Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y MYFYRWYR, YR EGLVvYSI, A'R…

News
Cite
Share

Y MYFYRWYR, YR EGLVvYSI, A'R GWEIN- IDOG ION. 'I' At Olygwyr y Tyst Cymreig.1 Foneddigion,—Tynwyd fy sylw at ysgrif yn dwyn Ili cl y penawd uchod yn y TYST am Awst 31ain, gan un a eilw ei hun B. M. Nid fy amcan drwy alw sylw ati ydyw gwneud un math o sylwadau, ffafriol neu an- ffafriol, ar yr hyn a ddywedir ynddi, yr wyf yn ber- ffaith gydolygu a sylwadau B. M. mor bell ag y maent yn myned, ond credu yr wyf nad ydynt yn myned yn ddigon pell. Mae ei sylwadau yn dda ac yn deilwng o sylw ar yr ochr nacaol i'r pwnc, ond ni ddywed air ynddi ar yr (i)chr gadarnhaol. Ond gan fod i'r pwnc dan sylw ynddi ei resymau cadarnhaol yn ogystal a'i nacaol, dichon y bydd weh inor hynaws a chaniatau i ychydig linellau eto ymddangos ar y pwnc fel math o ychwanegiad at yr hyn a ddywed- wyd gan B. M. Dywedaf finnau,—'Y mae bod nifer luosog o eglwysi heb weinidogion, a chynnifer o ddynion ieu- ainc heb leoedd, yn rhywbeth sydd yn galw am sylw;' ydyw,ac yn rhywbeth a fyn sylw hefyd y naill ffordd neu y Hall, nis gall barhau fel y mae yn awr. Ni oddef eindynion ieuaine gobeithiol a theilwng eu hammarchu fel y gwneir, ond byddant yn sicro droi i rywle lie y perchir hwy ac y cydnabyddir eu def- nyddioldeb; ac ni all yr eglwysi cryfion sydd yn ymfoddloni heb weinidogion ddal yn hir heb wan- ychu a gwywo. Sylwai gweinidog enwog pertbynol i'r Methodistiaid yn ddiweddar wrth annerch cyn- nulleidfa ar ddyledswydd yr eglwysi at eu dynion ieuainc, mai y rheswm fod nifer yn cilio at yr Eglwys Sefydiedig ydyw, yr oerfelgarwob a ddang- osir gan yr eglwysi tuag atynt. Ac onid yw yn svndod fod cyn lleied o'n myfyrwyr yn troi at yr Eglwys Wladol t neu at rhyw alwedigaeth- arall a allai droi yn elw iddynt wrth ystyried y sarhad- a'r dirmyg a dderbyniant yn fynych oddiwrth rai y bu- asid yn disgwyl iddynt fod yn mhlith y rhai cyntaf i'w parchu a'u cefnogi yn eu gwaith Rhaid mai cariad at yr egwyddorion a broffesant yn unig sydd yn eucymhel1 i aros lie y maent. Druain o'n my- fyrwyr, cyssegrant eu galwedigaethau, eu heiddo, eu hamser a'u talentau i wasanaeth yr eglwysi a der- byniant yn ami y diystyrwch mwyaf yn gydnabydd- iaeth am hyn. Gwir fod eithriadau anrhydeddus, ymddyga lluaws o eglwysi yn ganmoladwy at y myfyrwyr, ond o'r eglwysi gweigion cryfion sydd yn ymddwyn felly tuag atynt, gellir dweyd eu bod yn few and far between. Fel rheol, yr eglwysi cryfaf sydd yn ymddwyn galetaf at y myfyrwyr. Ond at y gofyniad, sef, Paham y mae cynnifer o eglwysi lluosog heb weinidogion, tra y mae cynnifer o fyfyrwyr gobeithiol heb leoedd ? Gweinidogaeth sefydlog a gydnabyddir fel rheol Annibyniaetb, a chredwh mai dyma reol y Testament Newydd, a' dyma yn y rheol fwyaf llwyddianus i gyfarfod,, z, amgylchiadai^^ oes bresenol, ac y mae y ffaith fod eglwysi a honant eu hunain yn Annibynol, eto yn byw ar hyd y blynyddoedd heb weinidogion yn aw- grymu fod diffiyg mawr yn rhywle. (%id atoiwg pa le y mae ^y difEyg hwn yn cartrefu v&li gyda y inyfyrwyr? .Nage, yri^ sicr. Fel y syi^a B. M., gwyddom fod ein. myfyrwyr yn bregethwyr cym- w gwyddom fod ein. myfyrwyr yn bregethwyr cym- meradwy ac yn meddu cymmeriadau diamheuol. Dichon fod eithriadau, ond anfynych iawn. Nid chwaith am fod yr eglwysi yn llwyddo yn well heb weinidogion, fel rheol ni welir llwyddiant ar eglwys tra heb fugail ami, mwy nag y jffiyna diadell yr amaethwr: heb fugail i ofalu am danynt. Rhaid i ni gan hyny droi i rywle arall i chwilio am gartrelle y drwg hwn.. J Credwn fod rhan o hono yn cartrefu yn malchder ac ucnelgaxs