Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
DAHNE A THOMAS.
DAHNE A THOMAS. Mr. Gol.,—Mae y boneddigion uchod wedi dyfeisio mandrel at wasanaeth glowyr a mwnwyr sydd yn debyg o fod o wasanaeth neillduol, ac o ddefnydd eyffredinol. Mae wedi ei lunio yn y fath fodd fel y gellir tynu y blaenau allan, gan fod morteisiau wedi eu ffurfio yn nghorff yr offeryn. Sicrheir y blaenau yn y morteisiau hyn a throell {screw) fechan, yr hon sydd wedi ei gosod trwy ben yr offeryn yn wynebu at ei goes (handle), fel nad oes y perygl lleiaf iddo fod yn rhwystr trwy fod ar y ffordd. Y manteision o gael y rhai hyn ragor y rhai arferedig ydynt y pethau canlynol:— 1. Arbediad raawr mewn arian. Wrth ddefnyddio rhai y cynllun newydd, arbedid o saith ar hugain i ddwy ar bymtheg a deugain y cant. Ymddibyna y pris ar y math o fetel y dewisir corff yr offeryn wedi ei wneud o hono. Mae yn awr mewn arferiad rai wedi eu gwneud o haiarn gwaith metel melyn (yellow metal), a haiarn cymmysg (malleable cast iron), ac y maent yn mheb un o'r 11 dcfnyddiau hyn yn hynod foddhaol. 2. Cael offer miniog bob amser. Dim ond cael wyth o'r blaenau, byddai hyny cystal a phedwar mandrel, neu gellid cael uurliyw nifer, a dim un mandrel neu gOrff yr offeryn. Mae rhai dwbl o honynt-un blaenllym yn y fortais, tra y gweithir, a'r Hall a dim ond ei liewid pan gollo y naill ei awch. Dyna y llall yn ei le ar unwaith. 3. Arbediad yn y pwysau. Byddai o leiaf arbed- iad o ddwy ran o dair o bwysan yr offer i'w cario o'r gwaith at y gof. Bydd hyn o fantais fawr i'r glowr, yn neillduol pan ddigwyddo fod y ffordd yn mhell i'w cario. Nid oes ond y blaenau yn unig sydd i'w cymineryd at y gof, a gellir yn hawdd gario unrhyw nifer yn y llogell. 4. Gwelir wrth hyn fod 1 lai o berygl yn o gystal ag fod y draul yn llai. Nid oes angen y cert glo (tram) i gludo yr offer foreti a hwyr, ac nid oes ber- ygl i flaen na choes y mandrel wneud niwed, yr hyn sydd wedi digwydd lawer tro cyn hyn. Mae yr offeryn mewn arferiad yn amryw o weithfeydd glo y Dywysogaeth. Y maent yn pwyso o ddau i dri phwys, a'r blaenau o bum i wyth owns. Uyst y mandrel yn ol yr hen gynllun 8s. i'r glowr, tra na chyst y rhai newyddion ond o ddeutu fis. 8c. o'r metel cyntaf a nodwyd 5s. 5c. o'r ail; a'r olaf, 4s. 5c. Ar ol eu gweithio allan, ni bydd yr hen rai yn hen haiarn ond gwerth tua I;c., tra y bydd rhai y cynllun newydd o'r metel cyntaf yn werth tua la. 3c.; a'r ail tua 2s.; a'r trydydd tua Is. 2c. Yn ngwyneb y ffeithiau uchod, gwelir n amlwg ragor- iaeth eiddo Dahne a Thomas ar yr hen gynllun. Dichon y ceid gair oddiwrth y rliai sydd wedi gwneud prawf arnynt; ac felly yn ti,wv brofiad am (-i ragoriaethau. Mae y boneddigion uchod yn deilwng o glod am eu liyhidrech i leihau llafur y glowr, a thraul ei offer. Mae y cynllun yn syml iawn, ac felly gan amlaf, y mae pob dargan- fyddiad sydd wedi bod o wir wasanaeth. Yr eiddoch, ifcc., EDATVOYDD TALEXT.
TYNEEWCH. -.'
