Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

._.---- ."CYNGHORION I BOBL…

News
Cite
Share

"CYNGHORION I BOBL IEUAINCT. Mr. Gol.Y mae yn debyg fod mwy o feddwl a siarad am garu a phriodi nac am un testyn arall, ac edrychir arno gan luaws mawr fel peth ysgafn a di- bwys. Beth bynag a feddylir am dano, y mae yn sicr nad oes un testyn perthynol i'r byd hwn a'i gan- lyniadau mor bwysig a hwn. Gan fod llawer o bethau yn profi ei fod yn bwysig, fe ddylid bod yn ochelgar a doeth yn ei gylch. Yf ydym yn gweled fod y dynion doethaf yn gwneud felly gyda phob peth pwysig. Oni bai fy mod yn credu fod llawer o bonoch yn ymddwyji yn annoeth iawn yn y petb hwn, ni fuaswn yn ysgrifenu un gair yn ei gylch. Y mae yn debygol pe buasai un o'r merched wrth un ochr. ac un o'r meibion yr ochr arall i mi, tra yn ysgrifenu y llinellau hyn, y buasai y naill ryw yn rhoddi y bai i gyd ar y llall, ac yn fy rhwystro innau i fyned gam yn mhellach. Y mae yn ffaith fod llawer o'r trueni sydd yn y byd yn cael ei briodoli i ymddygiadau ffol ac annoeth caru a pliriodi; pe yr ymddygid yn ddoethach yn y peth hwn, rhagflaenid llawer o ofid a thlodi, hyd yn oed yn ein mysg ni, y Cymry. Anwyl ieuenctid, y mae yn Ilawn bryd i ni wella yn y peth hwn ac hyd hyny, ychydig o obaith sydd am ein dyrchafiad fel cenedl, er cymmaint o ymdrech sydd yn cael ei wneud gan ddynion da y dyddiau hyn. Gan fod cymmaint o ofidiau yn codi o'r fan yma, goddefwch i mi geisio genych beidio a chelhv air gyda theimlad- au eich gilydd. Y mae hyn wedi creu llawer o ddig- ofaint a dialgarwcli yn y naill at y llall, ac wedi ar. wain rhai i'r gwallgofdy, eraill i'w bedclau cyn eu hamser, ac arwain y lleill i drochi eu dwylaw yn ngwaed eu gilydd. Yr oeddwn yn gwybod am fab a merch ieuanc oedd unwaith yn cadw cwmni i'w gil- ydd, ac wedi myned mor bell a gwneud ammod priodas ond rywfodd, fe dorodd y gwr ieuanc ei addewid, ac a adawodd yferch rnewn tristwch mawr. Dywedodd y fereh ieuanc hono ei bod wedi ei medd- iannu a'r fath deimladau, fel y gallaasai ei ladd ef a'i dwylaw ei liun. Dyna ferch ieuanc mewn sefyllfa anghysunis, onite ? Fe allai fod rhai o honoch yn barod i ddyweyd mai dynes greulawn iawn oedd. Nag e, yn wir; yr oeddwn yn ei hadnabod yn lied dda a chyn belled ag y gallwn i farnu, yr oedd yn un o'r rhai tyneraf a welais erioed. Dyna un eng- raifft o fysg llawer sydd yn cymmeryd lie yn mhlith ieuenctyd Cymrn. Gan hyny, cymmerwch y cy- nghor yn garedig. Nid wyf yn ceisio genych garu llai, ond ei wneud yn ddoeth, a rhoddi ei le priodol iddo, fel ac i bob peth arall. Dywedaf air yn gyntaf wrth y meibion. Yn gyn- taf oil, carwck o ddifrif; byddwch yn foddlawn ar un ar yr un pryd, ac yn ffyddlon i hono. Dyma fel y deuwch yn wyr ieuainc parchus, ac yn ddedwydd ynoch eich hunain. Gwelsom ambell un yn rhedeg ar ol un un wythnos, ac ar ol y llall yr wythnos wedi hyny, ac hwyrach y drydedd wythnos heb yr un, a'i boll gydnabyddion wedi colli eu hymddiried ynddo. Un arall yn