Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

ADDYSG YN NGHYMRU.

TAITH 0 GWYNFE I'R AMERICA.

AT OLYGYDD Y TYST CYMREIG.

News
Cite
Share

AT OLYGYDD Y TYST CYMREIG. Syr,-Z-.id oes dim sydd yn cyffroi ffynnonau bywyd a llawenydd yn debyg i dywyniad heulwen. Mae yn peri i galon dyn lawenychu, ac i'w wyneb ddysgleirio. Clywir mwy o ring yn ei chwerthiniad; gwelir mwy o loywder yn ei lygaid; a theimlir mwy o rym yn ei gerddediad. Mor expressive ydyw yr hen air Cymraeg heulwen—given haul, ac nid ty- wyniad haul fsunshine) fel y dywed y Sais. Gweaa yr haul fel gwr priod yn dyffld allan o'i ystafell, a gwena y ddaiar yn ol fel priodferch ar ddydd ei phriodas. Chwytha yr awel yn fwy tyner, ym- deimla yr awyr yn fwy ysgafn, ymfywha y blodeu yn eu gwvclider penaf, tra mae gwyrddlesni amryw- iol y llawr a glesni dwfn y wybren uwchben yn ddarluniau o berffeithrwydd tegweh. Mawr ywy gwahaniaetli mewn tref fel Harrogate, rhwng o Y nc'n ddu a phob lle'n ddwl,' a'r adeg pan y dawnsia pelydrau yr liuan, a phan Ei des wna'n gariadusol Bob bryn, a dytiiyn, a dol.' Ar foreu hyfryd fel hyn cymmerem daitli facn o tllltir neu cldwy i wibio yn mhlith clogwyni Birk Crags. Dyma le i'r naturiaethwr a'r bardd gael gwleild ddifyrus am lawer awr mewnunigedd llwyr, lieb ddim i dori ar y dystawrwydd ond murmur lion yr afon fas islaw. Glyn rhamantus ydyw. wedi ei agor gan ryw chwyldroad tanddaearol yn yr hen hen amser gynt. Nid yw dros hanner milltir o hyd. Culha a dyfnha o'i enau i'w ben draw. Nid yw yn fwy na rhyw gan llath o led yn y lie llettaf, ac fe- allai ei fod yn rhyw hanner cant o latheni o ddyfn- der, mewn llinell unionsyth. Mae yr ochr ddeheuol yn fwy serth o lawer na'r ochr gyferbyniol. Yma mae talpiau mawr o greigiau yn sefyll megis ar ddyddim, wedi eu hattal yn eu rhedegfa wyllt ar y goriwaered. Tyfa brysglwyni. a rhedyn, a mwsogl o wahanol fathau arnynt, o'u hamgylch, ac o danynt. Ymrithia blodionos man yma ac acw hefyd, rhwng llwydwedd y cerryg a glesni amrywiol y llysiau. Yn wir, mae yn ddarlun ardderchog o natur yn ei gwisg garti-efol-of beauty unadorned-heb ddim o waith celfyddyd i'w anurddo. Ycliydig oddiyma ar lecyn uchaf bryn bychan cyfodwyd twr uchcl i roddi mantais i'r ymwelwyr i welcd y wlad. Golygfa ysplenydd ydyw hefyd. Meddyliai yr adeiladydd am ei godi yn ddigon uchel i gael golwg ar y mor o du y dwyrain a'r gor- llewin. Dywedir y gellir gweled ar ddiwrnod clir trwy gymmorth ysbienddrych, yr afonydd Tees a Humber yn ymarllwys i'r mor. Ond y mae bryniau oesol yn cadw draw yr olwg ar y mor o'r tu hwnw. Oddiar gopa uchaf y twr canfyddir bryniau a dy- ffrynoedd breision Yorkshire yn ymledu o'n blaen fel panorama mawr. Gwelir codiad a chydgyfar- fyddiad yr holl afonydd yn y