Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
-_--""Y DRETH EGLINS. -
Y DRETH EGLINS. ER cywilydd i ryw rai y mae eiddo dynion gonest yn cael ei attafaelu, a chyrph dynion gonest yn cael eu carcliaru, o herwydd ychydig sylltacli o'r hyll a elwir yn Dreth Eglwys. Dygwyd Mr. J. B. Grant o'r carcliar i ym- ddangos yn Llyg y Metlidalwyr yn Llundain, Y dreth a ofyiiid ganddo oedd ychydig o dan ddwy z-, "I bunt, und yr oedd y costau cyfreithiol dros ddau gant a Iianner o bunnan, ac o herwydd y dretli a'r costau tailwycl ef i garcliar. 0 Fel a ganlyn yr adroddai Mr. J. B. Grant ei aclios Y mae Mr. Barnes, o Kettleburgh, Suffolk, yn labrwr (curacl) yn yr hyn a eilw efe yn se- fydliad, ac anfonodd ataf fwy nag unwaith filiate am wasallaetl1 na cliefais erioed. Wrth gwrs gwrthodais eu talu, o herwydd na bum erioed yn delio yn ei sefydliad, ond yr oeddwn yn ejnuneryd y draul a'r draffertli o deithio tail- milltir yn mhellach i gael yr hyn a ddymunwii. O'r deuga,in namyn un o erthyglau a gedwid yn ei siop, golygwn rai o lionynt yn dra niweidiol, 8,0 yn y canglicnau o i sefydliad,' yn enwedig yr un yu Heol Lyclan (is-eglwyswyr) yr oedd rfiai o lionynt o'i- 1111 farn; tra yr oedd y gangben yn Heol Dehel (uch-eglwysig) o olyg- lad iiollol walianol. Yr oedcl y naill a'r llall y11 ymdaeru yn ngliylcli ansawdd yr erthyglau yr oeddynt yn delio ynddynt, ac er hyny bost- lant eu bod wedi bod mewn busnes am dros dri chant o fiynyddoedd, ac yn delio yn yr un peth o byd. Heblav," hyn, y maent ar ddydd- lau Peilnodedig, beclair gwaith ar ddeg yn y Awyddyn, yn fy ii, flivylio i dragwyddol benyd, am hoffi l'hai o'r petliau y maent liwy eu hun- ain yn cweryla yn eu cylch.' Gall gyfeirio at yr adroddiad uchod sylwodd un o r swyddogion fod y dyn yn wallgof, a y 17, z, sjWodd y prif swyddog yn eitliaf priodol fod y fteithiau a adroddwyd yn ei aehos yn ddigon a 11 gyru nndYll yn wallgof. Cafodd Mr. Grant ei ollwng yn rliydd.
JOHNSON, STANTON, A SHERIDAN,
JOHNSON, STANTON, A SHERIDAN, 'POB ffol a fyn ymyraethNi wiriwyd hyny erioed yn fwy nac yn nghyndynrwydd penglog- aidd Andrew Johnson. Y dyn nad yw yn dysgu oddiwrth ei fetliiaut rhaid fod rhyw ddiffyg greddfol ynddo. Mae yn ei ystyfnigrwydd wedi Symud y Cadfridog Sheridan o'i swydd fel 11 yw odraethwr milwrol Louisiana, ac y mae wedi anfon at Mr. Stanton i ddymuno arno roddi ei swydd i fynu fel Ysgrifenydd Rhyfel, ond y mae Mr. Stanton yn dal ei afael yn yr awdurdod. ac oi fya ei throsglwyddo drosodd i'r Llywydd. Y gnvir gwyn yn erbyn Sheridan ydyw ei fod wedi bod yn rhy selog i gario allan ewyllys y gyd- gynghorfa. Dangosodd wir gymmeriad y cyn- hwrf yn New Orleans, ac y inae wedi galluogi y Negroaid i gael ou henwau ar y rhestr fel ethol- Wyr, tra.y mae wedi bod yn ofalus i gau allan y rhai ni fynent roddi ufudd-dod trwyadl i'r Hywodraeth. Myn i'r gwrthryfelwyr adnabod eu Ile, ac oblogid ei fod mor benderfynol i ddwyn pethau i drefn y mae y Llywydd am ei symud 9'1' ffordd. Mae y Cadfridog Grant yn bur Wrthwynebol i'w symmudiad. ond ni fyn y llywydd cyndyn roddi i fynu. Mae yr am- gylchiad wedi gwneud Sheridan a Stanton yn boblogaidd iawn, ac y mae y Llywydd trwy y Ovvbl a wna yn andwyo ei hun a'i blaid. Pa bechod mawrabeohodd America i'r fath drybini ddisgyn ami a chael y fath Lywydd ffol, cyn dYIl, a halogedig i lywodraethu arni ?
