Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
CYFLWYNIAD TYSTEB I'R PARCH.…
CYFLWYNIAD TYSTEB I'R PARCH. E. C. JENKINS, RHYMNI. Cynnaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Salem, Tre- lyn, nos Fercher, yr 17eg o'r mis diweddaf. Yn Salem yr urddwyd Mr. Jenkins, ac felly teimlid dyddordeb nid bychan yn y dysteb a'r cyfarfod. Cymmerwyd y gadair gan D. S. Lewis, Ysw., Penrhiwffranc, yr hwn a wnaeth araeth ardderchog ar yr angenrheidrwydd o gydnabod gweinidogion yn deilwng, a gwyn fyd na fuasai pob diacon yn Nghymru yn clywed y sylwadau gwerthfawr. Yna dywedwyd ychydig eiriau gan y Parch. T. Llewelyn, Mountain Ash, a Mr. John Jones, Penmain. Darllenodd y Parch. D. Hughes, B.A., Tre- degar, yr anerchiad canlynol oddi wrth wein- idogion y sir:— 'Hybarcii AC A.NWYI FRAWD, Tra y mae eich cyfeillion ac aelodau yr eglwysi dan eich gofal yn Salem, Trelyn, ac yn Moriah, Rhymni, yn parotoi at eich anrhegu a thystob, bydded i ninnau eich cyd-frodyr yn y weinidogaeth, a chyd-aelodau o Undeb Cymreig Sir Fynwy, gael y pleser o'ch anerch ar fyr eiriau. Y mae yn hyfrydwch mawr genym yn gyntaf oil eich llongyfarck fel brawd hybarch ac anwyl ag sydd wedi cael yr anrhydedd o fod ar y maes gweinidogaethol yn y sir hon er ys llawer o flynyddau; ac ar ol hir lafur yn planu ac adeiladu yr eglwysi dan eich gofal, eich bod yn bresenol yn cael y pleser digymmysg hwnw o weled fod ewyllys yr Arglwydd i raddau helaeth iawn wedi, ac yn llwyddo yn eich llaw. Ac yn nglyn a llwyddiant ysbrydoly cynnulleidfaoedd a'r eglwysi dan eich gofal, y mae genym hefyd i'ch llon- gyfarch gyda golwg ar lwyddiant eich ymdrechion gyda golwg ar adeiladu, adgyweirio, helaethu, ac ail adeiladu addoldai eang a chyfleus-Salem, Trelyn, Moriah, Rhymni, a chapel yr Uchdir, Tredegar Newydd, at wasanaeth y cynnulleidfaoedd a'r eglwysi uchod, y rhai o angenrheidrwydd sydd wedi costio i chwi fwy na mwy bryder, gofal, a Ilafur. Heb law eich llafur cartrefol yn planu ac adeiladu yr eglwysi yn Salem, Trelyn, a Moriah, Rhymni (a chyda llaw, eich llafur yn Nhredegar Newydd hyd yn ddiw- eddar hefyd), y mae genym y pleser hefyd o gydnabod eich parodrwydd hynaws a charedig, ar bob amgylchiad i roddi eich cynnorthwy, pa un bynag ai mewn cynghor, addysgiad, neu gyflawniad cyhoeddus, yn nglyn a gwa- hanol symmudiadau yr achos crefyddol yn ein plith, megys agoriad addoldai, cyfarfodydd casglu, y cyfar- fodydd chwarterol, y cymmanfaoedd, &c., yn y sir hon trwy y blynyddoedd. Ac ar ol tymmor mor faith a 36 o flynyddoedd yn y weinidogaeth mewn cylck ag sydd yn gofyn cymmaint o lafur corph a meddwl, heb son dim am amddifadiad anwylid o'r teulu, yn gystal ag afiechyd trwm a'ch cyfarfyddodd chwi yn bersonol, y mae yn hyfrydwch neillduol genym eich llongyfarch yn bresenol yn y mwynhad o'r fath hoewder a nerth corph- orol a r fath rym, sirioldeb, a dysgleirder meddyliol ag sydd yn eich meddiant. 