Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

CWRDD CHWARTER CEREDIGION…

News
Cite
Share

CWRDD CHWARTER CEREDIGION A CHOLEG ABERHONDDU, A'R PARCH. W. EDWARDS, ABERDAR. Erodyr,—Gwelais yn y TYST CYJIREIG- eich bod wedi cymmeryd eich rhyddicl i anfon tri o ofyniadau i mi o barthcd i dderbyniad a gwrtliocliad yr ym- geiswyr yn y Coleg Mehefin diweddaf. O'r braidd yr vdwyf yn ystyried yn dcg ynocb i'w cyfeirio ataf fi dan fy enw, am nad yw y peth yn iierthyn i mi yn bersonol, mwy nag i chwithau. Dylasech wy bod nad y fi yw y cadeirydd ar hyn o bryd. Rhocldais i fy ngoruehwyliaetli i fyny i'r cyfarfod cyhoeddus, yr lawn a wnaetliai a mi yr anrhydedd o'm galw i'r g'adair. Ac os cymmerwch y drafferth i edrych i adroddiad y coleg, chwi a gcwch weled foci y cyfarfod bwnw wedi cymmeradwyo gweithrediadau y pwyll- gor am y flwyddyn—1 derbyniad, a gwrthodiacl yr ymgeiswyr' fel pob peth arall. Eelly y cyfarfod cyffredinol, yr bwn oedd yn cael ei wneud i fyny o gynnrychiolwyr yr eglwysi oydd weithiau yn gyfrifol am dano. ac nid y pwyllgor, na'r cadeirydd. I Wrtli hy»iy> y mae pob un o bonoch chwi eicb hunain ag sydd yn aelod o'r cyfarfod liwnw, drwy ei fod yn talu lp. yn y flwyddyn mewn cyssylltiad ft'i eglwys at gynnal y coleg mor gyfrifol am dano ag ydwyf finnau. Ac yn wir, os wyf yn cofio yn iawn, yr oetld chwech o bonocb yn y cyfarfod cyffredinol. Pa ham na fnasai y ehwech esboniad ar weithrediadau y pwyllgor cyn idclynt gael eu cymmeradw-o gan y cyfarfod cyffredinol. Fel aelodau o'r cyfarfoc1 cy- ffredinol, yr ydych wedi cymmeryd y mater i'ch I I aw eich hunain. Felly, os oes rhyw gamwri wedi ei ,-wneud, nid oes neb mwy cyfrifol am dano na cbwi. Gwyddocb nad oes dim a wna y pwyllgor mewn awdurdod nes i'r cyfarfocl yffredinol ei gymmerad- wyo. Ac ar ol derbyn cymrneradwyaeth y cyfarfod .hWDW, peidia a bod yn eiddo y pwyllgor ac felly, y mae eyfrifoldeb y pwyllgor yn darfod a'r cyfarfod cyffredinol wrth ei gymmeradwyo yn dyfod yn gyf- rifol i'r eglwysi ag sydd yn cynnal y coleg yn lie y pwyllgor. Byddai mor deg, gan hyny, i mi lieu rywun arall anfon y gofyniadau i'r Parch. W. Evans, Aberaeron, ag oedd i gyfarfod o dan lywyddiaetli y Parch. W. Evans, i'w hanfon i minnau. Os darfn i mi, nen y pwyllgor d(lefnyddio rhyw dwyll neu hoced wrth roddi ein goruchwyliaeth i fyny, nen rywfodd ddarn- guddio rhywbeth a ddylasai ei wneud yn hysbys a a thrwy hyny gam-arwain y cyfarfod cyhoeddus, addefaf yn rhwydd ei bod yn eithaf teg i chwi alw cywirdeb y pwyllgor i gwestiwn. Ond os bu y pwyllgor vn onest ac yn gydwybodol yn eu gweith- rediadau, gan wneud y cwbl yn y ffordd oreu er lies y sefydliad a'r eglwysi mor belled ag yr oedd en v, doethineb liwynt yn myned. Mae