------__--".__--......--.--L…
L YR: EISTEDDFOD. AE Eisteddfod fawr Caerfyrddin wrth y drws. ile yn amser prydorus ar yr ymgeiswyr. Dis- gwyliai-it rhwng ofn a gobaith am dynged eu cyf- ansoddiaclau. Bydd yno yn ol arwyddion presenol gydgasgliad lluosog o feirdd a llenorion. Bwr- ledir fel yr ydym yn deall ddwyn hen gwestiwn yr AwcU a'r Bryddest gerbron, a gwneir cynnyg i Sefydlu hawl yr olaf i'r Gadair yn gystal a'r ^aenaf. Mae dosparth yr [lien feirdd yn teimlo yn aiddgar iawn dros hawliau yr Awdl; ac y tJadeirioT'ryddest a I'hryddestwr yn groes illor dcleddfau a breiniau Barddoniaetli. Ond y :mae dosparth y beirdd ieuanc yn credu fod oes Sorfaeliaetli mewn Barddoniaeth fel mewn pob peth arall wedi ei rhifo. Gobeithio y rlioddir i'r eirdd yspryd pwyll a bonedcligeiddrwydd wrtli 44adlou y mater.
--_ V."f , Y CROSSLEYS.)'
V."f Y CROSSLEYS. )' Dynioll noeledig, yw y Orossley Brothers 0 Halifax—Syr Frank Crossley, Mr. John Cross- ley, a Mr. Joseph Crossley. Dynion wedi ymgocli o fysg y bobl, dynion yn para i ymgym- mysgu a'r bobl, dynion a'u cyclymdeimlaclllwyraf a'r bobl, a dynion ag y mae y bobl yn teimlo serch angerdclol atynt hwythau. Gwneuthurwyr Car- pedau ydynt, ac y mae eu gweithfa (manufactory) eang yn Halifax yn un o ryfeddodau penaf Yorkshire. Mae eu carpedau yn adnabyddus trwy yr boll wlad, a'u patrymau yn nodeciig o gymmeradwy a plioblogaidd. Mae i'r tri brawd eu ncillclnolioll-J oseph sycld yn gofalu yn benaf 1 0 am y weithfa a gwneuthuriad y carpedau—Frank sydd yn gofalu Imvyaf am y swydclfa a'r cyfrifon a u ohn sydd yn fwyaf blaenllaw gyda'r ystor- fViau a'r gwertliu. Yn mysg y gweithwyr y mae Joseph yn ymdroi agos yn gwbl. Gyda'i glercod a'i arolygwyr y gwelir Frank fynychaf pan adref. Ond gyda prynwyr a masnacliwyr y mae John yn gwneud inwyaf. Mae y rhan fwyaf o liaelioni Joseph yn cael ei gyflwyno i lesiant ei weithwyr estyna I rank ei liaelioni yn lielaetli i Halifax yn gyffredinol—ond tyr haelfrydedd Johii yn mhell y tuallan i Halifax a'i hamgylchoedd. Tai cysurns i'r gweithwyr, ac elusendai i dlodion sydd yn cael llawer iawn o haelioni Joseph. Y parciau a lleoedcl o adloniant i'r bobl sydd yn benaf yn cael cydymdeimlad Frank.-Capelaui'r bobl i addoli sydd yn cael ffrwcl haelioni John -Y defnyddiol a'r gwasanaethgar i deuluoedd sydd yn ngohvg Joseph. Y difyrol a'r adfywiol i gymdeithas sydd yn ngolwg Frank—Y cref- t, yddol i'r adeiladol i'r enaicl sydd yn fwyaf yn ngolwg John. Nid ydym wrth hyn am i neb feddwl nad yw Joseph a Frank yn gwneucl llawer at grefydd, ac nad yw John yn gwneud llawer at betliau lleol a threfol. ilhoddodd Joseph .