Hide Articles List

3 articles on this Page

OYMDEITHASFA GORFFORIAETHOL…

News
Cite
Share

OYMDEITHASFA GORFFORIAETHOL Y METHODISTIAID CALFINAIDD YN LLANIDLOES. Cynhaliwyd y Gymmanfa hon yn Llanidloes, ^°iP f 22' 23' 24' 23' 26' 1867- Cyrhaedd- •odd y rhan fwyaf o weinidogion a chenhadon y RD c siroedd yno ddydd Llun, ac yr oedd yno infer lawr o honynt o Dde a Gogledd, a threfi Lloegr. -Daw enwau y rhan fwyaf o honynt ger bron yn nglyn a gweithrediedau y Gymdeithasfa. Yn y Gymmanfa Gorphoredig y penderfynir «oll achosion cyffredinol yr enwad trwv v Dv- 'wysogaeth. y y i Nos Lun, am 7 o'r gloch, cafwyd cyfarfod ey- hoeddus yn nghapel Bethel. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan Dr. Phil- MPHOWPS A>fd'- LWddwvd. gan y Parch. • Abertawe. Cafwyd papur neu araeth ragorol gan y Parch. Dr. Edwa?dS, Bala, ar Sefyllfa yr achos mawr yn ein plibh y dyddiau Wedyd-- 7 Ct0r ei trwy ddy- Mai ibissloit, neu genhadwri y Methodistiaid oedd Yspryd cenhadol, ac mai wrth yr yspryd cenhadol yr oedd yn deall yspryd gweithio. Prit bwnc yr Hen -"untamaid oedd y gwirionedd, ond mai pwnc y Di- *^ygiad Methodistaidd oedd yspryd cenhadol. Rhanodd anerchiad i ddau ben. I.—Y gwaith oedd i'w wneyd. II.—Y cymhwysderau angen- eidiol ^'r gwaith hwn. Wrth drafod y ddosran hon -d allan mewn modd eglur ac effeithiol iawnbrif ,n J Methodistiaid gyda'r gwaith hwn. Dang- an hefyd fod y diffygion hyny yn codi, nid o ddryg- ond or hyn a ystyrir yn gyffredin yn rhinweddau. J 1°*^ eu diffygion yn gynnwysedig mewn xneryd i fyny yn ormodol ar ol y rhai hyny, ac es- geuluso y lleill; sef— ^fw^}30da'e a bywyd. Dywedodd fod llawer o onri 0 a?th n.eu y11 m.y«g y Methodistiaid yn awr,. fvrMai eual a oe ganddynt fwy o wybodaeth gre- 0edd gan yr hen Methodistiaid. Nododd tarawiadol lawn o wybodaeth rhai o'r hen modistiaid, megis John Williams, Cynwyd—Brenhin Edeyrnion. Ar ol hyny adslefodd fod cyfnod gofidus wedi bodar Fethodistiaeth, yr hwn a alwai y Micldle Age, sef pan y bu y eorph o'r bron yn dirmygu Addysg Golegawl, ond erbyn hyn fod yr oes hono wedi pasio, a bod goleuni gwybodaeth yn uchel yn eu plith. Ond er hyn oil ei fod yn ofni yn fawr am fywyd crefycllZ. yn eu plith, gofidiai fod can lleied o fywyd syml, santaidd, a defosiynol, i'w ganfod yn eu plith. Dywedai fod yr eglwysi er hyny, ynawr fel eglwys Ephesus, wedi colli ei chariad cyntaf, ac mai prif goll Methodistiaeth y dydd- iau hyn yw ei marweidd-dra—llawer o oleuni ac ychydig o fywyd. 2. Gwirionedd a thrugaredd. Gwirionedd athraw- iaeth—gwirionedd disgyblaeth-a gwirioneddneu onest- rwydd mewn codi dynion i swyddau. Dywedodd mai yn hyn yr oedd rhagoriaeth yr hen Fethodistiaid, ac ei fod yn ofni nad oes cymmaint o ofal am y gwirionedd yn yr ystyriaetliau a nodwyd, ond fod y Methodistiaid yn rhedeg i'r eithafion arall, sef bod yn dragarog wrth bawb a phobl)etli-barnu yn dyner am bob athrawiaeth, ac yn ngweinyddiaeth y ddisgyblaeth; eu bod wedi myned mor drugarog yn awr ac y gadawent i bawb a geisia fyned yn bregethwr-gael ei dderbyn i'r coleg- a chael ei ordeinio, heb ofyn a oes ynddo gymhwysder. Yna trodd gyda'r difrifoldeb mwyaf, a dywedodd nad oedd gan nag eglwys na chymmanfa hawl i fod yn drugarog ar draul y gwirionedd, ae esgeuluso cyfar- wyddiadau Crist. 