Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ili Awl)ll AP., ]-)'I',.YI)DEST.

CYMMANEA LIVERPOOL.

[No title]

BWRDD. Y CYNGHOE.

News
Cite
Share

BWRDD. Y CYNGHOE. Mae yma gryn nifer o ysgrifau wedi croni yn y swyddfa, ag y teimlwn ei bod yn llawn bryd eu dwyn i'r Bwrdd i gael cynghor uwch eu pen- au. Dichon y dylasem fod wedi gwneud sylw cyn hyn o rai o honynt; end nis gwyddem yn iawn pa beth i wneud a hwy. Xid oeddynt yn gwbl barod i'w cyhoeddi oil fel yr oeddynt; Ilawer n llai yr oeddym yn barod i'w cau allan yn llwyr a phenderfynasom, gan hyny, i agor congl yn achlysurol i ddwyn i'r Bwrdd ohebiaethau o'r fath. Cawn yma gyfle i ateb ymofynion ein gohebwyr, ac i roddi esboniad iddynt ar bethau a ymddengys yn ddyrue. Ac unwaith y byddo Bwrdd y Cynghor wedi eistedd ar unrhyw fater, nid oes ychwaneg o siarad i fod arno. Digwyddodd i ni gyhoeddi yn un o'n rhifynau yr hanes am frathiad Lewis Lewis gan neidr, a'i iacliad llwyddianus gan Mr. D. Lloyd. Yn ddioed wedi cyhoeddiad yr hysbysiad, derbvn- iasom lythyr wedi ei arwyddo Lewis Lewis, Troedyrhiw, Syflan Fawr. Aberayron,'yn gwadu y cwbl am yr iachad, ac yn siarad yn ddirmygus iawn am Mr. Lloyd, ac iddo ei bigo yn waeth na'r neidr, a'i fod pan yn ysgrifenu heb ei iaehau. Barnasom ei fod yn rhy sarhaus i'w gyhoeddi; zl_ ac eto, os oodd rhywrai am roddi clod nad oedd ddyleclus i Mr. Lloyd, tybiasom yn briodol i wneud y nodiad a wnaethom. Wedi liyny, deallasom mai ffug oedd y llythyr a anfonwyd i ni, ac nad arwyddodd L. Lewis ddim o'r fath. Mae y llythyr yn awr ar y Bwrdd; nid yw yn ymddangos mai yr un llaw a ysgrifenodd y ym, n llythyr, ac a ysgrifenodd enw L. Lewis. Maeyr olaf yn debyg i law merch, er fod yn anhawdd genym gredu i un ferch yn sir Aberteifi ysgrifenu yn enw neb heb ei genad. Z, Berbyniasom y llythyr a ganlyn, yr hwn, ni debygwn, a fydd yn derfyn ar y cwbl:— AT OLYGYDD Y 'TYST CYMREIG.' Foneddi( ,,ioii,-Yr wyf yn ysgrifenu atoch unwaith yn chwaneg mewn perthynas i'r dyn a gafodd ei frathu gan y neidr. Yr oeddech chwi yn siarad yn y TYST am Awst 17, fel pe baech wedi derbyn rhyw wftliddywediad i'm liysgrif tiaenorol. Yr oeddwn yn casglu oddi wrth eich nodyn fy mod wedi anfon celwydd atoch, a bod L. Lewis wedi anion atoch i wadu hyny. Yr wyf finnau y waith hou yn haeru mai gwivionedd oedd pob gair a ddywedais. Ac yn mhellach, foneddigion, ni fedr L. Lewis ysgrifenu ei enw; a sut y gallasai ef anfon aLoh. i ddarfu iddo awdurdodi neb arall chwaith. Yn awr, y mae yn naturiol i mi gredu mai rhai o'r bobl y methu sydd wedi eich tvvyllo chwi trwy ysgrifenu yn enw L. Lewis atoch. Peidiwch derbyn gair i'w gyhoeddi oddiwrth neb ar y pwnc hwn mwy, os na bydd wedi cael ei arwyddo gan y Parch. D. Evans, Penrhiw- drych, neu y Parch. D. Evans, Ffoes-y-ffin. Wele yn canlyn dystiolaeth L. L ;wis ar yr achos: Yr wyf fi, L. Lewis, Troed-y-rhiw, yn sicrhau na bu neb yn gofyn cenad i mi am gael ysgrifenu yn fy enw i'r TYST CYMRKIG. Yr wyf yn tystio yn mhellach mai Mr. D. Lloyd, Pendryn, yw yr unig un a'm gwellha- odd trwy fenditli Duw. Trocd-y-rhiw. L. LEWIS.' Enwau y