Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
---------YR UNDEB CYNNULLEIDFAOL.
YR UNDEB CYNNULLEIDFAOL. Cynhclir cyfarfod llydrefol yr Undeb Cyn- nulleidfaol eleni yn Manchester, yr ail wythnos yn llydref, a dysgwylir yno luaws mawr o wei- nidogion a chynnrychiolwyr o bob parth o'r wlad, yn enwedig o'r rhanau Gogleddol. Nos Lun, Hydref 7, traddodir pregeth gan -ein cydwladwr enwog. David Thomas, B. A., Bristol. Cyferfydd yr eisteddiad cyntaf bore ddydd Mawrth, yn nghapel Grosvenor Street (capel Dr. Parkes), dan lywyddiaoth Dr. J. R. -Campbell, Bradford. Darllenir papUrau y boreu hwnw ar Sefyllfa ein Heglwysi bychain,' gan y Parch. J. Stoughton; ar Gynghorau i ap- pelio attynt,' gan Dr. Vaughan; ac ar Well- iant yn Ngbyflogau Gweinidogion,' gan Mr. Henry Lee, Manchester. Nos Fawrth bydd cyfarfod mawr ya y Free Trade Hall i egluro ac amddiffyn egwyddorion Cynnulleldfaoliaeth. Bydd S. Morley, Ysw., yn y gadair, a dysgwylir Dr Vaughan, Dr H alley, W. M. Statham, ac R. W. Dale, i annerch y cyfarfod. Boreu Mercher bydd yr ail eisteddiad. Dar- llenir papur gan Dr George Smith ar 'Gyd- iugeiliaeth a Gweinidogaeth Gynnorthwyol.' Hefyd darllenir papur ar 'Y Cenhadaethau Prydeinig,? gan y Parch, T. W. Ayeling, Kings- land, a gosodir hawliau Oenhadaethau Tramor ar ein heglwysi ger bron gan y Parch H. Ollard, F.A.S., Derby. Nos Fercher bydd Soiree yn ysgoldy Caven- dish, dan lywyddiaeth J. Crossley, Ysw. Dydd lau cyflwynir yr eisteddiad boreuol gan mwyaf i ystyried Gogwyddiad yr Oes at Babyddiaeth mewn Athrawiaeth ac Ymarferiad. Dygir y cwestiwn yn mlaen gan y Parch. J. G. Rogers, B. A.; a chyfiwynir ger bron bender- fyniad ar Waddoliad Pabyddiaaeth yn yr Iwerddon. Os bydd amser darllenir papur gan y Parch. Bryan Dale, Halifax, ar I Sefyllfa y Cyfandir yn ei berthynas a Rhyddid Crefyddol ac Ymdrechion Cristionogol. Nos lau traddodir pregeth i ddynion icuaine gan y Parch. Henry Batchelor, Glasgow. Bydd hefyd ar nos Fercher a nos lau gyfarfodydd neillduol i'r dosparth gweithiol. 40 Mae y rhag-gynllun eleni yn llawn ac am- rywiol, fel y gellir dysgwyl cyfarfodydd o ddy- ddordeb mwy na chyffredin.