8 Yr ydym hefyd yn llawenhau mewn modd neillduol, mai nid anerchiad ymadawol ydyw hon, ond anerchiad longyfarchiadol i un ag sydd wedi glynu yn ddidroi yn 01 wrth yr un eglwysi, trwy ystod ei hir weinidogaeth lwyddianus ac un, yn ol pob tebygolrwydd, fel y cred- wn, ag sydd yn debyg o aros yn eu gwasanaeth hyd ddiwedd ei yrfa bellach. A'u gweddi yn syml, iiybarch ac anwyl frawd, yw-" A Duw y cariad a'r heddweh a fyddo gyda chwi. Wedi i Mr. Hughes, y Parch. D. Edwards, Coed duon, a Mr. John Jones, Salem, ddyweyd ychydig eiriau, darllenwyd yr anerchiad canlynol oddi wrth yr eglwysi gan yr Ysgrifenydd:- 'Barciius AC ANWYL Fug ail, Yr ydym yn defnyddio y cyfle dyddorol hwn i'ch anerch ar fyr eiriau ac wrth eich cyfarch, y mae dau fath o deimlad yn cyfodi yn ein mynwesau—teimlad o brudd-der wrth gofio fod mwy o'ch einioes wedi ei dreulio nag sydd eto yn ol. Cof genym eich gweled yn gryf a gwisgi, heb ofalu fawr am gerdded ugain milldir o ffordd; ond rhaid i ni gredu mai nid felly y mae heddyw. A theimlad o lawcnydd wrth adgofio y gwaith mawr ag y buoch yn offerynol i'w gyflawni yn nerth eich Duw trwy ystod eich oes hyd yma. Pan ddaethoch gyntaf i ardal Salem, nid oedd y gymmydogaeth ond anialweh gwag erchyll—hen gampau annuwiol yn uchel, y Sabbath yn cael ei kalogi, a chryn lawer o wrthwyn- ebiad i'r efengyl a'i chenhadon. Yn 1830, urddwyd chwi yn weinidog ar yr ychydig braidd yn Salem, a daethoch yma i aros. Yr oedd yn dangos llawer iawn o anturiaeth o'ch tu chwi; canys nid oedd yma ond wyth aelod ar y pryd, ac heb yr un o honynt yn gyfoethog yn mhethau y bywyd hwn. Rhaid eich bod yn meddu ffydd gref yn rhagluniaeth Duw cyn y buasech yn cymmeryd cam mor bwysig dan y fath amgylchiadau. Erbyn heddyw, y mae yr wyth hyny wedi huno, a hyderwn eu bod wedi huno yn yr Iesu. Pregethasoch lawer ar hyd y tai yn Dghym- mydogaeth Trelyn, a thrwy gwm Rhymni ac yn yr amser hwnw, ystyriai llawer hi yn anrhydedd i chwi gael pregethu yn eu tai, heb son am eich cydnabod, pe buasech yn disgwyl am hyny. Gwnaethoch lawer iawn o lea yn y ffordd hon er gwareiddio ac efengyleiddio y cymmydogaethau. Buoch yn myned yn gysson am chwe blynedd i Libanus, Craigberthlwyd, abyddmelus gofio ar fryniau gwyrddlas y wlad draw am y gwaith Y buoch yn offerynol i'w wneud yno. Buoch hefyd yn myned yn gysson am dair blynedd i Watford; ao oni buasai eich llafur a'ch ymdrech chwi, diau y buasai gweithredoedd yr hen gapel hwnw wedi eu colli, a'r lie wedi myned yn eiddo personol. Pregethasoch lawer hefyd yn Machen pan yr oedd yr achos yn ei fabandod. Yn 1840, dechreuasoch yr achos yn Moriah, Rhymni. Yr oeddech wedi bod yma yn pregethu droion cyn hyn. Coffa da am yr hen bwll llif,' lie y dechreuwyd cynnal Ysgol Sabbathol. Nid oes ond ychydig o'r rhai fu gyda chwi yn dechreu Moriah yn fyw heddyw, sef Thomas Rees, Thomas