Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

DAHNE A THOMAS.

TYNEEWCH. -.'

TONGWYNLAS.

I'R CERDDOR.

PENYBONT-AR-OGWY, ]\I0EGANWG.)

News
Cite
Share

PENYBONT-AR-OGWY, ]\I0EGANWG. Da/mwain Arnjcuol.—Dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, lladdwyd bachgen ieuanc, 11 oed, o'r enw David Phillips, gan agerbeiriant yn ngweithftt haiarn Sheppard yn y lie hwn. Ni wyddys yn sicr sut yr aeth i afael y peiriant, canys yr oedd yn y peiriandy ei hun heb neb gydag ef pan ddigwyddodd yr anffawd, a chaf- wyd ei gorph yn farw yn yr olwynion, a'r peir- iant o'r herwydd wedi sefyll. Mab ydoedd i Mary Phillips, aelod yn yi eglwys Annibynol yn y Tabernacl. Dilynai David y cyfarfodydd a'r Ysgol Sabbathol, ac arferai, gyda phlant eraill, adrodd adnodau yn y gyfeillach ar nos Sabbath. Pan ar giniaw y Sadwrn olaf y bu fyw, dywedodd wrth ei fam, Mor falch y bydd- wch fy nghlywed yn dywedyd chwech adnod nos yfory yn Gymraeg dysgais hwy heb yn wybod i chwi.' Ond ni ddywedodd pa adnodau a ddysg- y C, asai. Cyn pen awr, dygid ei gorph yn farw ar ystyllen yn ol i dy ei fam dorcalonus. Hunanladd'iad.—Lladdodd un David James ei hun drwy ymgrogi yn y geudy perthynol i'r Hetty yr arosai ynddo. Yr oedd yn 35 oed, yn briod, a chwech o blant ganddo. Y mae ei deulu yn byw yn Nghastellnedd. Gweithiwr ydoedd, ond wedi bod mewn gwell amgylchiadau. Yr oedd w.edi dangos arwyddion o wallgofrwydd ddiwrnodiau cyn hyny; ondrywffordd, esgeulus- id ei ddodi yn y gwallgofdy. Cytiawnodd y weithred athrist cyn i'r un arall o'r teulu gyfodi. Cyfarfod yn yr Eglwys Wlculol.—Boreu dydd Mercher cyn y diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod yn eglwys Penybont, i agor organ newydd y lie. Parhaodd y gwasanaeth am awr ac ugain munud, a'r bregeth am oddeutu ugain munud. Yn y prydnawn, aeth y cor canu, ynghyd a rhai o fawr- ion yr eglwys, i gae cyfagos i chwareu cricket a croquet. Dyma rywbeth tebyg i blant Israel ar ol gwneud Ilo aur, yn cyfodi i fyny i chwareu, neu i'r Book of Sports yn amser y Stuartiaid. Beth feddylid am Ymneillduwyr pe gwnaent yn gyffelvb ? Dylai Cymru lawenychu na raid dibynu ar Gydymffurfwyr am ddysgeidiaeth nac esampl grefyddol. Chwareu cricket yn wir Nid rhyfedd fod anffyddiaeth a Phabyddiaeth yn ym- ledu yn y wlad. 5GOHEBYDD.

MYGIAD PUMP o DDYNION YN FFLINT.

BEAUMARIS.

\t¡nxiøn.

LLYTHYR ODDIWRTH MR HENRY…