--LLOFRUDDIAETH EllCHYLL Y…
LLOFRUDDIAETH EllCHYLL Y FERCH FACH YN ALTON. Cyhoeddasom yn y TYST diweddaf adroddiad am yr aiifadwaitli yma. Yn union ar ol dwyn y llofrudd, Frederick Baker, o flaen yr ynadon, a'i draddodi i gymmeryd ei brawf, aetli yr Arolygwr Chesney, gyda'r dillad, y cyllill, a plietliau eraill gaed gan y carcharor, i Lundain at y Proffeswr Taylor, i wneud prawf Iferyddol arnynt. Gwnaeth y Proffeswr yn union y prawf ar y cyllill gaed yn mhocedau y llofrudd, a chyrhaeddodd y newydd i Alton ddydd Sadwrn, ei fod wedi darganfod gwaed arnynt, a'i fod yn myned i wneud yr un ymchwiliad i'r trowser. Adwaenid y carcharor yn Alton fel dyn o gryn wybodaeth, ond yr oedd o'r arferion mwyaf penrhydd. Yr oedd wedi bod am gryn amser yn ddirwestwr, ac yn gym- munwr cyson yn Eglwys y Drindod. Cafodd ei ddwyn i lyny mewn teulu crefyddol, ac yr oedd -efe ei liun yn cael ei ystyried felly hyd rhyw bedair blynedd yn ol, pan yr ymollyngodd i bob ofcredd, ar ol ymddyrysu gyda rhyw fercliieuanc. Y mae ei fam wedi marw, ond y mae ei dad yn fyw, ac yn y trallod mwyaf er pan glywodd am y gyflafan, yn nghyda'i ferch grefyddol sydd yn byw gydag ef. 0
CANT A THRIUGAIN 0 BERSONAU…
CANT A THRIUGAIN 0 BERSONAU WEDI EU CAU MEWN PWLL GLO. Digwyddodd damwain gyffrous iawn prydnawn ■Gwener, yn Duckinfield. Gweitliir y pwll gan ddwy newidfa o ddynion—gweithia pob un am wyth awr. Dcchreua un fintai ar eu gwaitli am dri o'r gloch yn y prydnawn, gan roi i fyny am unarddeg y nos; a dechreua y fintai arall am wyth o'r glocli y nos, gan roi i fyny am bedwar o'r gloch y boreu. Oddeutu haner awrj:wedi naw nos Wener, fel yr oedd y Peirianwr yn cyfodi pedwar twbyn o lo yn y cage, torodd y rliaff, ac atalgauwyd iy twll. Y mae y twll yn 686t o latheni o ddyfnder. Anfonwyd bwyd i'r dynion gyda weiren i lawr y Town Lane Shaft, trwy yr hwn le y caed hwy allan, rhwng chwech a saith o'r gloch nos Sadwrn.
EISTEDDFOD CAERFYRDDIN.
EISTEDDFOD CAERFYRDDIN. MAE yr Eisteddfod y disgwyliwyd am dani gyda phryder wedi ei hagor. Cyfarfu y Pwyllgor 0 Gweithiol ddydd Llun, pan yr ymdriniwyd ag amryw bethau yn nglyn a'r sefydliad. Ond DYDD MAWRTH yr agorwyd yr Eisteddfod yn nurnol. Llywydd,—D. Pugh, Ysw., A. S. Cyfarfu adran y Wyddoniaeth Gymdeitliasol ( Social Science), yn neuadd y dref. Darllenwyd papur yno ar gynildeb cymdeitliasol, a cliafwyd ymddiddan helaeth ar y mater. Am 11 o'r gloch, cyfarfu Cyngor yr Eisteddfod ac ewyllyswyr da y Sefydliad yn neuadd y dref, i fyned tua'r Orsedd, i agor yr Eisteddfod gyda'r cyhoeddiad arferol, fel y canlyn :— Y GWIR YN ERBYN Y BYD :-Yn y flwyddyn Un Fil Wyth Cant Triugain-a-saith, pan yw yr Haul yn nesau at Alban Elfed, ar awr anterth, ar y trydydd o Fedi, wedi cyhoeddiad priodol o rybudd un dydd a blwyddyn, agorir yr Orsedd hon yn Nghaerfyrddin, yn nhalaeth Caerfyrddin; i roddi gwys a gwahawdd i bawb a gyrchont yma, lie nad oes arf noeth yn eu herbyn, ac y cyhoeddir barn Gorsedd ar bob awen- ydd a barddoni, a roddir dan ystyriaeth, yn ngwyneb haul—llygad golenni.-Y Gioir yn erbyn y Byd.' Aj-freiniwyd y Llywydd oddiwrth yr Orsedd i'r Babell i'w roddi yn y Gadair gyda holl rwysg y ddefod. Rhoddodd y Llywydd ei Annerchiad. Canodd Llew Llwyfo gan genedlaetliol, yna gwobrwynyd yr ymgeiswvr. Traetliwyd ar Sefydliad y Fflemingiaid yn Neheudir Cymru.' Gwobr £ 5 5s. Buddugol Mr Jones, Ysgol Frytanaidd, Treherbert. Cystadleuaeth Fenywaidd ar y Berdoneg. Gwobr, Medal Arian. Buddugol, Miss Moulsing, Abertawe. Can i'r 'Corwg.' Gwobr £ 2 :28. a Medal Arian. Buddugol, Mr Ceiriog Hughes. Traethawd Anuldilfyniad y Cymry yn erbyn ymosoddiaau y Saeson.' Gwobr, y Parch. D. Griffith, Portdinorwig. Yr oedd 3*113 gynnulliad lluosog iawn foreu a hwyr, a phob peth yn pasio yn arddercliog. Ceir bancs llawn 3-11 y nesaf.