TYNEEWCH. Gair ac acen felus iddo ydyw tynerweh. Angyles trugaredd ydyw tynerweh. Gwelir hi yn fynych yn rhwymo i fynu archollion meddwl a theimlad ya esmwyfch a diboen. Bryd arall yn sychu ymaitli ddagrau gofid oddiar ruddiau gwelw trallod ac yn ceisio ysgafnhau'r fynwes brudd o'i hocheneidiau trom-lwythog. Gesyd wrthddrych gobaith o flaen y meddwl pryderus a lleinw'r galon a gorfoledd. Un o'r nodweddion mwyaf deniadol mewn cymmeriad ydyw tyner- weh. Y rhai disgleiriaf eu rhinweddau yw y rhai tyneraf eu hymddygiadau. Gellir adnabod creulonder heb betrusdod wrth yr amddifad- rnvydd o'r elfen anwylfad hon. Po ddyfnafy byddo <>vlad mewn tywyllwch pechod ac anwareidd- fwch lleiaf o dyne'rweh a geir yn ngweithrediad- au y preswylwyr. Mae creulondeb yn teyrnasu yn ormesol ar orsedd calon pob cenedl nad yw wedi ymburo mewn moesau a gloywi mewn rhinwedd. Pa beth sydd yn puro moesau. ac yn achosi i floda-Li persawrus rhinwedd darddu. Yr ateb yw, Crefydd y Groes. Mae tan Duw yn hon i oddieithio anialwch erchyll phchod ae y mae ganddi hefyd ar ol hyny wlith tyuer a heul- wedd hyfryd i fagu rhosynau rhinwedd a gras. 0 Gymru yr wyt wedi mwynhau rhagorfreintiam mawrion Crefydd y Groes. Ond a wyt yn euw- og mewn tynerweh. A ydyw dy dynerwch yn gyfartal i'r driniaeth a gefaist—i'r hyn ellid ddisgwyl yn ol graddau dy ragorfreintiau ? Pa sut yr wyt yn ymddwyn tuag at y tlawd ? A gaiff y cardottyn newynog carpiog, a'i ddagrau ar ei ruddiau llwydion damaid o fara. genyt. Pa sut yr wyt yn talu i'r gweithiwr sydd a'i chwys ar ei rudd o bump o'r gloch yn y bore hyd wyth neu naw yn y nos—sydd yn codi o'i or- weddfa yn y cyfnos, a hi yn blygeiniol-y ser yn britho'r nen a'r lloer yn arianu'r Hi,' hyd wyll y nos drachefn. A ydyw yn cael digon o gyflog genyt i gadw ei anwyl wraig a'i blant yn ddi- angen a chysurus. Cofia fod dy atebiad ar lyfrau'r fam ao y bydd raid i ti sefyil neu syrthio ryw ddydd yn ngwyneb ei gywirdeb. Un gofyn- iad eto, A wyt yn teimlo awydd calonog a. selog am anfon Crefydd y Groes fel moddion i ddyr- chafu cenhedloedd anwaraidd o bwll creulonder i arueheledd hyfryd tynerweh Crist'nogol. Os wyt ac os gwnai hyny, yna, pan fyddi di, yr oes hon, yn tawel orphwys yn mhriddellau'r dyffryn hwyrach y daw yr un a ddel ar dy ol at fin dy fedd mewn teimlad cynmysg o hiraeth a pharch gan golli dagrau ar dy lwch, a gelli ddweyd mewn rhagolwg o'r amser hwnw yn ol llinellau tlws a barddonol Cawrdaf:— Tannau enraidd tynerweh, Gyffry wrth fy Hetty llwch Minnau a'm bron yn llony Mae Madagasgar draw ya curo w ddor, a wnai di agor a rhoi iddi gardod er ei chynnorth- wyo i gael Bara y Bywyd, Os gwnei, cai y pleser o glywed yr Iesu yn dweyd wrthyt ryw ddydd, yn ngwydd a chlyw y bydyssawd cyn- nulledig, i mi y gwnaethant.' WYN SILIN.
TONGWYNLAS.