tegwcli yr efengyl, a chyfiawnder dynol, a brawdgarwch cyfunclebol yn galw am i chwi fod yn araf, araf, cyn condemnio dynion a all fod mor onest ac mor gydwybodol a chwithau. Gallaf eich sicrhau nad oedd genyf fi ddim dros ddewis na gwrthod yr un o'r dynion ieu- ainc yn fwy na'u gilydd, ond ceisio gwneud mor gydwybodol ag y gallaswn fel cadeirydd, ac aelod o'r sefydliad ac yr wyf yn credu fod yr holl bwyll- gor yn gweithredu oadi ar yr un egwyddor anhun- angar. Addefaf yn l'hwydd y gall ein bod wedi camgymmeryd. Nid ydym yn honi anffaeledigaeth, ond gwneuthur y cwbl yn onest ac anmhleidgar. Ac y mae yn go debyg pe buasai y mater yn llaw y cyfarfod, yn cael ei wneud i fyny o'r Parch. John Williams, Castell Newydd, a chwech neu saith o wyr ieuainc nas gall fod eu piofiad na'u doethineb eto wedi gor-addfedu, na buasai pethau yn troi allan fawr gwell. Ond o ran hyny, aid oes dim newydd o dan haul* Nid y pwyllgor hwn yn unig sydd yn methu pan yn peidio derbyn ambell i ymgeisiwr ag y mynai ei weinidog ei wthio i mewn. Ac nid sir Aberteifl yn unig sydd wedi cael ei chlwyfo yn y ffordd yma. Mi a welais i dri o weinidogion cyfrifol o sir For- ganwg oyn hyn yn stormio y cyferfod cyffredinol ei hunan, am nad oeddynt yn gallu gweled eu ffordd i dderbyn ymgeiswyr o'r eiddynt hwy o herwydd fel yn yr achos hwn, nad oedd sefyllfa y drysorfa yn caniatau iddo wneud hyny. Do, gwelais i, a gwel- odd eraill hwynt yn ymaflyd yn eu hetiau mewn ,c nwydau gorwyllt—do, mi a'u clywais yn dyweyd y buasent ym myned adref, ae yn cau pob capel yn y sir yn erbyn y coleg. Ond y mae yr hen goleg yn fyw eto. Brodyr a gweinidogion, ac nid yn yr eg- lwysi na'r pwyllgorau sydd yn aflonyddu ar heddwch y coleg oblegid er y bygwth o eiddo y brodyr, o Eorganwg, o herwydd yr un peth ag y dywed y brodyr o Ceredigion na byddai yn ddoeth i wynebti ar y sir i gasglu at y coleg heb esboniad arno, gwel- 'af wrth edrych i adroddiad y coleg fod casgliadau Morganwg am y flwyddyn ddiweddaf yn 194p. 5s.; a cliyda phob dyledus barch i'r brodyr yn y gyn- nadledd, ew-dafond iddynt ymbwyllo tipyn ac annog yr eglwysi i gasglu yn hytrach na bygwth peidio a chasglu, y bydd casgliadau Ceredigion cwi pen ychydig o flynyddoedd wedi codi o 48p. i lOOp. o loiaf. Aiffy storom lion drosodd. I I Frodyr, ymbwyllwch. Pa fantais i chwi fydd o niweidio y coleg? Pa anrbydedd i'r deg gweinidog ieuanc ag sydd newydd ddyfod i'r sir o'r coleg, ar ol derbyn holl fanteision y coleg am bedair blynedd fel fy hunan, fyddai codi llais na Haw yn erbyn y coleg. Erodyr, y mae pedwar ar hyn o bryd yn y coleg o'r sir, os nad wyf yn camgymmeryd. Os tynwch y casgliadau yn ol, o herwydd nad allasid derbyn ped- war arall, ar bwy y disgyn