Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
[No title]
RnOSYMEDRE. Cynnaliwyd ein cyfarfod blynyddol eleni ar y dyddiau Sul a Llun, Gorph. '22, 23. Pregethwyd yn rymus a phwrpasol iawn gan y Parchn, E. Roberts, Coedpoeth, ac E. Evans, Llangollen. Siomwyd ni o'r Parch. R. Thomas, Bangor, ond er hyny, yr oedd Duw gyda ni. A hyderwn y bydd y cyfarfod melus a gafwyd yn fendith i'r eglwys a'r gwrandawyr yn y lie. TROEDYRHIW, MERTHYR.—Cynnaliwyd cyf- 'arfodydd gan yr Annibynwyr yn y lie uchod y Sabbath diweddaf (Gorph. 1), i'r dyben i wneud casgliadau i dalu rhan o'r ddyled sydd ar yr addoldy. Am 10, pregethwyd gan y Parch. J. 'Williams, Castellnewydd Emlyn am 2, gan P. Howells, Merthyr, a J. Williams; am 6, gan Lewis (B), a J. Williams. Hefyd y nos Lun ganlynol, yn yr un lie. traddododd y Parch. J. Williams, Castellnewydd, ei ddarlith ardderchog ar I Ddi,n yn Arglwydd y Greadigaeth,' i tua shwe* chant o wrandawyr. HOREB, CASLLWCHWR.-—Cynnaliodd Annibyn- 'wyr y lie uchod eu cyfarfod blynyddol y "Sabbath a'r Llun diweddaf, sef Gorph. 21 a 22, pryd y pregethwyd yn y gwahanol oedfaon gan y Parchn. Jenkins, Llanybri, Jones, Hermon, D. H. Hugh, Moriah (T.C.), Thomas. Llanfairclud- ogau, Matthews, Castellnedd, a Davies, Cwma- man. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn. Morgans, Penuel (B), Jones, Penclawdd, ac Humphreys, Cadle. Cafwyd cyfarfodydd lluosog a chasgliadau da ynddynt oil, ac ar- wyddion amlwg o wenau yr Arglwydd o'i ddech- reu i'w ddiwedd. Bydded i ddaioni mawr eu canlyn, yw dymuniad yr ysgrifenydd.G. AMAKA, MYNYDD LLANDEGAI.—Cynnaliodd yr Annibynwyr eu cyfarfod blynyddol yn y lie hwn eleni, ar nos Sadwrn a dydd Sul, Gorph. 120, 21. Nos Sadwrn, pregethodd y Parchn.T Johnson, Ebenezer, oddiar Marc xvi. 15, a J. Rowlands, Henryd, oddiar Iago ii, 24. Bore Sabbath, am haner awr wedi naw, pregethodd y Parchn. T. Johns, oddiar Exodus xx, 8, a W. Roberts, Ffestiniog, oddiar Iago i, 28; am ddau, Pregethodd y Parchn. J. Rowlands, oddiar loan 54, a W. Roberts, oddiar Diar. vii, 4; am haner awr wedi pump, pregethodd y Parchn. J. j°v*ands' °ddiar Ephes. iii, 19, a W. Roberts, oddiar Col. ii, 10. Cawsom gyfarfod rhagorol, Y pregethau yn rymus ac effeithiol, a'r pregeth- "Wyr wedi dyfod a chyflawnder bendith Efengyl y tangnefedd gyda hwynt—y gwrando yn astud |-c yn ddifrifol, a phawb yn ymddangos wrth eu bodd.—J, Evans. BRYNMENYN, GEIt PEXYBONT.—Ar ddyddiau Llun a Sul, Gorph. 28, 29, cynnaliwyd cyfarfod oiyiiyddol yn y lie uchod, pryd y traddodwyd .pregethau gan y Parehn. L. Roberts, Bodrin- gallt; J. Stephens, Taibach; J. M. Evans, Caerdydd; J. Mathews, Castellnedd; a D. rice, Aberdare. Arhosed bendith ar y cwbl. AISINIHOSAN.— UrddittA Mr. J. B. Eoberts.