UNDEB Y BEDYDDWYR.
UNDEB Y BEDYDDWYR. CYNHALIWYD cyfarfod blynyddol eyi-itaf Uncleb y Bedyddwyr Cymreig yn Nghaerfyrddin yr wythnos ddiweddaf. Dechreuwyd am dri o'r gloch ddydd Mawrth, Awst 27, o dan lywydd- iaeth y Parch. N. Thomas, Caerdydd. Pregeth- wyd y noson hono yn y Tabernacle gan y Parch- edigion L. Jones, Pwllheli'; a R. Roberts; Plas- ybronau. Dydd Mercher, wrth agor yr eis- teddiad, cafwyd annerchiad rhagorol gan y cadeirydd. Darllenwyd yr adroddiad gan yr ysgrifenydd, Mr Llewelyn Jenkins, Maescwmer. Darllenwyd papur ar Feddianau j Bedyddwyr Cymreig,' ac un arall gan y Parch. D. Morgan, Blaenafon, ar 'Sefydliadau Elusengar Lloegr yn eu perthynas a Chymry.' Annerch ,vyd y gynnadledd gan y Parch. W. Roberts, Biaenau, ar ran yr Y sgolion Brytanaidd. Traddodwyd pregethau yn yr hwyr gan y Parchedigion A. J. Parry, Cefnmawr; a J. Robinson, Llansilin. Yr oedd yr holl gyfarfodydd yn fywiog a dy- ddorol iawn. Deallwn fod eglwys y Bedyddwyr ya Nghaerdydd wedigwahodd Undeb y Bedydd- wyr yn Mhiydain Fawr a'r Iwerddon i gynnal eu cyfarfod Hydrefol yno.
YNADON LIVERPOOL A'R FASNACH…
YNADON LIVERPOOL A'R FASNACH FEDDWOL. Yr wythnos ddiweddaf, ymgyfarfu ynadon Liverpool er gwrando ymofyniadau am drwydd- edau tafarndal. Nis gellir darllen hanes eu heisteddiad eleni mwy na'u heisteddiadau blaen- orol, heb deimlo fod galwad uchel am gyfnewid- iad yn y gyfraith o barth y fasnach feddwol. Y mae yn anffawd dost fod yr ynadon yn gwahan- iaethu cymmaint yn eu syniad a'v. barn am ystyr y gyfraith, ac am y modd i'w gweiuyddu. Y prifbeth sydd yn gwahaniaethu pobl wareidd- iedig oddiwrth farbariaid ydyw, fod y cyntaf yn parchu cyfraith adnabyddus. a'r olaf yn dilyn eu hewyllys a'u nwydau. Os bydd dynion yn eu hewyllys a'u nwydau. Os bydd dynion yn methu cytuno am feddwl ac amcan cyfraith, ac yn ei hesbonio yn ol eu tueddiadau personol a'u golygiadau gwladyddol. y maent yn dynesu at farbareidd-dra, ac yn encilio oddiwrth wareicld- dra. Barna un dosbarth o ynadon Liverpool nad oes ganddynt old dau beth i'w hystyried pan ddaw ger eu bron gais am drwyddcd tafarn -cymmeriad yneb syddyn ymofyn am drwydd- ed, a chyfleusderau y ty y dymunir ar drwydded iddo tra y barna rhan arall o'r ynadon y dylent ystyried a oes eisiau ychwaneg o dafarndai yn y gymmydogaeth. Hwn ydyw y cwestiwn mewn dadl-o leiaf, hwn sydd yn y golwg; ond y mae cwestiynau eraill yn dylanwadu ar farn yr ynad- on. Y mae ymagwestiwn o monopoly. Hysbys yw fod gweision gwyr mawr wedi bod yn fwy llwyddianus mewn llawer ardal i gael trwydd- edau nag un dosbarth arall, ac nid heb achos y teimlir digasedd at ynadon, y rhai a gymmerant fantais o'u swydd i roddi pension i'w hen weision ar draul pobl eraill. Trachefn, y mae a wnelo y mater a pholities. 