Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

---------YR UNDEB CYNNULLEIDFAOL.

--LLOFRUDDIAETH EllCHYLL Y…

CANT A THRIUGAIN 0 BERSONAU…

EISTEDDFOD CAERFYRDDIN.

UNDEB Y BEDYDDWYR.

YNADON LIVERPOOL A'R FASNACH…

News
Cite
Share

YNADON LIVERPOOL A'R FASNACH FEDDWOL. Yr wythnos ddiweddaf, ymgyfarfu ynadon Liverpool er gwrando ymofyniadau am drwydd- edau tafarndal. Nis gellir darllen hanes eu heisteddiad eleni mwy na'u heisteddiadau blaen- orol, heb deimlo fod galwad uchel am gyfnewid- iad yn y gyfraith o barth y fasnach feddwol. Y mae yn anffawd dost fod yr ynadon yn gwahan- iaethu cymmaint yn eu syniad a'v. barn am ystyr y gyfraith, ac am y modd i'w gweiuyddu. Y prifbeth sydd yn gwahaniaethu pobl wareidd- iedig oddiwrth farbariaid ydyw, fod y cyntaf yn parchu cyfraith adnabyddus. a'r olaf yn dilyn eu hewyllys a'u nwydau. Os bydd dynion yn eu hewyllys a'u nwydau. Os bydd dynion yn methu cytuno am feddwl ac amcan cyfraith, ac yn ei hesbonio yn ol eu tueddiadau personol a'u golygiadau gwladyddol. y maent yn dynesu at farbareidd-dra, ac yn encilio oddiwrth wareicld- dra. Barna un dosbarth o ynadon Liverpool nad oes ganddynt old dau beth i'w hystyried pan ddaw ger eu bron gais am drwyddcd tafarn -cymmeriad yneb syddyn ymofyn am drwydd- ed, a chyfleusderau y ty y dymunir ar drwydded iddo tra y barna rhan arall o'r ynadon y dylent ystyried a oes eisiau ychwaneg o dafarndai yn y gymmydogaeth. Hwn ydyw y cwestiwn mewn dadl-o leiaf, hwn sydd yn y golwg; ond y mae cwestiynau eraill yn dylanwadu ar farn yr ynad- on. Y mae ymagwestiwn o monopoly. Hysbys yw fod gweision gwyr mawr wedi bod yn fwy llwyddianus mewn llawer ardal i gael trwydd- edau nag un dosbarth arall, ac nid heb achos y teimlir digasedd at ynadon, y rhai a gymmerant fantais o'u swydd i roddi pension i'w hen weision ar draul pobl eraill. Trachefn, y mae a wnelo y mater a pholities. 0 dan yr oruchwyliaeth bresenol, gobeithiwn y bydd pethau yn well pan fydd y Reform, Bill mewn grym. 0 dan yr or- uchwyliaeth bresenol, y mae y bragwyr, y dar- llawyr, a'r tafarnwjTr yn allu gwladyddol ofn- adwy o nerthol; ac mewn llawer bwrdeisdref, hwy yn unig a allant anfon i'r senedd y neb a fynant. Barna rhai ynadon rhyddfrydig mai yr unig ffordd i osod y mawr-ddrwg hwn i lawr ydyw tallu y fasnach yn rhydd ac yn agored i bawb. Ond y mae dosbarth arall ar y fainc, yn edrych ar feddwdod fel drwg penaf y dref-fel y prif achos o'r holl droseddau gwladol, ac fel yr achos mawr o'r afiechyd, a'r tlodi, a'r trueni annhraethadwy sydd wedi gwneud Liverpool yn ddiareb drwy y deyrnas. Y mae y dosbarth hwn yn credu yn benderfynol, ac nid heb seiliau, fod lliosogi tafarndai yn achos union-, rehol o ZIY gynnydd cyfeddach a meddwdod. Y mae yr ynadon sydd yn cael eu ilywodraethu gan syn- iadau or fath hyn, yn gystal a byddin gref o wladgarwyr a dyngarwyr sydd yn cydymdeimlo a hwy, yn foddlon gwneud aberth, os oes raid, o'r pethau lleiaf, er diogelu yr amcan mawr- lleihad cyfeddach a meddwdod. Y mae yn ddrwg genym tod boneddigion fel Z, y Mri. Gladstone, a Still, a Jeff'ery, wedi gwneud eu hunain yn anmhoblogaidd gyda dosbarth llu- osog o ddynion cydwybodol a da, oblegid y gol- ygiadau a goleddir ganddynt ar gwestiwn y osog o ddynion cydwybodol a da, oblegid y gol- ygiadau a goleddir ganddynt ar gwestiwn y trwyddedau. Yr oedd araeth Mr. Jeffery yr wythnos ddiweddaf yn un alluog, ac yn un res- ymol a theg hwyrach, ond ystyried y safle a gymmerasid ganddo. Am canai broif, a phrofodd, meddai ef, fod y tafarndai yn cael eu cario yn mlaen yn well o dan yr open system, nag o dan y drefn flaenorol. Y mae yn hawdd genym feddwl fod dosbarthu yr yfwyr a'r meddwon i fwy (jJ ddosbarthiadau-ychwaneg, o dafarndai-yn llei- hau yr ymrysonau a'r troseddau am dymmor; ond y mae yn hawdd genym gredu hefyd fod y tafarndai ychwanegol, yn nythod i fagu a meith rin ychwaneg o yfwyr a meddwon yn ngwahanol ranau y dref, ac ofnwn nad ydyw koll effeithiau yr open system wedi dyfod eto i'r golwg. Y mae y pethau hyn, yn gystal a llawer o bethau eraill y rhai nid ellir yn awr eu henwi, yn ein gwneud yn fwy argyhoeddedig fod gwir angen am gyf- newidiad buan yn y gyfraith sydd yn Ilywodr- aethu tafarndai.

EISTEDDFOD DEFYNOG.

[No title]

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD LIVERPOOL.

MARCHNADOEDD CYMREIG.

Family Notices