Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

----lewyddiou rnmor.

News
Cite
Share

lewyddiou rnmor. Cynhadledd Heddwch yn Geneva.-Dechreuodd cynhadledd heddwch o natur hollol newydd yn Geneva, wythnos i'r Llun diweddaf, o dan lyw- yddiaeth Garibaldi. Dywedodd ar y cyntaf el 10dyn caru heddwch; ond cyn mwynhau hyny, fod yn rhaid iddo gael gweled cwymn y Babaeth, a diorseddiad yr holl ormesdoyrniaid—digon o orchwyl i gadw y byd mewn rhyfel am oes pawb oedd yn ei wrando. Nododd M. Lemonnier amryw bethau eraill yr oedd yn rhaid eu cael cyn cael heddwch cyffredinol—yr oedd yn rhaid cael gwerin-lywodraeth gyffredinol, a mabwys- iadu egwyddorion y chwyldroad. Y diwedd fu i ryfel dori allan yn Nghynhadledd Heddwch, ac i Garibaldi gymmeryd ei het a myned allan, a gadael y ddinas yn ddirgelaidd. Y mae yn bur ainlwg eu bod wedi rhoi cam enw ar y gynhadl- edd. Edrychai awdnrdodau Ffrainc gyda llygaid gwgus iawn arni. Y Gwrthryfel Oretaidd.—Y mae y Sultan wedi oyhoeddi maddeuant i'r gwrthryfelwyr trwy yr holl ynys, ac y mae yn caniatau amser iddynt roi eu harfau i lawr, ac ymfudo. Brenin Groeg.—Dywed gohebydd y Glolie o Paris ei fod yn cael ei sibrwd yn gryf fod y brenin ieuanc hwn am ymwrthod a'i frenhin- iaeth. Os gwir hyn, gall beri dyryswch yn ei briodas a merch Ymherawdwr Rwssia, a bydd yn gwestiwn o gryn bryder beth a wneir a Groeg. Y Gwrthri/fel yn yr Yspaen.—Ymddengys fod y gwrthryfel hwn wedi ei ddarostwng ar hyn o bryd. Dywed boneddwr Yspaenaidd sydd new- ydd gyrhaedd Paris, fod canoedd o bersonau o bob gradd yn cael eu halltudio i Fernando Po, a sefydliadau afiach eraill, ac mai amcan yr awdur- y doclau ydyw llwyr ddadwreiddio y rhai anfoddog. Y mae y Frenhines yn llwyr o dan ddylanwad y Jesuitiaid, a dywedir fod hyd yn oed Narvaey yn wrthwynebol i gymmaint o greulondera (Jholera yn Malta.—Deallwn fod y cholera wedi tori allan yn mysg y milwyr a'r dinaswyr y 11 yn Malta, ond tybid eu bod yn ilelhau i raddau. Chwyldroad yn Hayti.—Y mae chwyldroad wedi cymmeryd lie yn y wlad hon yn erbyn awdurdod y Cadfridog Stilnave, yr hwn a ddy- wedir sydd wedi dianc. Y mae y cynllun i uno St. Domingo a Hayti yn ennill tir. Ymosodiad cto ar (Janada.— Dywed y New York Herald fod y Ffeniaid yn parotoi i wneud ail ymosodiad ar Canada. Goruehajiaeth fa wr gan y Braziliaid.—Y mao y rhyfel rhwng Brazil a Paraguay wedi ail dde- chreu o ddifrif, a chafodd y Braziliaid oruchaf- iaeth o bwys yn Matto Goso, ac y maent wedi ail gymmeryd Combra. Syrthiodd holl fyddin Paraguay yn y lie i'w Haw; lladdwyd yr un oedd yn ei llywyddu. Cymmerasant lawer o ynau ac arfau rhyfel. Kliyddliawyd, modd bynag, 500 o'r carcharorion. Garibaldi a ffliufain.—Y mae Garibaldi wedi cyrhaedd i Florence, i vmgynghori a'i gyfeillion seneddol. Anfonwyd anerchiad ato o Rufain, i'w hysbysu fod y parotoadau i chwyldroad llwyr ar fod yn barod, ac yn erfyn am ei gymborth. Ateba yntau trwy sicrhnu y cant gymhorth yr Italiaid, ac am iddynt fyned yn mlaen i weith- redu. Dywed un o newyddiaduron Paris fod Llywodraeth Itali yn benderfynol o ddefnyddio mesurau cyfreithiol ee ei atal, os a yn mlaen i gynhyrfu.

turyddio1 yttttdhxnt.

MAN NEWYDDION.

-----------AGORIAD CAPEL NEWïDD…