myned i anfon merch ieuanc adref o'r capel, neu o rywle arall; ac wrth ddychwelyd yn cyfarfod ag un arall, ac yn troi yn ol gyda hono dra- chefn, ac hwyrach felly hyd y drydedd a'rdedd, beawr ac yn gwneud addewidion gyda phob un o honynt, r' a rliwymo a chelwyddau, byd siwr. Arferiad cy- ffredin ein trefydd ydyw y rliai yna. Ac ambell i 1\> ieuanc arall yn ymbleseru mewn. tynu serch y merched ato, ac yn cymmeryd hyny yn nod o ddifyr- well. Arferion gwael iawn yn wir. Y mae yn deb- ygol iawn mai y rhai yna gaiff y merched salaf yn wragedd. Nid oes dim llawer o gwyn iddynt ychwaith. Gwaith drwg iawn yw twyllo y naill y Hall. Yr wyf yn meddwl y dylai fod perffaitk ddeall- dwriaeth rhwng y naill a'r llall ar y cychwyn, ei mwyn iddynt wybod ar ba dir y maent yn sefyll. Nid wyf yn ei gweled yn deg i'r gwr ieuanc gadw y gyfrinach iddo ei hun am lawer o fiyinyddoedd, fel rly y gwna rhai. Clywais rai yn dvweyd, ar ol bod yn canlyn merched am rai blynyddoedd, nad oeddynt byth yn meddwl eu priodi, ond yn unig eu bod yn hoffi eu ewmni weithiau er mwyn difyrwch. Y mae yn debygol iawn fod y merched yna yn meddwl yn wahanoi am danynt hwy, ac felly yn cael eu twyllo. Pa ddyn ieuanc a hoffai ymddygiad fel yna tuag ato ef. Y mae cyfeillacku ar delerau yn chwareu teg o bob tu; ac fe allai yn ddiogelwch rhag llawer o dwyll ac angliydfod. Er hyny, fe ddylech fod yn bwyllog iawn wrth amlygu eich xneddyliau y naill i'r llall, a chymmeryd digon o amser i fesur a phwyso pcthau yn nghlorian y deall a'r rheswm ac heb law hyny, cofiwch eich bod yn agored i newid eich meddyliau yn ami, ac fod amgylchiadau cyfreithlawn weithiau yn tori y cyfeillganvch puraf. Yr oeddwn yn adnabod dau a fu yn cadw cwmni i'w gilydd am flynyddoedd. Clywais y gwr ieuanc yn dyweyd ei fod mor hoff o wrthddrych ei serch fel y gallts-,ti wneud pob aberth yn ei allu er ei mwyn, ac wedi bod yn y teimlad yna am agos i chwe blynedd o am- ser. Ond wedi hyny, daeth cyfnewidiad yn ei feddwl a'i deimlad, nes o'r diwedd fod yn gas ganddo ei gweled a ehlywed son am dani, ac nad oedd ganddo un rheswm boddhaol iddo ei hun am hyny. Y mae pethau fel yna yn cymmeryd lie weithiau. Pwy fuasai yn cyfrif y dyn hwn yn ddoeth am ei phriodi yn y sefyllfa yna. Neu, pwy o honoch chwi y merched a fuasai yn hoffi priodi dyn yn meddiannu teimladau fel yna tuag atoch. Gan hyny, na'fydd wch mor ddialgar y naill at y llall, pan ddigwyddo fod rhyw amgylchiad fel yna yn cymmeryd llerkyng- och. Amcan penaf pob gwr ieuanc mewn perthynas a'r pwnc hwn ddylai fod, chwilio am wraig iddo ei hun. Y mae yn ddiau fod llawer o ferched diwertb iawn fel gwragedd. Y mae yn sicr fod llawer o fai ar y mamau yn y peth hwn. Yr wyf yn meddwl fod mamau yr oes hon yn fwy esgeulus o ddysgu eu merched i fod yn wragedd da na'r hen famau y dydd- iau gynt. Yr wyf yn credu mai y ffordd fwyai effeithiol i ddyrchafu y genedl ydyw, dysgu y merch- ed i fod yn wragedd a mamau da. Gochelwch y merched balch rhodresgar, a'r rhai sydd