Hide Articles List

7 articles on this Page

YR HEN DEILIWE.

Y MORWYNION CYMREIG.

COLEG ABERHONDDU.

AR FY NHAITH YN FFLINT.

CYMRY YN SYMUD I LOEGR.

News
Cite
Share

CYMRY YN SYMUD I LOEGR. Mr. Gol.—A fyddwch chwi mor garedig a chan- iatau i mi gongl feclian o'r TYST CYMREIG i ddweyd gair wrth fy nghyd-genedl y Cymry. Y mae yn liysbys i holl ddarllenwyr y TYST fod lluaws o Gymry yn symud o'u hen wlad i drefydd mawrion Lloegr bob blwyddyn, ie, bob wythnos, yn neillduol pobl ieuainc, a llawer o honynt fel mae'r gwaethaf fel as- ynod gwylltion heb grefydd r.a moesoldeb ond y mae dosparth arall sydd wedi eu magu ar ael- wydydd crefyddol, a llawer o honynt wedi eu derbyn i eglwys Dduw, a rhai o honynt yn bobl ieuainc go- beithiol iawn, ond wedi gadael eu rhieni a myned i'r trefydd mawrion yn colli eu crefydd. A'r dosparth yna a'u rhieni y mae a fynwyf yn benaf y tro hwn. Y mae yn ddigon naturiol gofyn beth yw yr achos o hyn ? Yn mha le y mae y diffyg? Pa un ai difat- erwch yr eglwysi, neu fod temtasiynau a llygredig- e aethau ein trefydd yn anorchfygol, neu ynte, diofal- wcli eu rhieni trwy adael iddynt fyned i fyw i deuluoedcl di grefydd, neu at brofEeswyr ysgeifn ac arwynebol. Wel, o bosibl nad all fod peth esgeulus- dod wrth ddrws yr eglwysi weithiau, ac y mae yn sicr fod hudoliaethau y gelyn yn gryf iawn yn ein trefydd. Ond yr wyf yn meddwl fod esgeulusdod mawr yn sefyll wrth ddrws rhai rhieni yn y peth hwn, gall ei fod yn codi oddiar anwybodaeth llawer o beryglon ein trefydd. Anwyl rieni goddefwch air o gynghor oddiwrth un sydd wedi gadael Cymru er ys rhai blynyddoedd bellach i un o drefydd mawrion Lloegr, ac wedi gweled ami i un yn dyfod yno ar ei ol a golwg siriol arnynt yn naturiol a chrefyddol, ond erbyn hyn mae y wedd yna wedi newid yn fawr trwy iddynt ddilyn y llif i ymlygru gyda phechodau y dref o herwydd diffyg gwyliadwriaeth ar y cychwyn. Chwi rieni sydd yn anfon eich plant i'r trefydd mawrion yma, y maeynj ddyledswydd arbenig arnoch i ofalu i ba fath deuluoedd y mae eich plant yn myned i fyw, yn neillduol y meibion, ac hefyd y merched hyd y mae ynoch, ond yr wyf yn meddwl mai y meibion sydd yn agored i'r peryglon mwyaf, ac hefyd fod genych fwy o fantais yn y cyfeiriad yna. gyda hwy na chyda y merched. Y mae yn ffaith fod llawer o wyr ieuainc wedi eu dinystrio trwy fyned i fyw i deuluoedd annuwiol, neu at grefyddwyr mewn enw yn unig. Mae y dos- parth yma mor berygl os nad yn fwy perygl na rhai hollol digrefydd, oherwydd fod ganddynt well man- tais i hau hadau gwenwynig yn meddwl yr ieuanc yn ddiarwybod iddo, ac yn debyg iawn o fod yn ddinystr, os na cha waredigaeth buan. Gan hyny,. gofalwch hyd y mae ynoch i gael eich plant i deulu- oedd crefyddol, lie y byddo parch i ordinhadau yr efengyl, darllen y Beibl a gweddio yn y teulu. Os, byddwch mewn anfantais i gael gafael ar deuluoedd- o'r fath, ymgynghorwch a gweinidogion a blaenor- iaid yr eglwysi. Y mae yn sicr genyf y gwnant eu. goreu i chwi. Y mae yn ddrwg genyf feddwl am rai rhieni mor ddiofal yn y peth hwn. Y mae yn ddigon tebyg mai y rhai hyn yw y rhai parotaf i feio yr eglwysi a'r gweinidogion ar