3. Neillduolrwydd a chyffredinolrwydd. Dywedai mai prif ddiffyg Methodistiaeth y dyddiau hyn oedd mabwysiadu un o'r rhinweddau hyn ac esgeuluso y llall, pan oedd Duw wedi amcanu ini fabwysiadu y ddwy—fod neillduolrwydd a chyffredinolrwydd yn perthyn i'r achos mawr. Dywedai fod eisiau mwy o wreiddioldeb, nid gwreiddioldeb genau, ond gwreiddiol- deb meddyliau; fod yr holl bregethwyr agos wedi myned i ddynwared dau neu dri o bregethwyr yn y corph; pawb o'r bron wedi myned yn ddynwaredwyr nid meddylwyr. Dywedai fod rhai yn fawr dros neillduol- rwydd am Fugail, ae i'r bugail wneyd pob peth; y llall am wadu y neillduolrwydd yn hollol, pob peth yn gy- ffredinol, a chan bawb yr un hawl i bob peth, gan es- geuluso y swyddog yn hollol. Dywedai fod neillduol- rwydd a chyffredinolrwydd, a bod angen i bobl Dduw gymmeryd i fynu yr achos yn y goleu hwnw. Fod ein perffeitlirwydd yn y cyfuniad o'r ddwy elfen. Ar ol Dr. Edwards, fe weddiodd y Parch. Henry Eees, Liverpool, yn ddifrifol iawn. Yna cododd Dr. Phillips, a dywedodd am gynnydd yr achos mawr yn mysg Methodistiaid fod y bregeth gyntaf yn mysg y Methodistiaid wedi ei thraddodi yn Trefecca; y society cyntaf yn Erwood; a'r capel cyntaf yn Llanfairmuallt, ond yn awr fod ganddynt tua mil o eglwysi, a thua chan mil o aelodau. Yna cododd y Parch. Owen Thomas, Liverpool, a siaradodd yn dda iawn am y pwys ofod yn ofalus am y gwirionedd yn yr athrawiaeth, yddlsgyblaeth, a chodi i swyddau. Ar ei ol ef siaradodd y Parch. Roger Edwards hefyd, a gweddiodd y Parch. J. Jones, Cei- newydd. Dydd Mawrth.—Treuliwyd y boreu a'r pryd- nawn yn benaf gyda phethau amgyl<;hiadol yr achos, y Dry serf a a Thrysorfa y Plant. Oyd- unwyd hefyd fod y gymmanfa nesaf i fod yn Llanelli, sir Gaerfyrddin, yn mis Gorphenaf, 1868. Yn yr hwyr, am haner awr wedi chwech, de- chreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch., G. Hughes, Edeyrn. Yna galwyd ar y Parch. 0. Thomas, Liverpool, iddarllell ei bapur neu draddodi ei araeth ar y pwnc godidog, Cynnydd Pabyddiaeth yn Nghymru, a'r modd- ion goreu i'w wrthsefyll.' Dechreuodd Mr. Thomas ei araeth trwy gymmeryd bras-olwg ar ansawdd Cymru yn ei pherthynas a Phab- yddiaeth ddeugain mlynedd yn ol. Nid oedd y pryd hyny, meddai ef, ond ychydig o son am Babyddiaeth yn y Dywysogaeth. Cynnelid math o wasanaeth Bab- aidd yn Aberhonddu ar y Sabbath y pryd hyny, felly hefyd yn Talacre, swydd Fflint, ac ar ol hyny yn Tre- ffynnon; ond teimlai y Cymru yn gyffredin nad oeddynt yn sefyll mewn un perygl oddi^wrth