Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR.

t Mthuo.

News
Cite
Share

t Mthuo. Ar y I7eg cyfisol daeth breilhin Groeg i Lundain, ac wedi talu ymweliad a'i chwaer Tywysoges Cymru, aeth i Osborne. Teimlir llawenydd cyffredmol oherwydd fod iechyd Tywysoges Cymru yn llawer gwell, y mae hi a'i phriod wedi myned i'r Cyfandir, lie yr atosant am rai wythnosau. Cyu pedair a-wr ar hugain ar ol pasio y Reform Bill, ymgyfarfu Dirprwywyr y Terfynau, fel eu gelwir—gwaith y rhai fydd penclerfynu terfynau y dosbarthau etholiad- ol, o dan ddeddf newydd y Diwygiad. Rhanasant Loegr a Chymru yn ddeunaw dosharth; bydd bar-gyfreithiwr, a swyddog mihvrol, yn gweithredu fel is-ddirprwywyr yn mhob dosparth. Bwriada y Cyngrair Diwygiadol gadw gwyl fawr yn fuan, er datgan eu llawenydd I am lwyddiant eu llafur, ac anrhydeddu blaenoriaid y bobl yn, a thu allan i'r Senedd. Tra yr ydym yn mawr lawenhau yn y fuddugoliaeth a cnillwyd yn y senedd-dymor diweddaf, yr ydym yn mhell o feddwl fod y gwaith wedi ei orphen. Pan oedd pobl Eu- TOP yn teithio tua Jerusalem yn amser Rhyfel y Groes, gofynai y plant i'w rhieni pan welent bentref lied olygus, Ai dyma Jerusalem? Nage, attebai y rhai mwyaf gwybodus. Nid ydym eto yn. Jersulem. Digon gwir fod cynnydd mawi* wedi ei tvneyd, a buddugoliaeth bwysig wedi ei lienill yn vplod eisteddiad diweddaf ein sen- edd, oitin- nid ydyrn eto yn Jerusalem. Ym- ddungosodd dan lythyr nodedig ar y peh, hwn yn y papurau Seisnig, ddechreu yr wythnos hon,—y naill gan Mr. Bright a'r Hall gan Mr. J. Stuart Mill. Ystyria y cyntaf mai dyledswydd bresenol diwygwyr ydyw gofyn yn uchel, a gofyn yn wrol am y Tugel; ac ystyria yr olaf mai y peth pwys- icaf ar hyn o bryd ydyw addfedu mesurau er anfon diwygwyr trwyadl i'r senedd yn ystod yr etholiad nesaf. Y mae y ddau foneddwr talentog hyn yn amgyffred sefyllfa wladyddol y deyrnas yn lied gywir, ac yn cyd ymdeimlo yn hollol a'r bobl. Nid oes lie i amheu amcanion y ddau vr enwog am foment. Nis gall cyffroadau roddi un dyrehafiad i Mr. Bright, canys y mae efe eisioes wedi dringo i binacl uchaf clod. Ac am Mr. Mill, yr hwn sydd yn sef- yll yn uchel fel athronydd, a'r hwn a gydna- byddir fel un o brif feddylwyr yr oes hon, nls gall fod ganddo hyfrydwch mewn eyffro- adau gwerinol, oni bae ei fod yn argyhoedd- edig fod hyny yn anghenrheidiol er diogel- wch y wlad a chysur ei thrigolion. 0 Mae pob argoelion fod masnach, o'r diwedd yn edrych i fyny, diau fod y tywydd teg, a'r gobeithion am fara rhad wedi effeithio yn fwy na dim arall er adferu hyder a dihuno yspryd anturiaeth yn ein masnachwyr. Y mae gwell enwd o wenith yn yr Unol Dal- eithiau eleni, nag a welwyd erioed o'r blaen. Y mae y cynyrch am y flwyddyn hon yn 250,000,000 bwsiel, ar gyfer 180,000,000 yn y flwyddyn ddiweddaf. Rhywbeth fel 5 bwsiel, neu bump a hanner ar gyfer pob dyn fyddai y cnwd yn ystod y blynyddoedd a aethant heibio, ond eleni y mae yn chweeh bwsiel ar gyfer pob dyn. Y mae yr ystadegau sydd genym yn dangos fod llawer mwy o lo wedi ei anfon allan o borthladdoedd Deheudir Cymru, yn ystod y mis diweddaf, nag yn Gorphenaf 1866. Y mae yr hyn y mawr sonid am dano ar y Cyfandir wedi cymmeryd lie, ymgyfar- fyddodd Ymerawdwr Ffraincac Ymerawdwr Awstria. Edrychir ar yr amgylchiad yn bryderus drwy holl Europ, ofuir y gwaethaf a gobeitliir y goreu. Nid oes amheuaeth nad yw Ffrainc yn teimlo yn anesmwyth yn wyneb cynnydd a nerth Prwsia, ond hyderir yr a yr eiddigedd heibio heb dywallt y- chwaneg o waed. Dywedir fod yn mryd llywodraeth Awstria i roddi mwy o ryddid i'w deiliaid Protestanaidd, Eu rhwysg a llawenydd digyffelyb yn y Rhyl, dydd Llun, ar yr achlysvtr o agor y Rhodfa ar lan y Mor. Ymac y dref hall yn un o'r tefi hyfrytaf yn Ngogledd Cymru, a diau y bydd i'r cyfleusderau ychwanegol sydd wedi eu gwneud yno yn ddiweddar, yn foddion i ddenu llawer mwy o ymwelwyr i'r lie.

;;,.'c' tWlJ ddiou iramor.

'"

"-EIN TELERAU A'N DOSBARTHWYR.

[No title]

TELERAU AM HYSBYSIADA U.

I ~ " ' f. ryttbodtb Itneddøt..-

LLANBRYNMAIR. 1