Hide Articles List

7 articles on this Page

YR HEN DEILIWE.

Y MORWYNION CYMREIG.

COLEG ABERHONDDU.

AR FY NHAITH YN FFLINT.

CYMRY YN SYMUD I LOEGR.

--CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR…

News
Cite
Share

CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR TYDFIL. Foneddigion,—Bellach, y mae pawb yn dawel eu meddyliau yn nghylch tynged y Reform Bill. Os gwel yr Arglwyddi angenrheidrwydd am ryw fan gyfnewidiadau (nid gwelliantau), er dangos fod eu bysedd hwy wedi bod yn y botas, nid yw yn debyg y bydd golwg wahanol iawn arno pan yn gwneyd ei ymddangosiad o flaen ei Mawrhydi i dderbyn ei chymmeradwyaeth a'i sel hi, i'r hyn oedd arno yn myned i bresenoldeb yr Arglwyddi tymmorol ac ysprydol. Beth bynag, y mae pobl Merthyr yn sicr yn eu meddyliau y bydd dau aelod dros Merthyr i. dderbyn cymmeradwyaeth a sel y goron. Yn rhin- wedd y grediniaeth yna, y mae yma gyffro nid bychan mewn perthynas i'r ail aelod. Pwy fydd efe? Y mae Ymneillduwyr Merthyr, bron yn ddi- eithriad, yn teimlo y dylai fod yn Ymneillduwr, beth bynag. Nos Fercher, Gorph. 24, cynnaliwyd cyfarfod cy- hoeddus yn y Neuadd Ddirwestol, er ystyried y priodoldeb o wneyd ymdrech egniol er cael Ymneill- duwr trwyadl yn un o gynnrychiolwyr Merthyr yn y senedd nesaf. Cymmerwyd y gadair gan C. H. James. Ysw. Pasiwyd y ddau benderfyniad canlyn- ol yo unfrydol, heb un Ilaip, yn groes :—1. Nas gall neb gynnrychioli Merthyr yn briodol heb ei fod yn Ymneillduwr trwyadl.' 2. 1 Fod y cyfarfod hwn o'r' farri fod Henry Richards, Ysw., Llundain, yr hwn sydd Gymro, Ehyddfrydwr, ac Ymneillduwr trwyadl,. yn ddyn teilwng a chymhwys i gynnrychioli Merthyr yn y Senedd Ddiwygiadol.' Derbyniwyd y cynnyg- iad diweddaf gyda chymmeradwyaeth mawr. Gan- mai llithiau byrion sydd fwyaf dewisol gan y TYST, ni wnawn roddi adroddiad o'r areithiau grymus a draddodwyd, ond yn unig galw s) lw miloedd Ym- neillduwyr Merthyr ac Aberdar at y ddau bender- fyniad mewn byr eiriau. Mae y penderfyniad cyn- taf yn cymmeryd yn ganiataol fod hawliau Ymneill- duaeth yn fwy nag eiddo Eglwysyddiaeth yn Merthyr a'r cylchoedd. Os felly, rliaid fod yma fwy 0 Ymneillduwyr nag o Eglwyswyr. Mae hon yn ffaith mor amlwg i bawb sydd yn byw yn, ac yn gyf- arwydd a Merthyr, fel nad oes eisiau trafferthu i'w phrofi. Ond er mwyn y rhai nad ydynt yn gyfar- wydd a'r lie, nodwn ffaith neu ddwy, er dangos r.erth cymharol yr Ymneillduwyr a'r Eglwyswyr yn y lie hwn. Wrth gymmeryd nifer y capelau a'r eglwysydd o fewn tref Merthyr yn unig, heb fyned 1 Dowlais a manau eraill yn y gymmydogaeth, cawn fod yma 19 o gapelau, un synagog, ac un Eglwys Babaidd. 0 fewn yr un terfynau, nid oes ond tail' Eglwys Wladol. Eto, nos Sabbath, Mai 13eg, 1806, gwnaed cyfrifiad o'r holl gynnulleidfaoedd yn y dref a'r gymmydogaeth—yn Eglwysig ac Ymneillduol- 11 Ac er dangos tegwch y cyfrifiad, nid oedd un eglwys na chynnulleidfa yn gwybod yn mlaen llaw fod cyf- rifiad i gael ei wneyd y pryd hwnw. Y nos Sabbath i.

AT OLYGWYR Y "TYST CYMEEIG."