Babyddiaeth; ond yr oedd y Parch. John Elias (coffa da am ei enw) yn dywedyd yn gryf y pryd hyny fod perygl bod Pabydd- iaeth yn cynnyddu yn ein gwlad, yr hyn a gredir gan bobl yn awr, ond nid y pryd hyny. 0 dipyn i beth daeth yr ofleiriaid Pabaidd yn fwy amlwgyn eu gweith- rediadau. Codasant fonachlog yn y dywysogaeth, er fod hyny yn hollol groer, i'r gyfraith. Yna dechreuodd Mr. Newman a Dr. Pusey ddadleu yr egwyddorion a adnabyddid wed'yn wrth yr enw Puseyaeth-de- chreuodd plant y Methodistiaid fyned i ys- golion Pabaidd, ymunodd eraill a'u cyfundeb, a daeth wyrion ag or-wyrion i hen bregethwyr Methodist- iaid i arddel en hegwyddorion. Fel hyn yn fuan iawn fe gollodd y bobl ofn Pabyddiaeth, a dechreuasant gamnol y bobl fel pobl synhwyrol a charedig, ae nad oeddynt yn gweled un gwahaniaeth rhyngddynt a phobl eraill. Wedi hyn daeth amryw o weiuidogion yr e,- Iwys sefydledig i ymdebygu iddynt, ac i haerumailiwy oedd yr umg weimdogion appwyntiedig, a'u bod yn olynwyr i'r apostolion. Dadleuent fod bedydd yn ail eni. Cymmeradwyent gyffesu yn y glust, a cliredent yn nhraws-sylweddiad y bara a'r gwin yn wir gorpli a gwaed Crist. Er fod yr offeiriadau hyn wedi arwyddo erthyclau yr eglwys sefydledig yn erbyn Pabyddiaeth, amlygent yn gyhoeddus ofid mawr eu bod wedi ymadael a Rhufain. Drwy bethau fel hyn daeth y wlad yn lied fuan yn ddifater yn nghylch Pabyddiaeth, os nad i gydymdeimlo a'r Babaeth. Mae y teimlad hwnw erbyn hyn wedi ennill safle uchel yn y wlad, ac y mae cydym- hyn wedi ennill safle uchel yn y wlad, ac y mae cydym- deimlad senedd Prydain mor ddwfn o'i phlaid a bod ein llywodraetli yn talu tua £ 308,000 bob blwyddyn at gynnal Pabyddiaeth yn yr Iwerddon, ac y mae llawer am roddi ychwaneg, am, meddynt hwy, mai hyny fyddai y moddion goreu i ddinystrio dylanwad Pabydd- iaeth! Dywedodd Mr. Thomas fod Cymru yn awr wedi ei rhanu yn ddwy esgobaeth Babaidd, sef y Deheudir a'r Gogledd. Yn y Deheudir dywedodd fod gan. ddynt 33 o gapelau, a nododd rif y capelau yn mhob sir ond sir Aberteifi a sir Faesyfed, lie nad oes yr un capei Pabaidd. Am esgobaeth Babaidd y Gogledd dywedodd fod vnddi 15 o gapelau, ac fod 8 o'r° rhai hyny yn swydd Fflint ei hun, nad oedd yr un capel Pabaidd yn sir Feirionydd, a dim ond un yn swydd Gaeiynarfon, a'u bod wedi treulio 10 mlynedd cyn gorphen adeiladu hwnw, o herwydd ditfyg arian. Dywedodd mai gor-wyr i'r hen Ddafydd Cadwaladr o'r Bala, yw un o'r rhai mwyaf selog dros Babydd- iaeth yn Nghymru. Dywedodd fod 60 o offeiriaid Pabaidd yn awr yn Nghymru; fod rhifedi y Pabydd- ion yn Nghymru a Lloegr dros 000,000, ac yn Scot- land yn 300,000, a bod cynnydd y Pabyddion yn Lloegr a Chymru yn 600,000 yn ystod y pedair blyndd ar hi-i-ain diweddaf. Fod 20 o offeiriaid Jesuitiaid11 ei a 13 o honynt yn Dywedai Mr. Thomas fod y profion &ydd genym yn rby eglur i'w hamheu fod y Babaeth wedi pen- derfynu adennill ein