0 dan yr oruchwyliaeth bresenol, gobeithiwn y bydd pethau yn well pan fydd y Reform, Bill mewn grym. 0 dan yr or- uchwyliaeth bresenol, y mae y bragwyr, y dar- llawyr, a'r tafarnwjTr yn allu gwladyddol ofn- adwy o nerthol; ac mewn llawer bwrdeisdref, hwy yn unig a allant anfon i'r senedd y neb a fynant. Barna rhai ynadon rhyddfrydig mai yr unig ffordd i osod y mawr-ddrwg hwn i lawr ydyw tallu y fasnach yn rhydd ac yn agored i bawb. Ond y mae dosbarth arall ar y fainc, yn edrych ar feddwdod fel drwg penaf y dref-fel y prif achos o'r holl droseddau gwladol, ac fel yr achos mawr o'r afiechyd, a'r tlodi, a'r trueni annhraethadwy sydd wedi gwneud Liverpool yn ddiareb drwy y deyrnas. Y mae y dosbarth hwn yn credu yn benderfynol, ac nid heb seiliau, fod lliosogi tafarndai yn achos union-, rehol o ZIY gynnydd cyfeddach a meddwdod. Y mae yr ynadon sydd yn cael eu ilywodraethu gan syn- iadau or fath hyn, yn gystal a byddin gref o wladgarwyr a dyngarwyr sydd yn cydymdeimlo a hwy, yn foddlon gwneud aberth, os oes raid, o'r pethau lleiaf, er diogelu yr amcan mawr- lleihad cyfeddach a meddwdod. Y mae yn ddrwg genym tod boneddigion fel Z, y Mri. Gladstone, a Still, a Jeff'ery, wedi gwneud eu hunain yn anmhoblogaidd gyda dosbarth llu- osog o ddynion cydwybodol a da, oblegid y gol- ygiadau a goleddir ganddynt ar gwestiwn y osog o ddynion cydwybodol a da, oblegid y gol- ygiadau a goleddir ganddynt ar gwestiwn y trwyddedau. Yr oedd araeth Mr. Jeffery yr wythnos ddiweddaf yn un alluog, ac yn un res- ymol a theg hwyrach, ond ystyried y safle a gymmerasid ganddo. Am canai broif, a phrofodd, meddai ef, fod y tafarndai yn cael eu cario yn mlaen yn well o dan yr open system, nag o dan y drefn flaenorol. Y mae yn hawdd genym feddwl fod dosbarthu yr yfwyr a'r meddwon i fwy (jJ ddosbarthiadau-ychwaneg, o dafarndai-yn llei- hau yr ymrysonau a'r troseddau am dymmor; ond y mae yn hawdd genym gredu hefyd fod y tafarndai ychwanegol, yn nythod i fagu a meith rin ychwaneg o yfwyr a meddwon yn ngwahanol ranau y dref, ac ofnwn nad ydyw koll effeithiau yr open system wedi dyfod eto i'r golwg. Y mae y pethau hyn, yn gystal a llawer o bethau eraill y rhai nid ellir yn awr eu henwi, yn ein gwneud yn fwy argyhoeddedig fod gwir angen am gyf- newidiad buan yn y gyfraith sydd yn Ilywodr- aethu tafarndai.
EISTEDDFOD DEFYNOG.