= £ 5,000 y fiwyddYll ddiweddaf at Drysorfa yr Hen Weinidogion; ond y mae gan bob un ei gylcli pennodol ei hun lie y dengys fwyaf o'i liaelioni. Cyflwyna y broclyr gyfran neillcluol o elw eu masnacli cydrhyngddyiit at Avalianol achosion yna rhydd pob un ei gyfran ei linn o'r elw drachefn yn ol en hewyllys; ac yn liospartliiad yr arian liyny y gwelir tueddfryd pob un. Ddeng mlynedd yn ol rhoddodd Syr Frank Crossley i Faer a Clioriforiactli Halifax Bare at wasanaeth y cyluedd, gwerth £ 30,000, a elwir Pare y bobl ( People *■ Parle J, a'r nnig ammocl a gyssylltai a'i rodd arddercliog oedd fod y Cor- fforiaeth i wario o leiaf bob bhyyddyn i'w gadw mewn cyweiriad a threfn. Cyflawnodd Corftoriaeth Halifax yr airanod yn effeithiol o hyny hyd yn awr. Ond ar y 14eg o Awst, derbyniodd Maer Halifax lythyr i'r perwyl a ganlyn, oddiwrth Syr Frank Mae fy mwriad wedi bod bob amser os parhai yr Arglwydd i'm bendithio a llwyddiant i gwblhau fy rliodd o'r Pare trwy dclarparu er ei gadwraetli mewn trefn dros byth; ac y maegenyf yn awr yr liyfrydwch a'r pleser o gyflawni fy amcan gwreiddiol. Y mae wedi bod yn hyfryd- weh i mi lawer gwaitli i edrych trwy ffenestri y Belle Vue a gweled cynnifer o filoedd o'm cyd-drefwyr yn mwynhau eu 1mnaill yn y Pare. ond o hyn allan bydd y mwynhad hWllW yn llawer mwy oblegyd na bydd treth i'w thalu OY ar y lie sydd yn rhoddi iddynt y fath fwynliad. Yr wyf yn dymuno arnoch gan liyny ar ran y Corfforiaeth i dderbyn y Bank o/' Enjtland Notes cydamgauedig yn cyrhaedd y swm o X6,300 i'w rhoddi ar log i ddwyn treuliau ead- wraeth y Pare, ac felly rycldhau y dref oddiwrth y baich a'r cyfrifoldeb.' Dyma foneddwr teilwng o'r enw. Pa un o foneddwyr Cymru sydd wedi gwneud eu can- noedd o filoedd trwy chwys a llafur y gweith- wyr a wnaeth un ddarpariaeth o'r fath ar en cyfer ? Ie, pwy—nid oes yn adsain yn ateb ie, pwy? Gweithredoedd anrliycleddus fel hyn o haelioni a cliydymdeimlad a'r bobl a dclyogela eu parch i'w meistri, nid ceisio eu Ilyw- oclraethu a gwialen liaiarn, a gwrthod rhoddi iddynt ond a raid yn ol llythyren y gyfraitli. Ni bu strike yn mysg gweithwyr y Crossleys erioed. Teimla y gweithwyr fod eu meistri yn gwneud eu goreu iddynt hwy, a gwnant hwy- than eu goreu i'w meistri. Caredigrwydd a cliydyiiKloimlad sydd yn sicrliau ffyddlondeb. Cjfiawndei gwastadol, a haelioni achlysurol beth na wna ?
