Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

MANION 0 FYNWY.

CYHUDDIAD HYNOD GAN OFPEIRIAD.

BALA.

Unuinn.

YR HEN DEILIWR.

News
Cite
Share

efe. Mae y dysgrifiad a rydd efe o hwnw yn ber- :ffaith gymmwys i Hen Dwrne adwaen i yn dda, a gallwn adrodd am gastiau a thriciau na hoffai y gwr hwnw i neb en codi i'r gwynt. Cenfigen ei galon a barai iddo gyfeirio at Mr. Johnson, y President. Ni fynwn i geisio amddifiyu hwnw ar gyfrif yn y byd, ond nis gallaf lai na gweled mai gwenwyno y mae yr Hen Dwrne bod teiliwr wedi myned o flaen ei holl frodyr y twrneiod yn America, ac yn ben arnynt oil. Am ei gyngliorion i mi cadwed hwynt nes af i ymofyn am danynt, a bydd ef a minau gryn lawer yn hynacli cyn y cymmer hyny le. Y mae arno fwy o eisiau dal ar y cynghor i edrych ar ol ei fisness ei hun noc sydd arnaf ft. Bellacli, wedi taflu yr Hen Dwrne oddiar y ffordd, mi af yn mlaen a'm stori. Bum yn gweithio gyda Huw Prys am o ddwy i dair blynedd wedi i mi fwrw fy mhrentisiaetli, fel y dywedem. Gwelais arnryw fath ar bobl yn hyny o gylch byclian yr oeddwn i yn troi ynddo, fel y sylwais mewn llythyr blaenorol. Yr oedd ambell i deulu paganllyd, tywyll. athraenus iawn i' cael yn eiu gwlad y dyddiau hyny. Yr oedd teulu nodedig felly yn byw yn ond hwyrach mai gwell fyddai peidio enwi y lie; mae perthyn- asau i'r teulu yn byw yn awr, ac yn bobl barchus iawn. Yr enw oedd gan fy meistr ar y ty hwnw oedd I Uffern ar yddaear; a Nefoedd ar y ddaear' y galwai ffermdy cyfagos iddo efe oedd teiliwr y nef a'r uffern ddaearol hyny. Dygwyddodd i ni un tro gael galwad i'r ddau le ar yr un pryd. Dewisodd meistr fyned i'r uffern ar y ddaear yn gyntaf, 'Bydd yn gysur ini feddwl tra byddom yno,' meddai, y cawn fyn'd i'r nefoedd ar ol gorphen ein job yno, ond ped elem i'r nefoedd yn gyntaf, byddai'r meddwl fod yn rhaid i ni fyned i'r lIe arall wed'yn yn ein rhwystro i fwjiihau ein nefoedd yno tra y byddem ynddi. Bore y dydd cyntaf yr aetliom yno, fel yr oeddym yn agoshau at y ty, safodd meistr ar y ii'orad gan ddwys ocheneidio; yna tynodd groes a'i fys ar draws ei dalcen a'i fynwes. 'Ymgroesa dithau,' eb efe wrtliyf fi. I I beth,'gofynwn irati. 'I beth,' eb efe, ai ni wyddost dy fod yn safn uffern!' Coclodd gradd o arswyd arnaf ar y pryd; gwyddwn mai croes iawn i yspryd ae arfer fy meistr oedd dweyd dim yn ddrwg am dy neb credwn y rhaid fod rhyw ddrwg evehyll yn y ty hwnw pan ddywedai efe y fath beth am dano, ac nid hir y bum heb weled a phrofi hyny. Yr oedd megis rhyw falldod neu felldith i'w gweled ar bawb ac ar bobpeth yno ar yr olwg gyn- taf, ond pan ddaeth y teulu at eu gilydd i frecwest ytorodd hi allan yn fellt a tharanau, a daergrynfaau, a chenllvsg, a than. Yr oedd yno chwech o blant or chwech hyd y pymtheg oed yn eistedd wrth yr un bwrdd a mi, a meistr yn eistedd gyda'r gwr a'r wraig wrth fwrdd bach gerllaw y tan. Gyda'n bod yn dechreu bwytta aeth yn ymrafael rhwng dau o'r plant wrth y bwrdd; taerai un fod y llall wedi cym- meryd ei bicyn ef, cymmerodd y lleill ran yn yr