cynnal y rliai sydd i mewn yn barod ? Nid cyfarfod anrhydeddus Ceredigion, mi wn, a'u teifi ar gefn siroecld eraill. Cbwi, frodyr iewainc, oedd yn cymmeryd rhan yn y gofyniadau, goddefwch i un y gwyddoch ag sydd wedi bod bob amser yn gyfaill calon i fyfyrwyr Aberhonddn-un os oes bai yn perthyn iddo fel aelod o'r pwyllgor, neu o'r sefydliad bod yn rhy barod i ochri at ymgeis- wyr a myfyrwyr yw y bai hwnw i appelio atoch yn garedig, yn ddynol, ac yn orest, am beidio bed yn frysiog i gymmeryd rhan mewn niweidio y coleg, lie y cawsoch eich dwyn i fyny. Gwyddoch fod pob un o honom a fu yn y coleg wedi costio i'r wlad rhwng y Bwrdcl Cynnulleidfaol a'r eglwysi o leiaf lOOp. Felly, gan fod deg o honoch chwi, rhaid fod y draul o'ch dwyn drwy y coleg wedi bod yn lO&Op. o leiaf. Na fedclyliwch fy mod yn dannod i chwi. Ni feiddiaf wneud hyny, oblegid cefais i yr un peth ag a gaws- och chwithau. Yr wyf yn adnabod amryw o honoch yn dda. Mae genyf fldwl uchel am danoch; ac nid oes neb a lawenha yn fwy yn eich llwydrtiant na fi. Credaf fod yn anrhydedd i'r sir gael deg o wyr ieu- ainc mor obeithiol. Ond cyn penderfynu peidio casglu, dylai y sir ar ol eich cael gofio y cymmerai o leiaf ugain mlynedd i dalu yn ol i'r siroedd eraill y peth aeth am eich haddysg chwi ag iddi gasglu bob blwyddyn fel y casglodd y flwyddyn ddiweddaf.1 Felly, a siarad yn ddynol, y mae yn fater o onest: rwydd a thegwch, yn gystal ao yn anrhydedd i ni, y rhai sydd wedi bod yn y coleg i wneud yr oil aallwn ni at gynnal y coleg. Escheres, os wyf yn cofio yn iawn, yr hwn nad oedd ond cyfyng yn ei amgylch- I:ly iadau ar ol derbyn ei addysg yn rhad gan ei athraw Socrates, a gwynai wrtli ei athraw un diwrnod, am nad oedd yn ei allu dalu am ei addysg. Wr ieuanc,' meddai yr hen ddoetliawr caredig, 'yffordd i ti dalu i mi am dy addysg ydyw i ti wneud i'r cyntaf y cei di gyfle, fel y gwnaetbum innau i ti.' A gaiff pagan- iaicl fod yn fwy eu hanrliydedd na ni, gweinidogion Crist? Onicl y ffordd i ninnau dalu i'r bobl dda a roddodd i ni fanteision addysg ydyw, drwy i ninnau wneud yr hyn a allwn ni i eraill a fydd yn cyfodi ar ein hol ? Yn sicr, frodyr, gwnelech yn dda i arafu, rhag i chwi niweidio hen sefydliad y mynai yr Ar- o glwydtl ei anrliydeddu i fod yn fagwrfa gweision y Duw Goruchaf. Ond pa eisiau Hefarn yn y ffordd bon ? Yr ydych yn deall y mater yn gystal a minnau ac ond i chwi edrych eto dros yr achos yn ngoleu pwyll ac ysbryd barn, ac nid yn ngoleu edlych o bapur wrth roi ei ebychiad diwedduf, chwi ganfyddwch nad ydyw pethau mor anesboniadwy' ag y mynech gredu. Ond"at eich g-ofyniadau. Gofynwch yn—1. Pa- ham y°derbyniwyclrliai o'r ymgeiswyr ac y gwrthod- wyd y lleill ? Ateb.