Hide Articles List

7 articles on this Page

:' v!" 't" 'K0EDil^^s^i.w…

News
Cite
Share

v!" 't" 'K0EDil^^s^i.w 1 Y MAE Gwesyn yn y Cenhadwr Americanakld yn rhoJqi hapes ei daith o Ferthyr i Utica. Wedi ad- roud ei helbul i gyrbaedd hyd Glasgow, a rhoddi di.i,iifadoann-liyfieusclerau.yllong,,dywed, Dechreuodd y fordaith yn gysurus, y gwynt yn 11 bur dawel, a phob peth yn ddymunol.. Cysgwyd y noson gyntaf yn dawel, ond pan ddeffrowyd y' boreu dranoeth ar ganol y mor, rhwng Scotland ar Iwerddoii, yr oedd wynebau amryw yn gwelwi, acarwyddion fod clefyd y mor yn dechreu dyfod yn imlileii. Erbyn y prydnawn daeth tir yr Iwer- ddon i'1' golwg, ac angorwyd ar gyfer Londonderry. Rhedodd pawb i'r Deck, ac aethant yn hollol iach. Aroswyd ynoam rai oriau i dderbyn peth anferth 9 r Gwyddelod i mewn. Dynion a mercHed mawr- ion, esgyrniog, a rhai o honvnt yu bur olygus ac yn TV- u •? ben QypaiJ ar ochrau myeyddoedd lycheiniog ac Aberteiti. Amryw o'r dynion tua ^roedfedd 0 daldra, ac yn gymesur yn in hob nordd, tra yr oedd y merched hefyd yn llawn cy- Hiamtynol cyfartaledd. Gwisgent ddillad cynhes aa, gownau a chobau o frethyn liwyd. Yr oedd .31 0 honynt yn fwytawyr cysurus iawn. Clyw- ais un yn dyweyd wrth y Cadben ei fod ef a'i wraig a i dri phlentyn bron ncwynu, er ei fod- yn dal yn ei law y pryd hwnw ar amser ciniawi ddysgl a thuag un ar bymtheg o bytatws, a phob un o honynt yn gawres;o bytaten, at faintioli dau ddwrn: dyn eyflr- redin yr oedd bwyta un o honynt yn fwy nag si fedrwn i wlleuthur pau yn fwyaf newynog, heb son fod digon o gawl i'w gael yn flaenorol, a mwy o gig a bara bob dydd aag mae un pedwar Gwyddal yn gael mewn wythnos yn yr Iwerclclon-yr oedd yn dra dyddorol gweled amryw eraill o honont yn yn gofalu am y dyn oddimewn. Yr oeddent wedi dwyn gyda hwynt fara ceirch rhyw haner modfedd o drwch: rhoddent ar hwnw chwarter modfedd o ymenyn, a modfodd o fara gwenith ar hyny eilwaith, ac yna claddent o'r golwg mewn ychydig funudau dafellau mawrion o'r composition hwnw. Yr oedd eu gweled yn bwytta yn peri i ni ddiolch o galon mai tuag America ac nid tua Chymi^i yr oedd ein gwynebau. i r Wedi derbyn y llwytli yma i mewn nos Sadwrn cychwynwyd tna'r< mor mawr, ac erbyn deffro y boreu Kabbath, vr oedd gwaeddi mawr trjvyyr holl wersyll, a phawb braidd yn glaf o glefyd y mor, ac uid rhyw esgus o glefyd ydoedd—na, chwiliai yr holl rahau tufewnol, gan garthu yr holl ddyn, a pheri iddo fwrw allan yr hen lefain yn hollol, ac ymadael a phob peth a berfliynai i'r wlad y cycli- wynwyd o honi. Yr oedd y fath surni yn y cylla a phe buasai dyn wedi yfed linegr am fis yn flaenorol, ac yr oedd rhyw gytiawnder ° r bile hefyd yn cael ei danu allan, fel pe na bydclai eisiau tymher ddrwg byth yn y wlad newydd. Oni buasai fod y Bibl yi dywedyd yn bendant fod yr, Israeliaid wedi myned trwy y mor ar dir sych buaswn yn meddwl mai clefyd y mor a olygid wrth ddywedyd eu bod wedi eu bedyddio hwy oil i Moses yn y cwmmwl ac yn y mor. 0 leiaf cefais i a'm teulu fedydd o'r iawn ryw ar wynel) yr Atlantic, y Sulcyntaf o'm taith i'r America, er i ni gael ein cadw yn ddiogel rhag taenelliad na throchiad. Er hyny gwnaeth y Wer- ydd ei ffordd drwy yr holl gyfansoddiad. Aeth un ar ol y Ilall or plant yn gleifion-y wraig yn glaf, y forwyn yn glaf-pob un yn ei wely, ac am y goreu yn tallu allan yr hyn oeddynt wedi ei lyncu yr hen amser gynt. Ynddiweddaf oIl gorchfygwyd finau gan Neptline neu'rai o'i blant. Ona y pwnc oedd, os oeddem oil i fyned yn gleifion yr un amser, pwy oedd i roddi ymgeledd i ni. Un teulu bach ar ein penau ein liunain, pawb yn ddieithr i ai, heb ynddynt duecld na gallu i'n cynnorthwyo. aid gan byny oedd ymwroli. Llyncais gryn 8wm ° Carbonate of Soda a Potash oedd yn fv mecldiant. yr, hyn a ddyfethodd y surni, ac a ddug y °y. aAfyflwr llawer; esmwythach, ac a barodd 1 mi gael