Hide Articles List

13 articles on this Page

[No title]

TELERAU AM HYSBYSIADAV.

Newydd ei gyturneryd,

TAI AR OSOD.

-t ythuo. ;

YMWELIAD Y SULTAN A LLUNDAIN.

News
Cite
Share

YMWELIAD Y SULTAN A LLUNDAIN. Ychydig flynyddoedd yn ol, anfonodd tywysog paganaidd o Affrica. i-ofyn iln Grasusaf Frenhines beth oedd dirgelwch mawredd Prydain. Yn meddu ar ben digon goleu, a chalon digon Crist- imogol i daflu llewyrch q ogoniant hyd yn nod ar yr orsedd yr eistedd arni, anfonodd Victoria iddo, nid un o hyrdd-longau ein llynges, nac un o Armstrong Guns ein byddin, ond copi harddo Hen Feibl anwyl Iesu,' ac arno yn argraffedig, 'Dyma ddirgelwch mawredd Prydain.' Ond weleyn 1867, pan y mae y Sultan wedi dyfod yn bersonol i weled rhyfeddodau ein gwlad, ac i chwilio dirgelwch ei llwyddiant, mae yr hen Feibl nid yn unig wedi ei anghofio, ond y ma ei egwyddorion, megys wedi eu tatlu i for 0 e eg f anghof. A gallesid meddwl nad oes dim genym fel gwlad werth ymffrostio ynddo ond ein gallu milwr'ol. Braidd, mae'r Twrc mawréddog wedi gweled dim ond milwyr ac arfau rhyfel oddi ar pan laniodd yn Dover hyd heddyw; ac onid teg fyddai iddo gymmeryd yn ei ol ganddi i'r dwyr- ain fel adg-of o'i ymweliad a ni un o'n thych- ddrylliau, a cherfio arno, 'Wele ddirgelwch Prydain.' Ac onid teg fydd iddo gredu oddi wrth Lloegr fel esiampl mai cleddyf, ac nid cyf- reithiau rhyddfrydig sydd yn anhebgorol er llwyddiant gwlad ? 0oner nid ydym am gau ei Fawrhydi yn ystordy y Feibl Gymdeithas, er, fe allai na wnelai un o awelon iachus y lie ddim drwg i'w ysbryd gorthrymus; ond ai nid mwy buddiol i lywodraethwr sydd yn byw ar ymyl methdaliad fuasai ei gymmeryd i weled miloedd llongau pob gwlad dan haul yn mhorthladd Liverpool, i weled masnach diddiwedd Manches- ter, ie yn wir, neu i Dy y Cyffredin i weled ein Toriaid yn tawelu llais y bobl trwy lyncu gyda gwen ysgrif a'u dychrynau chwe mis yn ol, yn hytrach na dangos iddo wastraff anesgusodol eiri llywodraeth F Mae yn ddirgelwch i mi i ba beth yr elir i'r drafferth a'r golled yma o ddangos iddo ein milwyr a'n llongau rhyfel; o blegid nis gall fod eto wedi anghofio mai nid gwerthfawr gwaed gan fawrion Prydain. Ai nid ydyw yn cofio am frwydrau yr Alma, Inkerman, a Sebastopol, lie yr aberthwyd miloedd lawer o ieuenctid ein gwlad i ddim pwrpas ond i ddal i fyny ei orsedd bwdr orthrymus ef 1 Ai nid ydyw wedi clywed am y gwrthryfel mawr yn yr India, lie yr oedd milwyr tyner-galon (?) Prydain yn ymgystadlu a'r Sepoys mewn erèulonderau 1 Ai nid ydyw wedi clywed am ymddygiad bwystfilaidd llyw- odraethwr diweddar Jamaica a'i gaulynwyr,, a'r modd y tynasant warth ar y faner Brydeinig drwy saethu, ftlangellu, a chrogi dynion, merch- ed, a gwragedd fel cwn, am mai du oedd lliw eu croen ? Ydyw, y mae ei ymddygiad ef heddyw trwy ei weision yn Crete yn profi ei fod yntau hefyd yii un o edmygwyr gweithredoedd y dewr- ion (?) Eyre, Ramsay, Nelson, a Brand; oblegid nid dim llai na blingo y Cristionogion gwrth- ryfelgar yn fyw, dinystrio eu cartrefi a than, a chymmeryd eu gwragedd a'u plant yn gaethion wna eu boddloni. A oes eisiau dangos rhagor o nerth y cledd a'r bidog iddo yntau ? Nae oes, r ebe synwyr cyffredin oes, ebe. llywodraethwyr Prydain Gristionogol. Wnaf fi ddim gwarth- ruddo calon darllenydd y TYST drwy ofyn iddo pa ochr mae yn gymmeryd. Un sylw eto, ac mi sychaf fy ysgrifell. Mae Rindostan neu India, fel y mwyaf adnabyddus yn perthyn i goron Lloegr, ac v mae yno dalaeth eang o'r euw Orissa. Y llynedd, bu yno gyn- hauaf drwg iawn a'r canlyniad fu i filiynau o'r bobi farw o newyn. Do, ddarllenydd, bu rhagor na holl boblogaeth Cymru o ddynion a deiliaid Victoria, fel tithau, farw o eisiau angenrheidiau bywyd cyn i'n llywodraeth ymysgwyd o'i chwsg a'u cynnorthwyo. Ac ar ddydd Gwener diwedd- af, gwnaeth yr un llywodraeth wledd i'r Sultan a gostiodd dros ddeng mil o bunau. Ond: pwy sydd i dalu ? Y mae pobl Lloegr wedi talu yn barod ryw gan mil am ymweliad ei Fawrhydi Mahometanaidd, a rhaid peidio, gwasgu gormod ar natur dda. Pwy feddyliet ti, gaiff dalu ynte, ddarllenydd? Pwy hefyd ond pobl dlawd di- amddiffyn yr India, cyfeillion, perthynasau, a chydwladwyr y dynion fuont feirw o newyn wrth y miloedd cyn i'n llywodraeth ystyried eu bod yn werth eu hachub. Ie, pwy sydd i gael yr anrhydedd o dalu; ond nid ydynt i gael clywed am y wledd nes y bo John Bull a'i law yn eu llogeilau yn ymofyii yr awr i dalu'r bil. Hawdd yw bod yn haelionus, a rhoddi gwledd- oedd costus, 03 ceir eraill i dalu, onid e ? Fel yna y mae Lloegr Gristionogol am ddysgu gonest- rwyclcl i'r byd I! Am ymddygiadau brwnt fel yi-iit y dysgwyl Prydain i'r Hindw anwybodus gusanu y gadwyn sydd yn ei rwymo wrth or- sedd Victoria 111 Yr eiddoch, &c., Llundain. W. J. E.

.-.","...",-,..;.-... EIN…

Advertising

t\\1yadiø1 l&rn:tUor., ,,:,1.;>"',)'

-EFFAITH YMWELIAD Y SULTAN.

Y PRYDEXNIAID YN ABYSSINIA.

TERFYSG YX TENNESSEE. ''

¡,1.(1 rynhndtb $tt\tttdnt...…