Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
ANDEEW JOHNSON A'R GYDGYNG-HORFA.
ANDEEW JOHNSON A'R GYDGYNG- HORFA. Pob ffol a fyn ymyraeth,"—ni wirwyd hyny yn amlycach erioed nac yn ymyraeth ddiddi- wedd Andrew Johnson a gweithrediadau y JJongnss. Y mae Dr. Thompson o New York, mewn llythyr a ysgrifenodd i'r English Independent, yn gosod pethau allan mewn goleu clir iawn. A phan y mae dyn sydd yn deall unrhyw gwestiwn, yn siarad neu ysgrifenu arno, mae yn werth i bawb wrando. Mae y cwbl a geisia y Gynghor- fa yn deg a rhesymol. Wedi myned i'r fath draul fawr i ddiogelu yr undeb a dileu caethiwed ni ddylid derbyn y taleithiau gwrthryfelgar yn ol heb gael gwarantiad digonol oddiwrthynt am eu hufudd-dod rhagllaw, ac yr estynir i'r Neg- roaid rhyddedig eu hawliau. Gwyddom yn dda nad oedd y Negro yn. cael y parch priodol hyd yn nod yn y Gogledd; ond gwyddom hefyd mai yn y Gogledd yr oedd hyny o deimlad caredig feddai America .tuag ato a phob peth wnaed er ei ddyrchafiad a'i ryddid,gan y Gogleddwyr y bu hyny. Ni wnaeth y De erioed ond ei sathru dan draed, a hyny a wnant yn awr oni bai fod Llyw- odraeth filwrol y Gogledd yn amddiffyn ei iawnderau. Yn eisteddiad diweddaf y Gynghorfa pasiwyd cyfraith yn rhanu y De i wahanol ddosparthiad- au milwrol. Rhoddwyd awdurdod i lywyddion y dosparthiadau hyny i gario yn mlaen y llyw- odraeth, a rhoddi i lawr bob cythryfwl a gyfodai, i aros adferiad y Taleithiau i'w sefyllfa flaenorol yn yr Undeb. Yr oedd yr un ddeddf yn darbodi ar gyfer cofrestriad yr etholwyr yn mhob Tal- aeth, a hyny heb wahaniaethu du na gwyn; ond yn unig cau allan wrthryfelwyr neillduol o'r t, etholfraint. Yr oedd yr etholwyr hyny i alw cynnadledd i ffurfio cyfansoddiad y Dalaeth. A phan y ffurfid Jy cyfansoddiad gan unrhyw Dal- aeth yn cynwys cyhoeddiad caethwasiaetli yn anghyfreithlon—estyniad yr etholfraint i'r holl ddynion nad oeddynt wedi difreinio eu hunain trwy wrthryfel-a datganiado'u hymlyniad wrth gyfansoddiad yr Unol Daleithiau; yna adferid y Dalaeth hono i'w lie a'i breintiau blaenorol yn yr Undeb. Gwrthododd y Llvwydd selio yr Ys- grif; ond trwy i ddwy ran o dair o'r Congress ei basio dros ei ben daeth yn ddeddf. Gwnaed cynyg i'w droi o'r neilldu fel mesur anghyfansoddiadol gan yr Uchel-lys; ond bu hyny yn aflwyddianus. Dechreuai y De gydffurfio a, darbodion y ddeddf fel yr unig ffordd i adenill eu safle. Gwelai ar- weinwyr y gwrthryfel nad oedd dim. i'w wneud ond derbyn y telerau. Yr oedd lie cryf i obeithio y buasai pedair neu bump o'r Taleithiau Deheuol wedi dychwelyd i'r Undeb yn nghorff y flwyddyn hon, Ond yn yr adeg dyner yma pan yr oedd y gofal a'r gwyliadwriaeth Jmwyaf yn ofynol, dechreuodd y Llywydd ymyraeth yn ol ei arfer, rhoddodd gyfarwyddiadau i swyddogion y gwahanol ddosparthiadau milwrol i helaethu amodau y cofrestriad fel ag i gynhwys llawer o'r gwrthryfelwyr a ddifreinid gan y ddeddf. Tar- awodd yr ymyriad yma y cynyg i adffurfio y Taleithiau a mallder-ad-ddeffrodd obeithion y gwrthryfelwyr, a chynhyrfodd o newydd yspryd y Gogledd yn erbyn y De yr hwn oedd i raddau mawr wedi lliniaru. Yr oedd yn amlwg fod yn rhaid i'r Congress ddyfod yn nghyd yn nghanol gwres mawr mis Gorphenaf i gymeryd gofal y Hong oedd wedi ei clriltio gan y Llywydd cyndyn a dallbleidiol i for cynhyrfus pleidiau gwlad- yddol. Mae