TONGWYNLAS. Nos Sadwrn, Awst 24, cafwyd gwledd gerdd- orol o'r fath oreu, gan* Glee Party y lie uchod, dan arweiniad y Cerddor talentog Isaac Samuel (Cerddor Morganwg). Ac er gwneud y gyng- herdd yn llawn chwareuwyd y Berdoneg yn fedrus a meistrolgar gan yr hwn sydd a'i glod yn dra adnabyddus trwy Gymru, neb llai na Mr C. C. Caird, Tredegar. Y prif ddarnau a ganwyd 0 9 oedd y rhai canlynol: y Soldier's Chorus,' gan Gounod; glee, Mai,' gan J. Thomas deuawd, Mae'n hiaith yn fyw,' gan Alaw Ddu; trio, The winds whistle cold,' Bishop; glee, Are the white hours,' Callcott; Ar don o flaen gwynt- oedd,' gan Pencerdd America; The Tiger crouches in the wood: Bishop a'r Hallelujah Chorus,' Handel. Yr oedd y datganiad yn chwaethus, deallgar, a da. Prawf arbenig o athrylith y Cerddor yw ei fod yn medru gatael- yd yn mhrif nodweddion, syniadau, ac iden fawr yr hon a gynnwysir yn y gerddoriaeth tybiwyf y bydd y gyngherdd hon yn glod i gantorion y lie. Rhoddwyd cymeradwyaeth uchel i amryw o'r darnau uchod fel y gorfuwyd eu canu yr ail waith. Ac wedi eistedd am oddeutu dwy awr o amser terfynwyd un o'r cyngherddau goreu a mwyaf poblogaidda gafwyd yn ylle hwn erioed. Yr oedd pawb wrth eu bodd yn hunan foddhaol i'r eithaf. Y llywydd oedd y Parch. W. Jones. gweinidog y Bedyddwyr yn-y lie uchod. Cafwyd annerchiad cynes iawn gan y talentog Gwilym Brycheiniog. Darparwyd y llinellau canlynol er annerch y gynnulleidfa gan y ffraeth a'r talentog W. G. James (Gwilym Ddu o Went), ond oherwydd prinder amser ni ddaeth yn mlaen. Gobeithiaf y rhoddweh le iddynt yn eich TYST :— James (Gwilym Ddu o Went), ond oherwydd prinder amser ni ddaeth yn mlaen. Gobeithiaf y rhoddweh le iddynt yn eich TYST :— rB CADEIRYDD. Mcistr Jones medrus ymadrodd—difai Pob defod gyflawnodd Ily 0 werth iawn bu wrth ein bodd Ar wycll gadair uwch gododd.' Ii; .Î.
I'R CERDDOR.
I'R CERDDOR. Llyw'r gerdd, a eill wellhau'r gan-c-yn syml Yw'n Samuel dyddan Ac eangawl mewn cynghan, Mawr yw ei glod Gymro GIùu.' Un oedd yno.
PENYBONT-AR-OGWY, ]\I0EGANWG.)
PENYBONT-AR-OGWY, ]\I0EGANWG. Da/mwain Arnjcuol.—Dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, lladdwyd bachgen ieuanc, 11 oed, o'r enw David Phillips, gan agerbeiriant yn ngweithftt haiarn Sheppard yn y lie hwn. Ni wyddys yn sicr sut yr aeth i afael y peiriant, canys yr oedd yn y peiriandy ei hun heb neb gydag ef pan ddigwyddodd yr anffawd, a chaf- wyd ei gorph yn farw yn yr olwynion, a'r peir- iant o'r herwydd wedi sefyll. Mab ydoedd i Mary Phillips, aelod yn yi eglwys Annibynol yn y Tabernacl. Dilynai David y cyfarfodydd a'r Ysgol Sabbathol, ac arferai, gyda phlant eraill, adrodd adnodau yn y gyfeillach ar nos Sabbath. Pan ar giniaw y Sadwrn olaf y bu fyw, dywedodd wrth ei fam, Mor falch y bydd- wch fy nghlywed yn dywedyd chwech adnod nos yfory yn Gymraeg dysgais hwy heb yn wybod i chwi.' Ond ni ddywedodd pa adnodau a ddysg- y C, asai. Cyn pen awr, dygid ei gorph yn farw ar ystyllen yn ol i dy ei fam dorcalonus. Hunanladd'iad.