Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

MISS WALTERS, TREDEGAR.

[No title]

-EBENEZEE A'I AMGYLCHOEDD.

NEW TREDEGAR A'R YSGOL FRYT-ANAIDI).,…

News
Cite
Share

NEW TREDEGAR A'R YSGOL FRYT- ANAIDI)., Lie yn ymgodi yn gyflym i sylw a phoblog- rwydd yw New Tredegar. Saif yn nghwm Rhymney, rhyw dair milltir islaw gweithiau haiarn Rhymney. Gweithiau glo yw prif fywyd y lie. Mae yma bedwar o gapelydd—un gan yr Annibynwyr, un gan y Trochwyr, un gan y Trefnyddion Oalfinaidd, ac un gan y Trefnyddion Wesleyaidd, ac mae'r hen fam hithau i gael ys- goldy braf yn y lie, yn yr hwn y cedwir gwasan- aeth crefyddol yn fynych. Teimlodd y trigolion er ys tipyn fod angen am Ysgol Frytanaidd yn y lie, ac yr oedd hyn yn hollol naturiol, gan fod y rhif luosocaf o lawer 0 r trigolion yn ymneillduwyr, Oafwvd cryn drafferth i gael tir, ond o'r diwedd llwyddwyd i gael darn: helaeth mewn man cyfleus iawn, a hyny gan yr uchel geidwadwr Arglwydd Tredegar. Dydd Llun, Gorph. 22, oedd yr adeg i osod y gareg sylfaen i lawr, ac aethum yno o bwrpas, er eydia.wenhau a'i- evfeillion yn eu llwyddiant. Mor fuan ag yr aethum i olwg y lie, gwelwn fod bywyd anarferol drwy yr holl gymmydogaeth. Pob gwaith agos, wedi ei roi heibio am y diwr- nod, a phawb yn ymddangos yn teimlo interest yn y symudiad, Un o'r pethau cyntaf ddaeth dan fy sylw, oedd gweled Mr. a Mrs. Williams, Grocer, yn ddiwyd barotoi baner, ac yn wir un hardd oedd hi, ac yn mhen ychydig, g-wel- wn Oynfyn Trelyn, a'r Bardd Gwyllt' yn ei chano. Gallwn feddwl'i wyr Coventry deimlo'n Hawen oherwydd y symudiad gan faint o Rib- anau gwynion a chochion ar a werthwyd. Am 12 o'r gloch, awd i gae cyfagos, er trefnu yr orymdaith. Mr. Jackson—Colonel Stonewall Jackson fel ei gelwid, ar gefn ei fesrlyn yn car- lam u yn ol ac yn mlaen er cael pabpeth i drefn. Yna cychwynwyd yn y drefn ganlynol-Parchn. D. Jones (A), J. S. Jones (B), A. Davies, Pont- lottyn (M), T. LI. Jones, Machen, E. Davies, Rhymney, J. Jones, Matlietes, Rhymney, S. Owen, W. P. Davies, Seion, Rhymney; R. Lonie, Ysw., Mr. J. Jeremiah a'r pwyllgor oil yn can- lyn, yna'r boneddigesau-Mrs. Wilkinson, Mrs. Lonie, Mrs. Jones, priod y Parch. D.Jones, &c., yna'r New Tredegar Brass Band, ac wedi hyny yr Odyddion, yna Ysgol Sabbathol yr Annibyn- wyr, yna eiddo'r Trochwyr wedi hyny eiddo'r Methodistiaid, yna eiddo'r Wesleyaid, ac yna eiddo'r Eglwys Sefydledig. Ni welais harddach golygfa er ys blynyddau. Wedi cerdded trwy y lie, deuwyd at brif orchwyl y dydd, set gosod y gareg sylfaen. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. D. Jones. Darllenwyd yr ysgrif oedd i fod dan y gareg yn Gymraeg gan y Parch. J. S. Jones, ac yn Saesneg gan Mr. Jackson, yna canwyd, ac yna wedi anrhegu Mrs. Jackson a'r llwy arian, daeth yn ei bis en, a chyflawnodd ei gorchwyl yn ddeheuig iawn. Siaradodd y Parchn. D. Jones, J. T. Jones, Mr. Jackson, ac R. Lonie, Ysw. Aeth pob ysgol wedi hyn i gael difyrwch i'r cae, yr oedd te hefyd yn y capelydd i bawb fuasai yn dewis. Yn yr hwyr cynnaliwyd cyfarfod yn nghapel yr Uchdir (A), dan lywyddiaeth R. Bedlington, Ysw., Rhymney, yr hwn oedd yn llawen iawn am fod yr adeilad wedi ei ddeclireu o ddifrif. Yna aiaradodd y Parchn. J. Jones, (Mathetes), D. Jones, W. P. Davies, Seion, Rhymney, J. T. Jones, J. P. Willifuns, Pontlottyn. A. Davies, Pontlottyn; Mri. Strong, J. Davies, Jackson, a J. Johns, a'r Parch. E. Davies, Rhymney. Yr oedd gweithrediadau'r dydd drwyddo yn llwydd- iant perffaith, ac hyderaf mai llwyddiant fydd yr ysgol pan ddaw i fynu.—- Glanoafros.

CYMMANFA YSGOLION SABBATHOL…

Cyfarfod y Prydnawn.

.Cyfarfod y Nos.

CLADDEDIGAETH Y PARCH. W.…

MISTRI GOLYGWRS.