pobl America wedi dangos amynedd mawr tuag at yr ymyrwr bradwrus sydd wrth lyw y llywodraeth. Pleidleisiai pobl New England bron fel un gwr yn ei erbyn, ped elai yn etholiad yforu. Edrychant arno fel yrhwystr mwyaf i bob peth sydd dda a gobeithiol yn y genedl; eto yn ei ymweliad diweddar a Boston derbyniwyd ef gyda moes oedd yn gweddu i'w swydd. Nid oedd parch ymddangosiadol pobl Paris i'w hymwelwyr digroesaw o Petersburgh a Berlin yn ddim mwy nag eiddo pobl New Eng- land at Ly wydd a hollol ddirmygid ganddynt. A gadael or neilldu ychydig o benboethiad, nid oes neb yn gwasgu am ei ddwyn i'w brawf. Y cwbl y mae y bobl yn ei ddymuno ydyw i ad- ffurfiad y Taleithiau i fyned yn mlaen yn ddiogel ar y seiliau presenol; a gadael i'r Llywydd fyned rhagddo yn nghildynrwydd ei galon' i orphen ei dymmor mewn gwaith. Pa raid myned trwy y ffurf i brofi dyn sydd eisioes wedi crogi ei hun; ac y bydd raid iddo yn fuan fyned i'w le ei hun.
CYFARFODYDD DIFYEWCH AM GEINIOG.
CYFARFODYDD DIFYEWCH AM GEINIOG. Yx mhen ychydig o wytlmosau eto, bydd y cyfarfodydd hyn yn ail gychwyn trwy Loegr a Chymru, a charem cyn hyny roi ychyclig o awgrymiadau mewn pertliynas iddynt. Yr ydym yn credu y gallant wneyd lies mawr ond eu hiawn drefnu. Gellir ymdrin a gwahanol fater- ion moesol a chymdeithasol ynddynt, nad ellil- yn rliwydd iawn gael y fatli gyfleusdra i wneyd ,,y mewn un ffordd arall. Yr ydym yn fawr dros cliwerthin, a cliwerthin eitliaf iaclius, ond yr ydym yn dyn iawn yn erbyn ysgafnder. Cofier fod gwahaniaetli dirfawr rliwng diiyrwch ae ysgafnder. Er cadw o fewn terfynau difyrwdli priodol, gofaler am gadw allan bob caneuon ac Z, Z7!1 areitliiau gwagsaw. Ymgeisier. at y buddiol a'r difyr. Detlioler pynciau llesol i areitliio arnynt, darnau byrion bywiog i'w liadrodd, a chaneuon coetliedig a difyrus i'w canu. Myner digon o amrywiaetli, a thyner allan bob math o dalent. Cadwer golwg ar y rhai o'r 12 i'r 18 oed. Eliodder gofyniadau cyfaddas iddynt i'w^hateb. Ceisier ymgodi at ddarllen yn dda.. Darllen yw y prif waith yn nghyfarfodydd y Seison. 'Penny Readings' y:igalivaiit hwy; ond un o'r pethau mwyaf anlllhoblogaidd yn y cyfarfodydd Cymreig ydyw darllen. 'A helpo y darllenwr,' meddai pawb; nid yw yn cael dim euro traed, na chlapio dwylaw, ond o ddiolch iddo am dewi. Nid yw hyn yn beth i'w ryfeddu gymmaint ychwaith, oblegid yn gyffrediii iawn darllen yn liynod o wael a wneir, neu detholir dernyn trwm a liollol ammliriodol i'w ddarllen. Celfyddyd ardderchog yw darllen, a dylai ieuenctid Cymru ymroi at fod yn fwy liyddysg ynddi. Cly wsom fachgen bychan yn nglianol mynyddoedd Cymrn, yn darllen Gwedcli Plentyn amddifad ar y plwyf,' nes tynu dagrau o lygaid pawb yn y t5-. Y mae yn gof genym glywed yr lien Enoch Evans jai darllen ymdaeriad y ddwy fenyw am y plentyn ger bron Solomon, ilcs yr oedd pawb yn attal eu hanadl gan bryder, yn union fel pe buasaent yn y llys ar y pryd. Darllenwyd can, Deio Bacli," mewn cyfariod lie yr oedd lluaws o ieuenctid, a brath- odd gydwybod amryw i gofio yn sylweddol am eu rhieni oedranus. Anfonodd geneth o Fon, o un or trefydd Seisonig, goron i'w mam dranoetli ar ol clywed darlleniad 'Llytliyr mham at ei mherch y noson. o'r blaen. Y mae dylanwad rliyfeddol gan ddaiileniad da. Meddylier am hyn gogyfer a'r cyfarfodydd clyfoclol.