—Lladdodd un David James ei hun drwy ymgrogi yn y geudy perthynol i'r Hetty yr arosai ynddo. Yr oedd yn 35 oed, yn briod, a chwech o blant ganddo. Y mae ei deulu yn byw yn Nghastellnedd. Gweithiwr ydoedd, ond wedi bod mewn gwell amgylchiadau. Yr oedd w.edi dangos arwyddion o wallgofrwydd ddiwrnodiau cyn hyny; ondrywffordd, esgeulus- id ei ddodi yn y gwallgofdy. Cytiawnodd y weithred athrist cyn i'r un arall o'r teulu gyfodi. Cyfarfod yn yr Eglwys Wlculol.—Boreu dydd Mercher cyn y diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod yn eglwys Penybont, i agor organ newydd y lie. Parhaodd y gwasanaeth am awr ac ugain munud, a'r bregeth am oddeutu ugain munud. Yn y prydnawn, aeth y cor canu, ynghyd a rhai o fawr- ion yr eglwys, i gae cyfagos i chwareu cricket a croquet. Dyma rywbeth tebyg i blant Israel ar ol gwneud Ilo aur, yn cyfodi i fyny i chwareu, neu i'r Book of Sports yn amser y Stuartiaid. Beth feddylid am Ymneillduwyr pe gwnaent yn gyffelvb ? Dylai Cymru lawenychu na raid dibynu ar Gydymffurfwyr am ddysgeidiaeth nac esampl grefyddol. Chwareu cricket yn wir Nid rhyfedd fod anffyddiaeth a Phabyddiaeth yn ym- ledu yn y wlad. 5GOHEBYDD.
MYGIAD PUMP o DDYNION YN FFLINT.
MYGIAD PUMP o DDYNION YN FFLINT. Cymerodd digwyddiad torcalonus le yn Fflint, nos Ian, y 29ain o Awst, pryd y collodd pump o ddynion eu bywydau. Ar y trenglioliad o flaen Mr Peter Parry, cafwyd y manylion pruddaidd' a ganlvn ymddengys fod yn ngweithiau ff'eryddol (cliemicai) Muspratt & Co., Fllint, gwter er goll- wng allan weddillion y gwaith. O'r gwter yr oedd shaft 15 troedfedd i ollwng awyr i mewn iddi, ar ben r-yr hon yr oedd bachgen, o'r enw Michael Greeney, yn difyru ei hunan trwy godi a gostwnt bwced i fynu ag i lawr iddi. Yn rhyw- fodd aeth y bwced yn rhwym yn ochr y shaft a disgynodd y bachgen er mwyn ei rliyddhau pan y gorclifygwyd ef gan y tawch afiach a segynai, a syrtliiodd i'r gwter yr hon a gynnwysai lawer iawn o ddwfr yr hwn a oedd wedi aros yno ar ol y llanw gan fod y gweithiau yn yml yr afon Dyfr- dwy. Disgynodd Saer, o'r enw Enoch Roberts, yn ddioed er mwyn rliyddhau y bachgen, ond gorchfygwyd yntau yr un modd a syrthiodd i'r gwter. Aeth Gôf, o'r enw Thomas Ames, i lawr drachefn gydag amcan i achub, pan y syrtliiodd yntau yn ysglyfaeth i'r nwyau (gases) gwenwyn- ig. Felly hefyd i ddau eraill o'r enw Owens a Joynson. Gollyngwyd un arall i lawr wrth rhafi ond tynwyd ef i fyny gan na allasai roddi dun help, Codwyd yr holl gyrph i fyny wrth fachau ond nid cyn fod y bywyd wedi myned allan. Yr oedd y dystiohteth feddygol a ddygwyd yn dangos fod y farwolaeth wedi ei achosi drwy foddiad yn canlyn mygiad gan y nwyau afiacli. Dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth Ddamweiniol.' Yr oedd Roberts a Joynson ill dau yn wyr priod. ac wedi gadael ar eu liol deuluoedd lluosog. Mae y ddamwain alarus yn taflu prudd-deb dros yr holl gymmydogaetli. C)
BEAUMARIS.