ol i'w plant fyned ar gyfeiliorn. Yn wir, cyn belled ac y mae fy ngwyb- odaeth i yn myned yn y cyfeiriad yna, yr wyf YDJ gweled gofal mawr am eich plant. Bum yn meddwt y gallasai fod y symudiadau sydd yn cymeryd lie y dyddiau hyn o'r naill dre a gwlad i'r llal], a thrwy hyny fod rhyw gyssylltiadau agos rhwng ein trefyddL a Chymru wedi symud ymaith beryglon ein trefydd'. o feddyliau y rhieni, fel y maent bron a thybiedi fod eu plant mewn diogelwch. Ond er hyn i gyd y mae peryglon ein trefydd yn y dyddiau hyn gymaint ac erioed, os nad yn fwy, Nac ymddiriedwch ormod i gyduabyddion a pherthynasau yn y peth hyn, oherwydd fod yn bosibl i chwi gael eich twyllo gan- ddynt, gallant fod yn aelodau o'r eglwysi er hyny fynychu y chwareudai a lleoedd cyffelvb, ac felly, hudo eich plant gyda hwy. Eto, dysgwch ryddid yr efengyl i'ch plant. Gwel- som rai plant yn ofni symud troed, llaw. na llygad, tra yn ngolwg eu rhieni, ond wedi myned o'u golwg yn waeth na phlant neb. Llywoaraetli yr ofn z, yn unig, dyna fel y mae rhai o rieni Cymru, yn. dysgu yr efengyl i'w plant, yn argraffu ar eu medd- yliau mai rhyw gaethiwes galed yw yr efengyl nes. peri i'r plant feddwl nad oes gan yr efengyl ddim ar gyfer y duedd sydd mor gref ynddynt at ryddid a llawenydd, yna y maent yn troi i rywle arall i edrych am dano, hyd y gwelais i, y plant sydd wedi cael eu dwyn i fynu gaethaf gan eu rhieni, yw y dosparth mwyaf agored i beryglon ein trefydd mawrion. Dangoswch fwy o hawddg-arwch yr efengyl i'ch plant. Yr efengyl yn unig sydd yn rhoddi gwir ryddid a llawenydd. Yn wir, yr wyf yn meddwl nad ydym yn rhoddi chware teg i'r efengyl yn y cyfeiriad yna, ac mai dyna yr achos ei bod mor an- nerbyniol gan lawer. A chwithau, wyr ieuainc, os. mynwch wir ryddid a llawenydd, anrhydedd a ded- wyddwch, coiieidiwch yr efengyl, cofiwch mai cyf- nod pwysig ar eich oes ydyw yr adeg y byddwch yn gadael hen aelwydydd eicli anwyl rieni i fyned i beryglon a hudoliaethau trefydd mawrion Lloegr, ac o gyraedd cynghor mam a tliad. Gan hyny,byddwch ddianwadal; peidiwch a gadael i bawb a phob peth ddenu eich meddwl. Y mae newydd-deb y golyg- feydd yn sicr o ddylanwadu yn gryf iawn arnoch, cofiwch fod yn ochelgar iawn with ddcwis cymdeith- ion. Y mae miloedd o wyr ieuainc wedi eu dinystrio trwy ddiofalwch yn y peth hwn. Gwnewch hi yn bwynt i wneud cyfeillion o rai gwell na chwi eich hun, a duwiolach wyf yn ei feddwl, a gwnewch gyfaill o'r hen a'r profiadol. Hefyd,gofalwch am eich papur aelodaeth eglwysig a'i gyfiwyno i'r eglwys y cytie cyntaf a gaffoch, ac nid ei gadw am fis lieu, ddau fel arfer rhai, ac os byddwch yn dycliwelyd yn 01 rywbryd, dowch i ymofyn am eich papur yn cAr felly caffer gwybod yn pa le y byddwch rhag peri pryder yn eich cylch. Y mae rhai yn myned i ffwrdd heb ddweyd dim wrth neb. CofiwchfocL gofal neillduol rhai am danoch. Wel, rhywbeth feD yna oedd ar fy meddwl, ond fy mod wedi ei ddweycl yn drwsgl iawn, ac os bydd i'r TYST weled yn ddoeth iddo ym:ldangos, addawaf fod yn well y tro nesaf. Ydwyf. eich ewyllysiwr da, J.J.

--CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR…

AT OLYGWYR Y "TYST CYMEEIG."