Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

ICARWBIAETH Y FRENHINES.

News
Cite
Share

CARWBIAETH Y FRENHINES. Anrhydeddus yw priodas yn mhawb,' ac anrhydeddus hefyd yw caru cyn priodi yn mhawb. Ac y mae pawb, beth bynag fyddo 0 eu sefyllfa yn hyny o beth yn dwyn tebyg- olrwydd mawr. Mae cyfrol newydd wneud ei hymddangosiad yn cynwys helyntion bore oes y Tywysog Albert-ei garwriaeth a'i briodas gyda'n grasusaf Frenhines a'r fiwyddyn gyntaf o'i bywyd priodasol. Pa le y mae ein hen gyfaill Gwesyn ? Dyma iddo engraitft o garu, priodi, a byw,' o leiaf am flwyddyn mewn cylch uchel. Ond dichon nad oes gan ddim yn nglyn a'n bren- hinoliaeth ni fawr o swyn arno ar ol myned yn ddeiliad Gweriniaeth fawr America. Mae y llyfr hwn yn sicr o fod Y11 boblogaidd iawn.—Mae y peth sydd yn taro chwaeth y lluaws. Dydd Sadwrn diweddaf yr oedd holl newyddiaduron pwysig y deyrnas yn gwledda yn galonog aroo. Nis gellir dweyd fod y wasg yn newynog iawn y dyddiau hyny ond y mae dysgleidiau mawrion y Diwygiad a phethau cyffelyb wedi bod ger ei bron yn hir ac yr oedd yn dda gauddi gael newid ymborth am rywbeth ysgafnach a pha beth a allasai fod fyn fwy bwytadwy na charwr- iaeth y Frenhines. Yr oedd pawb hen ac ieuainc, ac yn enwedig y boneddigesau yn mwynhau yr arlwy flasus. Mae fod y gyfrol wedi ei hysgrifenu dan arolygiad union- n gyrchol y Frenhines, a llawer o nodiadau n ynddi a'i Haw ei hun yn ychwanegu yn fawr at ei ddyddordeb. Yn ami iawn y mae priodasau brenhinol yn fwy o gytundebau cyfreithiol nac o gylymiadau serch. Dy- weddir y pleidiau i'w gilydd gan eu rhieni neu eu cymunweinwyr yn mhell cyn iddynt adnabod eu gilydd, a phan ddelo yr amser cyfaddas arweinir hwy at yr allor gyda rhwysg i'w rhwymo, ond nid i'w huno. 0 y Mae y serch sydd yn hanfodol i wneud priodas yn ddedwydd, yn fynych yn eisiau o'r ddau du. Ond nid felly y Tywysog Al- bert a'r Frenhines Victoria. Ni bu serch a cliariad erioed yn gryfach yn nghalonau yr un deuddyn ieuainc yn Nghymru at eugilydd nag oedd yr eiddynt hwy er o bosibl fod eu cyssylltiadau, a'r ddysgyblaeth y dygwyd hwy i fynu dani yn peri eu bod i raddau yn cuddio y teimladau hyny. Ond y mae y gyfrol dan sylw wedi codi y lien a dwyn i'r amlwg deimlad eu mynwesau. Nid yw o un dyben i ni amcanu gosod ger bron gynnwys- iad y gyfrol ni chaniata ein gofod. Bwriad- wyd hi ar y cyntaf i'w gwasgaru yn ddirgel- aidd yn y teulu. Ar y dealltwriaeth hwnw yr ymgymerodd y Cadfridog Grey a'i pharo- toi; ond wedi ail ystyried barnwyd yn ddoeth ei chyhoeddi fel y cai holl edmygwyr Albert Dda gyfle i weled pa fath un ydoedd yn blentyn—yn fachgen ysgol-yn llanc icuanc--yn wr caru-yn briod-a thad. Yn Mai, 1836, y gwelodd y Tywysog Albert a'r Dywysoges Victoria eu gilydd gyntaf erioed. Yr oedd ef y pryd hwnw yn ddwy-ar-bym- theg oed. Mae yn y llyfr ddesgrifiad ohono y pryd