ym- ryson, rhai bob ochr; aethant i glustiau a gwallteu gilydd, gan guro, a chripio, a brathu, a rhegi y naill a'r llall yn arswydus. Taflodd un ei bicyned potes i wyneb un arall, a dyna lie yr oedd hwnw yn ysgreeh- ian fel mochyn dan y gyllell. Taflodd un o honynt un arall ar fy nhraws i fel y syrthiais ar fy nghefn dros y fainc, ac y dymchwelodd fy mhicyned potes am fy mhen nes yr oeddwn wedi fy banner ysgaldio. Erbyn i mi gael fy nhraed o tanaf yr oedd y fam wedi codi ar ei thraed fel dreiges, yn crochwaeddi, yn ysgyrnygu, ac yn rhegi y plant yn ddychrynllyd; rhoddai fonclust i un, hergwd i'r llall, a chic i'r trydydd, a rheg fawr ar y pedwerydd; ac yn yr am- ryfusedd rhoddodd gernod i minnau yn ochr fy mhen nes oedd clych yn fy nghlustiau a gwreichion tan- llyd yn neidio o'm llygaid. I ychwanegu y terfysg ey franogocld tri o gwn oedcl ar yr aelwyd o yspryd yr ymrafael, a dechreuent gyfarth a'u holl egni, a chan ddilyn esiampl y plant, aeth dau o honyr.t i ymladd a'u gilydd rhuthrodd y llall i'r gath gan ei sgyrian yn ffyrnig, nes oedd yn gwaeddi am ei hoedl. Cododd y gwr yntau oddiwrth y bwrdd a dechreuodd ffonodio y cwn a dwrdio y plant. Beiai y wraig ei bod yn gwneud cam ag un o'r bechgyn, mai un arall oedd ar y mwyaf o fai. Aethant liwy- thau i ffraco a rhegi eu gilydd eto; taflodd y wraig gwpanaid o de i wyneb ei gwr, a rhoddodd yntau gic iddi hithau. Ar hyn neidiodd meistr ar ei draed a rhedodd allan, a rhedais inau allan ar ei ol ac allan y buom nes aeth yr helynt trosodd a dyna'r frecwest a gawsom y bore hwnw. Nid af fi ddim i mewn i'r uffern yna eto,' ebe fi wrth meistr; tyr'd, tyr'd,' ebe fe, nid oes yma lawer o waith trwy dru- garedd, ni a orphenwn y cwbl mewn deuddydd neu dri.' Ond yr oedd meddwl bod am ddeuddydd neu dri yn y fath le ofnadwy yn ddigon i dori calon un- dyn. Erbyn i ni fyned yn ol i'r ty, yr oedd y storm wedi gostegu, y plant wedi ymwasgaru, y gwr wedi myned i'r maes, a'r wraig wrth ei hunan yn y ty, ae yn ymddangos fel pe na buasai dim yn neillduol wedi digwydcl. Aeth y gweddill o'r diwrnod heibio yn lied dawel, gyda'r eithriad o dyngu a rhegi ar brydiau bwyd. Dyna fel y byddai y teulu yn ben- dithio ac yn talu diolch am eu beunyddiol ym- borth. Yr oedd meistr a minnau yn tynu dau bwyth am un tra buom yno, er mwyn prysuro i orphen ein gwaith a chael ymwared o'r lie poenus hwnw. Tridiau y buom yno, a gwelais lawer ysgarmes yn ystod y tridiau hyny, ond nid un mor ofnadwy a'r gyntaf. Yr oedd un o'r dyddiau yn wlyb a dryg- hinog iawn, a'r gwr gyda ni yn y ty y rhan fwyaf o'r diwrnod. Ar ryw ymddyddan sylwodd meistr wrtho, Ni byddaf byth yn eich gweled chwi yn y capel, hwn a hwn.' Wei na fyddwch debyg, ac ni welwch chwi na neb arall monwy yno byth,' eb efe; 6 mi fydde dda gen i tae pob capel sy'n y wlad yma wedi mynd ar dan. Mi fydda'n mynd i'r eglwys weithie, ond tydwi'n hidio dim am yr eglwys chwaith, ond lydwi'n leicio'r person, gwladwr braf ydi 0; mi steddiff gyda ni yn y dafarn, ac mi botith i chalon hi fel nine, pan ddigwyddo i ni daro wrth ein gilydd. Mi ges i ran o beint ganddo fo lawer gwaith, ac mi fydda i'n leicio mynd i ddangos fy ngwyneb yn yr eglwys weithie er i fwyn o.' 