guvMojtoth. *
guvMojtoth. PENNILLION Ar Ordeiniad y Parch. Mr. Probert yn yr Yatral. DY}[A undeb wedi clechreu Undeb gwresog p'r ddan tn, Seliau'r nefoodd fyddo'n selio, 'R undeb hwn i'w gadw'n gu Dylanwadau'r Yspryd dwyfol Gaffom deimlo trwy dy ddawn Nes ein dwyn i ddelw'r Iesn Koddodd drosom berffaith. iawn. Sereu fyddot yn goleuo Yn ffurfafen Eglwys Dduw, Lluoedd ddelo wrth dy leivyrch, I geisio'r ilbrdd i Seion wiw Para liefyd fyddo'r Eglwys O'r un yspryd yn gyttun, Nes disgyno'r Yspryd dwyfol Fel colomen ar bob un. Sercli at Grist a chas at becliod GafFo ynom feddiant llawn, Aed ein cariad ar ei gynnydd Hyd nes machlud haul prydnawn Fcl y colom ar facbludiad Haul ein bywyd yn y byd, Roesaw i'r trigfanau dedwydd I fwynliau y Ganaan glyd. Probert anwyl, cyinmer gysur, Wrth it' ddechreu a,r dy waith, Taer weddiau a anfonwycl Genym drosot lawer gwaitli; Para eto byddo'r Eglwys I weddio drosot ti, Ar i Dduw yr hen genhadau I dy ddal mewn parch a bri. Yspryd Daw a'th gyfarwyddo Pan yn chwilio maes y gair, I fwngioddiau'r iacliawdwriaeth Sydd drwy ffydd yn Adda'r ail; Chwilio hefyd ddyfnion gelloedd Cynghor boreu Tri yn Un, Pan arfaetliwyd ffordd i gadw Hil syrthiedig gwael eu llun. Pan yn sefyll i gyboeddi'r Genadwri fawr ei bri, Ymnertha yn yr hen addewid Digon yw fy ngras i ti; Y gwrandawyr gelo deimlo Wir effeithiau'r dwyfol dan, Nes eu dwyn wrth draed yr lesu Gael eu gwneud drwy'r gwaed yn Ian. Ystrad. SAKAII LLOYD.
PENNILLION I FARCHNAD LLANGEFNI.
PENNILLION I FARCHNAD LLANGEFNI. HEN Farchnad Llangefni am danat mae son Dy enw symmuda bob tafod yn Mon, Edryclia Trafnidiaetli yn dirion a mad Ddydd Ian a,r arglwyddes marphnadoedd y wlad, Yn myned i'w gorsedd yn Llangefni dlos Lie gwycliir y gerddi gan friall a rhos Lie taena ei hedyn masnachol trwy'r dref Yn llewyrch goleuni dihalog y nef. Wrth fyned i'r ysgol y plant bob yn dclau Adwaenant ddydd marchnad bob bore ddydd law, Wrth weled ffenestri y siopau bob un Yn harddacli yr olwg, nac oeddynt ddydd Llun; Amryliw ffug tlodau, rnbanau bob math, A chrinolines ma-vrrion, a mwff o flew cath, A gwraig y ty tafarn yn brysur dros ben Yn golchi y lloriau cyn gwisgo'r bais wen. .w r, Mae ffarmwyr o'r Gaerwen yn dod gyda'r tren Dan boeri sig baco er m-ivyn bod yn glen, Ac yspryd y Farchnad yn Ilenwi eu bryd Estynent o'u cellau ddyrneidiau o yd, JBi ganmol ef gwedyn a'i gynyg ar werth A'i werthu yn uchel i Wil Ty'n y Berth, Tra clywid yn ymyl swn clec fawr y chwip, Gan borthmon moch safai yn gawr wrth y Ship. Ac yna mae'n neidio at wr Pen y bryn I gynnyg tair punt am ddau fochyn gwyn, Na, na, meddai hwnw gan ysgwyd ai foch Rhaid cael coron chwaneg cyn gwerthu y moch, Yn nghanol ydacllu fe ranwyd y pris Fod marchnad y moch wedi dyfod yn is, Ar hyn dyna'r criwr yn canu ei gloch I alw attention nes gwylltiodd y moch. Wrth ganmol y nwyddau 'roedd potiwr mawr tew A'i geg fel rhyw ogof mewn coedwig o flew, A Gwyddel o Fangor yn gwerthu siop wen A'i eiriau Gwyddelig yn ddigrif dros ben Rhai'n-gwerthu teisenau, a rhai India rock, A phawb am y goreu yn canmol ei stock, Gan Iefain, De'wch Mary a chwithau 0 Jane, I brynu danteithion cyn myned i'r tren. Mae merched y ffarmwyr i'w gweled yn y pless Cael dau swllt ond ceiniog am bwys menyn ffres) Yn myn'd at fab Crisbin yn ymyl y box I brynu esgidiau, yn lie gwisgo clogs Mae siopau Llangefni yn llawnion pryd hyn, A swn aur mor amled, a thine y swllt gwyn, Yn fuan darfyddai y Farchnad i gyd, Myn'd heibio mae bob peth i'w wel'd yn y byd. Llangefni. HEN BORTIIMOIT.