BEAUMARIS. YR wyf wedi dysgwyl gweled rhywun yn cym- meryd mewn llaw ysgrifenu i'r TTST o'r lie hwn, ond yn ofer hyd yn hyn. Nid yw y dref hon heb ei dygwyddiadau fel lleoedd eraill, ond fe- allai fod prysurdeb y tymmor yn attal llawer un i ysgrifenu pan fydd yr yspryd yn dislyn arno. Mae dygwyddiadau lied bwysig wedi cymmer- yd lie a chael eu gadael yn ddisylw, a llawer amgylchiad dyddorol wedi pasio heb ei grybwyll Z, Z, gan un newyddiadur Cymreig. Mae ami cloulu yn cael ei anrhydeddu a phlant; ami un o nod yn y dref a'r gymmydogaeth yn marw; ond peto dyeithr iawn ydyw fod neb yn priodi yma, o leiaf, nid wyf wedi clwed er ys amser maith fod yma neb wedi eu huno mewn glan briodas. Nis gwn pa gyfrif i'w roddi am hyn. os nad yw v rhianod oil yr un brofiad a Doli, sef Nad oes ami eisiau mo'r skirts plagus.' Nos Sadwrn, Awst 24. ymwelodd cor Birken- head a'r dref, a rhoddasant gyngherdd yn v Town Hall, dan arweiniad Mr. Purry. Yr oedd y cynnulliad yn lied dda ac ystyried anfanteis- ion y noson hono, ond yr oedd y canu yn ar- dderchog. Teimla pobl Llanddona yn dra rhwymedig i J. Williams, Ysw., Maer y dref. am roddi yr Hall yn rhad, a rhoddi ei bresenol- deb yn y Cyngherdd. a hyny trwy dalu. Bu cyfarfod nos Sadwrn yn advertisement da i'r Cyngherdd ddydd LInn yn yr ysgoldy new- ydd oedd yn cael ei agor yn Llanddona. oblegid nid oedd digon o gerbydau i'w cael i gludo yno, a'r lie yn rhy gyfyng i gynnwys y dorf. Go- bcithio fod pobl Llonddona wedi cael eu bodd- loni, gan fod pob peth wedi dygwydd mor hynod o ffafriol. E HE DYDD.
\t¡nxiøn.
\t¡nxiøn. Mae gwahoddiad i gael ei roddi i Undeb Cyn- nulleidfaol LIoegr a Chymru i gynnal cyfarfod- ydd Hydref, 1868. yn nhref Leeds. Mae holl eglwysi Annibynol a chynnulleidfaoedd y dref wedi uno i basio penderfyniad unfrydol i groes- awu yr Undeb os derbynia eu cynnyg.-Leeds Mercury. Mae Mr. John Stuart Mill wedi cael y gradd uwchaf a all University Halle roddi iddo. Gwrthodwyd gradd gyffelyb i'r Count Bismark, er mai ysio y darfu iddo matriculatio yn y gyf- raith, pan yn fyfyriwr. Mae gwaith J. S. Mill ar Resymeg wedi ei gyfieithu i'r Ffrengig. Wrth 1:1 on ei adolygu siaredir am dano gan yr adolyg- ydd fel 'meddyliwr penaf ei wlad, os nad ei oes.' Dywed y Moniieur y ceuir Arddangosfa Paris ar y 30ain o Hydref, pryd y tynir yr adeilad i lawr, ac y gwerthir yr holl ddefnyddiau per- thynol iddo. jferoriacth Eglwysig a Throchion Sebon.