Lodwick, Ann Humphrey, Margaret Rees, a John Morgan. Yn ystod y 26 mnedd diweddaf, yr ydych wedi gweled llawer o gyfnewidiadau yn Rhymni, ac yn eglwys Moriali. Mae canoedd wedi eu claddu, ugeiniau lawer wedi ymadael i fanau eraill; ac er eich gofid, llawer wedi gwrthgilio ag ydynt heddyw ar faes y byd annuwiol, neu wedi myned i fyd arall; ond y mae yn gysur meddwl eich bod hefyd wedi derbyn yn mhell dros fil, a hyfryd genym gydilabod fod yr eglwys yn fwy lluosog yn awr nag y bu erioed. O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni. Yna, a yr anerchiad. yn mlaen i gyfeirio at wroldeb Mr. Jenkins yn adeg ymweliad y cholera —ei ymdrechion i sefydlu eglwysi New Tredegar a Phontlottyn—ei ymweliad a sir Gaerefrog a Sootlan(I-ei hynawsedd a'i foneddigeiddrwydd fel gweinidog efengylaidd—ei hapusrwydd yn ei gyssylltiadau teuluaidd, a'r rhwygiadau blin a wnaeth angeu ar ei aelwyd; a therfyna trwy ddyweyd-- Ond er yr holl waith a gyflawnasbcli, a'r gofidiau yr aethoch trwyddynt, da genym eich cyfarfod heddyw mor gryf a gwrol; ac yn wir, wrth eich gwrando yn pregethu y misoedd diweddaf, gallem dybio eich bod yn fwy awchus nag erioed yn tori i ni o fara y bywyd. Buasai yn dda genym pe buasai yr anrheg yn llawer mwy nag ydyw; ond gallwch benderfynu ei bod wedi tarddu o deimlad iawn. Dymunwn i chwi brydnawn hir a thawel, a phryd bynag y daw y eyfnewidiad mawr i'ch cyfarfod, bydded i chwi gael mynediad helaeth i mown i deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist. Ac wedi i Mr. W. Jenkins ddyweyd gair, dar- llenodd yr ysgrifenydd yr anerchiad canlynol oddi wrth chwiorydd eglwys Salem, i Mrs. Jenkins:— 'ANWYL CHWAER, Gwyddom nad ydyw yn beth cyffredin i anerch gwragedd gweinidogion ar achlysuron o'r fath hyn ond meddyliwn fod eich cymmeriad chwi a'ch hir arhosiad yn ein plith yn ddigon o reswm dros i ni wneyd. Yr ydym yn gwybod, oddiar hir adnab- yddiaeth o honoch, nad ydych yn hoff o gael eich canmol; ond rhaid i chwi ddyoddef am funud yn bresenol. Gwyddom yn dda mai nid peth rhad yn marchnad y byd yma yw gwraig dda, a gwyddom cystal a hyny, ei bod yn fwy anhawdd i weinidog gael gwraig dda na neb arall; o herwydd y mae angen am iddi fod yn wraig dda, ac hefyd yn meddu ar y cymhwysderau a'i gwna yn wraig gweinidog; ond er mor anhawdd yw, gwyddom i'n hanwyl wein- idog ni ei chael ynoch chwi. Yr ydych wedi bod ar hyd eich oes yn gwarchod gartrefa chredwn eich bod yn meddu ar yr elfen hono gartref ag sydd yn gwasgar perarogl crefydd trwy yr holl gylch teuluaidd. Ystyriwn yr elfen hon yn annhraethol bwysig mewn mam. Gwyddom am rai tadau yn gwneud en goreu i addysgu eu plant mewn pethau da ond y mae dylanwad y fam gartref yn gwrth- weithio yr oil, ac felly collir yr amcan. Cawsoch chwi y cysur digymmysg o weled pob un o'ch plant a dyfodd i fyny yn dilyn yr Oen. Mae rhai o honynt -ie, y rhif luosocaf wedi