Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

AT YR ANNIBYNWYR CYMREIG.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

AT YR ANNIBYNWYR CYMREIG. Anwyl Gyfeillion,—Dymunaf alw eich sylw neillduol at y TYST CYMREIG. Mae genyf ym- ddiried yn eich hynawsedd, y derbyniwch y llythyr hwn yn garedig, ac y rhoddwch iddo y sylw a deilynga. Yr ydwyf yn un ohonoch o gydwybod a chalon, yn gwir ddymuno eich llwyddiant, a llwyddiant yr egwyddorion a bro- ffeswn fel Annibynwyr. Mae Oyhoeddiadau chwarterol, misol, a Newyddiaduron wythnosol yn ein gwlad wedi bod yn gefnogaeth i lenydd- iaeth, rhinwedd, a chrefydd i raddau helaeth. Eto teimlai llawer o honom fod arnom ni fel Enwad crefyddol angen am newyddiadur wyth- nosol er egluro ac amddiffyn ein hegwyddorion, a chyhoeddi ein hanesiaeth, ac felly i fod yn offeryn parhaus i gadw egwyddorion rhinwedd, rhycldid, a chrefydd, yn fyw yn ein calonau. Oddiar y teimlad hwn penderfynodd rhyw nifer o honom o wahanol barthau Cymru a threfydd yn Lloegr, i gychwyn Newyddiadur Wythnosol 0' c" f at ein gwsanaeth yn neillduol fel Enwad cref- yddol. Nid drygu na Ohyhoeddiadau eraill, na Newyddiaduron eraill oedd ein ham can, ondcael Newyddiadur wytlinos-il. i fod at ein gwasanaeth fel Enwad yn neillduol, yr hyn a farnem yn wir angenrheidiol. Wedi dwys ymgynghoriad gan y rhai a gyfarfyddasant i ystyried y mater, pen- derfynwyd cychwyn y TYST CYMRETG, Mae wecli ei gychwyn. Mae ei gynnwysiad a'i ym- ddangosiad hyd yn hyn wedi bod llawn cystal ag y gallesid ddisgwyl. Mae yn casglu nerth, yn ychwanegu cryfder bob wythnos, ac 08 ca y gefnogaeth a ddylai gael genych yn gyffredinoi, 11 9 bydd yn sicr o wneud gwaith mwy a phwysicach i ni fel Enwad crefyddol a'n gwlad yn gyffrecl- inol, nag a allodd v galon wresocaf yn ei gych- wyniad ddisgwyl iddo i wneud. Fy amcan i yn y llythyr hwn ydyw eich annog i roddi pob cefn- ogaeth a alloch i'r TYST. Ma fydded lienor, bardcl, swyddog, pregethwr, na gweinidog, a berthyn i'r Enwad heb gymmeryd dyddordeb ynddo, a rhoddi cynnorthwy iddo. Na fydded cronglwyd lie preswylia Annibynwyr dani heb iddo gael croesawiad calon i mewn, a sylw teil- wng wedi dyfod i mewn. Profwn trwy gycl- weitlirediad calonog gyda'r TYST, ein bod o un galon fel Enwad trwy Gymry a threfydd Lloegr. Nid heb resymau dros yr apeliad hwn yr wyf yn ei wneuthur a dyma rai o honynt:— 1. Amcanion cyfodiad TYST. Tyst o'ch ochr chwi ydyw, ac nid yn eich erbyn. Os tystia yn erbyn pethau nad ydynt deilwng a allanfc fod yn eich plith, bydd hyny yn dda, ac yn anrhydedd iddo fel TYST cywir a gonest. Ond tystia o blaid yr egwyddorion a broffeswch fel crefydd- wyr a gwladwyr. Amcana eich difyru, .eich diddanu, eich goleuo, eich cadarnhau, a'ch am- ddiffyn bob amser pan fydd angen. Efe a wna i chwi les ac nid drwg, holl ddyddiau ei fywyd. Llawer cyhoeddiad a weiihiodd yn rymus, ond amcana y TYST ragori arnynt oil. 2. Agosrwydd ci berthynas i chwi. Eich TYST chwi ydyw. Er eich mwyn chwi yn benaf y cafodd