Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

[No title]

TELERAU AM HYSBYSIADAU.

AT EIN GOHEBWYR. '

If WytKlWS.:.--.—

News
Cite
Share

If WytKlWS. :— NiD oes neb yn cofio rhagorach tywydd yn Awst nag ydym wedi gael o ddechreu y mis hwn hyd yn bresenol. Mae yr yd yn llenwi ac yn addfedu yn ardderchog, a'r medelwyr yn brysur gyda eu gwaith. Os pery yr hin deg am ychydig wythnosau bydd ein hys- guboriau wedi eu llenwi a digonoldeb. Dydd Mawrth, yr 20fecl cyfisol j bydd ;,4niaw > '.wuj4,.ir -S-weiuidcgifcri e kydi. a uysgwylil. y iydd y Senedd pa ] ei gohirio yn fuan ar oi hyny., Pwy byth a ewyllysiai fod yn Aelod Seneddol ? Mae yn syndod fod boneddigion yn myned i'r fath draul a thrafFerth er mwyn yr anrhydedd. Tra y mae cyfoethog a thlawd, gwreng a boneddig, yn crwydro yma a thraw ar lanau y moroedd a chopâu y mynyddoedd, mae ein Seneddwyr wrth y post ddydd a nos, yn hwyr ac yn foreu, yn ceisio perffeithio y Reform Bill. Mae yn rhaid i uchelgais, fel pobpeth arall, ddwyn ei benyd yn ei dro, a thalu y dreth briodol iddo ei hun, Ymddengys bellach y daw y Bil yn gyf. raith, a bod cwestiwn helaethiad yr ethol- fraint wedi ei benderfynu am yr oes hon beth bynag. Ond y mae yn sicr y daw ail- drefniad yr eiateddleoedd dan sylw y Ty eto yn fuan. Peth newydd yn ngwladyddiaeth. Prydain ydyw cynrychioliad y lleiafrif. Areithiodd Mr. Gladstone a Mr. Bright yn rymus a hyawdl yn erbyn y newydd-deb hwn. ond pasiwydeftrwy bleidleisiau aelodau gwahanol iawn yn eu barnau ar bynciau gwladyddol yn gyffredinol. Amcan y Tori- aid oedd gwanychu dylanwad y Rhyddfryd- wyr yn yr ychydig drefi mawrion sydd i gael tri aelod, ac amcan Mr. J. S. Mill, a rhai o gyffelyb feddwl, oedd dwyn i mewn yr egwyddor o gynrychioli y lleiafrif. Os ydyw yr egwyddor yn sound, ynfydrwydd ydyw ei chyfyngu i ryw hanner dwsin o'r trefi mwyaf poblog. Mae Toriaid a Rhydd- frydwyr wedi cytuno ac annghytuno ar gyn- nifer o bethau, ac wedi pleidleisio gyda eu gilydd ac yn groes i'w gilydd gynnifer o weithiau, fel nad oes un dewin a all ddyfalu pa beth fydd sefyllfa a nerth y gwahanol bleidiau yn y Senedd Ddiwygiedig. Wel, y mae y llong Ddiwygiadol wedi 0 cyrhaedd y porthladd yn ddyogel. Safodd y Cadben Derby a'r Is-gadben Disraeli yn ddi- zo ysgog ar y bwrdd nes dyfod i'r Ian. Pur ddidrwst y bu ei glaniad nid amlygodd y naill ochr na'r llall unrhyw lawenydd neill- duol. Nos Wener, Awst 9fed, bwriwyd yr angor, wedi bod yn lied hir ar yr afon.— Mae ysgrif y Diwygiad Seneddol wedi pasio, nid oes yn aros mwy ond i'w Mawrhydi roddi ei sel wrthi. Dyweder a fyner, creadur garw yw Disraeli, hirben, cyfrwys, ystryw- gar, tu hwnt i ddychymmyg calon neb o'i bleidwyr. Mae gwneud hwy dan eu trwynau, ac nid oes neb o honynt a faidd wingo. Nid yw yn debyg y buasent yn myned gydag ef mor ewyllysgar pe gwybu- asent i ba le yr oedd yn cyfeirio. Ond o ran hyny ni wyddai ei hunan ;—llunio ei gwrs yn ol yr amgylchiadau, a gwnai bob peth pan welai y byddai raid iddo wneud, neu roddi i fyny lywyddiaeth y llong. Nid oedd neb yn credu yn Disraeli fel arweinydd Diwygiadol. Gwyddai pawb am ei fedr, ac ystwythder ei gydwybod boliticaidd, ond ychydig oedd (os oedd neb) yn credu ei fod yn onest ei hun am Ddiwygiad, llawer llai y credid hyny am y blaid a arweiniai. Ond gwelodd y blaid Ryddfrydig ei fod am gadw yr awenau, a phenderfynasant mai yr unig ammod ar ba un y gallasai eu cadw oedd dwyn i mewn fesur o Ddiwygiad yn ol ewyllys y Ty. Helbul mawr a fu i ddwyn y mesur i derfyniad. Mordaith arw a thy- mhestlog gafodd y IloD, oddiallaii yr oedd creigiau, a banciau, a chroeswyntoedd, fel yi- oedd y rhai yr oedd ganddynt eiddo ar y llong mewn pryder mawr. Yr oedd y niwl mor dew ar brydiau fel nas gallesid gweled lied llaw yn mlaen, a chlywyd gwaedd fwy nag unwaith fod y llong wedi myned yn ddrylliau. Yr oedd ar y bwrdd elynion agored, cyfeillion claiar, ac heb ond ychydig ddwylaw ufudd; ond daliodd yr Is-gadben ei afael yn y llyw gyda phenderfyniad diym- ollwng. Am^gylchynai bob craig yn araf a gochelgar, bwriodd a'i ddwy law ei hun daclau y llong i'r mor,' a chafodd y gwenith fyned dros y bwrdd pan welodd fod perygl am y llestr; ac er hwylio yn annyben am lawer o ddyddiau, a myned yn brin heibio i lawer craig beryglus, eto daliodd nes y mae erbyn hyn wedi cyrhaedd y porthladd. Byddwn bellach yn dysgwyl am yr etholiad cyffredinol er mwyn gweled pa fodd y gweithia y mesur.

CYFARFOD CHWARTEROL MÖN.

- WYDDGRUG. '- .'!i

ttUtyddin.t nmn.

Y BIL DIWYCUADOL.

EIN TELE 11A L" A'N DQSBARTHWYR.…