Tystion. Coopers' Arms. William Williams. Castell Llwyndafydd. David Jones. Llanarth. John Thomas. Cwm Deugraig. James Jones. Yr eiddocb, &c., THOMAS DAVIE S. Nis gallwn feddwl fod eisiau rhagor ar y mater; ac os ydyw y dyn a frathwyd wedi gwella, dyna y peth mwyaf wedi ei gael; a rhodder toll i'r hwn y mae toll yn ddyledus.' Achwyna Hoffwr Chwareu teg ar Gwilym Amgoed,' am na buasai yn rhoddi hanes cywir- ach o'r cyngherdd yn Xarberth. Dywed fod z! rhai o'r darnau a ganwyd heb eu crybwyll, ac amryw wedi eu hencorio na sonir am danynt. Wei, y mae camsyniadau yn digwydd yn ami pan na byddo un drwgfwriad ac y mae cam- gymmeriadau mwy na'r rhai yna na feddylia dynion call am eu codi i'r gwynt. Hwyrac'n pe byddai y cofnodion am gyfarfodydd o'r fath yn fyrach y byddai llawer llai o gamsyniadau yn digwydd. Mae Mr. Owen Jones, Ynys medw, er mwyn cefnogi pwyllgor a chyfeillion tysteb y Parch. J. Mathews, Castellnedd, wedi anfon atom i ddy- weyd ei fod efwedi derbyn rhodd ati o Awstralia. Bwriedir cythvyno y dysteb yn mis Hydref nesaf, yn mhen 20 mlynedd wedi sefydliad Mr Mathews yn Soar, Castellnedd. Nid rhaid i ni gymhell cyfeillion lluosog Mr. Mathews i ddal ar y cyfle i ddangos eu gwerthfawrogiad o'i lafur a'i weini- dogaeth, oblegid gwyddom mai am fod parod- rwydcl meddwl o'r blaen' y maent wedi dechreu ar hyn 0 orchwyl. Mae Cymro Penybryn yn cwyno yn erwin am y pethau y gorfodir ef i'w dwyn oblegid ei an- wybodaeth o'r iaith Seisnig. Tyddynwr bychan ydyw mewn parth mynyddig o Gymru, ac yn ei dro yn gorfod gwasanaethu fel swyddog plwyfol. Ond Saesneg yw yr holl bapyrau hyny; a bydd mewn trafferth fawr yn chwilio am gyfieithydd. Dirwyir ef am na wnai yn iawn, ac yntau heb ddeall pa beth a ofynir. Gofyna am ein cynghor a'n cynnorthwy. Yn sicr, nis gwyddom pa help a allwn roddi yn y fath amgylchiad. Credwn y cly 1 byddai yn haws i Gymro ddysgu Saesneg nac a fyddai i ni allu perswadio awdurdodau y plwyfi a'r siroedd i roddi y papyrau yn yr iaith Gym- raeg. Mae y Saesneg yn ymledu yn ein gwlad, a da iawn y gwnai pob cymmydogaeth ped ym- drechent fwy gydag ysgolion dyddiol i roddi addysg dda i'r plant a fegir, fel na byddo yr oes nesaf o dan yr anfantais y cwyna Cymro o'i phlegid. Mae ein gohebwyr—Gorwst Ddu o Dewi Sant, a Dafydd o dir Dyfed, yn llawdrwm ian ar ein gohebydd leuan Mon, oblegid y gwallau yn ei englynion yn rhifyn Awst lOfed, ar Y baban yn glanio yn y nef.' Mae Dafydd dipyn yn dynerach na Gorwst. Esgusoded y ddau ni am beidio cyhoeddi eu beirniadaeth; nid ydyw leuan, dichon, ond dechreu, a chydag ymdrech, hwyrach y gellir gwneud bardd o hono. Aed rhagddo. Mae Mab y Daran, Blaeucwmwst, wedi anfon i ni anerchiad i'r TYST. Diolch yn fawr iddi am ei farn uchel am dano. Cwyna o eisiau cae mwy farddoniaeth yn y mesurau caethion englynion, a chywyddau. Gwell ganddo gael ur englyn na cholofii 0 farddoniaeth rydd. Mac wedi ein lianrhydeddu a'r englyn a ganlyn :— 0 ITa TYST yw 'r hwn o'r tystion-a glan ddaw A hylaw i'n 'n hylon A llawn o wres er lies lion, I'n noddi a newyddion. Gadawn ei ofyniadau ar hyn o bryd.

farddoniaeth.

Y BEDD.

ENGLYN BYRFYFYR