EISTEDDFOD DEFYNOG. Cynhaliwyd yr Eisteddfod uchod dydd Merch- er, Awst 28ain. Llywydd—John Protheroe, Ysw., cyn-faer Aberhonddu. Beirniad yr Eis- teddfod-D. J. Williams, Yswain (Tydfylyn), Mertbyr. CYFARFOD Y BOREU. 1. Can, Hen Wlad fy Nhadau, gan Mr Robert Rees (Eos Morlais), a'r gynnulleidfa yn uno yn y cydgan. 2. Anerchiad campus gan y llywydd. 3. Anerchiadau gan y beirdd. 4. Beirniadaeth Galareb y diweddar Barch. Timothy Davies, ficer Defynog. 4 yn cystadlu; buddugol, Mr D. Jones (Dewi Morfa), Penycae, Glyn Tawy. o. Canu Y Dderwen; buddugol, Mr Rees Davies, road-surveyor, Trecastell, a'i gwmni. 6. Adrodd Twr Babel. 5 yn cystadIu; budd- ugol, Mr Thomas Powell, Cwmcniwydd. 7. Canu y solo bass o Teyrnasoedd y Ddaear.' 9 yn cystadlu; Mr D. Jenkins, a Mr D. Evans yn gydfuddugol. S. Beirniadaeth y traethawd ar Ddylanwad Ymarferiad. 4 yn cystadlu; buddugol, Mr D. Lewis, Blaen crai. 9. Canu, Mount Street, o Lyfr Ieuan Gwyllt. 4 cor yn cystadlu; buddugol, Trecastell, dan ar- weiniad Eos Morlais. 10. Beirniadaeth Galareb y diweddar Mr David Jones, Crai. 1 yn cystadlu, ac yn deilwng o'r wobr, sef Mr Wm. Powell, Crai. 11. Can ddoniol anghyffredin gan Mr Rees Davies. 12. Beirniadaeth, Englyn i'r Awrlais. Amryw ymgeiswyr, ond neb yn deilwng. 13. Canu deuawd, Y Gareg Ateb. 4 parti yn cystadlu; Mr David Evans a'i gyfaill, a Mr Thomas Jones a'i gyfaill, yn gydfuddugol. 14. Adrodd, Sat ar dy wadnau dy bun. 6 yn yn cystadiu; buddugol, Mr D. Davies, a Miss A. Jenkins, Trecastell. 15. Canu alaw, Jabez, gan un dros 45 oed, 2 yn cystadlu, a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Z, set Mr D. Thomas, Nantymady, a Mr T. Powell, Ty'n-y-berllan. 16. Beirniadaeth Hanes Samuel i rai dan 18 oed; buddugol, Mr W. Davies, Trecastell; ail oreu, Mr. Powell, Waungoch. 17. Canu gan bedwar ar y pryd. 5 parti yn cystadlu, a rhanwyd y wobr rhwng Bugeiliaid Eppynt, a Dewi a'i gyfeillion. 18. Beirniadaeth Marwnad i Mr John Havard, Senny. 4 yn cystadlu; buddugol, Mr J. Morgan (Glan Llynfell), Tan-yr-ogof, (Hyn Tawy. III, Beirniadaeth, Can i'r Neath Sf Brecon Railway, 2 yn cystadlu; buddugol, Mr R. Thomas, ysgolfeistr, Defynog. 20. Canu corawl, Mai, 4 cor yn eirstadlu; rhanwyd y brif wobr rkwng cor y Biaenau a Trecastell; ail oreu, cor Llanddeusant. CYFARFOD Y PRYDNAWN. 1. Can gan Eos Morlais. 2. Anerchiad Saesneg gan y llywydd. 3. Beirniadaeth y don gynnulleidfaol. ;;2 o ymgeiswyr; buddugol, Mr B. W. Jones, Court gilbert. 4. Canu unrhyw solo & quartette o'r Christy's Minstrels.' 1 parti yn C3'stadlu, sef Mr Rees Davies, a'i gwmni, ac yn wir deilwng o'r wobr. 5. Beirniadaeth tri englyn i'r Amaethwr. (j yn cystadlu; buddugol, Mr J. Thomas, Lenny Bridge. (i. Dadl, Dafydd Plas y breci. 3 yn cystadlu buddugol, Mr R. Havard, Bedlwyn, a D. Havard, Brychgoed. 7. Beirniadaeth, y Ffugcliwedl. 2 gyfansodd- iad bdddugol, Mr R. Davies. 8. Beirniadaeth Galareb y diweddar Barch. D. Evans, Cwmwysg. 7 yn cystadlu; buddugol, Mr D. Jones (Dewi Morfa). n. Canu, Ehedydd bach mwyn, gan gor o blant. 2 gor yn cystadlu; buddugol, Trecastell. 10. Canu solo tenor, Telynau Mwyn Cymru. 10 yn cystadlu; buddugol, Mr D. Evans, Tre- castell. 11. Beirniadaeth y Rhiangerdd. 8 cyfansodd- iad buddugol, Mr T. Morgan (Glan Llynfell). 12. Darllen llawysgrif Gymreig. 3 yn cys- 9 tadlu buddugol, Mr T. Powell, Gareg goch. 13. Beirniadaeth Pryddest ar Joseph, fab Jacob. 5 cyfansoddiad; buddugol, Mr. D. Evans. 14. Canu, I'r Ffynnon ger fy mwth. 1 parti yn cystadlu, ac yn deilwng o'r wobr, sef Mr 11. Davies a'i gwmni. 15. Beirniadaeth y traethawd ar Elfenau Ded- wyddwch Teuluaidd. 7 cyfansoddiad; buddugol, Carwr Dedwyddwch. 0 1(;. Canu solo y Fwyalchen; buddugol, Miss Jenkins. Gorfu arnom ymadael a'r Eisteddfod cyn cael manylion pellacli. GOMI;BYDD.