'Felly,' ebe meistr, a gofynai A oes genych chwi Feibl yn ty ?' Beibil!' ebe y gwr, nag oes yma, ni fu yma Feibil erioed, ac ni ddaw ymayr un byth os gwela i o. Nid oes yma neb feder ddarllen, a phe dase, y mae genon ni rywbeth rheitiach i'w neudna darllen y Beibil.? Peidiwch a dweyd fel yna,' ebe meistr, 'fe (Idylai y Beibl beth bynag fod yn mhob ty, ac f ddylal pawb ddysgu ei ddarllen o, beth bynag f ont heb ddysgu. Y Beibl sy'n dysgu sut y dylem fyw yn y byd, alr ffordcl i gael dedwyddwch yn y n Mi wn i sut i fyiv yn well nag y gall y Beibil ddysgu imi, debig gen i,' ebai yntaii; 'ydech chi'n meddwl Huw y gnawn i fyw wrth lyfr? Dyna wn a hwn (cymmydogiddo), mae o wedi cym'ryd ynisiol ifiarmio wrth lyfr, mae o a'i drwyn yn i iyir o r bore gwyn tan y nos, ac yn gneudpobpeth— in y tn, a thrin i anifeilied yn ol cyfarwyddyd y Ilyfr, ac mae 'i lyfr o wedi ei yru o i goste mwy na mwy, ac ni chaiff o byth mo'i arian yn ol; mi fydd wedi myn'd trwy'r cwbwl fedd oyn bur fuan, o achos i hen lyfr gwirion o. Ni weles i ddim graen erioed ar neb fydde'n gneud pethe wrth lyfr, a nghred i ydi, y base'n dda iawn i'r byd yma pe na base neb yn meant darllen o'i fewn o. Na,ua,chaiffyruTillyfr fy nysgu i beth bynag, sut i fyw na sut i drin y tir, a tawn i yn eich gweld chi, Huw, yn mynd i dori a phwytho wrth lyfr, ni chaech chi roi pwyth byth yn y nhy i beth bynag, rwi'n deud i chi.' Wei, wel,' ebe meistr, rhaid i chwi a minau sefyll i'n barnu wrth lyfr ryw ddiwrnod, a'r hen Feibl yma fydd y llyfr hwnw hefyd.' Os daw byth alwad arna i,' ebe yntau, mi ddeyda i na ddarllenais i erioedmoir Beibil, a na fedrwn i ddim darllen chwaith, a mi fydd hyny yn ddigon ar y pwnc ene.' Na fydd hyny ddim yn ddigon y diwrnod hwnw, os ydyw'n gwneud y tro heddyw, na fydd ddim yn ddigon i neb fydd wedi cael cyfieusderau i ddysgu darllen, a chael y Bibl yn eu cyrhaedd yn eu hiaith. Mi 'rydwi'n talu i bawb ei ofyn; a nid eis trwy'r un lidiart erioed heb 'i chau hi ar f' ol," eb y gwr, a mae hyny yn fwy nag all y rhan fwyaf o bobol y capeli yna ddvveyd a be sy gen neb ddim arall i'w ofyn i mi." Hyss," ebai Huw, ac ymollyngodd i bwytho a'i holl egni. Yr oedd ef a minnau mor llawen a'r "Fwyalch yngelli," wrth ymadael ar ol gorphen ein job yno. Nid llawer o deuluoedd o'r fath hwnw, oedd i'w cael yn y wlad, ond yr oedd ambell i un yma ac acw hyderaf nad oes cymmaint ag un o'i gyffelyb i'w gael yn awr trwy holl Gymru. Yr oedd yr efengyl heb hvyr ddarostwng y wlad, ac lsgolion Sabbathol ond lied anaml, yn y dyddiau hyny. Ychydig iawn y mae y gcnhedlaeth bresenol yn ei feddwl, pa mor ddyledus ydyw i bregethu, ac i'r Ysgol Sul, am gys- uron cymdeitliasol a theuluaidd heb son am ddim arall; canys oni buasai eu dylinwad hwy, rhywbetli tebyg i gyflwr truenus y teulu y cyfeiriwyd ato, fuasai cytlwr y rhan fwyaf o deuluoedd ein gwlad yn awr. Yr Eiddoch, &c., Yn HEN DEILIWE.