—Am fod deuddeg o ymgeiswyr, pan nad oedd sefyllfa y drysorfa yn caniatau derbyn dim ond chwech." Os cymmerwch y drafferth o edrych i'r adroddiad, cewch weled fod y coleg wedi syrthio i 82p. o ddyled, drwy fod mwy wedi en derbyn o'r coleg y blynyddoedd diweddaf nag oedd y drysorfa yn ganiatau. Gallwn i feddwl fod hyn yn cidigon o Paharn i bob dyn pwyllog, oblegid i ba beth y derbyniai y pwyllgor yr ymgeiswyr i mewn heb fod cynnaliaeth iddynt ar ol clyfod i mewn ? Gofynwch yn—2. Beth oedd safon eu derbyniad ? Ateb.- Y terms of admission a ellir ei weled ar yr ail tudalen o'r adroddiad o flwyddyn i flwyddyn. Gofynwch yn—3. A fu y fath safon o'r blaen ? Ateb.—Hyd y gwn i, yr un fn safon derbyniad bob amser o leiaf. yr wyf yn sicr mai yr un oedd safon y pwyllgor a'm derbyniodd i 27 o flynyddoedd yn ol, a'r safon wrth ba un y derbyniwyd yr ymgeis- wyr gan y pwyllgor yn Mehefin diweddaf. Dyna i chwi atebion mor fyr a goleu ag a allaf fi ei roddi. Ond cyn terfynu, y mae genyf ychydig o bethau i'w dyweyd yn mhellach. 1. Cofiwch nad oes neb yn gyfriiol am claim a ddywedais ond fy hunan; wrth hyny, os dywedais ddim yn rhy gryf neu yn rhy liallt, ni ddylecli dclal y coleg yn gyfrifol am dano, 2. Os dywedais ddim yn angharedig am neb o bonocb, ymrwymaf i'w alw yn ol, ond ei ddangos. 3. Os nad yw fy atebion yn foddhaol, ymrwymaf i ymgomio ar y mater yn mhellach, ond i'r Parch. W Evans, Aberaeron, osod yr achos yn oleu ger bron y cyhoeclcl, a dangos yn mha beth y mae efe yn tybied fed y pwyllgor wedi camweddu, os ydyw yn tybio hyny. Yr wyf yn enwi Mr. Evans fel un oedd yn y pwyllgor ac yn y cyfarfod cyffredinol, yn gystal ag fel dyn o urddas a pliwyll; oblegid gwn os oes ymgomio pellach i fod ar yr achos y caf yn Mr. Evans y Cristion a'r gwr bonlieddig. Ac hyderaf y caiff vntau ynof finnau yr un pethau. 4. Yr wyf yn tystio yn onest a difrifol ger bron byd ac eglwys, na welais i bwyllgor erioed hycl ag y gallais i ei ddeall, yn gweithredu yn fwy pwyllog a theg, ac unol, na phwyllgor Mehefin diweddaf. 5. Gan mai ysgrif frwnt ac anwireddus Y Bycl Gymreig fu yr achos o greu teimlacl yn eich heglwysi yn erbyn y coleg, carwn gael gwybod, a ydych fel bwrcld cbwarter yn cymmeraclwyo yr ysgrif hono. Os nad ydych, gan i chwi alw gweithrediadau y pwyllgor i g-westiwn, paham na buasech yn dangos anghymmeradwyaeth i'r fath ymosodiad ar sefydliad hynaf yr enwad. 6. Pa un ai pwyllgor o ddewisiad y cyfarfod blyn- yddol, y rhai y disgsvylir eu bod yn ddiduedd ac yn sefyll yr un fath a boll ymgeiswyr a ddylai pender- fynu pwy sydd i ddyfod i mewn i'r coleg, neu ynte, weinidogion a chyfeillion neillduol yr ymgeiswyr eu hunain ? 