[No title]
HERMON, MON.—Nos Lun, Medi 2, ymwelodd y Parch. D. Roberts, Caernarfon, a'r ardal hon i dra,ddodi ei ddarlith wir ddyddorol ar y di- weddar Dr. Arthur Jones, o Fangor, a'i atliryl- ith. Digon yw dywedyd am y ddarlitli fod y darlithydd enwog yn ei lrayliau goreu yn tra- ddodi, a'r gynnulleidfa wrth eu bodd yn gwrando, fel y sylwodd y teilwng lywydd, Mr Thomas, Druggist, Aberffraw, ar y diwedd, nad oedd yma ddim ond un peth yn annedwydd, sef, fod yr awrlais yn myned yn-rliy VJflym o'r banner. Yr elw at drysorfa y Capel New3rdd.—Ap Owilym.
[No title]
Mae yr hin yn parhau yn ffafriol i'r cynliauaf, yr hwn sydd yn myned yn mlaen yn obeitliiol, ond nid yw y gwenith wrth ei ddyrnu yn ildio ond cyfartal- edd is na chjrffredln, a'r farn ,-yflredin ydyw, y bydd y cyfanswm o dan y cyfartaledd o un ran o chwech. Mae y newyddion am y cynnyrc-h ar y Cyfandir yn gyffelyb. Mae marchnad y wlad wedi bod yn araf, gyda phrisiau yn liytrach yn gostwng am wenith Lloegr. Mae pob grawn arall yn dal ei bris.
MARCHNAD LLUNDAIN.
MARCHNAD LLUNDAIN. Ddydd Lluu diweddaf. Yryd.—Yn Mark Lane y boreu heddyw yr oedd cynnulliad lied dda, ac eri'rtywyddteg ddylanwadu ar feddyliau y prynwyr mewn rhan, eto nid oedd pethau yn isel iawn. Yr oedd gwenith newydd Lloegr yn gwerthu am 2s. yn is na'r LInn blaenorol. oud It chymllleryd i ystyriaeth natur yr yd, prin y gellir ei ystyried yn is nag ydau eraill. Prynid gwenith tramor yn gynnil, ond nid oedd fawr o du- edd i roddi tfordd yn y pris.—Haidd yn gwerthu yn brin ac yn dal ei bris.-I,'fa yn gwerthu yn lied dda ond am bris.—Pys yn gwerthu yn lied araf ond hob o¡;tyngiad.- Mae Ceirch yn helaeth yn y farchnad. ond ychydig o brynu, a byny yn benafo eisiau 11e yn yr ystordai. Daliai y gwerthwyr ar eu prisiau. Nodir fel dygwyddiad neillduol nad yw y cvllawn- der o geirch a brynwyd yn ddiweddar i Ffrainc wedi ei gytiwvno drosodd i'w werthu yn y ffordd ar- ferol, ond wedi myned yn uniongyrchol i ystordai y llywodraeth. Yr Auifeiliaid.—Yr oedd stock dda o anifeiliaid yn y farchnad, ond araf yr oedd pob petli yn myned. O'r anifeiliaid, yr oedd o Loegr 271, o Scotland 18, o Iwerddon 50, tramor 2,700. Ychydig- oedd y gef v n arnynt, a gwerthid am ostyngiad o 2c. Y oylarlaled.1 o ddefaid tramor ar wertli oedd 3,370 Hoi tramor 78. Gwerthid cig eidion o 3s 3c i 5s 2c cig defaid o 3s 4e i 5s 4c; cig llo o 3s tic i 5 ne; cig pork o 3s OC i 48 2.
MARCHNAD LIVERPOOL.
MARCHNAD LIVERPOOL. Dildd Mawrth. Yr oedd cryn alw am wenith gwyn, prysurach na'r wythnos Haenorol. Yr oedd gofyn mawr am flawd, y prisiau yr un ac o'r "blaen. Daliai yr haidd ei bris. Ceirch newydd swllt y bwsiel yn is.
MARCHNADOEDD CYMREIG.
