Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

SABBATH YN TALWRN, MON.

----,----,--------AT OLYGWYR…

PABYDDIAETH.

ADDYSG YN NGHYMRU.

AT Y PARCH. LEWIS POWELL,,…

--IDIES IILE.

YR HEN DEILIWR.

AT OLYGWYR 'Y TYST CYMREIG.'

News
Cite
Share

AT OLYGWYR 'Y TYST CYMREIG.' Syrs,—Nid yw eich papur ond ienanc; ac y mae ynddo ormod o'r 'Rhen.' Llaweriychais yn fawr pan ddarllenais Yr Hen Deiliwr;' gwelais ynddo athrylith yr Rhen Ffarmwr;' a daeth Rhys Puw,' a holl helyntion Aclwyd F'ewyrth Robert' i'm cof. Ond pwy yw yr 'Hen Buddler,' a'r I Hen Dwrne,' a'r Hen Arddwr.' Ni ddywedaf eu bod yn ddi- dalent, yr un o honynt, ac y mae rhai hits da iawn gan Yr hen Buddler,' a'r Hen Dwrne' yn enwedig ond nid da gormod o ddim.' Mae Yr Hen Deiliwr' wedi cael y blaen, a phawb yn disgwyl wtho, ac y mae un ysgrifenjrdd yn y fath style yn ddigon yn yr un papur. Cymmered y tri Hen' arall yr awgrym yn garedig, ac ymgilient o'r neilldu ac os digwydd i'r Hen Deiliwr rctirio eto oddiwrth y cwilsyn, ni bydd genyf wrthwynebiad i un o honynt gael ei le. Treied y brodyr athrylithgar yma dori tir newydd, ac nid boddloui ar fod yn efelychwyr. Dyma farn a chynghor CEEITXWE IEUANC.

IAT OLYGWYR Y 'TYST CYMREIG.'