yr eglwysi. Gwyddom ana rai eglwysi a ystyrient eu hunain uwchlaw rhoddi galwad i fyfyriwr o'r coleg; aeyn wir ystyrient eu hunain yn hunanymwaGlol wrth ganiatauiddo y fraint (?) o'u gwasanaeth-Li hwy, eglwys fawr, am un Sabbath. Maent yia rliy falcli .1 gymmeryd myfyriwr, ac yn 1% dlawd neu yn rhy gybyddlyd i gael y rieb a ew- yllysient. Clywais ddiacon eglwys yr oedd ei hael- odau yn rhifo tua 300, yn dweyd dan ymffrostio, Rhaid cael llew o ddyn i weinidogaethu ar eglwys fel hyn, ni byddai yn un math o gredit i ni gael rhyw hoglanc dibrofiad o un o'r colegau.' Adt'efwn fod dyn cael profiad yn y weinidogaeth yn gym- m^ysach i fod yn weinidog mewn eglwys fawr, ac eg wys fach hefyd yr un modd, ond nid yw yn un matbo anrhydeddi Eglwys Dduw ddweyd fod yn j Sfel Hew i'w llywodraethu, oud yn iiaC 1 y sar mwyaf ydyw iddi. Onid yw cref- ? ,^n S^neud ei phroh'eswyr yn foneddigaidd & Bl^nnv?U addf"Tn agostyngedig fel eu J 1 ddylai pob eglwys wheud eu goreu i ^.o.in^dog a chynnal ei freichiau i Ota daylai yr. eglwysi cryfion wneud. eu rhan syaa n dymon leuanc drwy roddi lie iddynt weithio 1-1, 4 eu cefnogi a'u nerthu, gweddio drostynt a chyd- ddwyn a hwy yn eu hieuenctyd, gan gofio mai ieuanc ydynt, ac fod yn rhaid i lywun eu magu cyn y deu- ant yn ddynion. Ond ysywaeth fel arall y mae yn bod, rhaid i'r eglwysi gweiniaid fagu gweinidogion i'r eglwysi cryfion. Rhydd yr eglwys wan alwad i ddyn ieuanc ar ei ddyfodiad i'r coleg, gwna ymdreeh mawr i'w fagu yn ddyn. ac wedi iddo gyrhaedd oed- ran gwr yspeilir hi o hono gan un a fo gryfach. Fel hyn, fel y dywed Mr H. Richard wrth siarad ar gyssylltiad yr eglwys a'r Uywodraeth yn Nghymru, sef, fod y tlodion yn darparu ac yn eynnal i fynu eglwys i'r cyfoethogion, gellir d weyd mai yr eglwysi gweiniaid sydd yn meilhrin ac yn dwyn i fyny weinidogion i'r eglwysi cryfion. Credwn hefyd fod rhan fawr o'r bai hwn yn gor- wedd wrth ddrysau y gweinidogion sydd eisioes mewn lleoedd. Hyderaf y goddefir i un sydd heb fod yn perthyn i'r urcld hon ddweyd ei farn yn rhydd a gonest am danynt, a hyny heb na digter na dadl. Byddaf yn clywed llawer o weinidogion yn cwyno fod cynnifer o eglwysi yn dirywio o ddiffyg gweinidogion i ofalu am danynt, tra y mae dynion ieuainc yn'methu cael lleoedd. Ond yn awr, frodyr a thadau os ydych am i ni gredu eich bod o ddifrif gyda hyn peidiweh a bod mor barod i roddi eich gwasanaeth i'r eglwysi hyny. Pe gwrthodech chwi eu gwasanaethu byddai yn rhaid iddynt ofalu am weinidogion eu hunain, ond tra yr eloch i'w gwas- anaethu gallwch fod yn benderfynol na theimlant lawer o awydd am weinidog. Cydnabyddir fod angen mawr ar yr eglwysi sydd yn analluog i gynal gweinidogion am wasanaeth gweinidogion eglwysi eraill, ond os ydych am i'r eglwysi cryfion gynnal gweinidogion eu hunain, ac os ydyeh yn cydym- deimlo a'r myfyrwyr sydd heb leoedd fel yr honwch wneud, gwrthodwch roddi eich gwasanaeth iddynt a chewch weled diwygiad yn hyn yn fuan. Gallwn nodi engreifftiau o'r modd y gormesa yr eglwysi cryfion ar eglwysi gwanach sydd yn ymdrechu eyn- nal gweinidogion drwy eu hyspeilio o'u gwasanaeth mor fynych, a'u cydnabod yn annheilwng am eu i lafur, ond ymataliaf yn awr. Credwyf eto fod y gweddill o'r bai hwn-ae nid ychydig ydyw-yn cartrefu yn y gorawydd anghy- medrol ac anghyfiawn sydd yn nodweddu rhyw ychydig o bersonau mewn eglwysi am gael yr holl awdurdod i'w dwylaw eu huxiain. Nis. gellir cym- hwyso y rheswm hwn at yr oil o'r eglwysi gweigion, ond gellir ei gymhwyso at luaws o honynt, sef y rhai hyny o honynt sydd yn gwbl dan lywodraeth y diaconiaid, a gwyr y I fodrwy aur.' Gwyddom am rai