-Ym- ddangosodd yr hysbyseb a ganlyn mewn newydd- iadur yn ddiwedelar: -1 Yn eisiau, i fyw gyda tbeulu yn Scotland, is-olchyddes, yn deall ei gwaith yn drwyadl, ac yn gallu ysmwddio yn I dda. Rhaid iddi fod yn aelod o Eglwys Loegr. yn gantores ber, ac yn foddlon i gymmeryd ei lie mown cor eglwysig. Alltudiwyd cerddor- iaeth er's llawer dydd o barlawrau Scotland, ac y mae yn debyg ei fod yn cael nawddfa yn y geginau. Y mae y cyssylltiad rhwng addoliad eglwysig a throchion eglwysig yn beth hynod, a rhaid mai meddwl hynod, a rhaid mai meddwl hynod oedd gan yr hwn a allai eu cyssylltu. Gair mewn pryd.-Plygodd diacon ryw ddiwr- nod i gau carrai ei esgid. Gwelodd hwrddach ddof ef yn yr ystum, a thybiodd fod y diacon yn ei herfeiddio. Rhoddodd y creadllr hergwd iddo yn y rhan anrhydeddusaf o'i gorph, a thaflodd ef ar ei hyd i ganol y Ilaid. Wedi i'r diacon druan godi a chael ei wynt ato, dywedai mewn digllonedd wrth yr hwrddach, Y filen gythreul- ig,' ond ar y foment gwelai ei weinidog gerllaw yn llygadu arno, a chwanegai, Os goddefir yr ymadrodd.' Y Pen a'r Ystumog.—Gofynwyd ryw dro, pa- ham nad oedd argraphwyr mor llwyddiannus a darllenwyr. Atebwyd, 'Fod argraphwyr yn gweithio i'r pen, a'r darllenwyr i'r ystumog, ac o bob ugain o bersonau oedd yn perchen ystumog bob un, nad oedd ond prin un yn berchenog ar ymenydd.' Gwir ac nid awir.-Haerai cellweirddyn un- waith ei fod wedi gweled ceffyl ar ei lawn garlam, y a chi yr un pryd yn eistedd ar ei gyaffon. Ym- ddangosai hyn yn gryn gamp i gyflawni i gi ei Z, chyflawni, ond esboniodd y dyn mai ar eigynffon ei hun yr cedd y ci yn eistedd. Annibyniaeth ar e)-a,ill.-Pe gofynem i gant o ddynion sydd o ddechreuad isel wedi codi i satie uchel mewn cymdeithas, pa beth fu y moddion o'u codiad, atebent, Mai oddiar gael eu gorfodi yn foreu gan amgylchiadau i feddwl drostynt eu hunain, ac i ddibynu arnynt eu hunaiu.' Tit am Tat.—Gwnaeth Ymneillduwr ya sir Essex gais yn ddiweddar am gymmeryd fferm, a'r ateb a roddid iddo gan y perchenog oedd, "Nad oedd efe am osod ei dir i neb ond i eglwys- wr a fyddai yn barod yn mhob etholiad i bleid- leisio dros y Toriaid.' Atebodd yr Ymneillduwr Nad oedd ef am gymmeryd tir o dan neb oddi- eithr fod y perchenog yn bleidiol i roddi rhydd- id i bawb, ac hefyd yn foddlon i bleidio y ballot. Cyssondeb ac Unffurfdeb.—Y mae yr eglwys- wyr yn dangos eu cyssondeb a'u hunffurfdeb yn y dyddiau hyn trwy ffraeo yn iachus a'u gilydd. Y maent hefyd yn dangos eu cyssondeb a'u hun- I ffurfdeb trwy gyhoeddi bedair gwaith ur ddeg y y 11 In flwyddyn nad all y neb nad yw yn credu eu credo fod yn gadwedig; ac y maent yn ffraeo. yn frawdol a'u gilydd yn nghylch pa beth ydyw eu credo. Y maent yn gysson ac yn unffurf yn eu condemniad o'r Ymneillduwyr. ac yn eu pleidiad o'r Degwm a'r Dreth, ac nid ydynt yn 11 gysson nac yn unffurf mewn. dim ond hyny.