—Ar yi- lies a r 12fed o Orphenaf, neillduwyd Mr. J. 1. ltoberts-, (Llanberis,) o goleg Caerfyrddin, i fod yn weinidog i'r eglwys uchod. Dydd Ian am ddau, dechreuwyd gan y Parch. O. Evans, Llan- brynmair, a pliregethodd y Parch. D. Oliver, Llanberis. Am 6, dechreuodd y Parch. R. Jones' Llanidloes, (ewytlir i Mr. Roberts,) a phregetliodd .v i archn. O. Evans, Llanbrynmair, a 11. Thomas, jftii^or. Am 9. dranoetli, dechreuwyd gan y 1 ^'ch- S. Edwards, Machynlleth, a pliregethodd •J, larch. R. Jones, Llanidloes, ar 'Natur Eglwys •J, larch. R. Jones, Llanidloes, ar 'Natur Eglwys pnst- Holwyd y gofyniadau gan y Parch. John itoborts, Conway; dyrcliafwyd yr Urdd-weddi .gall y Parch. J. Jones, Machynlleth; a phregeth- ^yd i'r gweinidog icuanc gan y Parch. 1'roffessor Morgan, Caerfyrddin. Am 2, dechreuwyd <>"an v (B.I, a phregethwyd al- Ddyledswydd yr Eglwys, gan y Parch. 1). M. T? Wy<S: a° i?r ^pnuilleidfa gan y o. ,l" -Lhoinas, Bangor. Am (>, dechreuwyd ^,an y 1 arch, Isaac Thomas, Tywyn, a phregetli- wycl gan y l'archn. Proft'essor' Morgan, a J. ■Uoberts, Conway. Pregethwyd nos Sadwrn a'r rf yn Dyllfe ac Aberhosan gan y Parchn. r Oliver, IJanberis Proft'essor Morgan; a 11. 11 1 a -Jones, Llanidloes. Chwe' blynedd sydd er pan adeiladwyd yr addoldy uchod, ar dir n, roddwyd gan (r. Jones, Ysw., Ce&gwyrgrug, gwr nodedig yn Aberliosan am ei liaelfrydigrwytld at bob achos Jja. Cjaillunydd yr adeilad ydoedd y Parch. T. J-noinas, Glandwr. Cvnnwysa y capel 500 o eistecldleoedd; co-stiodd ;TIOOO neu ragor, ond y ttiae y ddyled wedi ei thalu bob dimeu, liebfyned gam o r ardal. I Fell, done pobl Aberliosan, mae genych yn awr'igapel a thy gweinidog harddaf yn y lad, ac un o r dynion ieuainc mwyaf gobeith- iol yn weinidog. Bydded bendith yr Arglwydd yn arliosol arnocli, yn weinidog ac eglwys. • AHEItTAWEA'nGYJIJ)!YDOGAETH.-Pynciau pwys- a cymmydogaetliau liyn ddechreu yr Avyth- uos oedd^ ymweUad y Parclm. R. Thomas, Ban- V,01' il'«]11ianis, (Hwfa Mon,) Betliesda; a S. -Lvans, Llandegla, a'r dref. Nos Sadwrn yr 20fed f,vehd y hoM y" dylifo i waered tuag Ebenezer, Abertawe, iwrando ar y g^r dieithr yn pre- u- Yr oedd y sou am danynt wedi cyrhaedd yma o'u blaen, a pliawb yn dysg^l petliau nawnon gan Wyr y Gogledd. Declu-euwyd ar- yjo y bwrdd gan Mr. Evans, Llandegla, a Will- Retliesda, ac yr oedd yn liollol atarclnvaeth 11 •J trigolion, yr liyn a brofid yn amlwg yn y cyn- ^dfa^d mawrion a wrandawent drwy y tii '? ^ranoeth. Nos Sabbath, declireuw^'d y °dd yn Siloh, Glandwr; y Parch. R. Williams ya pregetliu mewn modd eglur, argyhoeddiadol, a Jsuriawn, am yr Arglwydd yn ogoniant yn Is lanol yr eglwys. Dranoeth huliwyd y bwrdd ^anteithion yr efengyl, gan y tri wyr liyn,' liyd (jj? J o01*phenodd y Parch. R. Thomas chwy osod yn ben corft yr eglwys ac yn blaenori yn (j 0 peth. Yr oedd y capel yn orlawn o wran- V .Yr gyfiirlbdydd. Cesglid yn vy ^glwjTs at ddiddyledu eu capeli. Hyderir n iddynt wrth iddynt leihau eu dyledion ycliwanegu eu rhinweddau a'u grasusau, mewn canlyniad i'r pregetliu ardderchog a gawsant.