MARCHNADOEDD CYMREIG. BANGOK, Awst 30.—Gwenith, o 65s Oc i 67s Oe y chwarter haidd, 38s Oc i 40s Oc; ceirch, 28s Oc i 33s Oc; blawd ceirch, 41s i 43c y 240 y pwys ymenyn ffres, o 1Gc i 17c y pwys cig eidion, 0 7c i 9c y pwys cig dafad, tic i 10c y pwys hwyaid, 3s (;c i 4s Oc y cwpl; cywion icir, o 2s Gc i 3s Oc y cwpl; wyau, 7 am 6c. CakufYKDDIN, Awst 31.—Gwenith, 7s 4c i i 88 Oc y bwsel haidd, 4s Oe i 5s 3c y bwsel ceirch, 3s Oc i 3s 3c y bwsel o 40, pwys; blavrdj 40s i 53s Oc y sach o 2HO pwys. CAERNAKFON, Awst 31.-Gwenith 05s Oc i 678 Oc y chwarter; haidd, 38s Oc i 41s Oc y chwarter; ceirch, o 31s Oc i 32s Oc y chwarter; blawd ceirch, o 41s Oc i 44s Oc y 240 pwys ymenyn flres, 12c i 14c y pwys; wyau, 8 am Cc; pytatws, Ie y pwys; cywion ieir, Os 4c i 3s Oc y cwpl; liwyaid 3s Os i 4s Go y cwpl; LLANDEILO, Awst 3lain—Gwenith, o 8s 0c i 9s Oc y bwsel; haidd, 6s Oc i 6s iJe y bwsel; ceirch, 3s Oc i 3s 6c y bwsel; ffa, o Os Oc i Os Oc y bwsel blawd ceirch, o 2|c i 3c y pwys; pytatws, Ie y pwys; ymenyn ffres, o 13c i 14c y pwys; ymanyn llestri, lIe i 12c y pwys; cig eidion, o 6 i 8c y pwys cig dafad, o 7c i 9c y pwys.
Family Notices
ttttdigndttnu. Awst 8, priod Mr Henry Jones, teiliwr, Brynbach, Llanllwng, aJ1 fab a chyntafanedig. Awst 23, priod Mr Thomas Jones, saer maen, Felin-fach, Llanllwng, ar ferch a chyntafanedig. Awst 23, priod Timothy Morgans, Tan-y-rbyw, ar fab a chyntafanedig. Awst 20, priod Mr William Jones, joiner, ger Pen- morfa, ar ferch. Awst 20, priod y Parch. D. Thomas, Scion, Aber- canaid, ar ferch. Medi 2, priod Mr. John M. Williams. 129, Park- road, Liverpool, ar fab. 'E gwnodd o'n bro eginyn-gorwiw, Hawddgarwch y dyflryn; Blodeued a swyned wed'yn— Lu y gwawl efo 'i liw gwyn. D. riO(tnntt. Awst 31, yn Eglwys Bebington, gan y Parch. James L. Littlewood, John P. Williams, Liver- pool, a. Jane bhaw, merch ieuengaf y diweddar Mr Abraham Grundy, Broadlands, Tranmere Park, Birkenhead. Awst 27, yn nghapel Hope, Merthyr Tydfil, gan y Parch. Samuel Jones, Ccfn, y Parch. W. Williams, gweinidog ieunnc y Trefmddion Calfinaidd yn Hir- waen, a Miss Elizabeth Lewis, Pant, ail ferch y diweddar Mr T. Lewis, Dowlais. mtnrurotndtt¡nt. Awst 27, Margaret, gweddw y diweddar Richard J. Davies, 16, Wilde Street, Liverpool, yn 41 mlwydd oed. Awst 24, Yllnechrcll ei 21 mlwydd oed, wedi agos i flwyddyn a hanner o nychdod y darfodedigaetb, David, mab ieuengaf Mr John Davies, crydd, Cware, plwyf Clydau, gerllaw Castell newycld Emlyn. Claddwyd efy dydd Mawrth canlynol, yn ymyl capel y Methodistiaid yn Pontgareg. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Abel Thomas, Capel new- ydd. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlawn a diargy hoeddyn y capel uchocl oÏ febyd. Argraffwyd gan John Morris, yn ei swyddfa, 21, Chapel Walks, South Castle-street, Liverpool, dros "Gwmni y Newyddiadur Cymreig" (Cyfyngedig).