Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

MANION 0 FYNWY.

News
Cite
Share

MANION 0 FYNWY. (Jyfarfod Mtsol Green, Rhymni.—Cynnaliwyd y diweddaf yn Machen, am 2 a 6 ddydd Mawrth diweddaf. 0 herwydd amgylchiadau nas gall- esid eu gochel, ni ddaeth ond dau weinido0* i'r cyfarfod hwn, sef y Parchn D. Jones, New Tre- degar, ac E. O. Jenkins; Rhymni, ond er hyny catwyd cyfarfod rhagorol, a phcnderfynwyd :— 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Maesycwmar, ar y Mawrth. cyntaf yn Hydref. 2. Fod y Parch E. Jenkins, liliymni, i ddarllen papur byr ar Arwyddion yr amserau mewn cyssylltiad a chrefydd.' Bydd y papur uchod i gael ei ddar- llen am 11 yn y boreu, a'i amean penaf fydd rhoi awgrymiad fel testyn ymddiddan. Mae hyn yn ag-wedd newydd ar y cyfarfodydd hyn, a go- beithir yr ateba ddyben da. Gwahoddir pawb a allo ei gwneud yn gyfleus i ddyfod i'r cyfarfod ymddiddan hwn. Bwriad Uffernol.— Bu gan yr Odyddion fete fawr yn Oasnewydd, ac ymgasglodd miloedd iddi o bob rhan o'r sir. Yr oedd yn lied hwyr ar y trens yn dychwelyd, a llawer o'r teithwyr yn llawen ar ol bod yn nghyfeillach Syr John Heidden yn rhy hir. Pan oedd y Western Valley tren yn dychwelyd gyda llwyth o tua mil o deithwyr, gosododd rhyw rai gadwyn gref ar draws y cledrau, gyda'r amcan vn ddiau o daflu y tren a'r llwyth i'r afon, a phe buasai hyn yn cael ei gyllawni nid oes ddyn a wyr beth fuasai y canlyniadau. Tybed nad oes gywilydd hyd y nod ar ddiafol i arddel rhyw greadur fel hyn. Oof genyf glywed dau englyn gan un o'n prif- feirdd i B-t-s druan, a gallem ddweyd agos yr un peth am yr anfad-ddyn a geisiai ddym- chwelyd tren. Nid wyf yn sicr fy mod yn eu cofio yn gywir, ond yr oeddynt rywbeth yn debyg i hyn:- Yn annwn pan el hwn yno,—uthr olwg Cythreuliaid mown cyffro, ° Ni wyr un p'le y rhoir o, Na' r un be wneir o hono. I'w addef cywilyddia-hen ddiafol, Yn ei ddufwg gwrida; Satan ei dad a'i gwada, A rhegu'n hyll rhago wna. Z) Y Llofruddiaeth yn Rhymni.—Drwg-dybir un William Protberoe o fod yn euog o ladd merch ieuanc o'r enw Martha Thomas, ac wedi holi a hela am amser maith yn Ehymni, a phedwar diwrnod wedi hyny yn Brynmawr, mae wedi ei draddodi i sefyll ei brawf yn mrawdlys mis Mawrth yn Nhrefynwy. Pa un a yw y truan yn euog ai nid yw, nis gallaf ddweyd, ond os nad yw, mae wedi ymddyrysu yn dra rhyfedd yn yr arngylchiadau cyssylltiedig a marwolaeth y ferch a nodwyd. Miss Walters, Si)-liotoy.-Bydd yn dda gan gyfeiliion Miss Walters glywed ei bod yn canu yn ardderchog yn amser ei gwyliau. Bu ganddi Gyngherdd yn Nhredegar ar y 29ain o'r mis diweddaf, ac aeth hi a'i chyfeillion trwy eu gwaith yn rhagorol. Mae Miss Walters yn medru taflu ei theimlad i'w chanu, a hyn yn ddiau yw ei phrif werth, ac hyderaf na chyll hyn wrth ymdrwsio yn y coleg. Pob llwyddiant iddi meddaf. GOHEBYDD.

CYHUDDIAD HYNOD GAN OFPEIRIAD.

BALA.

Unuinn.

YR HEN DEILIWR.