yn siarad yn isel am bawb, ac yn hoffi chwedlau. Y mae per- ygl yn nglyn a hwy. Ond am y ferch rinweddol, .gwnewch yn fawr o honi, a pharchwch hi yn mhol1 modd. A cliwithau y merched, yr wyf yn gwybod gormod o'eh hanes i ganmol llawer arnoch yn y peth hwn. Nid wyf yn meddwl eich bod yn well na'r llanciau o ran egwyddor. Fe allai fod diffyg gallu o'ch plaid chwi weithiau; ond ychydig ellwch orchestu am hyny. Y mae dosparth o ferched nad all yr un gwr ieuane siarad a hwy heb ei fodyn eu caru yn union. Pe digwyddai i ryw wr ieuanc gydgerdded a rhai c honynt am hanner can-llath, a siarad yn gyfeillgat a hwy, dywedent wrth bawb bron eu bod wedi cael cariad wrth ddyfod o'r fan a'r fan; ac os na ddaw y gwr ieuanc hwnw yn mlaen, bydd wedi gwneud tro budr iawn, a gwae fydd iddo am wneyd ffwl o honi. Y mae ryw ffolineb fel yna yn perthyn i rai. Gwel. som ambell un arall Wedi myned a serch rhyw wr • ieuanc heb fawr o gariad ato;" ond dangosai ffug pan y byddai eisiau ei thretio i de, neu ddarlith, a'r cyffelyb ac os c'ai afael ar rywun arall wrth ddyfod adref, cai y tretiwr, druan, ei droi o'r neilldu. Ym- ddygiad anonest yn wir. Y mae yn anmheus genyf a gai y ferch ieuanc yna wir barch gan neb. Y mae hanes rhai o frawdlysoeddsiroedd Cymru y dyddiau diweddaf yn dangos mai gwaith peryglus ydyw cell- wair a theimladau y naill y llall. Os ydych am wyr da, gwrandewch gyfrinach y dynion ieuainc goreu. Clywais hwy yn siarad cryn lawer ar y pwnc hwn. Rhywbeth fel hyn fyddai,—eu bod yn hoffi merched syml a dirodres, yn lan ac yn drefnus, yn siarad yn barchus am bawb, yn gynnil, a chanddi ddeg swllt yn y bane ar ol talu ei ffordd, a natur dda, &c.; ac os na bydd rhai o honynt yn treio am danoch, gell- weh gasglu nad ydych i fyny a'i safon. We], rhag ofn fod y merched yn dechreublino son am garu o'r fath yma, dywedaf air am briodi. Y mae yn ddiamheu eich bod oil yn meddwl byw yn ddedwydd ar ol priodi. Gobeithio y byddwch ond cofiwch fod yn rhaid i chwi fod yn dda cyn y gell- wch fyw yn ddedwydd. Mae yn ofynol fod llawer o bethau yn cydgyfarfod er cyrhaedd y nod yna. Un peth angenrheidiol ydyw, fod cariad cryf yn y naill at y llall. Y mae rhai yn priodi o ryw fath o orfod- aeth; eraill er mwyn arian, a rhieni a pherth vnasau yn priodi y lleill. Nid oes genych un lie i ddisgwyl hapusrwydd ar ol priodi heb fod hoffder yn y naill at y llall. Rhyw elfen ryfedd yw cariad; y mae yn gwneyd i fyny bob diffyg o'r bron. Y mae yn debyg fod rhieni a phertbynasau wedi ymyraeth gormod yn y peth hwn. Nid yw yn ddoeth priodi yn rhy ieuanc, nac aros yn rhy hen, fel ambell i hen lane rhwng blys ac ofn trwy ei oes. Yr wyf yn meddwl na ddylai neb briodi heb fod yr amgylchiadau yn ffafriol i hyny. Gadawaf ar hyn y tro hwn, gan ddymuno llwydd- iant i'r TYST i ddysgu rhinwedd a moesoldeb i ni fel cenedl. Ydwyf, eich ewyllysiwr da, J. J.

EGWYDDORION PABYDDIAETH.

Y CASGLIAD DWY GEINIOG, AC…

GAIR AM YR EISTEDDFOD.

YR HEN DEILIWR.

CYMMANFAOEDD YR ANNIBYNWYR.