Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

ADDYSG YN NGHYMRU.

TAITH 0 GWYNFE I'R AMERICA.

News
Cite
Share

TAITH 0 GWYNFE I'R AMERICA. Foneddigion, —Deallwn wrth don eich newydd- iadjir mai yr amcan mewn golwg ydyw icjdo ddwyn tystiolaeth o'r gwirionedd ger bron y byd; felly y tystiolaeth o'r gwirionedd ger bron y byd; felly y mae genym hawl i sylwi ar y tystiolaethau, a'u cyf- erbynu a'r gwirionedd. Dywed awdwr y daith uchod yn ei lith y gellir prynu tocynau y rheilffyrdd yn Castle Garden [am banner y pris, yr hyn sydd yn gamsynied mawr. Bwriwch fod yr ymfudwr yn codi tocyn o New York i Cleveland, Ohio, fe gostia iddo wyth dolar a han- ner yn Castle Garden, a'r un fath yn ngorsaf y rheilffordd. Cofier mai emigrant train ydym vn ei feddwl am y pris yna, oblegid y mae express 'ticket yn costio pymtheg dolar i'r lie a nodwyd. Dywed hefyd fod digonedd o fwyd iachus i'w gael ar werth yn Castle Garden, yr hyn eto sydd yn gamsyniad, neu ynte yn anwiredd bwriadol. Gwir fod yno deisenau ar werth, ac enw o laeth; ond y fEaith yw fod y teisenau yn wael, a'r llaeth wedi bod gerllaw y ffynnon. Gall y neb a fyno aros am noson yn Castle Garden, a gorwedd ar y llawr caled, oblegid nid oes yno un ddarpariaeth arall ar gyfer teithwyr. Ffolineb mawr ydyw paentio pethau mor ardderchog o flaen llygaid y darllenydd, a hwnw ar ol myned i'r fan a'r lie yn cael ei argyhoeddi nad yw petliau yn bod, fel y darllenodd am danynt. Buom yno fwy nag unwaith, a gwnaethom sylw manwl ar bob peth yn ac o amgylch Castle Garden. Nid wyf am sar- hau neb mewn un modd ond credwyf mai dyled- swydd y sawl sydd yn gwybod ydyw anmheu pethau anwireddus a deflir yn awr a phryd arall o flaen y cyhoedd. Gwn fod y trains yn America yn mhell o flaen yr hen wlad ond yn wir, lied gyffredin ydyw yr emigrant train i fyned ynddo am ychydig ganoedd o filldiroedd, os gellir fforddio talu yr express. Mae llawer o bethau eraill ag y gallem wneud sylw o honynt a fyddai yn lies mawr i ymfudwyr; ond gwell ymatal y tro hwn. Yr eiddoch, &c„ IDWAL LEWYS.

AT OLYGYDD Y TYST CYMREIG.

YR HEN ARDDWR.

AT OLYGYDD Y TYST CYMREIG.

AT OLYGWYR Y 'TYST CYMREIG.'

AT OLYGWYR Y I TYST.'

CYFRINAOH I.

LLYTHYR ODDIWRTH MR HENRY…