Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

SABBATH YN TALWRN, MON.

News
Cite
Share

SABBATH YN TALWRN, MON. Foneddigion,—Er mawr foddhad i mi fy hun, trenliais i a'm hen wreigan Sabbath yn y lIe uchod yn ddiweddar. Yr oeddym dan waboddiad er 'stalwm i fyned at fy hen gyfaill, 'Rhen Banwr. Cawsom ef yn siriol a charedig, fel bob amser. Mae 'Rhem Banwr yn rhoddi arwyddion amlwg i mi erbyn hyn fod ei gam diweddaf yn agoghau. Mae ei gam yn llawer byrach nag yr oedd o fewn 15 mlynedd yn ol, ond y mae ei hen feddwl braidd yr un a'r amser yr oedd ef a minnau yn chwareu ar hyd fryniau Llan- fair-bettws-geraint Mae'r hen fryniau yn edrych cystal ag yr oeddynt ugain mlynedd i heddyw, ac felly byddant- Nes i anian y dydd hwnw Dynu i thraed i'r gwely i farw.' Ond er ein gofid, mawr yw y cyfnewid sydd arnom ni ein dau:— Mae mlinion hwyrion oriau, A'm iaos hir yn ymneshau.' Aethom gyda 'Rhen Banwr am ddau o'r gloch i hen addoldy yr hen enwac1 parehusaf yn Mon, sef yr An- nibynwyr. Hysbyswyd fi gan fy nghyfaill fod gan- ddynt weinidog newydd rhyngddynt hwy a Phen- traeth, ac yr oedd y Sabbath diweddaf i bregethu am ddau a chwech yn y Talwrn, ac felly cefais y fraint o'i wrando y ddwy odfa. Yr wyf yn deall mai y Parch. D. M. Lewis, o sir Gaerfyrddin yw. Hoff- ais yn fawr ei olwg o'r areithfa hoffais yn fwy ei bregethau. Hir oes a llwyddiant iddo. Bendith Nen ar ei ben bo, A choron gwerth ei chario.' Mae cariad brawdol yn uchel iawn ei ben yn y Tal- wrn. Mae y Trefnyddion Calfinaidd, yr Eglwyswyr, a'r Annibynwyr—mae'r cyfan oil fel un enwad. Dyma beth gwerth ei efelychu i holl Gymrn yn ben- baladr. Mae genyf barch dau-ddyblyg i Mr. John Roberts, arweinydd y canu yn addoldy yr Annibyn- wyr. Ar ol yr odfa am chwech yn yr hwyr, cyfeiriais fy nghamrau tua Phant-y-Pistyll, i edrych: am un eto o'm hen gyfeillion, yr hen Wmffre Dafydd y Gweydd; ond er fy mawr alar, nid oedd i'w gael yno-lle Wmffre yn wag; ac ar ol holi pa le yr oedd, clywais ei fod wedi ymado, ac wedi sefydlu ei hun yn rhywle tuag Aberdaron. 0 y fath adgofion o hen amser- oedd a ddaeth i'm meddwl-gweled Bryn Gwyl uwch ben Pant y Pistyll, a dychymmyg yn dangos fy hen gyfaill Wmffre yn fyw o fy mlaen-pob peth yn ymddangos yn freuddwydiol i mi. A chofiais fy anwyl Wmffre fod Bryn Gwyl yn dyst o lawer ym- gom a fu rhyngom ar ei goppa. Poeti a gyfyd pan gofiwyf A dyfryd gur i'm dwyfron.' Ond pa le bynag yr wyt, boed iechyd i'th galon ac i Began Davydd, a'r eneth fach. Cystuddiau, poen, a thrallod, a fydllo yn bethau dieithr i ti. Cefais i, fel y gwvddost, amryw gwpaneidiau o ddyfroedd Mara; ond diolch, cefais nerth i ddal. Mae Ehagluniaeth wedi bod yn gymmwynasgar a thrugarog wrthyf un gwir annheilwng. Y chydig o eiriau eto am 'Rhen Banwr. Mae ei breswylfod yn sefyll mewn man hynod yn Mon. Y mae hen brif-ffordd y Rhufeiniaid yn rhedeg drwy ei dir, a hono wedi ei phalmantu am filldir gyfan, a hyny yn nghanol tir y Pandy, neu yn ol yr hen enw —Pandyllandiwygiaid. Hon oedd y ffordd gyntaf a i wnawd yn Mon ond y mae amser wedi ei gwisgo allan o olwg, oddigerth mewn tri man yn Mon, sef Presaddfed, Bodedeyrn, a Llechgwenfarwy, ger Llanerchymedd, a Phandy Llandiwygiaid yn Llan- ddyfnan. Mae ogof ar dir y Pandy o'r enw ogof Bryn Golmyn. Mae yr ogof wedi ei gwneud o dan y ddaear hyd yn Rhosymeirch—pellder o ddwy fill- dir. Amseroedd gwaedlyd a therfysglyd fu ar Fon y dyddiau hyny. Ymladd a tliywallt gwaed oedd gorchest ei phreswylwyr. Wrth ochr yr ogof, mae mynydd bychan, a gelwir un llechwedd iddo yn Llech dal Fon Taith waith. Mae hen addoldy gan yr Annibynwyr yn Rhosymeirch, yr hwn ydyw yr hynaf yn Mon. Y mae wedi ei adeiladu er's rhagor na chan mlynedd. Dylwn hysbysu fod llwch yr hen Abraham Tibbot yn cael ei gadw yn mynwent Rhos- ymeirch. Hefyd, dymunodd y Parch. Llewellyn Samuel, Bethesda, Arfon, gael cludo ei weddillion yma at lwch yr hen seintiau sydd yma yn llechu.. Bydded llwyddiant i'r Annibynwyr yn Talwrn, a thrwy Fon, ac i bob enwad yno a thrwy y bydmawr i gyd, yw dymuniad Si ox T CDUR. LJanfftii'pwIi^wyngyllgerclnviinbwllgertrobwlldi- siliogogof.

----,----,--------AT OLYGWYR…

PABYDDIAETH.

ADDYSG YN NGHYMRU.

AT Y PARCH. LEWIS POWELL,,…

--IDIES IILE.

YR HEN DEILIWR.

AT OLYGWYR 'Y TYST CYMREIG.'

IAT OLYGWYR Y 'TYST CYMREIG.'