-Gohebydd. HAXLEY.—Cynnaliodd yr Annibynwyr eu cyf- arfod blynyddol yn y lie uchod ar yr 2 lain a'r 22ain o Orphenaf. Y cenliadon hedd dros 33duw at Gymru Hanley eleni oeddynt y Parchn. David Roberts ac E. Evans, Caerynarfon.' Nos Sadwrn yr 20fed, traddododd y Parch. D. Roberts ei Ddarlith odidog ar y diweddar Dr. Arthur Jones, Bangor, i gyniiulleidfa luosog. Yr oedd Mr. Roberts 3*11 adgyfodi y Doctor o'i fedd i'w ddang- os i'r gyiiiiiiileidfa. Wedi i'r Cadeirydd (y Parch. E. Evans) yn ei ddull gwefreiddiol ei liun, roddi annercliiad byr ar ddiwedd y cyfarfod, ymwahan- odd y dorf wedi eu llw}rr foddloni yn y Darlith- ydd, y Ddarlith, a'r Cadeirydd. Boreu Sabbath, am haner awr wedi 10, pregethodd y Parch. E. Evans yn rymus ac effeithiol dros ben. Am 2, yn nghapel High-street, (W), pregethodd y Parchn. E. Evans a I). Roberts. Am (;, yn ein teml ein liunain, Mill-street, pregethodd y Parchn. E. Evans a D. Roberts. Am 2 dydd Llun, yn Mill- street, pregethodd y Parch. I). Roberts. Am (i, pregethodd y Parchn. E. Evans a D. Roberts. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parch. E. Evans, (T.C.), Caer; Mr. E. Pierce, (W.); a Mr. R Jonos, (A.) Fel hyn yterfynwyd un o'r cyfarfodycld goreu a fu erioed yn Hanley; yr ydym yn cael cyfarfodydd da bob tro, a'n barn ni yw mai dal i wellliau a wnant o hyd. Cafwyd digon ° sicrwydd yn ein cyfarfod eleni fod yr Ar- glwydd pi arddel ei weision.—Gohebydd. PAXTTEW cam CAEHFYHDDix.—Mae Mr. John Rogers, lnyfyriwr o Atlirofa Aberlioiiddu, wedi deiiiyn galwad unfrydol oddiwrtli yr eglwys uchod, ac wedi rhoddi attebiad cadarnliaol ei fod yn cvdsynio a'u cais.—J. Da vie*.
[No title]
FFLINT.—Cynnaliwyd cyngherdd yn addoldy yr Annibynwyr y lie uchod, dan lywyddiaeth Mr. Jones, Fflint. Yr oedd cor Rhesycae yno dan arweiniad Moelgwyn Gwynedd, Rhesycae. Yr oedd yno rai eraill yn canu o'r Ffiint, fe debygaf. Datganodcl cor Rhesycae amryw ddarnau yn bur ragorol, ac yn eu plith y I Wawr.' Glee pur anhawdd i'w chanu ydyw hon. Y mae yn gofyn cryn fedrusrwydcl i wneud cyfiawnder a hi; ond canasant hi fel yr oeddym yn tybied fod y wawr yn ymdori 0 flaen ein llygaid. Can- odd rhywun o'r Fflint un Seisnig, Come home, dear Father.' Yr oedd ganddo lais clir, croyw, a da ond y mae eisiau ei ddiwyliio cyn y gwneir canwr da o hono. Yr oedd yn mhell yn ol mewn arddull. Canodd c6r Rhesycae ddernyn arall yn rhagorol, sef Y don o flaen Gwyntoedd'—(J Parry, Pencerdd America). Yn wir, fe ddylai ardal Rhesycae fod yn falch o'i chor rhagorol. Nid oedd trigolion Eflint yn dangos eu cymmer- adwyaeth mor gynhes i'r cor ac oeddynt i'r lleill; ond fe allai mai gwir yr hen ddiarheb, 'Nes penelin na garddwrn.' Felly yma i raddau Rhoddodd c6r Rhesycae eu gwasanaeth am ddim; ac nid rhyfedd i Gwalchmai, Llandudno, ddy- weyd am danynt fel y canlyn Ar rydd eiriau cerddorion-erys cor lilies y cae fel pigion Gwefreiddiodd, taniodd pob ton, Ein gwyl a'n llawen galon.