Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

NODIADAU HWNTFORAWL '

---------._.__..--"'DMrXDVATEo,…

___1'-,.-..__. t A F-\ YU…

News
Cite
Share

_1' t A F-\ YU A^yTBYXWl'K SWVDD ONEIDA, NEW YORK. Mri Golygvvyr,—Diau eich bod wedi cly wed Hawer o son am Gymmanfa Oneida, o blegid y mae y bu-ysicaf yn y byd, a.c y mae y ffaith fy mod i yn aelod o hoiri wedi ychwanegu yn fawr at ei phoblog- :wydda'i phwysigrwydd; o leiaf, dyna fy marn i. xhvyrach nad yw pawb yn cydweled a mi. Nid yw iyny yn eifeitliio fawr arnaf, gan y gwyddoch fy mod yn arfer dvweyd fy ineddwl er gwaethaf pawb ac yn y cyffredin, yr oeclchnl yn bur gywir. Gad- c ewch i hyn yna fod fy arncan yn dy^'eyd ychydig o hanes Cymmanfa Oneida, er mwyn eich darllenwyr a ailant fod heb wybod fawr yn ei chylch. Yr oedd- wn bron meddwl peidio ysgrifenu ond pan ddaeth y postman a'r TYST i law, yr oedd mor dda. genyf ei weled fel y pendelfYllais anfon gair yn ddioed. De- chreuodd y gymmanfa Medi 9, yn PLainfield, eym- xaydogaeth newydd o Gymry, tuag ugain milldir o Utica. Gohrg ddyddorol iawn i chwi fuasai gweled 'i >vy wagenaid o genhaden hedd yn teithio ar draws y wlad ar ddiwrnod braf. Ond peidiwch a meddwl inai mewn wageni cyffelyb i rai 1'rydain yr oeddem. ISa, nid oedd dim yn debyg ond yr enw. Yr oedd eiu rhai ni a springs danynfc wedi eu gwneuthur o bwrpas i gludo dynion. Dan geffyl oehr yn ochr yn eu tynu. Mae pob ffarmwr yn meddu ar beth fel hyn er cludo chwech neu wytli, a cherbyu bach arall 1: ai er cludo dau. Nid oes neb yn meddwl am gerdd- ed na marehogaeth ar geffyl a chyfrwy yn y wlad lion. Dywedir fod ceffylau a chyfrwyau yn y West, ond dim vma, oddigerth gan ambell ddyn cyfoethog, a'r rhai hyny a gwertholfe (stirrups) fel blaenau esgidiau, tebyg i'r peth sydd gan blunt weithiau pan yn decbreu marehogaeth. Gyrhaeddasom y gym- mydogaeth, ac y mae yn un brydferth iawn, braidd yn fryniog ac yu uwch na'r wlad o gwmpas, ond yn dir da a lie dymunol iawn. Yma yr oedd g-olwg- brydferth—gweled tlodion Lleyn ac Kifionydd, a rhai o Lanegryn, a. Llanuwchlyn, a sir Aberteifi. wedi tirio yn America heb fawr geiniogau yn byw yn bresenol mewn palasdai, ac yn meddianu can- noedd o erWíLU o dir, a phob darpariaeth arall at ffarmio. Mae yn ddywe'diad cylfredin yn y wlad hon mai goreu oli pa (ilota fydd') dyn yn cyrhaedd iddi, ei fod yn fwy sicr o ddyfod yn mlaen, o loiaf, y mae cannoedd o rai ddaethant yma yn d]odion iawn wedi dyfod yn mlaen; tra y me rhai a ddaeth- ant ag arian da yma wedi myned i dlodi. Ul1 peth sydd sicr na wiw i neb ddyfod yma gyda'r amcan o gael ei wasanaethn, rliaid i bob un benderfyuu gweithio, Mae dyni «n yn rhy ddrud i dalu am ea gwasanaeth ond mewn amgylchiadau o reidrwydd mawr. Mae pawb yma yn gweithio. Llawer fferm- wr a'i wraig, a dau neu dri o blant dan bymtheg oed, yn trin fferm fuasai yn cadw dau was a dwy forwyn yn Nghymru. Mae caredigrwydd y bob! yma yn debyg i eiddo y patriarchiaid maent wedi dysgu bod yn llettygar. Gwelais dai a thross gant o ddyn- ion yn einiawa ynddynt aradegy gymmanfa, ahyny mewn gwahanol ardaloedd. Mae ty