gwlad, a'i hailuno Rhufain— mai. un prawf o hyn oedd ymosodiad Rhufain ar Brotestaniaeth yn ei nerth, neu yn ei wlad ei hun, ac i egluro hyny, cyfeiriodd at waith y Piib yn rhanu y deyrnas yn gynnifer o esgobaethau yn 1-85-1, Cyfeiriodd yn effeithiol iawn at offerynau y Babaeth L sicrhau ei dyben fod ei chynlluniau yn ddoetli, a'i chysawd yn berffaith; fod ganddynt yspiwyr yn mhob man—eu bod yn ymwthio i'r teuluoedd trwy y gwasanaethyddion—eu bod yn gallu myned rhwng y gwr a'i wraig, rhwng y rhieni a'u plant—ac yn ymostwng i bob dichell iselwael, ac yn dadleu fod y dyben yn cyfiawnhau pob peth a wnant yn eu hym- drech i adennill y wlad i Eufain. Gan fod y grefydd Babaidd yn grefydd 250 o filiynau o eneidiau, dadl- euant y dylai gael derbyniad a pharch gan bawb yn gyffredinol. Rhoddodd ddarluniad grymus ac effeithiol iawn o Babyddiaeth fel cysawd wedi ei barotoi i wtliio crefydd Crist o'r tumewnol i'r allanol, ms cael y dyn i ymlynu wrth ei defodau. Dangos- odd gydweddiad Pabyddiaeth a chig a gwaed, megis aileni trwy fedydd, er hebgor pob trafferth ychwan- egol; cyfrif y beads 150 o weithiau, er arbed gweddio unwaith yn iawn o'i galon ei hun. I'r dyben o wrthsefyll cynnydd Pabyddiaeth, anogai y Cristionogion i ystyried eu perygl-i ym- gadarnhau yn egwyddorion yr efengyl—i chwilio mwy ar yr Ysgrythyrau-myfyrio llawer ar yr athrawiaeth o gyfiawnhad drwy ittydd yn Nghrist— ,,y 11 ar burdeb deddf Duw—lawn Mawr y Groes-yn nghyd ac ymdrechu yn barhaus i iawn-ddeall y gyf- undrefn Babaidd yn ei holl gysylltiadau. Cododd y Parch. D. Charles, B.A., Abercarn, a dywedodd fod araeth rymus Mr. Thomas wedi eillanw ag arswyd Pabyddiaeth-Ei fod ef yn Rhydychain 31 mlynedd yn ol pan oedd Mr. Newman a Dr. Pusey yn dechreu taenu eu heg- wyddorion, ond mai bychan a feddyliodd y pryd hyny y buasai yr heresi wedi annill y fath dir. Dywedodd fod naw offeiriad Pabaidd ac un fon- achlog yn Pont-y-pool, a'u bod yn bostio yr wythnos ddiwedclaf eu bod yn teimlo yn hyderus y byddent wedi ennill Cymru yn fuan. Cwynai yn ddwys oherwydd diofalwch y wlad yn yr achos, a bod y bobl mor ddi ymdrech i ddeall y gwahaniaeth rhwng twyll a gwirionedd. Gofidia yn fawr fod gan lleied o ddysgu egwyddorion yn ein plith, y bobl yn ymfoddloni ar ddarllen papurau newyddion iselwael a Novels, gan es- geuluso y pethau pwysig hyn. Anogai bawb i weddio mwy am gael Yspryd Duw i'w cyfar- wyddo yn yr iawn ffordd. Dywedai y Parch. Roger Edwards fod llawer o Gymru ac o rai fu unwaith yn ffyddlon yn yr Ysgolion Sabbathol wedi myned yn wir Babyddion. Yna siaradodd Mr. Evans a Mr. Lewis, dau frawd o sir Fflint ac o ganol y Ilauerch fwyaf Pabyddol, Rhodd- asant ddarluniadau effeithiol o ddylanwad din- ystriol y Babaeth ar yr ardaloedd fod Pabydd- iaeth yn dylanwadu yn drwm ar bob dosparth y tlodion ar y plwyfau,—y gweithwyr, y ffarmwyr, a'r gwyr mawr,-I)awb yn ddieithriad. Yna cododd y