ENGLYN
ENGLYN A gyfansoddwyd ar ol darllen y Trsr.' Tost yw dweyd yn erbyn TYST da,—a wnel Yn wir ef ni lwydda Mae'n wyn fel rhosyn yr ha', Yn eirwir fel na wyra. Llandegla. Jonx JO-NES, (Idris Ial).
ENGLYN I BONT CONWY.
ENGLYN I BONT CONWY. Txes ryfedd tros yr a,fon,-cywrain yw, Gwaith cewri o ddynion Trefnus a hwylus yw hon Farchoga fyw erch eigion. Llandegla. IDRIS JAL.
PR ' TYST CYMREIG.'
PR TYST CYMREIG.' Hir oes a ffyniant iddo, A beunydd boed yn tystio; Dros y gwir ar bob rliyw bryd, Yn ddybryd a digyffro. Bro Baldwyn. CABAXAWC.
CROESA WlAD I S. R. I GYMRU.
CROESA WlAD I S. R. I GYMRU. De a Gwynedd gydgana-eich mawl gwych Mel y gan gewch yma A Seion a'ch croesaiva-—'n ddiarbed, A chewch weled o dowch chwi i Walia. Machynlleth. LLAIS Y WLAD.
--_ a(tty giitu y itøg.
a(tty giitu y itøg. 'THE ÅERON VISITOR.' A Pictorial Monthly Magazine; 4-c. Conducted by G. Jones (Glaiz Menai), Aheraeron. Printed by J. R. James, at the office of the Cardigan HeraldCardigan. MAE y deuddegfed rhifyn o'r Visitor yn awr ger ein bron. Oyhoeddir ef yr ail wythnos yn mhob mis; pris 2g. Mae wedi ei fwriadu i roddi gwybodaeth ddyddorol i ymwelwyr a glanau mor sir Aberteifi, yn gystal a bod yn gyfrwng hysbysiaeth gyffredinol. LIenwir yr amlen a hysbysiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac y mae ei gynnwysiad yn gyffredinol y fath ag a rydd sirioldeb ac adloniant i'r darllenydd. Mae y rhifyn hwn yn dechreu gyda thraetbawd ar Yr Indiaid Cymreig,' 0 hen lawysgrifau yn awr yn meddiant J. E. Rog-ers, Ysw., Abermeurig. Nid oes ynddo ond yehydig na chynnwysir mewn traddodiadau eraill am Ymfudiad y .Fywysog Madog ap Owen Gwynedd i America yn y ddeu- ddegfed ganrif; ond y mae yn sicr o roddi hyfrydwch i garwyr hynafiaethau fel hen relic. Decbreuir nofel yn y rhifyn hwn gan Arthur Rhys Thomas. Gwladys Williams yw ei arwres. Mae yn cychwyn yn addawol iawn, Mae yr awdwr yn ysgrifenydd esmwyth a rhwydd, ac yn ymddangos yn gyfarwydd a theithi anhebgor nofel boblogaidd; ond y mae yn rhy fuan i roi barn derfynol ar y cyfansoddiad. Ceir yma farddoniaeth yn Gymraeg' a Saesneg, a llawer 0 chwedlau a ffraeth-eiriau difyrus i'w darllen. Gwna ymwelwyr yn gall i ymofyn am dano ar ei mynediad i unrhyw fan 0 Aberystwyth i Aberteifi.