- Brutus Prjidain. TOWYK.—Hir gofir y 24ain 0 Orphenaf, 1867' yn y lie yma-diwrliocl priodas David Lloyd, Ysw., Dolgellau (gynt 0 Tanybwlch), a Miss Phillips, unig ferch i'r cliweddar Ddr. J. B. Phillips, 0 Dowyn, a chwaer i'r Proffesor Phillips, Guy's Hospital, Llundain. Priodwyd hwy yn nghapel yr Annibynwyr gan y Parch. J. Thomas, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. A. Francis, Rhyl. Caniateir i ninnau, yn bresenol gyfarch Mr. a Mrs. Lloyd, gyda'r llinellau canlynol, y rhai sydd, debygwn, yn ddatganiad o dcimlad a dymuniad pawb a'u hadwaenant:— Tangnefedd a ffyniant, dyddanwch a chariad, ro rliwymyn a choron eicli undeb anwylfad Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth, A'cli eppil fo'n enwog dros lawer cenliedlaetli; Dysgleiried eich rhinwedd, a gwneled yr Arglwydd Eich cylchoedd yn fenditli, a'ch ceraint yn ddedwydd; Estyned eicli dyddiau i fod yn ddefnyddiol; Ei eglwys fo'ch cartref, ei air fyddo'ch rheol; A rliodded ei Ysbryd dyddanol i'cli tywys Trwy dd'rysni yr anial i'w nefol baradwys. Meirionwr. BETIIEL, VICTORIA.—Cynnaliwyd cyngherdd yn y lie uchod ar y 13eg 0 Orphenaf. Y cerdd- orion ydoedd Mr. Moses H. Davies, Ebbw Vale, Llew Llwyfo, Miss Llwyfo Lewis, Mr. Jones, Crughowel, Mr. Bent, Blaenafon, a Glee Party, dan arweiniad Moses H. Davies. Yr oedd y canu yn dda, a'r cantorion oil yn eu hwyliau goreu. —Cyngherddivr. CERBYDAU RHEILKFOJUM) NKWYDDION.—Bwriada Cwmni y London & North Western fabwysiadu cynllun y cerbydau Americanaidd, ar y linell newydd o Liverpool i Lundain, pan orphenir y bont fawr yn Runcorn Gap. Ni bydd y pellder rhwng y dref hon a'r brif ddinas y pryd hyny ond 200 milldir, a bwriedir rhedeg express trains heb orpliwys yn un man, fel y gellir myned o'r naill le i'r llall mewn 4J 0 oriau. Bydd mynedfa yn nghanol y cerbydau a threfnir lleoedd i or- phwys, ac hefyd i gael lluniaeth ynddynt. Cysuit i YL, wyp. Tt.. -Me-wn telegram o'r India, hysbysir fod y marchnadoedd te yn China wedi ag-or am brisiau un rhan 0 dair yn is na'r 11yn- edd. Dywedir fod y masnachwyr yn Llundain oeddynt yn cadw cyflenwad mewn gobaith am godiad yn y pris, yn cael eu cyfarwyddo i werthu yn ddioed. AELODAU SENEDDOL NEWYDDION.—Y mae Mr. Charles Reed (mab Dr. Reed), yn cynnyg eihun yn ymgeisydd dros Hackney, mewn atebiad i gais a arwyddwyd gan nifer luosog o etholwyr. Dywedir mai George Dawson, M.A., a ddygir yn mlaen fel trydydd aelod dros Birmingham. LLANBERIS.-Afae yn hysbys ddigon i'r rhan fwyaf 0 ddarllenwyr y TYST mai lie nid anenwog yn nghanol mynyddoedd Eryri ydyw Llanberis. Mae yma filoedd o ieibion llafur, yn ymguro fraich ac ysgwydd yn erbyn y creigiau dannedd- og o'r naill fis i'r llall, mewn trefn i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn gysurus a dedwydd, ac i gael to uwch eu pen. Yma hefyd y mae y Wyddfa—tywysog mynyddoedd Gwalia, a'i chell- oedd yn llawn cyfoeth i'r neb a fyno dynu yn lewis ei grys i chwilio am danynt, a'r hon hefyd sydd yn swyn-dynfa i luaws o ddigions,' (chwedl yr liogiau) in plith. Ac y mae yma lawer iawn 0 gwyno y dyddiau hyn am na ddeuai rhagor o wyr y pyrsau llaes i'n plith, ac ami un o'n lodging-house-keepers i'w gweled yn awr ac eilwaith yn esgyn i ben y Wyddfa, ac yn taflu par o lygaid fel eryr rhyngddynt a Chaer i weled a oes neb yn dod. Mae yma dipyn o gwyno wedi ac yn bod o herwydd afiechyd, a llawer o'n gwyr ieuainc a'n gwyryfon glan yn syrthio yn ami i fyd arall. eto y mae yma arwyddion gwellhad. Y Bailtuay.-Fel y mae yn hysbys i lawer fod ffordd haiarn wedi ei chychwyn er's tro o Gaernarfon i Lanberis; ond trwy rhyw anffawd neu gilydd, fe safodd y gwaith yn lan tua blwyddyn a haner yn ol, yr hyn a barodd dipyn o ostyngiad yn marchnad llafur yn Llanberis. Ac 0 hyny hyd yn awr, y mae llawer 0 son wedi bod am ei hail gychwyniad; end erbyn hyn, y mae yn dda genyf hysbysu eu bod wedi dechreu gweithio arni er dydd Mercher, Gorph. 24, ac y mae yn ddiau y bydd y Uinell hon pan ei gor- phenir yn gaffaeliad gwerthfawr i drigolion llu- osog yr ardal hon, ac yn foddion i hyrwyddo masnach yn ein mysg, a lluosogi ein breintiau yn fasnachol, a gobeithio yn ysbrydol. Ein Capeldu Newyddion.—Mae gan y Methodistiaid Calfinaidd gapel newydd prydferth wedi ei adeil- adu yma i gyfarfod a chynnydd y boblogaeth yn y lie. Mae gan yr Annibynwyr, hwythau, gapel ardderchog yn cael ei adeiladu, yr hwn, debyg- wn, fydd yn barod ddechreu yr haf nesaf.—Llew Bach. RHYL,- U,)ideb Wesleyaidd.—Dydd laii, Gorph. 25ain. cynnaliwyd Cymmanfa Ysgolion Sabbath- 01 cylchdaith Rhyl perthynol i'r enwad uchod yn ydrefhon. Er fodyr hin mor wlawog, ni ddam- piwyd dim ar ysprydoedd y gwahanol ysgolion a ddysgwylid, a daethant yma braidd to a man. Ymffurfiasant yn orymdaith enfawr yn Sussex Street, pob un o'r pum' ysgol ar ei phen ei hun, yn cael ei blaenori gan ei chor, ac oddi yno gor- ymdeithiasant trwy brifheolydd ein tref ac arein PrometDade Pier ardderchog, yr hwn a agorwyd yn rhad i'r ysgolorion ag oeddynt dan 14eg oed. Oddi yma, aethpwyd i Bowling Green Mr. Vaughan yn High Street, lie yr oedd y byrddau wedi eu gosod at gael te, a'r esgynlawr at gynnal y cyfarfod hwyrol. Yr oedd yr holl ddarpariad- au yn dda, ac aeth heibio yn gysurus. Am hanner awr wedi chwech, dechreuwyd y cyfarfod hwyrol, trwy ethol Clwydfardd yn llywydd. Gwnaeth amrai sylwadau priodol i'r amgylchiad, a dangos peth o'r mawr ddaioni a wnaeth yr Ysgol Sabbathol. Cynnwysai y program anerch- iadau gan y Parchn. Lot Hughes, a J. B. French, B.A.; tair can gan Mr. T. J. Hughes, o Lerpwl, ac un gan ei fab, yr hwn hefyd a ddilynai ei hun ar y berdoneg, a thair neu bedair bob un gan gorllu Rhyl a Dyserth. Yr oedd yr holl areithiau yn hwyliog a phwrpasol. Canodd Mr. Hughes, fel y mae ei arfer, yn glir, soniarus, ac effeithiol, a daeth ei fab bychan hefyd trwy ei ran yntau yn dda iawn; efe a ddilynai ei dad ar y berdoneg. Arweinid cor Rhyl, yr hwn a rifai oddeutu 35 gan Mr. J. W. Jones, yr Ysgol Frytanaidd, a chwareuid yr holl gyfeilliaint yn gelfyddgar g m Mr. W. Williams, Queen Street; rhifai cor Dyserth oddeutu 20, ac arweinid ef gan Mr. T. Hughes, Dyserth. Cafwyd hin ffafriol iawn yn yr hwyr, ac elai pawb tua chartref wedi eu llwyr foddloni. BLAENAFOK.—Cymmerodd amgylchiad galarus le yn y lie hwn tua 12 o'r gloch nos Sadwrn, Gorph. 27ain. Galwyd S. E, Steel, Yswain, meddyg y gwaith i weled gwraig Mr. W. H. Lawrence,, cigydd; nid oedd ganddo ond tua hanner milldir o ffordd; gorchymynodd i was y cigydd ei ganlyn i'r feddygfa i geisio cyfferiau, ac esgynodd ei geffyl, ac ymaith ag ef. Canlyn- wyd ef gan was y cigydd, yr hwn wedi cyrhaedd y feddygfa, a ganodd y gloch eilwaith ac eil- waith, ond heb un atebiad. Daeth heddgeidwad heibio, a thra yn siarad a'u gilydd, wele anifail y meddyg heb neb ar ei gefn. Ofnasant yn union fod rhyw anffawd wedi cymmeryd lie aethant i chwilio am dano; ac yn mhen tuag awr, cawsant ef ar ei ben yn y gwter wrth y Lodge y pen uchaf-i'r pare. Yr oedd yn fyw; ond ni siaradodd; ond bu farw yn mhen tua dwy awr. Yr oedd yn feddyg medrus, yn ddiffuant yn ei lafur ac er nad oedd dros 30 mlwydd oed, ymddangosai fel yn crymu dan bwys y gwaith, y b I yr hwn a gymmerai bron yn gwbl arno ei hun a'i frawd ieuengaf, gan arbed y boneddwr, ei dad, yr hwn sydd bellach mewn gwth o oedran; ond er ei oed a phwys yr ergyd a gafodd. gwelir ef he(ldyw ar yr anifail a farchogai ei fab, yn galw gyda'r cleifion sydd mewn mwyaf o berygl. Prin y credaf fod un gwaith wedi ei freintio a ffyddlonach na mwy llwyddianus mfddygon na'r lie hwn hwn. Ac anhawdd disgrifio y teimlad drwy y gymmydogaeth y boreu heddyw wrth glywed y newydd pruddaidd-pawb mewn syn- dod yn cydnabod y golled drom a gawsom yn y lie, Mae galar-leni y clybiau allan 0 bob ffenestr pob masnachdy, a dim ond hanner agor cauad y ffenestri. Teimlir y golled yn hir yn yr ardal hon. Yroedd y trancedig yn lieutenant yn adrg,n gwirfoddolion y lie. Yr oedd yn wyr i'r Cadben Steel a laddwyd yn y Peninsular War.-Rhedynog. PEN'YMOIIFA.—Mae cyfeillion y gymmydogaeth hon bob amser yn deilwng o ganmoliaetli; mae gwaith eu ffydd a'u llafurus gariad yn hysbys eisioes yn y rhanau helaethaf o Gymru. Yn ychwanegol at y llafur cyffredinol a arferid yma, ymgymmerodd cyfeillion yr Ysgol Sabbathol a'r gorchwyl 0 gynnal cyfarfodydd y plant, neu y Band of Hope. Ar ol diwydrwydd yoliydig a wytlmosan, daeth rind .o'r brodyr i'r pendcrtyniad y gwnai cyfarfod cyhoeddus gyda y plant les dir- fawr i'r symmudiad yn eu plith. Felly neilldu- asant bwyllgor; dewisodd lnnnv gyfres 0 destynau, a dewiswyd cymial v cyfarfod ddydd y Sulgwyn. Cynnaliwyd ef ar yr adeg neillduedig 3-11 a; end bu y pwyilgor wrth ddewis tes-tynan mor ffodus a dethol cymmaint ar gyfer mi cyfarfod ag a fyddai vn ddigon o waitli i ddau gyfarfod o hyd cyff'redin. Wedi deall liyn, a clianfod parotoadau ar gyfer yr holl destynau, yr unig lwyhr a 3Tmddangosai yn deg iddynt ydoedd cynnal cyfarfod cylfelyb ar ryw noswaith yn yr wytlmosau dilynol, yr Jmi a wnaed Nos Sadwrn, Mehehn 15eg. Gan fod dar- no diad byr o liaiies cyfarfod y Sulgwyn wedi ymddangos yn yr 'Herald,' ni wnawn yn awr ond nodi ychydig 0 wcitlirediadau y cyfarfocllmï1. Y llywydd ydoedd Mr. Robert Roberts, Tynyherllan, yr liwn aeth drwy ei orclxwyl yn anrhydeddus. Yr oedd y Parch. T. Jones, y gweinidog yno, ondni fynai lywyddu y tro hwn, 0 lierwydd rliyw resymau a ymddangosent iddo ef yn dra boddliaol. Agor- I In ivyd y cyfarfod trwy i'r plant gami ton, o dan lywyddiaeth Mr. Owen Griffiths. Ybuddugwyr ar y gwahanol betliau oeddynt,—Evan Owen, Owen Jones, Owen Owens, John Jones, John Rowlands, John Humphreys, a Jane Lloyd. Mae y pwyllgor yn teimlo yn ddiolchgar i'r cyfcillion n, roddasant eu cynnortlnvv yn ystod y cylarfod, ac yn arbenig i Mr. John Rowlands a'i briod am ddatganu y derunvd 'Beth yw oes,' mor dda a gwrol. Peth liynod yn yr ardaloedd hyn ydyw menyw yn canu mewn cystadleuaeth ar ol priodi, ac nis gallwn lai 11a clianmol y wraig ieuanc hon am dori drwy yr arferiad am uiiwaitli. Dysgwyl- iWll y gwna holl wragedd ieuainc Penymorfa, I I Porthmadog, a'r holl wlad oddiamgylcli, ei liefel- n ly ycliu yn liyn 0 betli. Datganodd y ddau a nod- wyd, yn ngliyd ag Owen Jones a John Hum- phreys, driawd yn nodedig 0 swynol,—bydd en gwasanaeth yn dderbyniol pa mor fuan bynag y bydd y cyfarfod liesaf. Cawsom ddeuawd y Bwthyn Mynyddig,' gan, Mri. Owen Griffith a. SlomiJ vOHes, áè nior dda oedd caniadaeth y plant, a'r gwahanol ddospeirtli, i'r ddau liyn y pef- thyn y prif anrhydedd. Dichon mai prin y hydd ein llytliyr ItAvii yn dderbyniol gan y beirniaid os na bydd eu lienwau anrhydeddus hwythau i mewn. Wel, dyma iiliii,, craffed y darllenydd: Mri. William Roberts, Tabor; John Williams, Fitter; a John Williams (loan Cybi), Porth- madog. Cafwyd aiinercliiadau byrion gan y beirniaid, gan Owen Owens, Cwm mawr, a cliaii y Parch. Thomas Jones. Gwnaed sylwadau gan y gweinidog ac eraill mewn ffordd o gefn- ogaetli i'r TYST, yr hwn ar y pryd oedd lieb ei alw i'r gymmydogaeth. Hacdda ein cyfaill Owen Griftith, ac eraill o'r cyfeillion air 0 gan- moliaeth am eu diwydrwydd gyda y plant. Maent yn canu yn dda, ac y mae rhai yn eu mysg yn gallu gwneud defnydd ymarferol o'r nodiant newydd, neu y Tonic Sol Fa, eisioes. Terfynodd y cyfarfod yn liynod o foddliaol. Methodd Mr. Jones ac ymattal rliag tori allan i ddatgan na bu erioed yn falcliach 0 Beny- morfa.' Mae yr aclios yma yn ymddangos vn llewyrchus yn ei holl gysvlltiadau, ond nid yw eto ond yn ei fabandod. Pan geir yr Addoldy newydd sydd vn awr ar gael ei ddechreu, gwneir yma betliau mwy, a bydd pethau gwell i'w mynegi am y lie cynnyddol hwn. 0 NARBERTII.