Hide Articles List

6 articles on this Page

MORDAITH S. R. 0 NEW YORK…

News
Cite
Share

MORDAITH S. R. 0 NEW YORK I LIVERPOOL. Gadawsom New York ddydd Sadwrn yr 20fed o'r mis yma. Yr oedd yn dda genyf aUu trefnu i ddyfod gyda'r City of Paris; oblegyd gallaf yn awr gadarnhau oddiar brofiacl, yr hyn oeiddwn wedi gtywed o'r blaen, am gyfleusderau a threfniadau y City of Paris. Y maent yr oil ar a allai medr a gofal eu gwneud; a'r oil ar a allai calon yr ymdeithydd ddymuno. Y City of Paris ydyw prif long, neu Commodore Ship,' yr Inman Line. Y fwyaf a'r gyf- lymaf a berthyn i'r Line, a dichon y gyflymaf ddarfu erioed groesi tonau y Werydd, neu farchog tonau unrhyw for arall. Cafodd ei hadeiladu yn Glasgow un mis ar bymtheg yn ol. Y mae yn Ilong o bron ddeunaw cant o dynelliad: ei hyd yri, dri chant a thriugain a phymtheg o droedfeddi. Y mae ynddi leoedd i dros naw cant o ymfudwyr. Y mae wedi cael ei gorphen a'i dodrefnu yn y dull goreu. Gwelir naw 1 o gychod, neu Life-boats, yn rhwym wrth ei hystlysau, er dyogelwch. Y mae newydd orphen ei thrydedd mordaith ar ddeg xpewn deng y niwrriod. Y' paae yn hulio ei bwrdd bed gwaith yn y. dydd, am liaw, a deuddeg, a phedwar, a haner awr wedi saitli; ac arl-wyir swper ar ol hyny i'r-bobl J¡tyr. Y mae ei, Stewards, neu oruchwylwyr ei byrddau, yn gwasanaethu i holl ddynrftmadau y Gwestwyr gyda llygad cyflym, a throed ysgafn, allaw wastad, a gwyneb siriol. Y mae ystafelloedd ei gwelyau yn rhai cryno ac awyrawg. Y mae ei Llywydd a'r Is-swyddwyr oil, yn foneddwyr, nid yn unig o fedr a phrofiad, ond yn rhai o ofal gwyliad- wrus, ac o foes boneddigaidd Y mae ynddi ddau feddyg enwog i ymgeleddu y cleifion. Am y ddeuddydd cyntaf o'n mordaith, yr oedd y niwl a'r gwlaw a'r gwynt a'r don yn gweithio yn ein herbyn ac yr oedd yr ymdeithwyr yn cael eu siglo yn fwy nag y buasent yn dymuno: ac }'_r oeddynt weithiau yn gorfod dawnsio 1 alawon y torinau; ond siglo ei gryd yr oedd y mor, a chwibanu ei don yr oedd y gwynt yn gwbl ddiystyr o glafychiad yr ymdeithwyr: eithr yr oedd ein llong ardderchog yn ym dyilll yn mlaen yn wrol a buddugol drwy y croes- awelon, a thros chwydd y tonnau, heb gymeryd ei digaloni gan unrhyw ddylanwadaa gwrthwynebus. Yr oedd y dyddiau dilynol yn rhai teg clir tawel; ac yr oedd yr ymdeithwyr, hyd yn nod y rhai gwanaf, yn gallu dyfod allan o'u hystafelloedd i fwynbau yr awelon a'r "golygfeydd, a'r ymddiddanion a'r dadl- euon yn y caban ac ar y bwrdd. Yn mysg ein cyd-deithwyr yr oedd yr enwog Paul Du Chaillu, y Teithydd ymchwilgar ac anturiaethus drwy wyllt anialdiroedd kffrica,-yu ddyn ieuang- ach ac o gorpbyn eiddilach nag oeddwnyn ddisgwyl: Colonel Gowan, yr hwn sydd yn -wiqgol'yr anrhyd- edd a dderbyniodd oddiwrth y Frenhines Victoria, ac Ymerawdwyr Ffrainc a Russia, a Phenaduriaid Turkey ac Italy, am ei lafur synwyrol i gadw yn gyssegredig feddau y gwroniaid syifchiedig ar feus- ydd rhyfeloedd; ac am ei gywreinrwydd peirian- yddol yn codi llongau suddedig o waelodion mor- oedd y Crimea. Yr oedd gyda ni hefyd ddau weinidog esgobyddol o urddau eglwys Loegr, a dau offeiriad Eglwys Rhufain o ymddangosiad boneddig- aidd. ac amryw weinidogion o Enwadau eraill; a chenhadwr ymroddgar o enwad y Bedyddwyr ar ei ddychweliad i faes ei lafur ar fynydd-diroedd India; ac Efrydydd ieuanc yn myned allan, ar draul dines- ydd cyfoethog o New York, i sefydlu Athrofa gen- hadol yn Nghaercystenyn a Proffessor Norton o gadair peirianyddiaeth Coleg Yale, a Capten Gwynne Lewis o Fydclin Victoria a Mr. Howard, President Insurance Company, Hartford, Conn. a dau neu dri o