Hide Articles List

13 articles on this Page

[No title]

TELERAU AM HYSBYSIADAV.

Newydd ei gyturneryd,

TAI AR OSOD.

-t ythuo. ;

News
Cite
Share

t ythuo. MAE Hanes Bywyd boreuol y Tywysog Albert yn boblogaidd nodedig dywedir fod 6000 o gopiau eisoes wedi en gwerthu, ac y cyhoeddir ail-argraphiad yn ddioed. Yr cedd ainrai bethau wedi cydgyfarfod er gwneud y cofiant hwn yn boblogaidd. Ys- ;tl zn grifenwyd ef gan y Frenhines, y mae yn cof- nodi rhinweddau 'Albert Dda,' ac i goroni y cwbl, mae yn traethu yn hela-etli am 4 Gar- wriaeth Albert a Victoria.' Cwynid yn ddi- weddar fod ein Brenhines, tra yn anrhy- deddu coffadwriaeth y raarw, yu ddiystyr o'i dyledswyddau tuag at y byw. Modd bynag gobeithir y bydd iddi o hyn allan ymddangos yn fwy cyhoeddus ar amserau o ddyddorcleb cyfFredinol. Os byddrhywun yn Nghymru y 0 yn dwyn allan goliant i'w wraig, ystyrir hyny yn argoel lied sicr y bydd i'r g-W r gweddw galarus hwnw ail briodi yn lied fuan. Mae ein Brenhines wedi treulio blynyddoedd i anrhydeddu coffadwriaeth ei phriod serchog, ond hyderir bellach fod dyddiau ei galar-ei galar mawr. beth bynag, —wedi myned lieibio. Dywed y Lancet fod ei Mawrhydi yn dyoddef oddiwrth af- iechyd blin, fod cyffroad yn cryfhau y dolur, ac iddi ddyoddefyn angerddol ar ol y rhwysg yn nglyn ag ymweliad Ymherawdwr Twrci. Gellid meddwl yn 01 yr argoelion presenol y bydd y Reform Bill o fewn ychydig ddydd- iau wedi ei ddychwelyd o Dy yr Arglwyddi i Dy y Cyffredin. Mae yr Arglwyddi wedi cyfnewid cryn lawer arno, ond y mae yn nmheus a fydd y cyfnewidiadau Avrth fodd y Ty Isod. Nid oes neb wedi bod yn fwy cys- son i'w broffes nag Arglwydd Kutisell-—tnae yr hen wladwr profedig yn parhau yn Ddi* wygiwr hyd y diwedd. Oni buasai ef buasai yr Arglwyddi wedi gwneud Etholfraint y Llettywr braidd yn ddiwerth; ae y mae meibion llafur yn Llundain, a threfi mawrion Lloegr, dan rwymau ychwanegol iddo am ddadleu eu hachos nos Lun diweddaf. Yr ydym wedi blino ysgrifenu am y Re- form Bill,. a pheth sydd yn waeth o lawer, y mae ein derbynwyr ond odid wedi blino dar- llen. Gwahoddwyd hen gydnabod i ni, yr hwn oedd wr syml, a ffraeth, a dirodres, i giniawa i dy cyfaill moesgar a dysgedig. Yr oedd yr awr giniaw yn lied ddiweddar, y seremoni o barotoi y bwrdd yn lied faith, a'r gwahoddedig yn teimlo chwant bwyd; ar ol dysgwyl, a dysgwyl, efe a ddywedodd, Os wyf i gael tamaid o rywbeth, gadewch imi ei gael, canys y mae bellach yn hen bryd.' Y mae y Senedd wedi bo'd yn hit iawn bellach yn arlwyo y bwrdd, fel y mae y wlad yn teimlo ei bod yn hen bryd iddi gael profi bias y bwyd. Ond, dyna, arfer cyffredin y Saeson yw siarad pob peth am ddeddf cyn ei phasio, ac nid ar ol hyny. Hwyrach mai hyny sydd oreu, ac mai hyn yma yw cuddiad cryfder y genedl. Mae y Bil a'i holl hanes yn dangos gwrthuni Toriaeth. Amcan mawr y Toriaid yw cadw pethau yr un fath, ac amcan mawr y blaid Ryddfrydig yw cyf- addasu y deddfau i gyfnewidiadau a chyn- nydd y wlad. Pethau symudol y w cyfoeth a diwydrwydd. Yn anmherffaith ac annghyf- iawn y trefnir yr Eisteddleoedd yn y Bil presenol eto dengys yr ad-drefniad fel y