TREULIAU EHWYSG BRENHINOL.
TREULIAU EHWYSG BRENHINOL. Gyda'i gyfrwysdra arferol, taflodd Disraeli awgrym allan am y dymunoldeb o adeiladu palas neilkhiol i groesawu tywysogion tramor, ac i dalu traul eu hymweliadau l'hwysgfawr o bwrs y wlad. Dichon fod y Canglxellydd yn tybio ei fod wedi rhoddi tafell dda i'r werin gyda'r mesur o Ddiwygiad, a bod o bwys iddo wneyd rliyw beth i ennill ffafr y llys a'r bendefigaeth. Ond nid cynt nag y taflodd yr awgiym allan nad oedd Gladstone fel barcut arno. Ehoddodd wers dda iddo yn gyntaf am ei ddull llechwraidd o'i ddwyn i mewn. Os oedd am gynnyg y fath beth, y dylasai ei gynnyg yn deg a gwyneb agored, yn rhestr treidiau arferol y Llywodraeth. Ond rhoddodd ar ddeall iddo ar yr un pryd pe cyn- nygiasid ef y gallasai ddisgwyl ei wrtliwynebiad cryfaf iddo. Fod ei Mawrhydi gyda'i cliyfleus- teran a'i hadnoddan presennol wedi croesawu brenliinoedd ac ymherawdwyr galluocaf Ewrop. Mae treuliau cadwraetli ein brenlxiniaeth ni wedi ei benderfynu ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ar esgyniad ein teyrn Victoria i'r orsedd ac yr ydyin yn sicr nad oes awydd yn y wlad i fwy- liau y treuliadau hyny. Mae gan frenhinoedd ac ymherawdwyr ryddid i addurno eu palasau, gwahodd eu cymmydogion, arlwyo gwleddoedd, cynnal dawns-gynnulliadau, ac iun-hyw rialtwch o'r fath, ond iddynt wneyd hyny ar eu traul eu hunain; ond os mynent fyned i bwrs y wlad am arian ychwanegol ar eu cyfer, y mae yn berffaith deg i'r wlad gael rhoddi ei llais pa mor bell y maent i fyned yn y ffordd hono. Nid ydym ni o nifer y bobl sydd yn credu mewn rhwysg a gor- wychder gwastraflRS. Arferai Arglwydd Chester- field ddyweyd fod dynion yn pasio mewn cym- deitlias, nid yn ol yr hyn oeddynt, ond yn ol yr hyn yr ymddangosent. Mae yn debyg fod llyw- odraetliau a chenhedloedd yn barnu yn gyffeIyb. Bernir eu nerth, eu gallu, a'u cyfoeth wrth y rhwysg a ddangosant; acos gwelir llywodraeth yn gynnil a dirodres, cyfrifir hi yn eiddil a dinerth. ly Ond yr hyn ydyw, ac nid yr hyn yr ymddent/ys, ydyw nertlx neu wendid pob llywodraeth. Gall ein llywodraeth fod yn Ham. mor gadarn—ein parch i'n breuhines yn llawn mor ddiragritli— ein dylanwad ar wledydd ereill yn llawn mor bwysig—a'n cyssylltiad a gwledydd eraill yn IlaiN-n iiior dangnefeddus heb roddi yclxwaneg o'r-1 pwrs cyffredin at gynlialiaeth y llys. Nid oes neb fynai weled ein brenliines heb allu darparu ar gyfer ei phlant ieitengaf, a dangos ei liaelioni at achosion elusengar; ond y mae teindad o anfoddlonrwydd ac anesimvytlideryn sicr o ddilmno yn meddwl y geiiecll os cynnygir pi-asgii o cliwys a llafur y gweitliwyr diwyd a gofalus i gynnal i fyny rwysg a gloddest penau coronog. Nid oes dewin a wyr i ba diybini yr aru'einir ni gan t, sor- weinyddiaetli Doryaidd, a Clxanghellydd Trysor- lys uclxelgeisiol y mae ei anrhydedd yn bwj-sicacli yn ei olwg na hawIiau y bobl, a chadernid yr orsedd.