hwnw wedi ei dynu gan y Frenhines ei hun ac y mae yn hawdd gweled llaw dyner serch yn y darlun. Ysgrifenodd y Tywysog Albert lythyr at ein brenhines ar ei hesgyniad i'r orsedd ac y mae yn llawn o synwyr, yn fyr, ac i'r pwrpas. Araf yr oedd y garwriaeth yn myned yn mlaen ac yr oedd pryder a gofalon y llyw- odraath yn gwasgu mor drwm ar feddwl y frenhines ieuanc nes peryglu sychu i fynu serch a chariad o'i mynwes. Ac yr oedd y gwr ieuanc yn myned yn anamyneddgar oblegyd yr oediad,ac yn ofni i'r cwbl droi yn fethiant yn y diwedd a phenderfynodd y mynai ben ar y mater. Daeth drosodd i Loegr yn Hydref, 1839, a derbyniwyd ef ya roesawgar yn Windsor Castle ac wedi ym- gynghori ag Arglwydd Melbourne, ei phrif- n Z!5 weinidog, a hysbysu ei bwriad iddo, ar y I5fed o Hydref, yn mhen pum niwrnod wedi dyfodiad y Tywysog Albert yno, y mae y Frenhines yn ei wahodd ati i'w hystafell ac yn mynegi iddo ei holl galon. Yr oedd ei sefyllfa fel brenhines yn gwneud fod yn rhaid i'r cynnygiad am briodas ddyfod oddiwthi hi; ae nid heb dipyn o drafferth y gallodd dori drwyddi ond wedi iddi hi ddechreu yr oedd ef yn eithaf parod i gario yr ymddiddan yn mlaen. Dywed mai oni buasai ei bod yn freohines y cawsai hi dderbyn cynyg oddi- wrth ddyn ieuanc fel rhyw ddynes arall; yr oedd yn gosp arni fod yn rhaid iddi hi wneud y cynnyg. Yr oedd y Frenhines yn fawr yn erbyn priodi yn ieuanc, a gofidiai yn dost oblegyd hyny yn ol Ilaw a dywed mai oddiar y profiad a gafodd ei hunan o'r anfan- tais o fywyd o unigedd yr oedd mor awyddus am i'w merched briodi yn ieuanc. Ond nid Albert dda yw pob gwr. Nid mynych y disgyn y fath ddyn i ran gwraig. Bu oi ddyfodiad i'r teulu yn fendith iddynt. Car- iodd purdeb ei foesau, anmhleidgarwch ei feddwl, coethder ei chwaeth, a rhyddfrydig- rwydd ei yspryd ddylanwad iachus ar y llys ac ar gylclioedd uwchaf cymdeithas yn ein gwlad. Un o'r dynion hyny ydoedd, y mae Rhagluniaeth yn ei godi ar brydiau i gadw bienhiniaeth rhag myned i warth. Yr oedd George IV. drwy halogedigaeth ei fywyd bron wedi ymlid pob gronyn o barch i'r orsedd o feddyliau y dynion goreu. Ni wnaeth William ei frawd ar ei ol fawr i'w chodi i anrhydedd. Ond bu dyfodiad Victoria i'r orsedd, a chysylltiad Albert Dda a'r teulu yn foddion i adfer parch y deiliaid i'r orsedd, ac i'w chadarnhau yn eu meddyl- iau. Hir oes i Victoria-Duw gadwo y fren- hines. Buasai yn dda genym weled mwy o arwyddion fod Tywysog Cymru yn etifeddu rhinweddau ei dad. Hyd yma gogwyddo y mae yn ormodol i ffordd ei ewythrod gynt. Dysgwyliwn y daw yn gallach fel y daw yn hynach. Ond gall fod yn sicr na oddefir hyd yn nod mewn brenhinoedd mwy y pethau a oddefwyd ddeugain mlynedd yn ol. Nid oes genym ond gobeithio y gwrendy plant ein brenhines addysg eu tad, ac y dysgant rodio yn ffordd eu tad ac yn ffordd eu mam.

BRAWDLYS SIR DDINBYCH.

fv Wutfow.7