Parch. H. Rees, Liverpool, dywedodd mai dau ddyben mawr oedd gan y Babaeth yn awr sef uno yr Eglwys Wladol ac Eglwys Rhuf- ain, ac yn ail dinystrio ymneillduwyr. Dywed- odd ei bod wedi llwyddo llawer yn ei chais- wedi llwyddo i ladd rhagfarn y bobl yn erbyn y Babaeth—cael y bobi i gario meddyliau tynerach am ddefodau, &c. Galwai y ddifrifol iawn ar broffeswyr i ymbaratoi erbyn y struggle sydd ar ddod, ac anogai bawb i feithrin mwy o dduwiol- frydedd. Yna gweddiodd y Parch. Owen Jones, Llandudno. Dydd Mercher, Gorph. 24, dechreuwyd am ddeg yn y bore a. pharhawyd hyd dri o'r gloch. Treuliwyd yr eisteddiad i drafod achosion y gen- hadaeth dramor. C, Am haner awr wedi chwech, dechreuwyd y cyfarfod cyhoeddus gan y Parch. Owen Jones, Llandudno, y Parch. D. Howells oedd y Oadeir- ydd heno eto. Galwodd y Llywydd ar y Parch. D. Rowlands, Llanidloes, i gyfiwyno i'r cyfarfod y dirprwywyr neu y cenadon oddiwrth Henad- uriaeth Seisnig, sef y Parch. Mr. Lewis, Caio, y Parch. Mr. Thorn, o Worcester, a Mr. Paton. Cafwyd areithiau bywiog gan y dirprwywyr, ond o ddiffyg lie gorfodir ni i'w gadael allan y tro hwn. Rhoddwn y ffeithiau cynwysedig ynddynt yn ein nesaf. Darllenwyd adroddiad y Genhad- aeth gan y Parch. J. Thomas, M.A., ond nid oedd dim o ddyddordeb neillduol ynddo. Dydd Iau, Gorph. 25. Dechreuwyd y cyfar- fod cyntaf heddyw am naw o'r gloch, y prif I bethau a drafodwyd yn y cyfarfod hwn oedd y genhadaeth dramor eto, ac achos y llyfr Iiymnau yr hwn sydd yn awr yn lied agos i fod yn barod. Am haner awr wedi dau cafwyd cyfeillach gyff- redinol i aelodou eglwysig o bob enwad. Dech- reuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. T. Rses, Cryghowell. Wedi h) ny darllenwyd papur ar 'Addysg ac Addoliad Teu- luaidd,' gan y Parch. R. Lumley, Liverpool. Papur emwyth a llithrig heb ddim i gynhyrfu a chodi proffeswyr yr oes at y ddyledswydd bwvs- ig. Dichon pe buasai [wedi cael ei nodi i dra- ddodi araeth neu bregeth ar y pwnc y buasai yn gwneud hyny yn llawn mwy effeithiol. Ar ei ol, cododd y Parch. E. Morgans, Dyffryn, i gynnyg ,,y pleidlais o ddiolchgarwch am y papur a chais ar iddo gael ei argraffu. Dywedodd os collid cref- ydd o'r teulu mai nid hir buasai heb golli o bob man, cafwyd engreifftiau o hyny yn nheulu Solomon a theulu Ahab. Wrth eilio y cynnyg- iad dywedodd y Parch. G. Hughes, Edeyrn, fod pawb yn cael plaut fel yr oeddynt yn eu magu —dywedodd lawer am ddylanwad arferiad ar y teulu-dangosodd fawredd cyfrifoldeb y rhieni, gorweddai ar y Rhieni i beidio gwneud eulunod o'u plant fel Eli, &c, Ar ei ol ef cododd Mr. Roberts, Llangeitho, a chymhwysodd gynghor Paul i Timotheus ar y mater—dangosodd fod cofio crefydd y rhieni wedi bod yn help mawr i'r plant lawer gwaith, a'i fod ef yn barnu fod ysprydoedd y saint yn talu ymweliad yn ami a'r teuluoedd ar y ddaear i sylwi pa fodd yr oedd y grefydd deuluaidd yn cael ei chario yn