—Nos Iau, Gorphenaf 25, cynhal- iwyd cyngherdd yn Ysgoldy Frutanaidd y lie uchod, gan gor Penclippin, ger Henllan, yn cael eu cynnorthwyo gan Mr. B. A. Scourfield, Llanelli. Yr oedd yma gryn ddysgwyl am y dydd yn ddiau, gan fod enwau y cantorion wedi myned yn lied adnabyddus yn y cym- mydogaethau hyn er ys amser bellach. Rhoddwn hanes y gweithrediadau fel y cymmerasant le. Y peth cyntaf ar y Programme oedd See our oars,' gan y cor a Scourfield, a chanasant nes oedd pawb yn gorfod dweyd, dyna ddechreu da. Yn nesaf, deuawd, 0 na chawn farw yn yr haf,' gan y Misses Thomas, yn effeithiol iawn. Yna can, I I-ler bright smile haunts me still,' gan Mr. Scourfield yn rhagorol. Canig, 'May day,' gan y cor. Deuawd, 'Old house at home,' gan Miss Thomas a Master Thomas; encoriwyd hwynt, a chanasant eilwaith. Can, 'Beautiful Isle of the sea,' gan Mr. Scour- field, gyda chryn chwaeth a medrusrwydd. Deuawd Gathering flowers,' gan y Misses Thomas, yn gelfyddgar iawn, yr oedd eu lleis- iau yn toddi i'w gilydd yn ardderchog. Canig Foresters sound,' gan y cor. Felly terfynwyd y rhan flaenaf o'r Programme. Cyn dechreu ar yr ail ran, er mwyn i'r cor gael ychydig o'u hanadl, canodd Mr. Scourfield The Old Bachelor,' a chafodd encor, ond gwrthododd ganu eilwaith. Y cyntaf yn yr ail ran oedd canig, 'Dattod mae rhwymau caethiwed,' gan y cor, a chanasant hwn eto i foddlonrwydd pawb. Deuawd, 'All's well,' gan Mri. Scour- field a Thomas. Can, Come in and shut the door,' gan Miss Thomas; encoriwyd hi yn wresog, a chanodd eilwaith yn swynol iawn. Quartette, 'Rising of the sun,' gan y cer. Can gan Mr. Scourfield, ond nid ydym yn cofio ei henw. Canig, 1 Sleep gentle lady,' gan y cor. Deuawd, 'Moonlit sea,' gan Miss Thomas a Mr. Scourfield, yn dda iawn, Can 'Simon the Cellarer, I gan Mr. Scourfield, a chafodd encor, a gorfu iddo ganu eilwaith. Canig, Yr Haf,' gan y cor, ac os nad oedd Sais yn gallu deall y geiriau Cymreig, cafodd ei waed ei dwymno gan 'yr Haf,' nes bon- llefain encor, a chanasant eilwaith. Yn olaf 'God bless the Prince of Wales'; canodd Mr. Scourfield yr unawd, a cheisiodd gan y gynnull- eidfa gyduno ag ef yr ail waith. Yna ymadaw- odd pawb wedi cael gwledd. Mae cor Pen- clppin yn cael ei wneud i fynu o dri brawd a thair chwaer. Nid yn ami y ceir cor o un teulu fel yna yn gallu myned trwy ddarnau tebyg i'r rhai a ganwyd ganddynt yn y cyngherdd hwn, a myned drwyddynt mor dda. Digon yw dweyd fod y cor a Scourfield yn eu hwyliau goreu y nos hono.—Gwilym Amgoed.