BEDDARGRAFF BABAN.
BEDDARGRAFF BABAN. Loesau byd Cornelius bach—adawodd Am dawel fyd llawnach Heb aros aeth i wlad burach, I roddi can, yn hardd ac iach. Bala. BRINIOG.
¿\ttotyghta if Vn$g.
¿\ttotyghta if Vn$g. ABEETH MOLIANT: Detholion o Salman ac Emynau at wasanaeth addoliad cynnulleidfaol, dan arolygiaeth y PARCH. WILLIAM REEs, LIVERPOOL. Argraphwyd gan Isaac Foullces> 1867. Yr hwn a abertho foliant a'm gogonedda i." (Parhad). Os ydyw ein syniadau yn ein hysgrif flaenorol yn gywir, mai cynnulleidfaol ac nid corawl (yn yr ystyr fod cor ar wahan i holl aelodau'r eglwys) ydyw mawl yr, eglwys Gristionogol i fod; ac mai y Llyfr Hymnau goreu ydyw yr hwn y byddo ei holl hymnau yn nesaf, o ran syniadau a'u geiriad, i'r Beibl, ac felly, y mwyaf syml, cysegredig, a disothach, ni phetruswn y mymryn lleiaf ddatgan mai ABERTH MOLIANT ydyw" y goreu o ddigon o Salmau ac Emynau' a wel- som ni hyd yn hyn, cyn belled, wrth reswm, ag yr ydym ni yn alluog i farnu. Y mae y rhan fwyaf o lawer o hono yn rhydd gyfieithiad, mewn c,Y gwahanol fesurau, a chan wahanol awdwyr cym- nwadwy, o Psalmau, a Hymnau, ac Odlau Ysprydol' y Beibl ei hun; a methasom ni a tharo ar gymmaint ag un pennill ynddo, nas z,Y gallasem ddywedyd am dano yn ngeiriau y Dr. Davies o Fynwy, ei fod wedi ei dynu o galon yr Ysgrythyr Lan,' er na bo wedi ei gyfieithu yn fanwl o honi. Yn wir, ped agorid y llyfr hwn ar antur, mewn cynnulleidfa, gan ddarllen y pennill cyntaf y syrthiai'r llygaid arno, ni byddai dim perygl i na syniad na geiriad y cyf- ryw bennill ddolurio y Cristion tyneraf ei deimlad, na'r meddyliwr coethaf ei archwaeth a fyddai yn yr lioll dyrfa. A ellir dywedyd hyn am y Detholiadau eraill o Hymnall sydd yn ein plith ? Nid ydym yn tybied; ond rhaid i bob un a'u defnyddio yn gyfaddas droi yn ddetholwr gofalus ei hun: nid yn unig rhaid iddo ddethol ei bwnc a'i fesur, a hyny o ganol tryblith cym- mysg o'r cyfryw, ond rhaid iddo edrych yn graff a fydd yr hymn, wedi ei chael ar y pwnc a'r mesur, yn gyfaddas o ran syniad a geiriad i'w rhoi allan mewn cynnulleidfa Gristionogol o chwaeth a phrofiad. Yn wir, ymddengys i ni braidd, fod detholwyr hymnau yn meddwl mai wrth ei swm y dylai y wlad farnu teilyngdod llyfr hymnau, ac nid wrth ei syhvedd. Y syniad isel yma am archwaeth y wlad sydd wedi bod wrth wraidd yr hysbysiadau gwaradwyddus a welsom, yn nghorph yr ugain mlynedd diwedd- af, fod hyn a hyn o filoedd o hymnau i'w cael am hyn a hyn o br.es! Yr ydym yn hyderu y rhydd cynnulleidfaoedd Cymru brawf mai wrth y quality y barnant hwy werth Llyfr Hymnau a hyn allan, ac nid wrth y quantity, fel yr ym- ddengys yr ewyllysia rhai iddynt wneuthur. Nid canmoliaeth fechan i ansawdd y llyfr hwn yw dywedyd fod tua hanner nifer yr Emyn- au yn waith Williams, Pant y celyn, brenhin yr Emynwyr