pob Cymro o bob enwad yn ago red i roesawu dieithriaid ar adeg y gymmanfa. Gall pregethwr, neu ryvvun arall ar daith droi i mewn i dy Cymro y man y myna, a bod yn sicr o roesaw. Ni oddefant i bregethwr gerdded y peth mwyaf a wnaethum i oedd cerdded pum milldir er pan wyf yma, ac edrychidarnaf dranoeth fel wedi cyfiawni gwyrth. Gorfu arnaf gychwyn ar fy nhaith i Pennsylvania cyn ysgrifenu yn mbellach. ac yn nghanel y ehwa* relau llechi y cofiais am hanes Cymmanfa Oneida. By tel cryn berygl i mi bellach gymmysgu pethau y ddwy dalaeth a'u gilydd. Ond yn mlaen a hanes y gymmanfa. Dydd Mercher yr oedd y gynnadledd yn Utica, yn eglwys fy hoffus gydfilwr y Parch. James Griffiths, yn• Columbia Street. Dyna chwi beth newydd i gymmanfaoedd Cymru, dau ddiwrnod o bregethu, ac yna Conference, yn hwnw yr oedd Loll weinidogion yr IJndeb, ac un neii ddau leygwr wedi eu danfon o bob eglwys. Ar y Uevgwyr hyny y gor- j'hwys myned a phob newydd adref, a hysbysu pen- der'yniadau y Conference i'r eglwysi, nid oes dim baich ar y gweinidog, hwy hefyd sydd i hy.sbysu yn y Conference farn a theimlad yr eglwysi ar unrhyw fater. Gadewiv y gweiaidogion yn rhydd i siarad drostynt .eu hunain yn nnig. Yr oedd y gynnadledd drwyddi yn hynod unfrydol. Dylaswn. ddweyd os daw rhyw bregethwr neu weinidog dyeithr i mewn cynhygir a chefnogir yn rheolaidd fod iddo gael cymmeryd rhan yn y Conference. Yr oedd amryw yn ddieithr y tro hwn, y mwyaf nodedig oeddynt y Parch. W. Evans, (Trelech), Pennsylfania, a'r Parch J. Lewis, Rhesycae. Daeth Mr Lewis i Utica ych- ydig ddyddiau cyn y gymmanfa ac arosodd drwyddi oil. Pregethodd hefyd gyda pharodrwydd mawr, ac yn hynod fedrus ac effeithiol, yr oedd yn ddigon hawdd gweled wrth ei bregethau fod Mr Lewis yn fcddyliwr ardderchog, ac yr wyf yn dra sicr na chaiff ddychwelyd i Gymra heb gael digon o gynbygion i aros yma, a phe deuai amryw gystal pregethwyr ag ef drosodd. caent s.'ystal lleoedd yn uniongyrchol. Mae llawer o leoedd yn Pennsylvania yu aivyddus iawn am weinidogion. Pe gwyddent am rywrai .da yn awyddu dyfod drosodd, anfonent alwad yn xinion. Dyma fi eto yn cymmysgu y ddwy Aalaetb. 10nd yn ol at Conference Utica. Penderlynwyd cael dwy I bregeth yn mhob cyfarfod chwarterol—un yn ath- rawiaethol, a'r Hall yn ymarferol. Y pynciau yn y cyfarfod nosaf yw 'Bodolaeth Duw,'a Chyfeillachau Crefyddol.' Dau weinidog Utica i bregethu arnynt. Penderfynwyd hefyd i gymhell pawb i wneud eu goreu o blaid y mudiad By-del ar droed yn y dalaeth yn bresenol er llwvr atal y fasnach feddwol. Yr oedd yn hawdd iawn pasio hwn, o blegid er fod dau neu dri o'r brodyr yn bur hoff o'r bibell, nid oes un yn cyflwrdd a'r dicdydd meddwol. Ni welais i un math o'r pethau meddwol yn un ty yn adeg y gym- manfa, nac ar un adeg arall. Nid oes un tafarnwr na'i wraig yn cynnyg dyfod yn aelod eglwysig trwy yr holl wlad, ac nis gwn ond am un Cymro yn cadw tafarn. Mae y fasnach feddwel dan warth yn y wlad hon, a byddai i bregethwr yfed rhywbeth meddwol yn ddigon i ddibenu ei ddefnyddioldeb mewn. ardal. Da genyf ddyweyd fod y rhai sydd yn arfer a'r bibell