mlaen. Cyfeiriodd y Parch. J. Evans, Llanelli, yn effeithiol iawn at ddylanwad gweddiau y fam ar y plant ar ol iddi farw. Dangosodd hefyd y daioni mawr allai brodyr a chwiorydd wneud i'w gilydd. Yr oedd un brawd yn myned o bwrpas 15 milldir i areithio dirwest i'w frodyr ac yn llwyddo i'w cael hwythau yn ddirwestol—myn'd dro arall 15 milldir pan y clywodd fod ei frawd wedi myn'd at grefydd, i edrych a oedd ei frawd wedi codi yr allor deuluaidd ac iddo ei berswad10 i ddechreu y diwrnodhwnw. Siaradodd y Parch. T. Rees, a Mr. Owens, Llundain, ar y pwnc. Trefn y Moddion Cyhoeddus. Am chwech o'r gloch, dechreuwyd ar y maes gan y Parch. J. Williams, Llawrybettws. Pre- gethodd y Parch. E. Morgans, Dyffryn, ar bwysigrwydd cadwedigaeth pechadur' oddiwrth Luc xv. 10; a'r Parch. Dr. Phillips, Henffordd, ar gydymdeimlad ac eraill yn amrvwiaeth eu hamgylchiadau,' oddiwrth Rhuf. xii. 15. Dydd Gwener, Gorph. 26, am chwech yn y bore, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Edward Price, Llanwyddelen. Pre- gethodd y Parch. J. Evans, Llanelli, ar cysur- on bywyd crefyddol,' oddiwrth Diar. iii. 17 a'r Parch. D. Edwards, Brynmawr, ar 'purhau y bobl sydd dan ras nid dan y ddeddf,' oddiwrth Rhuf. vi. 14, 15. Am haner awr wedi naw dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Hughes, Edeyrn, a phregethodd y Parch. D. Howells, Abertawe, ar lynu yn ein proffes,' oddiwrth Heb. iv. 14; a'r Parch. Henry Rees, ar 'yr efengyl fel adnodd gobaith i'r euog,' t, Z!1 oddiwrth Col. i. 23. Yr oedd y bregeth hon yn un o'r rhai mwyaf grymus a difrifol a glywsom erioed gan Mr. Rees. Am ddau o'r gloch, dech- reuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. James, B.A., Manchester, a phregethodd y Parch. R. Lumley, yn Saesneg, ar fuddioldeb ceryddon tadol Duw,' oddiwrth Heb. xii. 9, 10 a'r Parch. 0 Thomas, Liverpool, ar fod tymmoi iachawdwriaeth yn ddadl dros dderbyn iachawd wriaeth,' oddiwrth 2 Cor. vi. 2. Dadleuodd Mi Thomas ei bwnc yn fedrus ac effeithiol iawn oddiwrth y cymeriad arbenig a roir i'r tymmor dydd'—y cyssylltiad sydd rhwng y tymmor ac adeg Duw i gyflawni ei addewidion i'w Fab- addasrwydd y tymmor i ddechreu y fendith-ac oddiwrth ei fyrdra a'i ansicrwydd. Am chwech o'r gloc h yn yr hwyr, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Robert Owen, Llundain, yna pregethodd y Parch. R. Roberts, Llangeitho, yn felus ac effeithiol iawn, ar gyfnewidiad ein corph gwael ni,' oddiwrth Phil. iii. 21; ac ar ei ol y Parch. D. Jones, Treborth, oddiwrth Luc xx. 35. Yr oedd y cynnulliadau yn lluosog iawn, y gwrandawiad yn astud, a phawb yn ym- ddangos fel wedi eu cyfiawn foddloni. Traddodwydpregethau yn Saesneg yn nghapel Bethel, nos Iau, gan y Parch. T. Rees, Cryg- hywell, a'r Parch. Dr. Edwards, Bala; nos Wener, gan y Parch. D. Charles, B.A. f J;

NODION AM MR. THOMAS HUGHES,…

--CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR…