Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

YR HEN DEILIWE.

News
Cite
Share

YR HEN DEILIWE. LLYTHYR IV. At Olygydd "Y Tyst Cymreig." Foneddigion,P,Iloddais i chwi yn niwedd fy llythyr o'r blaen gopi o'r gyfraith a'r gorchymyn- ion a gawswn gan Huw Prys ar ddechvcuad gyrfa fv mhrentisiaeth, a than y ddeddf bono y bum i byw hyd ddiwedd y tymmor hwnw o'm hoes. Yr wyf yn meddwl y gallaf ddweyd ddarfocl imi gadw y gyf- raith hono beth bynnag i gyd oil, heb ballu mewn un pwnc. Na, yn wir, fe ddigwyddodd imi led lithro tipyn unwaith, fel y caf ddangos yn union. Profais mai cyfraith dda oedd cyfraith Huw, ac nid wyf yn ammheu na bu cofio am dani yn fuddiol imi mewn llawer amgylchiad; ac y mae genyf barch i goffadwriaeth yr hen ddeddfwr hyd hecldyw. Nid oedd yn orchwyl mor anhawdd imi gydymffurfio a Uythyren ac yspryd cyfraith Huw, ac a fuasai i lawer un hwyrach, canys yr oeddwn o duedd daw- pcincr a o-ochelo-ar yn naturiol. Ond dywedais ddarfod tafd?oSeddu i ry £ fesur un to; ac fel hyn j bu :l Yr oedd dau ffermdy cyfagDS i'w gilydd i'r rhai yr arferai fy meistr weithio, a elwid Tan y bryn a Than'rallt. Digwyddodd unwaith i'r ddau deulu syrthio allan a'u gilydd, a mawr oedd y gynhen rhyngddynt. Cymmerai y cymmydogion o'u ham- gylch ran yn yr ;ymryfael, rhai gydag un, a rhai gyda'r llall, nes cerddodd effaith y gynhen trwy holl deuluoedd yr ardal. Yn nghanol y ffrwgwd, daeth galwad am wasanaeth y nodwydd yn Tynybryn yn no-hyntaf; ac yn fuan wedi hyny yn Tan'rallt. Nid oedd gan Huw fawr o flas i fyned i'r un o'r ddau dy yn nyddiau'r gynhen, canys gwyddai y ceisid ei hudo i ddweyd ei feddwl am dani yn y naill dy a'r llall. Wei, i Tynybryn yr aethom, ac nid hir y buom heb glywed cyfeiriadan at yrhelynt, ond ni ehymmerai Huw arno ei fod yn deal! dim o'r awgrymiadau hyny, tafiai ryw air i mewn digon pell oddiwrth y mater i geisio newid y stori. Torodd y wraig ato yn uniongyrch o'r diwedd. 'Chwi glywsoch am yr helynt sy rhyngom ni a phobl Tanrallt, Huw, —ond o ran hyny pwy sy heb glywed?' ebe hi. 'Do, mi glywais rywbeth,' ebe Huw, ond nid yw yn perthyn dim i'm bisnes i i holi na siarad yn nghylch pethau o'r fath.' Ho, felly,' ebe y wraig, yr ydych yn bur wahanol i deiliwriaid yn gyffredin ynte, rhai go lew am stori fyddant hwy yn cael eu cyfrif yn wastad.' Hwyrach hyny,' ebe Huw, ond ni chlyw- soch chwi ddim fy mod i wedi ymyraeth a bwti neb erioed, ac ni chlywch chwi ddim byth chwaith, trwy gymhorth.' Yr oedd Huw erbyn hyn yn dechreu twymno peth, ac yn pwytho arni hi bumtheg yn y dwsin, pwythai {yn "gyflymach o lawer iawn pan y byddai ei dymher wedi cyffroi. Deallodd y wraig nad oedd Huw ddim am ddal genau y sach iddi i dywallt ei chelanedd. Yn union ar hyny, dyna un o'r bechgyn yn dyfod i'r ty ar redeg, ac yn gwaeddi 0 mam! mam! mae ci Tan'rallt wedi cnoi clust yr hwch fawr yn shags gwylltion; mae hi'n gwaedu na welsoch chwi 'rioed fath beth.' Yn mh'le yr oedd yr hwch ? gofynai y fam. Ar y fforcld rhyng- och a Than'rallt,' ebe y bachgen. 'Un o honynt ddarfu anos y ci i'r hwch, mae 'n hawdd deall,' ebe'r fam. Ie, mi glywais un ai Wil ai Sionyn (dau o feibion Tan'rallt) yn gwneud,' ebe'r bachgen; mawr fu y son a'r siarad am glust yr hwch, a chi a theulu Tan'rallt yn y ty ar ol hyny. Yr wythnos ganlynol aethom i Tan'rallt. Os drwg cynt, gwaeth gwed'yn. Yr oedd y ddawn o lefaru a thafodau cynnefin a dieithr i berffeithrwydd yn ngwraig Tan'rallt. Tywalltai lifeiriant o eiriau allan yn ddidor-ddiderfyn o'r bore gwyn tan y nos. Byddai tafod y wraig a nodwydd y teiliwr yn can- lyn eu gilydd; po cyflymaf y llefarai hi, prysuraf i gyd y gweithiai ei nodwydd yntau, a rhoddai hys gyda phob pwyth, megis trwy ei ddannedd. I be r ydach chi'n hysian fel ceiliogwydd yn wastad pan fydda i'n siarad, Huw ?' ebe hi un tro. I ddal pen stori i'r wydd,' ebe Huw. Chwarddodd y wraig yn hearty, ar hyny, canys yr oedd tipyn o natur dda ynddi wedi'r cwbl. Nid hir y bu cyn iddi droi at stori'r gynhen.— < Chwi a fuoch yn Tynybryn yr wythnos ddi iveddaf, Huw, yr wyf yn deall,' ebe hi. Do,' atebai Huw yn lIed gwtta, gan ddechreu prysuro'r nodwydd. 'Chwi glywsoch ddigon o ladd arnom ni yno,' meddai hi. 'Fyddaf fi ddim yn clywed pethau felly 'n amser,' meddai Huw. 'Ddim yn clywed! Sut y gellwch chi beidio clywed ? Ond tydy'n nhw yn lladd arnon ni wrth bawb; ac yn dyweyd cel- wyddau fwy na mwy.' Os byddaf fi 'n clywed cym'dogion yn lladd ar eu gilydd, gollwng pethau felly i mewn trwy un glust ac allan trwy'r llall rhag eu blaen y byddaf fi,' ebe y Teiliwr. Yr oedd yr ymadrodd yna yn un o dcliarhebion Huw. I Nag yn wir, deudwch i mi'n onest 'rwan, be oedd pobol Tynybryn yn ddyweyd am danom ni ?' ebe y wraig drachefn, gan wisgo ei gwen fwyaf hudol. Pe buaswn wedi clywed y bobol yn dweyd rhywbeth yn ddrwg am danoch, yr wyf yn meddwl y buasai yn gallach ac yn onestach i mi gadw hyny i mi fy hun,' ebe Huw. 0 rwy'n gweled,' ebe y wraig, y'ch bod chi'n cym'ryd 'u parti nhw.' Nac wyf fi yn cym'ryd parti'r naill na'r llall o honoch,' ebe Huw, dan hystan a phwytho ei oreu glas. Gall- 'sech feddwl fed gwreichion yn neidio o'r nodwydd gan mor gyflyined yr oedd yn ei gwthio trwy y brethyn. Ond dal i ymosod arno wnai y wraig. O'r diwedd neidiodd Huw i lawer oddiar ben y bwrdd, ac aeth allan am dro. Daeth y wraig ataf finau gyda gwen siriol, ac meddai hi, Dywed di i mi fy machgen i, beth oedd pobol Tynybryn yn ddweyd am danom ni pan oeddycli yno ? Mi gei di rywbeth gen i os deydi di, cei'n wir.' Wel dyna awr y brofedigaeth wedi dyfod. Ni wyddwn yn y byd beth a wnawn, Chlywais i monyn nhw yn deyd dim byd am danoch chi, imi gofio,' ebe fi. Taw a dweyd anwiredd, beth bynag,' ebe hithau, Mi wn i well pethau na hyny.' Y cwbl glwais i nhw'n ddeyd,' ebe fi, oedd fod eich ci chwi wedi cnoi clust yr hwch yn arw iawn ryw ddiwrnod.' Wel, be oeddynt yn ddweyd am hyny,—dweyd mai un o honom ni oedd wedi gyru'r ci mi wranta. Na, 'does gen i ddim co am hyny,' meddwn inau. Ar hyny daeth fy meistr yn ei ol. 'Wel, Huw, beth 'r oeddech chi'n ceisio gwadu na chlowsach chi mo bobol Tynybryn yn lladd arnom ni? Mae'r bachgen yma yn llower amgenach na chi, mae o wedi cyf- adde'r gwir wrtha i rwan.' Taflodd meistar olwg ddigofus ofnadwy arnaf, nes oeddwn yn crynu trwyddyf. Be ddwedodd o ?' goiynai. Dweyd 'n bod nhw yn lladd arnon ni o hyd ono,' atebai'r wraig. Na' ddywedais i ddim o'r fath beth, yn wir,' atebwn inau, y cwbl a ddeudais i oedd eu bod nhw yn lladd ar eich ci chi am gnoi clust eu hwch nhw.' 'Wel ie, dyna hi,' ebe'r wraig. 'Ni waetli gen i iddyn nhw ladd arna i na lladd ar fy nghi i-" os perchwch chi fi perchwch fy nghi. medd yr hen air, ac mae o'n reit gwir hefyd.' Do, mi glywais inau un o'r plant yn dweyd wrth ei fam un diwrnod fod ci Tan'rallt wedi cnoi clust yr hwch,' ebe Huw, a toedd fawr o niwed yn hynu, does bosib.' Fawr o niwed, yn wir! ebe'r wraig, rwy'n siwr tae ni yn cael clwad y cwbwl bod ono lawer o niwed.' Yna aeth at y ci oedd yn gorwedd ar yr aelwyd, a de- chreuodd ei bratio—'Ydyn nhw'n lladd arnat ti ngwas gwirion i,—'r wyt ti'n llawer callach a phur- ach na'r un o honyn nhw,—cno di glust eu hwch nhw eto, a'u clustie nhwthe hefyd os cei di afael arnyn nhw,' a llawer o bethau cyffelyb a ddywedodd hi wrth y ci. Cefais wers galed am droseddu ei gyfraith gan Huw wrth fyned adref y noson hono. Nid oedd wiw imi ddadleu nad oeddwn wedi tros- eddu dim mewn gwirionedd, imi grybwyll am y ci a'r hwch yn unig, nad oedd dim niwed yn hyny. Toedd dim achos i ti son am gi na mochyn,' meddai Huw. Os byth y ceisir genyt ti eto ddeyd chwedle o'r neilldu i'r lleill, dywed fy mod i wedi dy roi di dan dy warnin' na ddwedot ti 'r un gair, mai dy droi di i ffwrdd yn union a wna i, os clywa i y fath beth am danat ti, mi gei lonydd felly, ond os de- chreui di ddeyd rhywbeth unwaith, wyddos ti ar y ddaear y'mhle dibeni di. Mi'th dynan di o'r naill beth i'r llall, wedi cael y fantais unwaith. Does wybod yn y byd beth fuaset ti'n ddeyd wrth y wraig yna gyneu taswn i heb ddwad i'r ty am ryw dipyn yn hwy. Wedi i'r ymrafael ddarfod, yr oedd y ddau deulu yn parchu Huw yn fwy nac erioed, er mor ddig fu- asent wrtho y pryd hwnw. Ond yr wyf yn gwel'd ei bod hi yn llawn bryd imi droi y pen arni am y tro yma. Yr Eiddoch, &c., Yn HEN DEILIWE.

Y MORWYNION CYMREIG.

COLEG ABERHONDDU.

AR FY NHAITH YN FFLINT.

CYMRY YN SYMUD I LOEGR.

--CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR…

AT OLYGWYR Y "TYST CYMEEIG."