sydd wedi eu codi. Adeiladwyr anturiaethus sydd wedi eu hadeiladu, ac yn derbyn saith punt y cant o arian y seti yn dal am danynt.' Aeth un papur Toryaidd yn mhellach, gan ddweyd mai y meistri oedd wedi eu hadeiladu, a'u bod yn gorfodi y bobl i fyned iddynt ac i dalu am danynt, fel pe byddent Truck Shops' crefyddol. Er hyny, nid oedd un o'r deuddeg aelod ar hugain yn ddigon gwrol neu yn ddigon adnabyddus o Gymru i wrth- dystio yn erbyn y fath haeriadau anwireddus. I ddyfod at y testyn eto, dywedwch fod yn rhaid i'r ail aelod fod yn Annghydffurfiwr yn gystal ag yn Rhyddfrydwr trwyadl. Er mai cenedl o Annghyd- ffarfwyr yw y Cymry nid oes cymmaint ag un An- nghydffurfiwr yn ei chynnrychioli yn Senedd y wlad. Hwyrach y dywedir y gwna Rhyddfrydwr Eglwysig y tro yn llawn cystal a Rhyddfrydwr Annghydffurf- iol. Gyda phob dyledus barch yr wyf yn dywedyd, Na. Nis gall Rhyddfrydwr Eglwysig, os bydd yn ffyddlawn i'w egwyddorion, fod cystal ag Annghyd- ffurfi wr mewn materion sydd yn dal cyssylltiad uniongyrchol ag Annghydffurfiaeth. Mewn cys- sylltiad a rhydtlid crefyddol, buasai yn well pe na buasai gan Gymru lais o gwbl, oblegyd y mae pleid- lais cynnrychiolwyr Cymru bron bob un, a hynyar bob mesur, yn crbyn pob cynnyg at ryddid crefydd- ol. Pa fesur bynag a ddygir yn mlaen, y mae yr Eglwys ar y ffordd-rhaid gofalu am dani hi bab amser. Fel y wraig hono aeth allan i Picnic a'i babi gyda Iii; yn nghanol y dorf gwaeddai yn bar- haus 'for goodness sake take care of the baby.' Mae y babi Eglwysig ar y ffordd o hyd gan y Rhyddfryd- wyr Eglwysig. Y mae o bwys i ni gael Annghyd- ffarfwyr gonest, oblegyd y mae materion pwysig mewn cyssylltiad a chrefydd yn ymwthio i sylw fwy-fwy yn barnaus, a rhaid rhoddi iddynt sylw dyledus yn fuan. Byddai yn anrhydedd a mantais i'r eglwys ei hun, yn gystal ag yn waredigaeth bwysig i'r Senedd pe torid y cyssylltiad sydd rbyng- ddynt. Y mae amryw faterion pwysig y dylwn aroe ar. nynt, ond ni wnaf ond prin grybwyll rhai o honynt. Dyna'r Iwerddon. Rhaid symmud ymaith yr Eg- lwys Wyddelig. Y Ballot hefyd sydd gwestiwn eisiau ei derfynu, Eiddo yr ethoiwr yw ei bleidlais, ac os na all ei rhoddi yn ol ei ewyllys heb fod yn agored i anfanteision yn herwydd hyny, dylai gael amddiftyniad y Ballot. Dywed rhai nad ydyw yn Seisnigaidd i bleidleisio yn ddirgel. A ydyw y gor- mes a'r trais a arferir yn bresenol yn Seisnigaidd ? Os ydyw, gallaf fi ddweyd nad ydyw yn Gvmreig- aidd. Dyna fater arall—heddarch a rhyfel.' Gwyr pawb o n darllenwyr beth yw golygiadau Mr Richard ar y pwnc pwysig hwn, felly gadawn ei nodiadau arno rhag meithder. Ar hyn trodd at y Gymraeg, a gwnaeth araeth fer ond grymus iawn yn iaith ei fam. tl, Dywedai mewn Cymraeg glan gloyw:— Er fy mod wedi byw yn mhlith y Saeson am 35 o flynyddau nid wyf wedi anghofio fy Nghymraeg, yn hytra.ch anghofied fy neheulaw ganu, a glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, cyn yr anghofiaf y iaith yn yr hon y'm dysgwyd gan fy mam yn ymyl Tregaron i ddywedyd 1 Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd.' Yr wyf yn ymffrostio ya fy ngwlad, nid oes arnaf gywilydd o honi na'i Hannghydffurlwyr. Hwynthwy sydd wedi gwneud y cwbl dros Gymru. Yr wyf yn ami yn dweyd wrth y Saeson, I yr ydych chwi yn siarad yn dda am yr egwyddor wirfoddol, ond os mynwch ei gweled yn ei gwaitb, rhaid i chwi fyned i Gymru.' Y mae yn dda genyf eich gweled yn dechreu ar y gorchwyl hwn. Nid oes un fwrdeisdref yn Nghymsu all ei wneud os na wnewch chwi ef. Ac ond i chwi wneud, rhydd hyny nerth a chefnogaeth i eraill i ddilyn eich esiampl. Yna cawn weled ein gwlad yn cael ei chynnrychioli gan ddynion o ddewisiad ac egwyddorion y bobl. Pan eisteddodd i lawr torudd y dorf allan i waeddi, euro dwylaw, chwyfio hetiau, &c., fel pe wedi eu dotio. Cynnygiwyd gan W. R. Smith, Ysw., ac eiliwyd gan y Parch, C. Griffiths, fod y cyfarfod yn ymrwymo i wneud ei oren er sicrhau etholiad Mr Henry Richard. Cynnygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd gan y Parch. Ü. Jones, B.A., aa eiliwyd gan Tydfylyn. Vna. terfynodd y cyfarfod politicaidd goreu a gafwyd yn Merthyr erioed yn ol barn y rhai hynaf yn y He. —GSHEBYDD.

MANION 0 FYNWY.

YSTRAD RHONDDA. !

CYFARFOD CHWARJ'EROL MALDWYN.

[No title]

_LLOFFION.

LLYTHYRAU 0 PATAGONIA,