Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

AT OLYGYDD Y 'TYST CYMREIG.'

News
Cite
Share

AT OLYGYDD Y 'TYST CYMREIG.' Syr,—Yr oeddwn i wedi bwriadu gweithio yn galed tra yn fy neillduedd yn Harrowgate; ond n trodns, tarewais ar gyfeillion yno, y rhai a'm denas- ant o'm bodd, rhaid addef, i roddi i fyny fy ngorchwyl gosodedig, ac ymroddi i geisio hyny o ddifyrwch a allem gael yno gyda'n gilydd. Hhyw gydgyfarfydd- iad rhyfedd sydd i'w gael mewn lie fel hyn. Edrych- er o amgylch y ford yma yn awr. Dacw ddyn ac awdurdod yn argraffedig ar ei wedd. Gorwedda ei aeliau yn ddyblygion uwch ben ei lygaid. Mae wedi gweled llawer gwyneb ar fyd, ond meddiana ei hun fel un wedi ennill yr oruchafiaeth, ae wedi darparii. digon gogyfer a'r gwaethaf. Yn ei ymyl, ond heb fod yn perthyn iddo, eistedda gwraig wedi pasio nawn-ddydd bywyd. Bu unwaith yn hardd, ond y mae tristwch wedi rhychu ei gwyneb, ae amser wedi pylu ei llygaid, a gwynn ei gwallt. Meddyliem pe sawsid ganddi ddyweyd ei phrofiad y dywedasai, Myfi yw yr un a welodcl flinder, ond mi a wn i bwy y credais.' Yr ochr arall i'r bwrdd yr eistedd, i'm tyb i, rhyw hen dwrnai sychlyd. Os nad wyf yn camsynio, y mae ganddo wig am ei ben, yr hon a wna iddo edrych rai blynyddoedd yn ieuengach nag ydyw mewn gwirionedd. Mae ganddo rhyw dric o godi ei drwyn a chrychu ei well ar bawb a phob peth, a phrin y gall edrych yn union o'i flaen un amser. Pa sawl creadur a flingodd hwn yn ei fywyd, tybed? Ychydig yn is i lawr y mae merch ieuanc brydweddol. Ymddengys dipyn yn shy, a braidd nad ymrithia rhyw ychydig bach o gonceit i'r golwg. Ond y mae y gofal tyner a ddengys tuag at ei mham, a'r parodrwydd gwastadol a amlyga i aberthu pob cysur er ei mwyn, yn ddigon o brofion fod yno galon bur yn curo yn ei mynwes. Amser a ballai i ni son am y sobr a'r ysgafn, am y sterling character a'r fop, am y dyn cyflawn a'r tlawd, heb feddu dim sydd yn eistedd yma ar gyfer eu gilydd. Gadewch i ni ddyfod i mewn i'n cylch bychan cyssegredig eu hunain. Dyma ein cyfaill Cymreig o un o drefydd mwyaf Lloegr. Mae ef yn hysbys yn holl ddirgelion y lie. Yn uchel ei barch gan y boots, yn ddwfn yn nghyf- rinach y waiter, yn wr mawr yn ngolwg y landlady. Mae wedi bod yma lawer gwaith o'r blaen a dysg ni, y rhai ieuengach, pa fodd i iawn-dreulio yr amser, wrth ymweled a'r gwahanol fanau o ddeutu. Difyrir ni yn ddiddiwedd gan ei ddawn chwareus, ei ddy- chymmyg fywiog, a'i ffraethineb bwrlymol. Nid yw byth yn fyr o stori fach i selio pob pwnc, ac y mae yr addurniadau a rydd o'n hamgylch yn ar- ddangos medrusrwydd anghyffredin. Lledarafaidd a phwyllog ydyw ein cyfaill nesaf. Boneddwr hardd yr olwg, iach, heinyf, a chryf ydyw. Mae serch ac addfwynder wedi eu gorseddu ar ei wynebpryd; ac