eglwysi, yn neillduol mewn un sir yn Ngogledd Cymru, ag y mae y pregethwyr cynnorthwyol yn atalfa ar eu ffordd i gael gweinidogion. Ni ddy- munem ddweyd dim i iselu na diystyru llafur neb sydd yn ceisio gwneud daioni, ac nid ydym yn hollol ddiystyr o lafur ein pregethwyr cynnorthwy- ol, y maent wedi bod a gallant fod eto, lie byddo prinder gweinidogion, o wasanaeth mawr gyda theyrnas Crist; ond tra y safant ar ffordd yr eglwysi, fel y gwnant yn ami, i gael rhai cymhwysach a mwy derbyniol i'w gwasanaethu rhaid dweyd 'rhwystr ydynt' i'r achos, tynant i lawr fwy nag a adeiladant, Tra byddo eglwys heb weinidog ca y pregethwr cynnorthwyol y fraint o lanw ei swydd mewn rhan helaeth, efe fydd yn blalenori y gjfeill- ach, ac, ond odid, yn gofalu am supplies, a theimla os rhoddant alwad i weinidog y bydd ef yn colli ei swydd, gan hyny yn ei orawydd i ddal i fyny ei urdda, a'i awdurdod gwna bobpeth yn ei allu er atal y bobl i feddwl am weinidog. Urddas ei swydd yw ei benaf peth ef, ac nid lies cyffredinol yr achos. Mwy derbyniol gan y lluaws o'r eglwys fyddai cael gweinidog yn ol eu dewisiad; ond daw y pregethwr cynnorthwyol yn mlaen, a chwyna wrthynt y byddai cynnal gweinidog yn gostus, y gallant wneud fel yr oeddynt ar lai o arian cymmer arno fod yn hynod grefyddol a darbodus, fel Judas yn nhy Simon pan gollwyd y blwch enaint; ond nid am fod arno ofal dros yr eglwys, ond yn hytrach ofn rhag y dygir ei oruchwyliaeth oddi arno. Pel hyn aberthir yr achos mewn rhai manau ar allor uchelgais y pregethwr cynnorthwyol. Ond nid y pregethwyr cynnorthwyol ^Hr-tlhig sydd yn euog o'r camwedd dybryd hwn, ond nodweddir ambell i fiaenor yma a thraw gan yr un ysbryd hunanol, yn enwedig os bydd y swydd o an- fon am supplies wedi ei h<. mddiried iddo. Teimla y bodau hunanol hyn fod rhyw urddas neillduol yn nglyn a chael anfon am bregethwyr, a gohebu a dynion mawr, a gwelant hwythau fel eu brodyr, os ceisir gweinidog, y byddant o angenrheidrwydd yn colli eu swyddi. Eu pwnc mawr ydyw, dal gafael yn eu swyddi, aed lies yr achos lie yr elo eu motto yw, 'My horse-fy swydd! a kingdom for a horse Yn awr, meddyliwyf fy mod wedi enwi y prif res- ymau paham y mae eynnifer o eglwysi heb wein- idogion. Bellach, pa fodd y ceir diwygiad.? Chwi -eglwysi beilchion ac uchelgeisiol, ymddarostyngwch rhag y bydd i ddedfryd y Laodiceaid ddisgyn arnoch. Bydded i chwithau weinidogion warchod gartref a chwithau y blaenoriaid sydd yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, cofiwch reol ac esiampl Crist— bydded i chwi ymwadu a chwi eich hunain;' cof- iwch reol Paul-gwneucl eich hunainyn bobpethi bawb er mwyn lies achos y Gwaredwr. Gwneler y pethau hyn, a che.ir diwygiad buan. Dywedaf wrthych chwithau, aëlodall eiri heglwysi; mynwch eich rights, na roddweh eich gwrau yn I wasaidd dan bob math o iau a osodir arnoch gan rai a.gam enwant eu hunain yn flaenoriaid mewn pethau ysprydol mynweh farnu drosoch eich hunain cof- iwch fod genych bleidlais yn Uywodraethiad' eich achosion eglwysig; agorweh eich Hygaid rhag eich bod yn cael eich twyllo gan rai a honant eu bod yn caru eich lies, Na chredwch bob yspryd, eithr prof- weh yr ysprydion, ai o Dduw y maent; o blegid. y mae gau brophwydi lawer wedi myned allan i'r byd.- ■; Gan liyderu na bydd hyn o ysgrif ar bwnc mdr" bwysig yn rhy faith genycla ei chylioeddi yn gyflawn, gorphwysafamy tro hwn, gan ddiolch i chwi am eich ymdrech gvyda'r TYST i'w wneud in deilwng. Dichon, os caf- amser, y cewch air eto ar hyn. ■; A. B.:C.

•:i—>— -.AJR ri Y NKAITH.-_

.''^ MANION 0 FYNWY. "■ '…

GAIR 0 LANAU'R TEES.

CYMMANFAOEDD YR ANNIBYNWYR.