Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

','CYNNULLION O NANNAU.1

PREGETHWYR CYNNORTHWYOL A…

LLAIS Y WLAD, A LLAIS Y DRE.

AT Y PARCH. T. PHILLIPS,-…

LIBANUS, TREFORIS, A'R PARCEt…

EISTEDDFOD CAERFYRDDIN.

COLEG ABERHONDDU.

EGLWYS HEB WEINIDOGAETH SEFYDLOG.

AGWEDD WLEIDYDDOL AMERICA.

News
Cite
Share

AGWEDD WLEIDYDDOL AMERICA. Addewais ysgrifenu ychydig o'm golygiadau o berthynas i America, ac ymdrechaf gyflawnu fy addewid. Y peth cyntaf y dymunwn gyfeirio ato ydyw natur a chysylltiadau y pleidiau politicaidd yno. Darllenais lawer er's blynyddau o belyntion America fel yr ymddangosant yn y newyddiaduron, ac ymdreehais lawer i'w ddeall, yn neillduol pan yn olygydd newyddiadur yn India; ond methais erioed gael syniad eglur, cyflawn, a boddhaol am danynt nes myned yno. „-< Y prif bleidiau ydynt y Democratiaid ar Gwerin- wyr, neu Republicaniaid. Gelwir y rhai blaenaf hefyd yn Conservatives a Copperheads, &c., a'r rhai olaf yn Radicals. Un achos o'r anhawsdra i ddeall pleidiau Americanaidd yw, nad ydyw yr enwau uchod mewn un modd yn arddangos egwyddorion y personau a adnabyddir wrthynt. Y prif bynciau o berthynas i ba rai yr ymrafaeliant yn bresenol ydynt, adferiad y Talaethau Deheuol i'r Undeb, a phleidleisiaeth y Negroaid. Dywed y Democratiaid y dylid derbyn y Talaethal1 i'r Undeb yn ddiam- modol, ar yr un tir ag yr oeddynt cyn y gwrthryfel, oddieithr rhyddhad y caethion, a dadleuant yn erbyn rhoddi hawlfraint dinasyddion i'r Negroaid. Gwrth- wynebir hwynt yn y ddau beth hyn gan y Gwerin- wyr. Yn ol ystyr briodol yr enw a arddelant, dylai y Democratiaid roddi pleidlais i bawb; ond nid hyn ydyw eu credo hwy, a chamarweinir dyeithriaid gan yr enw a arddelant. Reblaw hyn, cymmysgir yr enwau hyn yn y modd mwyaf afresymel mewn rhai manau. Yn St. Louis, cyhoeddir dau newyddiadur dan yr enwau Democrat a Republican. Perthyna y blaenaf i'r Gwerinwyr a'r olaf i'r Democratiaid. Dadleuant yn benboeth dros egwyddorion hollol groes i'w henwau, a chymmer gryn lawer o amser cyn y gall dyn ddeall y gwahaniaeth. Un peth arall anfanteisiol iawn ydyw tymmer un- ochrog y newyddiaduron. Yn y wlad ban, cyhoeddir areithiau prif ddynion y gwahanol bleidiau politic- aidd yn yr holl bapurau newyddion, i ba blaid bynag y perthynant. Yn America y mae yn holl(!jl wahanol. Ni chyhoedda y Democratiaid ddim perthynol i'r Gweriuwyr ond gyda'r dyben i'w camddarlunio ac yn y peth hwn nid yw y Gwerinwyr yn well na hwythau. Os ewyllysia neb wybod y ddwy ochr o berthynas i unrhyw bwnc, rhaid iddo fod yn bur ofalus i gael gafael ar y papurau perthynol i'r ddwy blaid. Ar ol treulio wythnos yn America, gwelais i yr angenrheidrwydd am brynu dau bapur bob dydd, er mwyn deall yn briodol sefyllfa pethau. Synwyd fi yn ddirfawr weithiau wrth ganfod y cam- ddarluniad a roddid o areithiau a dywediadau plaid gwrthwynebol. Yn y peth hwn, rhaid cyfaddef fod America yn mhell ar ol Lloegr. Gan fod Iluaws o'r Democratiaid mor benboeth yn erbyn y Gwerinwyr fel na ddarllenant ddim ond papurau democrataidd, nid ydynt byth yn cael cyfle teg i ddyfod yn gydna- byddus ag egwyddorion y blaid wrthwynebol; a'r un modd gellir dywedyd am y Gwerinwyr. Y can- lyniad ydyw mai meddyliau cul, rhagfarnllyd, ac af- resymol sydd gan yr Americaniaid yn gyfFredia mewn pethau politicaidd. Gwir fod pawb yn gwybod llawer mwy am bolitics nag a wyr pobl gyffredin Lloegr; ond gwybodaeth unochrog sydd ganddynt. Y mae teimladau gelynol y ddwy blaid, fe allai, mor gryfed yn awr ag y buont erioed, os nid cryfach. Melldithiant eu gilydd yn ddidrugaredd yn eu hareithiau a thrwy y wasg. Dywedir gan lawer o honynt nad ydyw hyn yn arwydd o un perygl; ond os o helaethrwydd y galon y llefara y genau,' rhaid fod teimladau gelynol wrth wraidd yr holl felldith- ion a anurddant golofoau f newyddiaduron. Nis gellir gwybod yn gywir pa blaid sydd gryfaf drwy y wlad yn gyffredinol. Y Gwerinwyr sydd yn dal awenau y llywodr&eth yn breseuol,- liyny yw, ganddynt hwy y mae y mwyafrif yn y Gydgynghorfa; ond Democrat trwyadl ydyw yr Arlywydd. Y mae y wlad yn barod yn dechreu aflonyddu o berthynas i'r etholiad sydd i gymmeryd lie blwyddyn i'r mis nesaf, a thybir gan lawer o bobl feddylgar America y bydd canlyniadau pwysig yn dilyn yr etholiad hwnw, pa blaid bynag a ennilla. Gan fod y Feniaid yn achosi gradd o gynhwrf yn bresenol yn y wlad hon, dywedaf air am danynt yn America—' gwlad eu genedigaeth a'u preswylfod.' Y mae ganddynt ddylanwad politicaidd Hed helaeth —ddigon, meddir gan lawer, i droi y fantol yn yr etholiad. Democratiaid ydyw y Gwyddelod braidd heb eitluiad yn America. Ond ymddengys yn Red amlwg eu bod ar werth yn bresenol,—y blaid a ym- rwyma i gynnorthwyo y frawdoliaeth Ffeniaidd gaiff eu pleidlais hwy. Os bydd i un o'r ddwy blaid addaw talu y pris hwn, achosa berygl nid bychan cyn hir. Ofnir gan lawer, os metha y Democratiaid yn yr etholiad, y bydd iddynt geisio help y Ffeniaid, a gwneuthur terfysg. Modd bynag am hyny, y mae yn anhawdd credu na fydd y gwiberod hyn, a feith- rinir yn y gwahanol Dalaethau, yn achos trallod i'r wlad yn y pendraw. Caniateir iddynt ymbarotoi i ryfel, ac os datguddiant eu nerth mewn dull anny. munol, nid ryfeddodd fawr fydd hyny. Ysgrifenaf y tro nesaf ar -faterion crefyddol. Ydwyf yr eiddoch, &c., D, W. JONES.

Y DDAU LA IS.

YR HEN ARDDWR.