I ' PEtMIAXEXT BCILMNO- SOCIETIES…
PEtMIAXEXT BCILMNO- SOCIETIES THEIH OPJ;KA- TIOXS AXD MASAGEMEXr.' By J. Lloyd I-oites, Liverpool, 1867. DYMA lyfryn ar bwnc tra dyddorol gan y Cymry darbodus. Rhydd y rhan fwyaf o weithwyr Cymreig eu hennillion yn y Cymdeithasau Ad- eiladu. Rhaid addef fod mwy o sel wedi bod drostynt nag sydd yn awr. Ymdaenodd rhyw ddiffyg hyder ynddynt trwy gam-drefn rhai o. honynt, a tbrwy i amryw ysgrifenu yn anffafriol am danynt. Edrychwn ar y traethodyn hwn fel un hynod o amserol, heb law ei fod yn cymmer- yd golwg eang ar y mater, ac yn ei drin yn athronycldol ac eglur iawn. Y mae yr awdwr yn bur llwyddianus yn ei egluriadau i brofi ei ddau brif osodiad; sef, fod y Cymdeithasau Adeiladu Parhaus y lleoedd goreu i roddi arian ynddynt, ac i fenthyca arian o honynt. Pan y mae rhai eisiau rhoi arian allan, y mae arnynt eisiau eu rhoi mewn lie diogel, cael Hog da am danynt, a'u bod yn hwylus i'w cael yn ol pan y bydd galw am hyny. Dadleua yr awdwr fod y cymdeitbxsau yma yn cyfarfod yr holl ofynion hyn yn fwy offeithiol na dim arall. Da genym ei weled yn condemnio yr hyn ydym wedi ei glywed lawer gwaith fel gwrthddadl gref yn erbyn rhai or cymdeithasau, sef atal Ilog, oddi wrth rai fyddant yn gorfod tynu eu harian allan cyn pen y flwyddyn. Y mae hyn yn bur annheg. Bydd galwad weithiau am yr arian yn mhen yr un mis ar ddeg, ond ni cheir dim llog mwy na phe buasid wedi bod yn aelodau ond rhyw ddau fis, tra y cawsid blwyddyn o log ond eu cadw fis yn mhellach. Byddai hyn yn annichonadwy mewn rhai amgylchiadau. Y mae yr un mor feistrolgar i brofi yr ail osodiad—eu bod yn well i fenthyca 0 honynt, yn llawer gwell nag arwystl- iad personol. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Mr. Jones am fyned mor gyflawn i'r mater, ac ateb y prif wrthddadleuon a all ymgodi yn erbyn y fath sefydliadau. Y mae hefyd yn rhoi rhai awgrymiadau o bwys mawr er eu dwyn yn mlaen yn ddiberygl ac effeithiol. Dadleua dros gael cyfarwyddwyr parchus a deallgar—dynion 0 ym- ddiried cyhoeddus. Gwell-ydyw y mae yn llawer gwell—cael ychydig o'r rhai hyn a'u talu yn deilwng, na chael nifer fawr am dal bychan, o. rai amddifad o gymmeriad moesol, da, ac o fedrusrwydd fel dynion cyfarwydd a phethau fel hyn. Barnwn y byddai yn well cadw at 6i y cant 0 log, nac ymgyrhaedd at log mawr, a pheryglu cadernid gwastadol y gymdeithas trwy hyny. Dymunwn eto gyflwyno ein diolchgarwch. i'r awdwr am ymdrin a mater sydd yn dal cys- sylltiad ag ennillion caled ugeiniau o'n cydgenedl, a hyny mewn dull mor eglur a theg ymddengys yn berffaith gyfarwydd yn ei holl arweddau. Yr ydym yn credu y gwna y llyfryn les dirfawr, ao yr ennyna fwy 0 hyder yn y cymdeithasau sydd yn gweithredu yn ol ei awgrymiadau. 0 ZD