mae, fod cyfoeth a diwydrwydd yn rhy symudol i Doriaeth. Dyna Ripon, a Wells, a Lich- field-tair dinas esgobol-wedi colli hanner eu haelodau o hyn allan, tra mae Middles- borough yn cael un aelod, a Merthyr Tydfil yn cael ail aelod. Tref ieuanc, ddeg-ar- hugain oed yw Middlesborough, ac y mae hen bobl Dowlais, a'r Cefn, a Throedyrhiw. hyd eto yn adnabod Merthyr Tydfil fawr wrth yr enw syml Pentrei.' Eisioes, mae dilyn rhigolau ystrydebol y dyddiau gynt, yn annyoddefol mewn pethau gwladol. a cheir gweled yn fuan fod yr hen sefydliad o gre- fydd wladol sydd yn Lloegr a Chymru yn fwy cymmwys i'r Tywyll Oesau nag i'r bed- waredd-ganr if-ar-bymtheg. Cyflwynodd Ymherawdwr Twrci swm an- rhydedclus o arian i Arglwydd Filer Llun-, 9 WY dain, i'w rhanu rhwng tlodion y ddinas. Dywedir fod, yt Arglwydd Faer wedi tros- giwyddo yr arian i ofal y cymdeithasau a'r personau sydd yn gyfarwydd a'r gwaith o gynnorthwyo yr amddifad a'r anghenog. Y mae llawer o'n darllenwyr yn cofio y cyfiroad a fu yn ein gwlad er's tua dounaw mlynedd yn ol. Y pi-yd hwnw l'lwii wyd y wlad—ein gwlad ni-gan yr hen dad o Ru- fain, yn esgobaethau ac archesgobaethau Pabyddol. Llanwyd y wlad a dychryn a dygasedd. Un noson aethom i brphwys yn dn,wel fel Protestaniaid, ond erbyn y boreu yr oeddym oil wedi ein troi yn. Babyddion. Mae gallu ofnadwy gan y Pab, wedi'r cwbl, a pha ryfedd ei fod yn honni anffaeledigaeth? Pasiwyd deddf ar ffrwst yn Senedd Lloegr i gadw y title yn monopoly i'r eglwys sefydl- edig. Yn ddiweddar appwyntiwyd pwyllgor neillduol o Dy y Cyffredin i wneud ymohwil- iad i effeithiau y ddeddf hono, ac y mae y pwyllgor hwnw o'r farn y gellir goddef i offeiriad mwyaf urddasol yr eglwys Babaidd yn y wlad hon i gyfenwi eu hunain yn es- gobion ac archesgobion heb beryglu eglwys Loegr. Os ydym am roddi Pabyddiaeth i lawr, mae yn rhald i ni wrth rywbeth uwch a gwell nag ategu Eglwys Loegr, y mae yn zn ;n rhaid i ni ddysgn rhyddid yr efengyl i'r genedl sydd yn codi. Mae Mr. John S. Mill ac eraill, yn cyn- lliinio i gynnal cynghor heddweli yn fuan, yn Geneva. Bwriedir llafurio yn fwy egniol nac erioed i oleuo pobloedd Ewrop o barth effeithiau andwyol rhyfel, a chanlyniadau gogoneddus heddwch. Cynhelid cyfarfod nos Lun, gan y bobl yn Hyde Park, er datgan annghymeradwyaeth i fesur y llywodraeth er rhwystro y bobl i gynal cyfarfodydd yn y Parciau. Yr oedd tua 10,000 yn bresenol. Ofnid terfysg yr oedd 5000 o heddgeidwaid yn barod, pe ZD buasai galwad amdanynt, aeth pobpeth heibio yn heddychol. Dydd Llun, cyrhaeddodd y newydd am farwolaeth Mr. William Crawshay, o Ferthyr Tydfil. Ystyrid ef am oes faith yn frenhin perchenogion gweithfaoedd haiarn. Richard Crawshay oedd y cyntaf o'r teulu i ymsef- ydlu yn Merthyr yr oedd yn enedigol o Yorkshire symudodd i Lundain, ac oddiyno i Ferthyr. Wyr i'r Richard Crawshay hwnw oedd y William Crawshay a fu farw y Sabbath diweddaf.

YMWELIAD Y SULTAN A LLUNDAIN.

.-.","...",-,..;.-... EIN…

Advertising

t\\1yadiø1 l&rn:tUor., ,,:,1.;>"',)'

-EFFAITH YMWELIAD Y SULTAN.

Y PRYDEXNIAID YN ABYSSINIA.

TERFYSG YX TENNESSEE. ''

¡,1.(1 rynhndtb $tt\tttdnt...…