myned o'ch blaen chwi i feddianu y wlad, lie na wywa byth mo'i blodau braf;" a phan gyfarfyddo y teulu oil yno, bydd melus ganu am nerth i deithio yr anial, gan edrych ar lesn. Rhoqclasoch eich cydymdeimlad llwyraf i'ch anwyl briod yn ei waith mawr. Ystyriwn hyn yn bwysig iawn i genad hedd. Nid oes neb a wyr werth gair o gysur a chydymdeimlad a gweinidog ar lawer nos Sabbath, ac nid oes neb yn fwy parod i gydnabod hyn na'ch priod hawddgar. Yr ydym wedi eich cael bob amser yn meddu ar synwyr a gras i ymddwyn yn y modd doethaf yn yr amgylchiadau mwyaf dyrys. Nid ydym wedi gweled y duedd leiaf ynoch erioed i ymyraeth mewn mater- ion eglwysig. Yr ydych wedi arfer dangos y cyd- ymdeimlad mwyaf parod a'r cystuddiol a'r anghen- us, ac o herwydd hyn nis gallwn lai na'eh parchu a'ch caru. Buoch ar hyd eich oes yn garedig i wein- idogion y Gair, yr hyn oedd yn fantais i ni fel eg- lwys, ar amryw ystyriaethau. Ni pharchech yr enwog a'r mawr, ar draul diystyru x-hai llai, ond dangosech barch calon iddynt oil. Bellach, yr ydych ar ddisgynfa y bryn, fel llawer o honom ninnau; ond hyderwn fod genych bryd- nawn hir eto i fod yn ddefnyddiol yn y teulu a'r eglwys. Ystyriwn chwi yn bresenol fel Deborah gynt, yn fam yn Israel," a hyderwn y cewch lawer iawn o gymhorth i ymddwyn fel y cyfryw, a phryd bynag y daw y nos i'ch cyfarfod, disgwyliwn y bydd lamp efengyl yn goleuo yn ddysglaer, nes tatiu ei goleu dros y glyn i'r ochr draw, a hen gyfeillion lu yn dyfod i'ch croesawu adref i'r wladlonydd, lie nid oes marw mwy, ac yn eu plith eich anwyliaid ag sydd wedi blaenu. Ni chawn groesi ar yr un amser; ond hyderwn y cawn gyfarfod yn swper neithior yr Oen, ac felly ni fydd raid ymadael mwy.' Cyflwynwyd yr anerchiad i Mrs. Jenkins gan Mary Watkin, y chwaer hynaf yn yr eglwys. Yr oedd Mrs. Jenkins yn rhy ddrylliog i siarad, a diolch drosti ei hun, ac felly ymdrechodd Mr. Jenkins ddiolch drosto ei hun, a throsti hithau. Dywedodd ychydig eiriau 11awn o deimlad diolch- gar; ond bu raid iddo yntau dewi yn fuan gan ddagrau, ac ni welais yn fy mywyd olygfa mwy effeithiolMr. a Mrs. Jenkins yn wylo, a'r dorf yn teimlo gyda hwy. Yna siaradodd y Parch. T. Jeffreys, Pen y cae, a'r Parch. D. Jones, New Tredegar-y ddau yn effeithiol iawn. Diolebwyd yn gynhes i'r cadeirydd a'i anwyl briod Mrs. Lewis am eu presenoldeb-i Mr. J. Mathews, am ei weithgarwch gyda thysteb Mrs. Jenkins, ao i'r pwyllgor y casglwyr a'r cyfran- wyr oil.
CYFARFOD, MORIAH, KHYMNI.—NOS…
