Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

AT OLYGWYJl Y TYST.

News
Cite
Share

AT OLYGWYJl Y TYST. Foneddigion,—Cawsom ein difyru yn fawr wrth ddarllen llythyrau doniol Gogleddwr ar ei vmweliao a Harrogate, y rhai sydd wedi ymddangos yn eicl, colofnaii. Yr oeddynt yn meddii ar ddyddordeb neillduol i ni, gan cia bod yn ddiweddar wedi cael yr hyfrydwch o weled yr amrywiol olygfeydd y mac ef yn en desgrifio, a gallwn ddweyd yn ddibetrus eu bod wedi cael eu portreadu o flaen darllenwvr y TYST gan bin bardd yn ngwir ystyr y gair, pwy bynag ydyw. Hynod mor ffocus fa Gogleddwr yn syrthio i mewn a chymdeithion yn y rhai yr oedd y fath gydgyfarfycldiacl 0 bethau dymunol; rhaid en bod wedi trenlio eu hamser yn bleserus ac addysg- iadol dros ben, Yr oedd genym ninau ein cyfeilliol1 yn Harrogate,—nid cymmeriadau gwagsaw, dienaid, oedd y rhai hyn chwaith, pell iawn oddiwrth hyny ac yr ydym yn perswadio ein hunain nad hollol ddi- fudd y pasiwyd yr amser genym. Yr oedd darllen am Ilumpnn Hocks yn eich rhifyn am Medi 7, yn dwyn ar gof ini y brofedigaeth yr aethom iddi pan y cymmerasom bererindod i'r ne hwnw. G-vntii- odasom wasanaeth yr arweinycld perthynol i'r fan, gan fod un o'n parti ni ein hunain yn barod i ym- gymmeryd a'r s.wydd o'n harwain drwodd, a cban fod genym yr ymddiried llwyraf yn ei ddeheurwydd gyda pha beth bynag a gymmerai mewn Haw, cych- wynasom gydag ef yn eithaf tawel. Ar ol ini fod yn y pure a'r coedwigoedd amgryn amser, yn edrych o'n cwmpas, ac wedi gweled p:)b peth oedd yn werth ei weled i'n tyb ni, meddyliasom ein bod yn bryd i ni hwylio ein cerddediad i rywle arall. Erbyn hyn yr oeddym yn gorfod deall er ein gofld fod nodwedd y lie rnor gydweddol a chwaeth ramantas ein cyfaili fel jr oedd wedi annghono yn bollol fod eisiau byfch ddyciiwelyd oddiyno, ac wrth gwrs wedi colli pob clue ar y ffordd. Buom yno am yspaid maith yn treio pob llwybr oedd yn debyg o ddyfod a ni o'r dy- ryswch, ond yn aflwyddianus, ac annarluniol wyllt- edd y lie a p'.iobpeth, yr oeddym wedi mynocl i ofni mewn gwirionedd mai yno y byddai raid ini wneud ein pabell am y dyfodol. O'r diwedd gwenodd ffawd arnom, a daethom allan ar hyd ffordd yr ydym yn meddwl na thramwyodd neb erioed o'r blaen. An- turiaetli oedd hon roddodd gyfie ini ddangos ein gallaoedd fel ymchwilwyr medrus. Yr ydym yn credu pe deuai Dr Livingstone (os yw ar dir y l'hai. byw) i ddeall am ein beiddgarweh yn yr ystyr hon. y byddai yn falch o honom. Poetry in Prose ydyw llythyr olaf Gogleddwr, Wrth ddweyd hyn nid ydym yn meddwi awgrymu fod gormodiaith ynddo. Dim o'r fath beth. Ond y mae yn ein cadarnhau yn ein barn, yr hon yr ydym wedi ei datgan eisoes, mai bardd o'r iawn ryw ydyw yr awdwr. Ac yn wir buasai yn rhyfyg yn neb ond un felly aincanu desgrifio Studley Park a'i amgylch- oedd. Wel wfft byfch i'r creadur isel y daethom ni ar ei draws yno, buasai yn well genym daro arno yn mhob man hefyd. Pdioddodd hwn ar ddeall ini yn bur fn::n nad oedd yn cario y prydferth gydag ef, ac felly nid oedd yn gallu ei ganfed mewn dim o'i amgylch. Pan oeddym yn edrych ar y coedydd ar- dderchog" gyda syndod a boddliad yn gymmysgedig, ac yn gwrando ar ein harweinydd yn dweyd am ei hynafiaeth a'i neillduolion, dyna oedd yn ymgymell i'w feddwl coeth ef-' y fath ffyn ellid en cael yno Rhaid cofio'r lie yr oedd hyn yn cael ei ddweyd i weled gVi'Tthuni'r syniad. Buasai'r sylw yna yn eithaf priodol mewn coedwig gyffredin,.ond yr oedd gwran- do ar ei eiriau mewn lie wedi ei wisgo a gogoniant Parahvys yn peri ini feddwl am linellau Byron yn ei Bride of Abydos' 'And all save the spirit of man is divine.' Yr oedd hefyd yn yr un lie ac ar yr un pryd gym- meriad arall dipyn yn wahanol, fel y cewch weled. Yr oedd hwn wedi meddwi cymmaint am brydferth- ion y lie, nes myned i alw bendithion mwyaf gwerth- fawr y bywyd presenol, megya gwlaw &c., yn beth- au matter of fact; Un yn byw llawer iawn yn yr ideal oedd y brawd yma; rhyw ddamwain fyddai iddo ef ddisgyn i gymdeithasu a phethau materol o ran ei feddwl. A chan ein bod yn hysbys o hyn o'r blaen, nid oeddym yn rhyfeddu dim at ei enthusiasm dan yr anigylchiadau presenol. Os oedd prosaic re mark yr un y buom yn son am dano yn flaenorol yn gratio ar ein clustiau ni, beth raid fod yr effaith ar hwn. Dysgwyliem bob eiliad ei weled yn syrthio i lewyg, a mawr oedd ein pryder yn ei gylch, gan ein bod ar y pryd yn mhell oddiwrth bob ty, ac ni all- esid estyn cymhorth iddo yn uniongyrchol. Ond yn wir, chwareu teg iddo, fe ddaliodd y shock yn well na'n disgwyliad, ac y mae genym barch iddo y munud yma, am ymdrechu cymmaint yn erbyn ei deimladau, buasai yn achosi llawer iawn o an- ngbyfieustra i ni pe buasai wedi digwydd yn wa- hanol. Yr oeddym ni yn wastad dan yr argraph mai fashionable watering-place oedd Harrogate, ac y mae yn rhaid ini ddweyd nad ydym wedi newid ein meddwl ar ol ein hymweliad a'r lie. Ond dywed Gogleddwr mai bywyd yn ei symlrwydd sydd i'w gael yno. Beth feddyliai ef wrth hyny tybed ? Yn ystod ein harosiad ni yno yr oedd y muriau wedi eu gorchuddio a hysbysleni am Concerts, Drawing-room Entertainments, &c., oedd i gymmeryd lie yn yr hwyr er difyrwch ac adeiladaeth yr ymwehvyr. Ter- fynwn, Mr Gol,, trwy erfyn maddeuant am gymmer- yd cymmaint o'ch gofod. Yr eiddoch, &c., MONWYSION.

Y I BALLOT.'

AT OLYGWYR Y ' TYST CYMREIG.'…

GOHEBIAETH 0 AMERICA,

AT EGLWYSI ANNIBYNOL UNDEB…

CYFARFOD'YR UN DEB CYNNULLEIDFAOL…