LLYTHYR ODDIWRTH MR HENRY…
yn ergyd trwm, ac yn annghefnogiad mawr, i achos Ymneillduaeth, ac i ryddid etholiadol yn y dywys- ogaeth. Pe byddai yr etholiad i gymmeryd lie yn fUlln. yr wyf yn meddwl na phetmswn datin fy hun ich canol ar antur, a felly rhoddi cyfieusdra i'r eth- olwyr ymneillduol i ddangos o ba fater y gwnaed hwynt. Ond gan na ell) iiiiiior yr etholiad le hyd lKfjO, yr wyf yn teimlo yn hwyrfrydig i nvyrno fy hun wrth ymgeisiadaeth sydd i barhau am ddwy %nedd, af seiliau mor anmhennodol ag sydd o'm blaen yn bresenol. Dywedaf wrthych, beth bynag, yr hyn wyf yn foddlon i wneud, os bydd hyny yn dderbyniol gan fy nghyfeillion yn y bwrdeisdrefi cyfunol; heb osod fy hun allan yn ffurflol fel Yiiigeisydd, dcuat' i lawr ac annerchaf ddau neu dri o gyfarfodydd, fel ag i roddi cyfieusdra ir bobl i'm liadnabod ac i wybod fy ng'ol- ygiadau politicaidd. Os bydd y canlyniad yn fodd- mms, hwyrach y daw allan o hyny gais, ne1:1 ryw foddion araU er cael allan ddyrauniadau yr etholwyr presenol a dyfodol, yr hyn a fycld yn fwy pennodol a sicr na phenderfynia.dau cyfarfodydd cyhoeddus, pa mor frwdfrydig bynnag y byddont. Ac os ymddengys fod yna lawer o'ch pobl chwi yn awyddus am i mi, cyd-Gymro a chyd-ymneillduwr, yn ol eithaf fy ngallu eu cynnrychioli yn y senedd, yna gwnaf fy eithaf i ymladd eu brwydr ac i'w hen- nill. Yn awr. os bydd y cynnygiad yna yn dder- byniol, daw y cwestiwn o adeg fy ymwoliad. Y rnae yn ofidus genyf nas gallaf ddyfod yn uniongyrchol, yn herwydd ymnvymiad pwysig mewn cyssylltiad a phwnc lieddwch, rhaid i mi fyned i Holland yn gyn- nar yr wythnos nesaf, a phur debyg oddiyno i Paris, fel y mae arnaf ofn y bydd yn anmhosibl i mi fod gyda chwi cyn mis Medi. Yd wyf, Ar.wyl Syr, Yr eiddoch yn gywir, HENItY ITLCHARD.' C. H. James, Ysw.' Mr. Gol.—Dyna ni wccli eifachu yn ei foeh, ac ni ollyngwn ein gafael arno nes gosod M.P. wrth ei gynfton, a'i ollwng i'r senedd fel y eynnrychiolydd cyntaf mewn gwirionedd dros Gymru, a'r unig un pur debyg fydd yn gwir gynnrychioli ymneillduaeth Cymru. Yr oedd g-enym syniadau uchel am Mr Richard o'r blaen, ond yn awr yr ydym yn ei ed- mygu lawer yn fwy. Digon tebyg fod rbai yn meddwl nad oedd dim yn ei"iau ond crybwyll ei enw, y buasai yn neidio at yr anrhydedd fel cath at lygoden, neu fel Tango Hiraethog at y brain, y ewil- ingod, yr ysgyfarnogod, a phob peth a welai o bell ac agos. Nid dyn byrbwyll, anystyriol, ac uchel- geisiol felly ydyw Mr. Richard. Er fpasio pender- fyniad mewn cyfarfod cyhoeddus i'w wall odd, a hyny heb ei fod yn gwybod dim am y poth, ac er i rai o brif ddynion Merthyr ac Aberdare, megys C. H. James, Ysw., Merthyr T. Williams, Goetre, Mer- thyr; a D. Davies, Y'sw., Maesyffynnon, Aberdare, i fyned i fynu i Lundain ar eu traul eu huain i ym- gynghori ag ef, i osod y penderfyniad a bassiwyd or unfrydol a chyda'r fath frwdfrydedd yn y cyf- arfodydd cyhoeddus, ger ei fron, ni roddodd atebiad cadarnhaol ac ar ol pythefnos o ystyriaath ddwys, gwelwch y pwyll a'r doethineb sydd yn ei lythyr. Fel yr oedd yn gyfiawn iddo wneud, y mae wedi taflu y baicli arnom ni y rhai a'i