er ei fod o duedd lied sobr ar y cyfan, gall fwynhau difyrwch fel un o wir feibion llawenydd. Yr oedd yn iechyd i galon dyn i glywed, ac i weled, ei chwerthin mawr ysgydwydedig. Dyma mewn gwirionedd Laughter holding both its sides,' chwedl Milton. Un o aristocracy natur wedi ei dyneru a gras y nefoedd ydyw y brawel hwn. Ond beth a ddywedir am y chwiorydd. Rhyw dir peryglus ydyw hwn i sangu arno. Wel, doed a ddelo, nid oes genyf fi fawr o ddim ond da i ddweyd am danynt; ac os tynir fy ngwallt am ddyweyd gormod, neu rhy fach, nid oes dim i'w wneud ond dioddef a thewi. Dechreuwn gyda'r henaf o honynt. Dystaw dros ben ydyw hi. Prin y clywir ei llais yn y gyfeillach gyffredinol, er y dengys yn ddigon eglur ei bod yn mwynhau y cyfan. Pan y dywed air ar unrhyw bwne, derbynir ef fel afal aur mewn gwaith arian cerfiedig.' Cymmer ofal neillduol rhag dyweyd yr un gair segur. Gallwn farnu wrth ei golwg a'i hymddygiad mai 'Cristion dystaw' ydyw yn medru dioddef yn amyneddgar, ac wedi dysgu bod yn fodd- Ion yn mha sefyllfa bynag y byddo ynddi. Da fod ganddi, heblaw ei phriod hawddgar, gyfeilles mor jolly i'w chanlyn. Son a wneir am hen ferched yn fiin ac yn gas. Ymaith a'r cyhuddiad anwireddus. Dyma specimen o un wedi myned dros y llinell der- fyn heb chwerwi wrth y byd. Yn medru mwynhau ei hunan drwy'r tew a'r teneu heb gythryblu ei hysbryd a gofal am ddim oil. Mae yn myned drwy oruchwyliaeth y dyfroedd, nid am fod arni eisiau meddyginiaeth ond for the fun of the thing. Mae yn barod i fyned allan pan fyner i blith y golygfeydd amrywiol, nid o herwydd unrhyw hofl'der yn y tlws a'r tyner, ond am y cyfle a rydd hyny i ymarferiad corphorol. Dichon fod yna fwy o'r materol na'r ysbrydol yn ei chyfansoddiad, ac felly ymholfa yn fwymewn ffaith nag mewn meddyleidrych. Gwa- hanol iawn oedd y ddwy chwaer arall a wnaent i fyny ein cylch cymdeithasol. Wedi derbyn diwyll- iad meddyliol o'r radd uchaf, wedi yfed yn helaetli o ffynnonau llenyddiaeth, wedi eu nawseiddio ag ysbryd crefyddol, yr oedd cael mwynhiti, eu cym- deithas yn gaffaeliad anmhrisiadwy. Llawer awr ddifyr a dreuliasom yn beirniadu ysbryd yr oes, yn lloffa blodau o erddi yr awen, yn gwledda ar bryd- ferthion anian, yn fflachio arabedd cellweirus, neu yn ymgomio yn ddifrifol am bethau a fu. Yn wir, y mae clywed merch ieuanc a fu yn y boarding school yn dysgu yr holl accomplishments, yn parablu Cym- raeg glan, gloyw, dilediaith, yn fy swyno i bob am- ser. Yr oedd clywed Cymraeg felly yn nghanol Lloegr yn felusach fyth. Ac yr oedd cael yr inith hono yn llawn o synwyr a ffraethineb, a barddoniaeth yn ddigon a pheri i fardd fyned i orfoleddu. Yr eiddoch, etc., GOGLEDDWÙ,

----TAITH 0 GWYNFE I AMERICA.

'ADDYSG YN NGHYMEU,

GAIR AT ETHOLWYR MERTHYR AC…