Cymreig; ac yn sicr, y maent yn bigion o waith yr Emynwr melus hwnw. Y prif gyfansoddwyr yn y detholiad yma, yn nesaf i Williams, yw'r Dr. Rees (Hiraethog); y Dr. Watts Dyferion y Cysegr'; D. Charles, Caer- fyrddin; Peter Jones, Liverpool; ac Edmund Prys. Y mae'r gweddill yn ddetholion o brif Emynwyr eraill y gwahanol enwadau crefyddol yn Nghymru, ac o'u Llyfr an Hymnau; megis- Grawnsypiau Canaan'; E. Evans (Ieuan Glan Geirionydd); Morgan Rees, Deheudir; Thomas Jones, Dinbych; D. Jones, o Gaio; Charles Wesley; James Hughes (lago Trichrug), Llun- dain; Ann Gruffydd, Sir Drefaldwyn; &e. Yr unig rai y mae yn ddrwg genym weled eu henwau mor anaml yn y casgliad gwerthfawr a destlys hwn ydyw, Ann Gruffydd ac Edmund Prys. Prif ragoriaoth y llyfr hwn yn ddiau, ydyw iachusrwydd Ysgrythyrol, a lledneisrwydd coeth ei holl gynhwysiad. Credwn yn ddiffuant nad oes gymmaint ag un Emyn o'i fewn y tueddid un Cristion syml, uniongred, yn y Dywysog- aeth i ddywedyd, Dyma Emyn, o ran ei syl- wedd a'i geiriad, y buasai yn well ei gadael allan.' Dichon fod ychydig fesurau ar ei ddi- wedd na buasai o nemawi: golled i gynnulleidta- oedd cyffredin fod hebddynt; ond ychydig iawn ydynt, mewn cymhariaeth i gasgliadau ereill o Psalmau a Hymnau. Y mae rhagoriaethau israddol y llyfr hwn hefyd yn dra chanmoladwy. Y mae yr holl wahanol fesurau wedi eu cyfleu yn gryno gyda eu gilydd, yr hyn sydd dra, hwylus i'r neb a roddo yr Hymnau allan, cystal ag i'r gynnull- eidfa. Befyd, y mae rhifedi mawr y mesurau mwyaf arferedig, mewn cymhariaeth i'r rhai an- arferedig, yn sicr o gael cymmeradwyaeth gyffredinol. Gwnaeth y detholydd gofalus yn bur ddoeth, trwy adael allan luaws o'r mesurau diarfer a difudd, nas cenir unwaith yn yr ugain mlynedd mewn cynnulleidfa gyffredin, y rhai sydd yn gorlwytho ein casgliadau blaenorol, heb fod yn dda i ddim ond i ychwanegu nifer yr hymnau. Credwn y gallai'r detholydd coeth fyned rhagddo etto yn y cyfeiriad yma, mewn argraphiadau dyfodol. Tybiwn nad oes odid neb o'n detholwyr hymnau wedi meddwl yn briodol pa mor ychydig ydyw rhifedi y mesurau gwir arferedig yn ein plith trwy Gymru oil. Yr ydym yn sier na fethem pe dywedem nad ydyw y nifer yn ddim mwy nag o 20 i 25; ac nid oes nemawr fwy na hanner hyny yn cael eu harfer yn barhaus yn ein pregethau, ein cyfarfodydd gweddio, einhysgolion Habbathol, a'n cymdeith- asau neillduol. Diau mai detholycld craffus Aberth Moliant' sydd nesaf i'r maes o'i holl frodyr ond hoffem i hyn gael ychwaneg eto o'i sylw yntau erbyn yr argraphiadau dyfodol. Byddai y llyfr rhagorol hwn yn fwy ymarferol fyth pe tynid nifer yr hymnau ar lawer o'r me- surau i lawri'r hanner neu lai; pe bwrid amryw o'r mesurau sydd ynddo allan yn lIwyr; a phe ychwanegid nifer yr hymnau ar y mesurau ar- feredig.-( l'w barhatt).