CYFARFOD, MORIAH, KHYMNI.—NOS IAU. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. R. WY Hughes, Cendl. Cymmerwyd y gadair gan R, Bedlingto-u, Ysw., yr hwn a agorodd y cyfarfod mewn araeth gymhwya, gan ddangos y parch mwyaf i Mr. Jenkins. Yna siaradodd y Parch. R. Hughes, Cendl; y Parch. W. P. Davies, Seion; y Parch. J. P. Williams (B.), Pontlottyn. Yna darllenodd y Parch. E. Hughes, Penmain, yr anerchiad oddi wrth y sir; a chyda llaw, cymmerodd i fyny ganmol Mr. Jenkins fel hen gymmydog hawdd- gar, a gweinidog ffyddlawn ar eglwysi Duw. Rhoddodd D. L. Lewis, Ysw., Penrhiwffranc, air o gynghor i ddiaconiaid yn Saesneg ac yn Gymraeg, gyda golwg ar gyfranu. Dywedai E. Lowe, Ysw., New Tredegar, yn uchel am Mr. Jenkins. Aeth Mr. Thomas Bees, inspector, yn weddol fanwl dros hanes dechreuad yr achos yn Moriah, yn nghyd ag ymdrechion Mr. Jen- kins gydag ef. Siaradodd Mathetes a'r Parch. Mr. Wright (B). Yna darllenwyd anerchiad yr eglwysi gan yr ysgrifenydd; a dylem ddyweyd hefyd i'r ddwy anerchiad gael eu cyflwyno i Mr. Jenkins gan ferched bach perthynol i'r Ysgol Sabbathol. Yr oedd hyn yn edrych yn brydferth anarferol. Siaradai y Parch. G, Owen yn ddoniol iawn ar y dysteb. Yna aed at brif waith y cyfarfpd, sef cyflwyno y pwrs i Mr. Jenkins. Yr oedd y pwrs wedi ei wneyd yn ardderchog gan Mrs. Cave, yr hon hefyd a'i cyflwynodd iddo ef, a gwnaeth hyny yn ddeheuig iawn. Yr oedd holl swm y dysteb yn 105p. 5s. Diolchai Mr. Jenkins yn wresog am yr arwydd hwn o barch a ddangosid, a dy- wedai nad oedd yr un eglwys yn y cwm yn talu ei gweinidog yn well nag eglwys Moriah yn awr. Yr oedd ef yn cofio agwedd wahanol ar bethau. Bu yn gwasanaethu am y pymtheng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth am lai na 3p. y mis, a chofiai dderbyn y swm aruthrol o 3p. 6s. am bymtheng mis o wasanaeth; ond erbyn hyn, yr oedd pethau wedi cyfnewid yn fawr. Diolchai yr ail waith am y dysteb, a gobeithiai fwynhau tysteb ragorach yn y man, sef anniflanedig goron y gogoniant.' Yr oedd yr anerchiadau wedi eu fframio yn hardd a darlun o Mr. Jenkins yn y canol; ac felly hefyd yr oedd anerchiad Mrs. Jenkins, a'i darlun hithau yn y canol. Diolchwyd yn gynhes i'r cadeirydd, i ysgrif- enydd, cadeirydd a thrysorydd y pwyllgor,—i D. S. Lewis, i Mrs. Cave am wneyd y pwrs, ac i'r casglwyr a'r cyfranwyr oil. Derbyniwyd llythyrau gwresog iawn oddi-wrth y Parchn. John Davies, Caerdydd; Henry Oliver, B.A., Casnewydd; J. Roberts, Castellnedd; R. M. Thomas, Llanuwchllyn; a J. Thomas, Wern a buasai yn dda iawn genym eu cyhoeddi, ond yr ydym yn ofni whip y Golygydd. Diweddwyd y cyfarfod trwy weddigan y Parch. E. Hughes, Penmain. Ni fum erioed mewn cyf- arfod mwy hyfryd ar achlysur fel hwn—pawb wrth eu bodd, a phawb yn llawen wrth anrhyd- eddu yr anwyl Mr. a Mrs. Jenkins. Machen. T. L. JoNEs. [Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Mr. Jones am anfoll i ni yr hanes dyddorol uchod. Buasai yn dda genym allu rhoddi anerchiadau yr hollfrodyr yn llawn; ond y mae ein terfynau mor gyfyng, a chynnifer yn curo wrth ein drws, fel y mae yn rhaid i ni ddymuno ar ein cyfeillion ein hesgusodi am eu gadael allan. Da genym ninnau fod hen weinidog cymmeradwy fel Mr. Jenkins yn cael ei werthfawrogi ganei eglwysi.—Gol.]
dJ)l11!Jiad 11 at'!J.