gynnrychiolwyr llysoedd cyfraith, a Mrs. Hardinge y ddarlithyddes ffraetli ar Ysprydiaetli;' a dau ymdeithydd siriol a difyr o India y Gorllewin, a hen batriarch penwyn barfawg o Kentucky a elwid yn gynfab Neifion, a rhai o feibion a merched craffus New England, a hen aelod o eglwys Carr's Lane, llawn o adgofion cynes am weinidogaeth yr hybarch John Angell James; a'm cydwladwyr cym- deithasgar Mr. a Mrs. Jenkins o New Jersey, a Miss Thomas o Catasauqua, a Mrs. Richards o St. Clairs; a mintai luosog o gyd-deithwyr eraill, o bron bob gwlad a chenedl, Cymry a Saeson ac Americaniaid, Gwyddelod ac Ellmyn, Spaeniaid a Russiaid, Ffran- cod a Belgiaid, Peruiaid a Chiliaid, Australiaid ac Indiaid, Chineaid a Japaniaid, Groegiaid dysgedig a gwyr anllythyrenog, Iuddewon a Chenhedloedd; a'r rhan fwyaf o honynt yn gwneud eu rhan yn llawen, er difyrweh ac addysg eu cyd-deithwyr ond yr oedd ambell un yn edrych dipyn yn drwyn-draws, ac braidd yn dueddol i rwgnach. Nid buan yr anghofiaf ofal tyner y Brif Stewardes, Mrs. Fisher, yn enwedig tuagat foneddigesau cleif- ion; a Ilonwyd fy yspryd inau lawer tro trwy ei charedigrwydd fel mam neu chwaer, yn anfon i mi o bryd i bryd gwpanaid o 'g?-ueZ,' blasus, ag oedd yn dygymod a mi yn llawer gwell na seigiau breision rhai o'r prydiau rheolaidd; ac yr oedd y cysuron hyny yn fwy gwerthfawr i mi, am eu bod yn dyfod drwy law Cymraes garuaidd-un o Morwynion glan Meirionydd,' yr hon sydd yn awr wedi bod am dros saith mlynedd ar yr Inman Line, ac felly wedi cael hir brofiad o ofalon ei goruchwyliaeth. Yr oeddwn wedi cael llaweftjo gyfeillach ei cheraint o gymmydogaethau Towyn, a'r Bermo, a Harlech, pan yn ymdeithio gynt. yn nyddiau fy ienenctyd, gyda glenydd moroedd iachusol a hyfryd Meirion a gor- orau Cymru. Yr oedd steward fy nosparth i o'r Hong yn Scotyn ieuanc o Glasgow, acyr oedd yn gryn hanesydd a duwinydd a chydwladWr llawen, heinyf, un o ael- odau y Tabernacle, o'r enw Jones, oedd un o wein- yddion blaenaf ein bwrdd. Yr oedd wedi bod am dair bly nedd ar yr Inman Line, ac yr oedd yn ddifyr i mi gael ymgomio Cymraeg a chyfaill ieuanc felly; ond nid allai y stewards gael ond yehydig hamdden, am eu bod yn gorfod hulio y byrddau bum waith yn y dydd, heblaw gofalon eraill. Buasai eu gofalon yn llai pe na buasai ond tair arlwy y dydd, a buasai hyny hefyd yn ysgafnhau llafur traul-beiriannau llawer. cylla gwan o wane afreolaidd. Cymmerwyd i mi fy lie yn y Hong gan ein cyd. wladwr cenedlgarol Cadwaladr Richards, o'r Tem- perance Hall, 403, Greenwich-street, New York, yr hwn sydd yn awr erys llawer a flynyddoedd wedi ei brofi ei hun yn gyfaill ffyd'dWwn i ymfudwyr o Gymru. Yr wyf yn rhwytnedig a diolchgar iddo am ei wasanaeth i mi ac yr wyf yn teimlo ei fod yn teilyngu ewyllys day .Cymryamêi d,iriondeb, ei. ofal, amanylrwydd ei gyfarwy'ddiadaif; .ac;yn enw- edig am ei ymdrech ddifiinp i gadw ymfudwyr ieu- aillC a dibrofiad o gyrhaedd profedigaethau ofnadwy saloons llygredig dinas fawr New York. Hebryngwyd fi a'm clua i'r llong ya men esmwyth ryn .fy hen gyfaill Mr. Lewis Thomas, o Benal, yr hwn trwy ei lafur a'i ddiwydrwydd sydd wedi dringo i olud a dylanwad fef un o ddinaswyr New York. Bydd melus i mi am hir dymmor fy adgofion cyn- hes am y cyfeillachau adeiladol a gefais gyda'r Parchn. J. J. Jones ac Evan Griffiths, Dr. Roberts, Mr. H. J. Hughes, Mr. a Mrs. Jones, a llu o gyfeill- ion eraill, cyn fy hebtvng i'r Ilong. S.R., lrn Liverpool. Gorph. 311 1867.

MISTRI GOLYGWRS.

YE HEN DEILIWR.

GAIR 0 GAERYNARFON.

Y DIWEDDAR BARCH. M. JONES,…

'ABERTH MOLIANT' A'I ADOLYGYDD.