7. Pan y hyddo yr holl ymgeiswyr i fyny a'r safon yn y classics ac algebra, a ydych chwi yn tybied y dylai y pwyllgor o dan bob amgylchiad roddi y siawns flaenaf i'r rhai fyddo yn digwydd bod flaenaf yn y pethau hyny ? 8. Os y rhai uchaf mewn addysg bob amser a ddy- lai gael y siawns flaenaf o dderbyniad i'r coleg, a fyddai hyny ddim yn rhoddi mantais i feibion am- aethwyr cyfrifol, a masnachwyr, a phuinl teachers ar golliers, mwnwyr, chwarelwyr, a gweision na chaws- ant yr un manteision boreuol, ac wrth hyny yn gor- faelu coleg a gyfodwyd i bawb i fod yn eiddo i ddos- parth. 9. Gair at eglwysi Ceredigion. Frodyr earedig yn yr Arglwydd, deallafeich bod wedi cael eich aflon- yddu i fesur gyda golwg ar goleg Aberhonddu ac fel y clywaf fod rhai o honoch wedi anfoddloni i'r coleg oherwydd nad allesid derbyn yr ymgeiswyr o'r sir yn y pwyllgor diweddaf. Credwch fi, sefyllfa arianol y coleg yn unig fu yr achos o hyny, ac nid teimlad o bleidgarwch nac anmhleidgarwcb at y bechgyn eu hunain. Mae yn ddrwg genyf fod neb mor angharedig a chamddarlunio gweithrediadau y pwyllgor. Hyderaf fod y ftaith fod deg o weinidog- ion gobeithiol wedi dyfod o'r sir yn ddiweddar o'r coleg, a bod pedwar o'r sir yn y coleg ar hyn o bryd yn ddigon i'ch cyfodi yn uwch na meclclwl tynu yn ol yn eich cyfraniadau at y coleg. Wedi yr ym- bwyllo y brodyr ychydig, ac y daw amser i esbonio pethau yn fwy goleu, byddweh yn sicr o ddyfod i weled fod y pwyllgor wedi gweithredu yn onest, yn ol y goleu oedd ganddo. Felly, y mae genyf hyder yn eich anrhydedd fel eglwysi, nabydd i chwi wneud dim niwed i'r sefydl- iad ag sydd wedi bodo gymmaint bendith i'n gwlad a'n henwad ni. Yr eiddoch, &c., Aberdar. W. EDWARDS. Awst 17, 1867. O.Y.—Wedi ail ddarllen banes cyfarfod Ceredigion, gwelaf mai y Parch. Mr. Thomas, Penrhiwgaled, oedd cadeirydd cyfarfod llunio y gofyniadau, ac nid Mr. Evans, ac mai casglu at y coleg newydd sydd mewn perygl, ac nid casgliad rheolaidd yr hen sef- ydliad. Gan fod fy amser yn rhy brin ar hyn o bryd i ail ysgrifenu yr atebiad, rhaid i mi erfyn ar y brodyr i esgusodi hyn o gamgymmeriad, i gywiro drwy gymmeryd y naill a'r llall fel y dylent fod. Ac yn wir, gwna cyfeiriadau y coleg newydd y mater yn waeth o lawer, oblegid nid oedd a fyno pwyllgor y cole"- newydd a'r peth mwy na chyfundeb Ceredig- ion.0 Mae y ddau bwyllgor mor annibynol ar eu gilydd ag ydyw cyfundeb Morganwg a Cheredigion. Mae hyn yn debyg iawn i fwriad i wneud achos yn erbyn y coleg. Ond rhaid i mi gyfaddef fod fy marn yn rhy uchel am y brodyr i feddwl fod y gynnadledd yn golygu taflu rhwystr ar ffordd y coleg newydd ar ol ei gareg sylfaen gael ei rhoddi lawr, ac i bersonau fyned yn gyfrifol am tua 10,000p. dros yr enwad. Honor honor frodyr.—W. E.

YR HEN DEILIWR.

ADDYSG YN NGHYMRU. !