ei ddwyn i fodolaeth. Mae wedi ei sef- ydlu ar egwyddor raor eang, rydd, ac agos fel y gall pawb o honoch feddu rhan ynddo os ewyll- ysiwch. Anogir chwi i gymmeryd shares ynddo ac felly i gael llais yn yr oil a berthyn iddo. Nid perthyn i rai o honom fel Enwad y.mae, ond i bob un yn yr Enwad os ewyllysia. Rhaid oedd i ryw bersonau gychwyn, ac felly gwnaeth amryw o honom. Anturiasom roddi ein harian i'w gychwyn. Cymmerodd un boneddwrnad yw o'n cenedl ni werth £ 50 o shares ynddo, a hyny o wir gariad atom fel cenedl, ac o frwdfrydedd calon at yr egwyddsrion a broffeswn fel Enwad. Nid er mwyn elw y cymmerodd neb o honom gyfranau o'r TYST, ond er mwyn ei gael i fod, ac er mwyn y gwasanaeth mawr a daionus a ddis- gwyliwn iddo wneud. Pe cymmerai deg cym- maint eto o honoch gyfanau (sliai-es) ynddo byddai y cyfhfoldeb yn ddeg llai arnom oil nag ydyw ar y rhai sydd yn gyfrifol yn bresenol. 3. Y wasanaeth a gynnygia wneud i chwi. Mae yn cynyg yn haelfrydig i gyhoeddi hyspysiadau o'ch cyfarfodydydd undebol sirol, a'ch cymman- faoedd blynyddol, yn rhad. Heblaw cludo cyn- cynnyrchion eich meddyliau i bob cwr o'r dy- wysogaeth, &c., eglura ac amddiffyna eich eg- wyddorion crefyddol a gwladol. Oyhoedda bob hanesion dyddorol a berthyn i chwi, a rhydd yr holl gefnogaeth fydd yn eiallui bob symmudiad daionus fydd yn ein mysg. Gwna i chwi wasan- aeth deilwng os rhoddwch iddo gefnogaeth. 4. Rhadlonrwydd ei wasanaeth. Mae wedi dyfod i bob ardal, ac i law pawb o'i dderbynwyr bob wythnos, ac wedi gwneud ei holl wasanaeth am un geiniog yr wythnos Os meddylia neb ei fod yn ddrad dymunwn argyhoeddi y cyfryw. Ni ellir anfon ond pedwar o hono drwy y Post am geiniog, wyth am ddwy geiniog. Dyna ffyr- ling o draul cludiad ar bob un, felly nid oes ond tair ffyrling ar gyfer talu am y papur, y cysodi, yr argraffu, y pacio, a'r holl waith sydd i'w wneud i'w gael i ddwylaw ei dderbynwyr, Ni feddylia neb gonest chwaith y dylai y rhai a roddant amser a llafur i'w olygu roddi eu gwas- anaeth am dditn. Y gwir yw mae ceiniog yr wythnos yn rhy fach am y TYST iddo allu gwneud yn dda iel y dywedir. Mae cyffredinolrwydd ei gylchrediad yd anfantais i hyn oblegyd y draul i'w anfon gyda'r Post. Rhaid hefyd i'w ddos- barthwyr gael eu cydnabod am eu gwaith. Bum -h yn edrych yn fanwl yn ddiweddar dros y pethan nyn gyda ei Olygwyr, ac erbyn gwel'd y cwbl, syndod i mi mi ydyw os gall fyw ar geiniog yr wythnos. Diolch i'r Parch. T. Rees, Maen-y- grses, am gynnyg codi ei bris. Pe cytunai pawb o honom ei godi i geiniog a dimau yr wythnos gallai wneud mwy o waith, a byw yn fwy cysur- YS- RHAID cael mil ahanner mwy 0 dderbynwyr lado cyn j bydd ar dir hollol ddyogel. Weini- dogion, pregethwyr, diaconiaid, a holl aelodau yr Annibynwyr, a wnewch chwi roddi y gefnogaeth a deilynga y TYST CYMREIG. Parch i chwi ok gwnewch. Penmain. E. HUGHES.

CARCHAllORION ABYSSINIA. i"r;

BRENHIN YR AIPHT A'I ATHRA…

gitrdilauiirctlt.

PEDWAH ENGLYN

PENNILLION

{totMghut it g.

[No title]