Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ili Awl)ll AP., ]-)'I',.YI)DEST.

CYMMANEA LIVERPOOL.

News
Cite
Share

CYMMANEA LIVERPOOL. Mae Cymmanfa Annibynwyr Cymreig Liver- pool a Birkenhead wrth y drws. Gwelir mewn colofn arall gynllan 0 drefn y pregethu yn yr holl gapeli dros y Gymmanfa. Nid (les ar y rhestr eleni ond ychydig o hen enwau y rhai a fuont yn golofatli y cymmanfaoedd yn y dydd- iau gynt; ond y mae yma ddau neu dri o enwau y rhai sydd wedi bod yn y rhan fwyaf 0 gym- manfaoedd yr enwad yn y dref am y 25 mlynedd diweddaf; a thri neu bedwar eraill a fuont yma yn achlysurol; ond y mae yma bump neu chwech na chlywyd hwy 0 gwbl yma mewn cymmanfa. A disgwylir yma eleni un hen wein- id@g parchus a phoblogaidd, fel y mae yn fwyaf syn genym glywed na bu yn y dref erioed o'r blaen-y Parch. P. Griffith, Alltwen. Bydd yn ddawn'dieithr a hollol newydd i bobl Liverpool. Nid oes achos dyweyd wrth neb yn Neheudir Cymru pwy yw Griffiths, Alitwen,' canys y mae wedi bod yn un 0 brif bregethwyr eu cyfarfod- ydd a'u cymmanfaoecld am fwy na deugain rnl 11 mlynedd. Ac y mae coffa da gan rai hen bobl yn y Gogledd am ei ymweliad ef a'i gyfaill a'i berthynats y diweddar Griffiths, Castellnedd, a'r wlad bump neu chwech a deugain o flynyddau yn 01. Nid ydym yn sicr a fu Mr. Griffith, Alit- wen, yn y Gogledd byth wedi hyny. Mae wedi dyoddef oddiwrth gloffni am flynyddari lawer, yr hyn sydd wediei analluogi i deithio yn mhell oddicartref. Ond y mae wedi bod yn weithiwr difefl' gartref, mewn planu ac adeiladu eglwysi, a llaw 3a- Arglwydd' wedi bod gydag ef. Da genym ei fod yn dyfod i'r dref i'r gymmanfa eleni; ac os digwydd iddo gael ei hen hwyliau 11 9 gynt, nid a ei ymweliad yn anghof gan y gen- hedlaeth bresenol. Mae ei oedran, ei gymmer- iad, a'i ddieithrwch i'r dref yn ddigon o esgus- awd dros wneud cyfeiriad fel hyn ato cyn ei ddyfod. Gofynir weithiau pa les y mae cymmanfaoedd a chyfarfodydd mawrion yn ei Wneud ? Gellir gofyn hefyd pa les y mae pob moddion arall a arferir yn ei wneud. Un o'r pethau anhawddaf ydyw dyweyd pa bryd y mae lies a daioni yn cael ei wneud. Mae yn bosibl fod daioni yn cael ei effeithio, er na welir hyny yn uniongyrch- ol. Mae cymmanfa neu gyfarfod blynyddol yn fare yn hanes enwad yn ystod bl wydelyn mewn lie fel Liverpool. Mae yn rhywbeth i edrych yn mlaen ati, ac i'w hadgofio wedi yr el heibio. Tyr ar moiiotoiny y tlwyddyn. Mae llawer iawn yn dyfod i wrando yn y gymmanfa na welir hwy ar un adeg arall o'r flwyddyn. Bydd trwst y gymmanfa a dyfodiad dieithriaid i'r dref, a rhai o'r ardaloedd lie y magwyd hwy yn tynu llawer allan na welir hwy ar un adeg arall; a phwy a all ddyweyd y lies a all y cyfryw gael. Mewn lie fel Liverpool, lie y mae cynnifer o bethau yn tynu sylw ac yn temtio dynion i fyned ar gyfeil- iorn, y mae angen am ryw symbyliad gwastadol. Mae yma filoedd o Gymry na welir hwy yn un lie 0 addoliad yn hyd y flwyddyn. Y maent wedi ymollwng i'r esgeulusdra a'r oferedd mwy- af; ac yn yr agwedd resynol hono wedi colli pob teimlad crefyddol. Mae cyflwr y cyfryw yn dor- calonus iawn; ni ddywedwn eu bod yn anobeith- iol, ond ychydig enghreifftiau sydd 0 rai wedi eu hadfer ar ol disgyn i'r stild ddiraddiol yna. Ond y mae yma eraill heb ddisgyn mor isel; deuant i wrando ar ryw amgylchiad anghyffredin- Cymmanfa y Bedyddwyr y Pasc—Sassiwn y Methodistiaid y Sulgwyn—a Chymmanfa yr An- nibynwyr ydynt agos yr unig achlysuron sydd yn gallu eu tynu allan; a phwy a wyr na lyna rhyw air yn eu calonau. Disgwyliwn, a gwedd- iwn am hyny yn y Gymmanfa eleni, ac y byddo rhywrai yn cael yr Arglwydd nad ydynt yn ymofyn am dano.'

[No title]

BWRDD. Y CYNGHOE.

farddoniaeth.

Y BEDD.

ENGLYN BYRFYFYR