yn teimlo mai y bctcJc settlement yw eu lie: macnt yn gorfod myned tua'r gegin yn y cefn, neu i ryw shed. Nid ydynt yn cael mygu yn y pav- Iwr. ac nid oes dim tybaco yr achos yn perthyn i'r gymmallfa. Cofiwch am Gymrnanfa 0neida yn nnig yr -(vyf yn ysgrifenu. Gall y lleiil fod yr un fath, ond ni welaia yr nn o honynt eto. Wedi rhyw fan benderfyniadau, aed at y pregethu, a tliraddodwyd wyth pregeth nerthol yn Utica i dyrfaoedd Iiiiosc),, iawn—rhai wedi teithio ugeiniau o fdlcliroedd i'w gwrrand3. Nos lau. syrnudvvyd i Filoyd, tua phymtheg milldir o Utica yn y wlad-se(ydliad cryf o Gymru, wyth pregeth yno e-ilwaitli, heb un conference. Y Sabboth, yr oedd yr boll weinidogiou yn newid, a'r dieithriaid yn cael eu hanfon i rywfanau a fernid yn cael leiaf o fanteision y .gymanfa. Dydd Mawrth canlynol aeth pawb tua Itemsen, He mac y Parch. Morris Roberts yn Esgöb. braf, 11 awn ofywyd yw Mr Roberts, ond mae y rhan fwyaf wedi ei weled pan fu yn ymweled a Cliymru. Yr oedd yno con- ference drachefn. Penderfynwyd yn hwnw i ffurfil) cymdeithas er cael arian at gyiial myfyrwyr ieuaingc fyddant yn ymgeiswyr am y weinidogaeth yn mhlith y Cymry. Mae yma hefyd ymgais am fiurfio Scholarships, ac os ceir digon o arian i sefydlu Professorship Gymreig yn Yale College, a ehael athraw yno i ddysgu yr iaith Gymraeg. Fel hyn, os na edrychvYch chwi atti, ni fagwn well Cymreig- wyr yn y wlad yma nag a fagweh chwi yn Nghymru a'ch holl golegau a'ch prif-ysgol, a phob peth. Bum i yn dweud wrth y blaenoriaid o'r gwahanol eglwysi fod Annibynwyr Cymru yn cyfranu mwy na hwy at grefydd yn ei holl ranau, er fy mod yn credu fod Annibynwyr America yn meddu bron eymaint o gyfoeth ag Annibynwyr Cyniru. Yr ocddent yn dadln a mi nad oeddent yn meddu yn agos eymaint o gyfoeth eg Annibynwyr Uymru. ond bum yn ymyl profi en bod er hyny. ni fyneat gredu, am y buasai hyny yn eu hargyhoeddi y dylasent godi digon o arian ar unwaith at boil amcan ion y gymdeithas addysgol. Vr wyf braidd yn ofni nad yw holl Anni- bynwyr America yn casglu mown liaelioni fel y mae yn cynyddu mewn cyfoeth, ond o ran hyny, pa le ceir dynion i wneud hyny ? Mae yma ganoedd o ddynion ydynl; yn werth cymaint arall ag oeddent bedair biynedd yn ol ar ffermydd, yiicodi ynbarhaus mewn gwerth. Mae rhai yn haelionus iawn, ac amryw, meddir, yn wahanoJ. Cawn weled pan ddechreuir casglu. Mae yma ddigon o ysgolion i ddysgn pob peth ond duwinyddiaeth felly, nid oes ond ychydig arian yn angenrheidiol igynorthwyo amryw fechgyn da. Nl raid adeiladu co.egdai na chynal athrawon,, dim ond talu am ysgol a bwyd y myfyrwyr. Cof- I iwch, fe gostia bwyd pregethwr dipyn yma, oblegid nid oes yma neb yn byw fel y rhai welodd Kilsby yn ysgol y Neuaddlwyd, yn bwyta bara chaws a msidd, neu gawl. Maent yma yn waeth na rhyw hen bregethwr cynorthwyol, yr aebwynai rhyw hen chwaer wrthyf arno yn Nghymru. Yr hen gre- adur," meddai, torais iddo fara ac yinenyn da, ond torodd yntau gaws gyda hyny, eithr dywedais i wrtho na allwn fforddio rhoddi dau erdlwyn gyda'r un bara." Dymunwn hysbysu yr hen chwiorydd yn Nghymru ei bod yn