LLINELLAU
LLINELLAU Ar ol fy nghyfaill, Mr. Abel Jones, Printer, Rhyl, yr hwn a fu farw Taclnvedd 18, 1806, yn 18 mlwydd oed. Paham fy nghyfaill hoff, paham, Y d'engaist ti o'n plith ? A gadael tyner dad a mam, I wylo 'n chwerw chwith LILI o'th gyfeillion hefyd sydd, Ar d' ol 'n dwys alaru- Eu hiraeth datgan maent yn brudd, Am dy liynaws gwmni. Ynof mae ryw hoff adgofion, O'th ymarweddiad glan, Pan gynt oeddym fel cyfeillion, Yn byw yn ddi-wahan; Ond yn y man blin gystudd ddaeth, I 'mosod ar dy wedd, Yn fuan gwelwi 'th rudd a wnaeth, A'th daro hyd y bedd. Wrth i'm syllu ar dy ddarlun, Treigla deigr tros fy ngrudd, Pan y cofiwyf fod dy gorphyn, Yn PJ dm yn y pridd; Ond rhaid oedd iti ufuddhau Brymus alwad Duw- Draw i gilio i fro angau, A gadael tir y byw. Ein hyder yw dy fod yn awr, Yn mro y nefol. wlad, Yn moli 'r gwr a ddaeth i lawr I geisio in' ryddliad; A boed i'th lwch sy'n gorwedd draw Gael huno hun o hedd, Hyd doriad gwawr y dydd a ddaw,' Pan ddefiry 'n lion ei wedd. Plasgwyn, Pkhyl. u> j WASGFAB.
.".: MARWNAD
MARWNAD Ar ol Mr. Thomas Roberts, Craig-y-tewgoed, Cwm- avon, yr hwn a. fn farw Gorph. 10,1867, yn 38 mlwydd oed. Bu yn aelod ffyddlawn a blaenor canu llafurus gyda'r Annibynwyr yn y ltock, hyd y diwedd. Beth yw'r ewyno? beth yw'r wylo? Beth yw 'r tristwch yma sydd, Yn teyrnasu ar bob calon, Yn dwyn dagrau ar bob grudd ? Cyn achosid y fath alar, A chyn y teimlai pawb mor ddwys, Rhaid fod rhywun hoff ac anwyl, Wedi ei guddio dan y gwys. Oes, y mae, er mod i'n methu, Braidd a chredu y'm llygaid IIaith Un a gerais ac a garaf, Un a gofiaf amser maith, Sydd dan ddwylaw oerion angau Yn mhriddellau du y bedd Er mai dim ond lien sydd rhyngom, Lien rhy dew i wel'd ei wedd. Torwyd cyssylltiadau agos Gan y gelyn creulawn erch Trwm iawn ydoedd ei ddyrnodau Ar linynau tyner serch Pe buasai gallu dagrau, N' ddigon cryf i'w ddwyn o'i fedd, Cawsem 'n ol pob tebyg, eilwaith, Yma wel'd ei siriol wedd. Thomas Roberts, heb fawr rybudd, Ga'dd ei dori o dir y byw; Ar ei ol yn wylo'n arw, Y mae 'r byd ac eglwys Dduw Peidiwch wylo, meddaf finnau, Ar ol un etifedd nef; Mwy na'r golled gawsom lawer Yw yr ennill gafodd ef. Ni chawn mwy, mae'n wir, ei weled, Chwaith ei glywed gyda'r gan Ni bydd yma yn blaenori Gyda'r canu fel o'r blaen; Gadael gwael ganiadau 'r ddaear Wnaeth am bur gauiadau 'r nsf: Mwy ca gwmni heb groes dynu 1 gydganu, Iddo Ef.' Sion bellach sych dy ddagrau, A'i berth'nasau yr un modd; Nid doeth ydyw i'n alaru, Yntau 'n canu wrth ei fodd; Peidiwn grwgnach, er yn dywyll, I'n Gwaredwr byddwn byw; Pob peth weithia er daioni, I'r rhai sydd yn caru Duw.' Ar ei weddw a'i amddifaid, Bydded nawdd y nefoedd fry; 'R unig un sy'n para 'n ffycldlon, Wnelo wrando ar eich cri; Ymddiriedwch yn yr Arglwydd, Cadarn dwr i chwi yw Elf; Tyrfa fawr o'ch bath gynhelir Gan ei fraich alluog gref. Boed i'r gweddill sydd yn Sion, Fod yn ffyddlon hyd eu bedd; Yna ni gawn gydgyfarfod, I fwynhau tragwyddol hedd; Duw o'i ras f0'n llanw 'r bylchau, A wnaeth angau ar y llawr Am bob un ga'r nef o newydd, Doed i'r fyddin dyrfa fawr. Ffarwel frawd, fiarwel am enyd, Buan byddwn yn y bedd; Ffarwel frawd, hyd ibreu 'r codi, Yna ni gawn wel'd dy wedd Wedi ossi angau allan, Wedi cyrhaedd gwir iachad; Mwy cydganu byth heb dewi, Am rinweddau mawr y gwa'd. Rock. D. GRIFFITHS.