dJ)l11!Jiad 11 at'!J. ABERTH MOLIANT Detholion o Salmau ac Emynau at wasanaeth addoliad cynnulleidfaol, dan arolygiaeth y PARCH. WILLIAM REES, LIVERPOOL. Aryraphivyd gan Isaac Foulkcs, 1867. Yr hwn a abertho foliant a'm gogonedda i." (ParJiad). ER esiampl, gallai llai o'r hanner o'r M. B. (M, 1), wneud y tro. Y mae yn hysbys i bawb sydd wedi sylwi mai y mesurau mwyaf arferedig oil ydyw y M. 3, 4, 5, 7, 9, a 10. Y rhai nesaf, fe dybir, yw M. 6, 8, 25, 17, 19, 20 11, 13, 15, 16, 21, 29, 1, 2. Yr ydym yn meddwl y gallai dyn deithio trwy gynnulleidfaoedd cyffredin Cymru dros dair blynedd olynol, heb glyweij ychwaneg o fesurau ynddynt, ond fel eithriadau yn unig; ie, ac heb glywed mwy na deg neu ddeuddeg, hyd yn nod o'r rhai a nodwyd uchod, ond fel eithriadau, Yr ydym yn meddwl hefyd pe torid y rhan fwyaf o'r hymnau sydd ar y mesurau anarfer- edig yn llai o lawer nag ydynt, y byddai y llyfr yn hwylusach fyth i gynnulleidfaoedd cyffredin Cymru. Y gwir yw nad oes dim mwy na thri phennill yn y tri mesur byr arferedig (M. 3, 4, a 5,) braidd byth yn cael eu canu ar unwaith; na dim mwy na clau bennill yn y mesurau hir- ion arferedig (M. 6, 7, 8, 9, a 10). Dichon ei bod ychydig yn wahanol yn nhrefydd Lloegr, ond dyna y rheol yn Nghymru, a hoffem iddi gael sylw y detholydd coeth erbyn yr argraphiadau dyfodolo 'Aberth Moliant.' Yr ydym yn dy- wedyd argraphiadau dyfodol, am ein bod yn sicr, os nad ydym ynllwyr gamddeall archwaeth emynol cenedl y Cymru, y bydd galwad am y llyfr hwn wrth y miloedd cyri pen blwyddyn o amser. Er mwyn dilyn y ffasiwn, cymmerasom dipyn 0 boen i wybeta trwy'r llyfr hwn am ddiffygion a gwallau; ond ar y cyfan, ychydig 0 dal am ein trafferth a gawsom. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at y pethau a ystyriwn fel math ar ddi- ffygion, wrth siarad am nifer y mesurau a hyd yr hymnau, gan gyfaddef ar yr un pryd, ei fod hyd yn nod gyda golwg ar hyny, yn rhagori yn mhell ar ei ragflaenoriaid. Y mae yr holl bethau a ystyriwn ni yn wallau yn gynnwysedig yn y sillebiaeth a'rllythyraeth. Cylystyr ydyw y ddau yma yn gyffredin, ond yr ydym ni yn arfer- y blaenaf i ddynodi toriad geiriau er eu hystwytbo at y mesur a'r accen; llythyraeth yn gyfystyr ag orgraph. Y mae yn y llyfr gryn nifer o eiriau wedi eu sillebu yn y fath fodd ag y llwyr ddyfethant yr accen a'r mesur with eu darllen fel y, inaeut wedi eu hargraphu. Nodwn ychydig fel es- amplau:— T. 13, pen. 3 a 4, ceir,— Efe ddiwalla'n hangenrhaid, Fel defaid ei borfeydd.' 0 foliant am ei ddoniau mad, A'i rad i ddynolryw.1 Gofyn yr accen a'r mesur i'r Ilinell uchaf fod fel hyn,- Efe ddiwalla'n Jtangen-rhaid,' a'r llinell olaf fel hyn,— A'i rad i ddynol-ryw.' Nid yn unig y mae accen y mesur yn gofyn i'r gair fod yn ddynol ryw, ond y mae awdurdod y prif awduron yn gofyn yr un peth, gan nad yw yw dynolryw ond erthyl coeg-ysgolheigion di- weddar. Eto, t. 14, pen, 4,— Cydgenwch fawl cytun.' Ni bu dim ond y dim rhwng y cytun hwn a myned yn gytyn, sef cut bychan; heblaw ei fod yn andwyo'r mesur. Ped ysgrifenasid y gair yn y dull awdurdodol-cyttun-buasai y mesur a'r iaith yn cael tegweh. Llunier i gall haner gair.' Am orgraph Llyfr Hymnau, ein cred ddiysgog ni ydyw fod pob rheswm yn dywedyd y dylai fod yn agos iawn, os nad y n hollol yr un ag or- graph y Beibl. Dylai y Llyfr Hymnau fod yn nwylaw pob aelod o'r Ysgol Sabbathol, a phob gwrandawr pregethau, &c.; ac os bydd ei orgraph yn dra gwahanol i