arfeiiad gyfFredin yn Ameriea i fwyta cig da, ymenyn, a chaws, fel enllyn gyda'r un bara. Ac ni waeth beth ddywedo Kilsby yn ei ddarlith ar Rhys Goesbren, yr wyf fi yn credu na studia bechgyn America ddim ar fywioliaeth sal iawll. Os na chant gaws, ymenyn, a chig, gadawant yr efengyl ag ant i rywle arail. Ni byddai wiw i gomviitiec Aberhonddu hefyd osod caws o'r fath yr wyf fi yn gofio yno o flaen becbgyn America. Cof iwch, caws hufen sydd yma bob tamaid, er hyny ni welais oiid un ben wr o'r Bala yn bwyta bara chaws heb ymenyn na chig gydag ef. Rhaid hefyd gael ffrwvthydd, teisenau, pasterod, pwdding, a the, cyn gwneudpryd. Maent yn vmffrostio eu bod yn by w ar dri phryd y dydd, ond pe bwytai dyn yr holl bethau a osodir ger ei fron, ac y mae iddo gyflawn roesaw iddynt, gallai fyw yn burion ar un pryd y elj dd; a gallaf eicll sicrhau y cuddia ambell Yankee tenau beth rhyfeddol o drugareddau, ac ymddengys wedi y cyfan mor druanaidd ag un' o wartheg Pharaoh, a mil i un na bydd yn achwyn ei fod yn cael ei flino gan ddiffyg treuliad. Yn ol y cyfrifiad gorau fodraf fi wneud, mae prydiau wneid yn gyfiredin yn y wlad hon yn werth tuacliwech gwaith. mwy na phryd da yn Nghymru. Pan fyddo rhy wun yn dyfod. i'm ty i, yr wyf y i\ rhoddi iddo yr amheu- thyn o bryd plaen, tebyg i'r hyn gawsai yn Nghymru. Wel, am y Gymmanfa. Wyth pregeth. yn Rem- sen, ac oddiyno i Benymynydd, lie mae y Parch. 8em Phillips yn gyd-esgob a Dr. Everrett. 0 ran hyny, Mr Ptdliips sydd yn gwneud y gwaith. gan fod y Dr. yn wanaidd, fel nad yw yn gallu pregethu er ys misoedd lawer. Nis gwn am ddan gydweinidog mor ddedwydd. Buasai yn aimihosibl i Dr. Everrett gael neb mwy cywir, onest, a pharod i wneud yr oil a all na'r brawd Sem; a buasai yn anmliosibl i Mr Phillips daro wrth neb mwy hynaws, addfwyn, a diddig na Dr. Everrett. Rhoddwyd wyth pregeth yn Mhenymynydd, ac YDr. aeth j awl) adref wedi cael Cymmanfa dda, ac arwyddion amlwg foci Duw yn bresenol. Dangosotid yr hen frodyr ddaeth yma er ys blynyddau bob sirioldeb i ni y rhai a ddaethom drosodd yn ddiweddar, set y Parchn. Sem Phillips, Steuben; John Cadwaladr, Trenton; Gwesyn, IJtiea; a Lewis, Rhesycae, trwy ein gosod i bregethu yn mhob cyfarfod, ac yn y lleoedd mwyaf manteisiol er i bawb gael ein clywed. Hyderafna chant eu aiomi yn y disgwyliad a fiurfiant am gymorth oddiwrtbym i ymladd yn erbyn peebod, ac o blaid santeiddrwydd. Mae yma eisiau llawer yehwaneg o ddynion da, llawu sel i gyhoeddi Crist yn geidwad. Cai y cyfryw groesaw calon, a thai da. Deuwch drosodd, frodyr, a cliynnorthwy wch ni. Gwnaeth ymweliad y Parch. J. Thomas, Liverpool, a'r Parch, Thomas Levi les mawr yma; ond pe buasent yn aros buasent yn well. Mae groesaw calon iddynt ddychwelyd gan filoedd, a chai eraill roesaw mawr pe gallent ei gwneud yn gyfleus i ddyfod am dymor neu am oes. Aeth fy llythyr yn rhy faith ond dyna, hwyrach na chewcli air am Gymmanfa Oneida bytheto. Llwyddiant i'r TYST i fyned rhag ei flaen, a chasglu gallu o byd. Yr eiddoch, RHYS GWKSYN JONES.

__---''-''''''''---'''''''''-,,,",-,,,-EGLWYS…

LLYTHYRAU 0 PATAGONIA,