sir bron. Ymddyrchafa tyrau eglwysi cadeiriol York a Ripon ger ein bron ac ar brydiau daw Lincoln bithau i'r golwg. Cyf- eirir oddiyma at gryn saith o faesydd rhyfel nodedig, a lluaws o fanau He bu brwydrau man. Gellir ol- rhain nifer mawr o drefydd a pbentrefydd, o hen gastelli a phaalsau, ac o gapeli ac eglwysi. Gorwedd Harrogate o'n blaen fel dinas ar fryn, yr lion ni ellir ei gorchuddio. Ymddengys ei cherryg nadd gwyn- ion, ei gerddi, a'i rhodfeydd, yn brydferth a dymun- ol iawn. Ar ol ciniaw gallwn gymmeryd gwibdaith mewn cerbyd vn nghwmni y rhyw deg can belled a'r Plumpton Rocks. Mae y creigiau hyn eto fel pe wedi eu codi o'r dyfnderoedd obry ar gefn rhyw don gynhyrfus o ddaeargryn, a'u gadael yno yn blith- draphlith fel y r oeddynt. Mae y lie wedi ei osod allan fel pare gwyllt, yn cynnwys coedwigoedd cau- adfrig, creigiau crogedig, a llynoedd o ddyfroedd gloywon llonydd. Ar y ffordd adref awn heibio i'r gell a hynodwyd gan gytlafan erchyll, sef y lie darfu i Eugene Aram Iadd yr hen ddyn er mwyn cael ei drysor. Mae Bulwer Lytton wedi ysgrifenu novel gampus ar yr amgylchiad. Pan yn ymweled a'r lie hwn yr oedd gennym hen wraig ddoniol i ddangos y lie a dweyd ei hanes. Cawsom ddigon o dal am y draul a'r drafferth wrth wrando ar iaith goeth, a syllu ar agwedd bendefigaidd yr hen chwaer, yr hon a roddai brofion amlwg ei bod wedi gweled dyddiau gwell. Aethom heibio i'r ffynnon garregol, a rhoisom dro trwy weddillion castell Knaresborough, yr hwn a dyuwyd i lawr yn llwyr gan filwyr Cromwell. Dyma ni erbyn hyn yn dynesu at Harrogate, tra mae bre- nhin y dydd yn myaed i lawr i wely'r heli yn ngwisgoeed ei ogoniant. Yr unig gymmyla a welid ar wyneb y wybren oeddynt o amgylch ei fawrhydi, wedi eu Iliwio yn y dull mwyaf ysplenydd. Ym- ffurfiai un cwmmwl fel robe of state am dano, a'i odreu wedi ei oreuro ag aur byw—tanllyd—dysgleir- iol. Syllem ar yr olygfa gyda rhyw foddineb rhy ddwfn i eiriau, ac yn rhy gyssegredig i un gydmar- iaeth idaearol. Ond torwyd ar ein mwynhad yn fuan trwy y gydmariaeth fwyaf trwstan ac anfardd- onol ag y gallesid meddwl am dani. Diolch am ambell iprosy creature i'n deffro o'n breuddwydion, a'n dwyn o fro y nifwl i droedio daear eilwaith. Dyma ni bellach yn prysuro adref dan chwerthin o ewyllys calon. Treuliwn oriau yr hwyr yn olrheinio awen gwlad y bryniau, neu yn dilyn Emerson trwy ei grwydr- iadau yn yr Andirondacs, nes daw y lleuad wen i nofio yn yr awyr las, ac i arllwys ei ffrydiau arian- aidd ar wyneb y ddaear. Erbyn hyn mae yn hen bryd i ni ganu nos da'wch, ac i ymadael bawb i'w fan. Yr eiddoch, Arc., GOGLEDDWR.

YR HEN ARDDWR.

AT OLYGYDD Y TYST CYMREIG.

AT OLYGWYR Y 'TYST CYMREIG.'

AT OLYGWYR Y I TYST.'

CYFRINAOH I.

LLYTHYR ODDIWRTH MR HENRY…