orgraph y Beibl, y mae yn sicr o beri dyryswch amheuaeth i feddyliau dis- gyblion craffus ar hyny o bwnc, heblaw fod or- graph y Beibl yn annhraethol lithricach, cysson- ach, a mwy philosophyddol nag orgraph y coeg bapurach ceiniog (penny trash) sydd yn nwylaw y genedl; a'r Beibl mewn gwirionedd ydyw gwir safon iaith yr holl genedl, ac y mae yn gwir deilyngu bod felly. Y mae orgraph sothachlyd, ddi-ddosparth, a di-awdurdod y Green Wales, nid yn unig yn ysgrifenu cannoedd o eiriau mewn modd nad oes neb byth yn eu llefaru, ond hefyd mewn modd ag sy'n andwyo y synwyr yn fynych, yn enwedig mewn barddoniaeth. Pwy, yn yr holl Fyd Cymreig,' a aiff i'r boen o ys- tumio ei enau a chlicied ei en, wrth ddarllen neu siarad yn hyawdl, i ddywedyd anmheu, axmhar- od, anmherffaith, breninoedd, bywau) cenedloedd, cyfiawnad, dyben, dyoddef, dyogel, llane, pwnc. yn Nghanaan, yn Mharadwys; a mil o'r fath ynfydrwydd ieithyddol, yn lie y dull llithrig, cysson, ac awdurdodol-ammau neu ammeu, ammharod neu amharod, amherffaith, brenMn- oedd. bywhau, cenAedloedd, cyliawn/iad, diben, dioddef, diogel, llango, pwngc, yng Nghanaan, ym Mharadwys? Neb, end 'ynfydion cynhwynol,' chwedl Morus Cyffin. Y gwir yw fod pob Ily- thyren yn ddieithriad o'r egwyddor Gymraeg yn newid er mwyn llithrigrwydd a phersain, a lluaws yn cael eu dodi i mewn er mwyn yr un pethau. Ni oddef Ile i roddi esamplau yma, ond os bydd rhywun yn ammau'r haeriad, myneged hyny, a chyflwynir iddo gyflawnder yn ddi- ammod. Rhoddwn un esampl o wall orgraph yn an- dwyo'r synwyr, neu o leiaf yn ei wneud yn hollol ammwys t. 9, p. 4:— Fe gana'r Negro du, Fe gana'r Indiad draw.' Y mae canu a canu neu cannu, fel y gwyr pawb, yn eiriau hollol wahanol eu swn a'u syn- wyr y blaenaf o swn hir, yn arwyddo to sing, a'r olaf o swn byr, yn arwyddo to whiten; gan hyny, y mae pob synwyr a chyssondeb yn dy- wedyd y dylent gael eu hysgrifenu yn wahanol. Y mae rhediad yr boll emyn yn lied arwyddo mai ystyr y ddwy linell uchod yw :— It (the blood of the cross) will whiten the black Negro, It will whiten the yonder Indian; Ond y mae y llythyraeth yn arwyddo yn amlwg mai yr ystyr yw- The black Negro icill sing, The yonder Indian vill sing; Ac y mae y naill mor wir a'r llall, am hyny y mae y llythyraeth y fath fel nas gellir llwyr benderfynu pa un oedd gwir feddwl y bardd. Yn awr, gan fod darpariaeth yn y Gymraeg i ochel y fath ddyryswch, a bod y ddarpariaeth hono wedi cael ei hawdurdodi gan brif ysgrifen- wyr y genedl, o'r Dr. Morgan, sefydlydd y Gym- raeg bresennol, hyd amser y mympwyol Ddr. Puw, onid ffolineb llenyddol ydyw peidio defn- yddio y gyfryw ddarpariaeth ? Gellir dywedyd yn debyg am y gair ffynon (ffynon) sydd yn yr un emyn- y mae swn, a gwraidd, ac awdurdod y prif awduron oll, yn dangos mai Jfynnonau yw yr iawn lythyraeth, pan y mae anian yr iaith ac arfer yn caniatau ei dreiglo yn ffynhonau. Wedi'r cyfan, nid yw y diffygion a'r man wallau a nodwyd ond dibwys mewn cymhariaeth, neu, yn ngeiriau y beirniaid, dim ond 'brychau ar wyneb yr haul,' ond y maent yn frychau, ac annogwn y detholydd galluog i'w chwythu ymaith o'r argraphiadau dyfodol. Ba wedd bynag, yr ydym yn credu yn ddiffuant mai hwn yw y Detholiad o Salmau a Hymnau teilyngaf o ddigon ar a welsom ni hyd yn hyn, i fod at was- anaeth addoliad cynnulleidfaol, ac i fod yn nwy- law pob person a ddymuno gyflwyno i'w Gre- awdwr a'i Brynwr wir ddichlynaidd ABERTH Moliani. Gweiryihi.