gwahoddasant. Os try yn fethiant arno, nid arno ef y bydd y bai ond arnom ni, ymneillduwyr Mertliyr ac Aberdare. Yr ydym yn aw,\ ddus yn disgwyl yr amser y cawn y pleser o wrando Henry Richard yn traetliu ei gredo boliticaidd, ac yn dra sicr ein, meddyliau y bydd uono y fath ag a foddha bob gradd o Kyddfrydwyr, o'r Chartist penboeth hyd at y Whig mwyaf oer ei galon a brawychus ei deimlad. Diolch yn fawr i'ch gohebydd W. J. E. am ei gynghorion difrifol a phwrpasol yn y TYST diweddaf. Ond, yr ydym yn credu ei fod wedi camgymeryd natur a lleoliad clefyd Dr. Price, Dywed ef, Gor- mod dysg sydd wedi ei yru yn ffol.' Na, nid oes gormod o ddysg yn ei ben ef. Y mae yn wir ei fod wedi cael PH.D. o Germany, a rliyw un wedi gorfod talu am dano hefyd; nid 3-w hyny yn profi fod gor- mod o ddysg yn y pen, ond fod beth bynag .£00 yn Y Ilogell. Y gwir am dani yw, yr ydym ni, y rhai sydcl yn teimlo gymmaint dros sefyllfa beryglus y Dr. y dyddiau hyn, wedi bod yn ymofyn a dyn hys- tJ!Js, ac y mae hwnw yn dweyd am i ni beidio a bod yn galed iawn arno, nad yw y clefyd hwn ddim i farwolaeth ei egwyddorion ymneillduol, y daw ef eto i'w le, yn neillduol os cyll Mr Fothergil y dydd. Yr oedd y Dr., meddai y dyn liysbys, a'i lygad yn ei ben er's amser, fel y dengys y fusnes yn Aberhonddu. Yr oedd efe yn dealt arwyddion yr amseran, ac yn gweled y buasai yn rhaid i ymneillduwyr Merthyr ac Aberdare gael ymneillduwr i'w cynnrychioli cyn hir. Yn Aberhonddu cafodd gyfleusdra i ddangos y gallasai jtweinidog fod yn Aelod Seneadol. Dyna bobl Merthyr ac Aberdare wedi eu goleuo yn y mater yna beth bynag. Yn awr, dyma eisiau ail Aelod dros Merthyr ac Aberdare. Ni feddyliodd y Dr. y buasai dynion yn meddwl am fyned tu allan i Aberdare i chwilio am ddyn, ac yntau wedi bod yn cynnyg yn Aberhonddu. Ond i gael bod yn sicr yn y mater, heb gynnyg ei hunan hefyd, penderfyn- odd ar gynllun cyfrwys dros ben. Gwyddai fod Mr Fothergil yn dipyn o gyfaill iddo, a bod nerth gan y Seven os byddai rhaid. Felly aeth at Mr Fothergil i'w seboni a chynnyg y sedd iddo a i dafod (heb ei galon), heb freuddwydio y buasai Mr Fothergil yn neidio at y cynnyg fel y gwnaeth. Yr oedd y Dr. druan yn creda fod Fothergil a'i drwyn yn y ddaear, yn y tan, ac yn y siop, yn rhy dyn iddo ymunioni i feddwl am fod yn aelod seneddol. Meddyliodd y Dr. y buasai y boneddwr haiarn a glo yn diolch iddo yn wresog am ei gynnyg, ac yn dychwelyd y compliment iddo ef, gan ddweyd, os gwnewch chwi Dr. sefyll am y lie, cewch fy holl ddylanwad i, a'm Sei •en at eich gwasanaeth hefyd os bydd an gen. Ond ysywaeth fel arall y bu. Yn lie bod y Dr. yn ennill Mr Fothergil i'w gynnyg a'i bleidio ef, y mae Mr Fothergil wedi bachu y Dr. wrtlio ef. Camgym- meryd yn ei dactics wnaeth y Dr. druan. Dyna es- ^oniad y dyn hysbys ar ei glefyd ef, ac er ein bod yn gallu edmygu ysprycl a thalent W. J. E., y mae yn well genym eglurhad y dyn hysbys. Maddeuwch feithder y llythyr hwn, nid oes genyf esgusawd, ond yn unig fy mod yn myned i'r hwyl fawr wrth ys. grifenu am frad a bradwyr, pan y mae brwydr j egwyddorion mor bwysig yn cael ei hymladd. GOHEBYDD.