ymwared yn gynt o'r clefyd. Maeyn fantais i ddyn fod weith.au yn ychydig o quack doctor, pan na fyddo hyd yn nod quack 0 fewnhye1. galw. 0 ran hyny yr oedd doctor ar y bwrdd, o leiaf un a elwid ielly, ond nid oedd ganddo fwv o amcan am wella clefyd y mor, nac un clefyd arall, Dar dyn yn y lleuad. Nid oedd ef chwaith yn rhyw bryderus iawn yn nghylch pethau felly. Yr oedd ganddo ystafell fach glud, lie i gael tamaid Yn gyurus, a chyflog go Jew yn, bur debyg, a phan fYdtLai rhywun yn glaf iawn rhoddai dipyn o rum neu frandi a dwfr, neu lasiad o borter, a dyna ei ^axth ar ben. Yr oedd hyny yn boddio y rhan yyaf o bobl ei ofal yn fawr iawn. Aeth Gwyddel o un diwrnod, a dywedodd fod ei gorff yn rhwym ac yr hoffai gael rhyw feddyginiaeth. Cynyg- l-o^ y .^oc^or bils iddo, ond achwy nai na fedrai ly-nou pilsen ar un eyfrif. Dywedodd y meddyg y o ri J^aS*'0r ynte- Na, yr oedd hwnw yn rhy gas p rheswm. Nis gwn ynte, ebai'r doctor, beth pi T°^di l chwi. Wei, ebai Pat, ai tybed na wnai lad o borter les i mi. Cafodd y porter wrth y s-wiaC {maith a§ yn Uawen. Bhaid i mi addef ^Wlr~~bu y meddyg o beth gwasanaeth i fy anwyl wraig, trwy gymeradwyo iddi gael diferyn o laeth a beet tea, neu ryw flasus fwyd arall a dueddai i'w chryfhau. Yr wyf am vfigrifenu y gwir—yr holl wir-a dim ond y gwir.' Deliais i heb fyned i'r gwely drwy yr oil o'r Sabbath hwnw, a bum yn alluog i estyn diferyn 6 ddwfr i bob un pan ofynai, ac yr oedd y syched yn angerddol a'r cyfogiad yn dilyn bron bob diferyn. ayfid. Rhyw Sabbath rhyfedd oedd hwnw neb yn bwtta yr un tamaid, nac yn symmud oi babell. Cedwid ef gan yr holl deithwyr yn ol llythyren fanylaf cyfraith Moses—perfEaitli orphwys—pob un bron ar ei wely a'i lygaidynnghauad beth oedd y meddwl yn wneud sydd hysbys i Chwiliwr y galon yn unig. Treuliais ddau ddiwrnod Mb fwyta yr un tamaid, er nad oeddwn yn glaf iawn. Deuai dyriion at y drws bob pryd i gynyg ein rhano fwyd, ond gwrth- odwn o hyd, a digon anhawdd oedd meistroli y teimlad fel ag i wrtliod peth mor atgas a bwyd yn foneddigaidd. Cefais allan yn drwyadl ystyr y dywediad hwnw, 'Eu henaid a ffleiddiai bob bwyd.' Gwawriodd boreii ,ddydd. Mawrth—ychyd- ig iawn oedd yr awydd at fwyd, ond anturiais gymeryd tamaid, ac er fy syndod cefais allan fod Y11 bosibl bwyta bara hyd yn nod ar y cefnfor. ringais yn araf i'r deck, ac edrychais ar y cefnfor dig yn ei wyneb, a cho-fiais mai fy Nhad sydd wrth y llyw, ac ni bum glaf mwyach. Ond yr oedd y wraig a'r plant, a'r forwyn eto yn glaf. Gwell- haodd y ddau ietien-af yn, bur dda, ond dyna fwy :0 waith byth i mi-gofalu am y ddau blentyn iach, yr henaf yn bum' mlwydd a;r ieuengaf yn ddwy flwydd, a gofalu hefyd am bedwar o' rai cleifion. Treiai y forwyn godi, oblegid morwyn dda iawn ydoedd, a theimlai awydd am gyllawni ei dyled 'swydd. Ond ar ol codi nid oedd o fwy defnydd na phe buasai heb un pen. Ni allai sefyll ar ei throed mwy na baban—ni wyddai beth oedd yn ei- wneud a'i dwylaw. Am y wraig nid oedd hi yn gallu symmud o'i gwely yr holl daith. Ni chaniateid iddi fwyta gyda chysur ychvvaith nes cyrhaedd New York. Ond nid yw un drwg yn parhau o hyd. Gwellha- 'odd y forwyn a'r plant o un i un, ac nid hir y bu y plant cyn tain yn ol i'r bwyd am, y seibiant oedd wedi gael y dyddiau o'r blaen. Os oeddent wedi bod dri a phedwar diwrnod heb ddim, nid oedd yn bosibl. gadael llonydd iddo yn awr am ddwy awr o'r bron, a chyn cyrhaedd tir America, yr oeddent wedi gwneud holiol iawn i'r dyn oddimewn am y golled a gawsai. Yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus iawn oddi- allan hyd nos Lun—y gwynt, er i raddau yn groes, Tieb fod yn ein herbyn ac wrth drefnu yr hwyliau ynaiilnbrdd a'r Hall, ceid ganddo roddi ychydig Igyinliorth i'r ILestr. fyued. yn mlaen ar ei thaith. Ond y rioson hono tarawodd Neptune ei drybedd nes oedd y mor fel crochan berwedig—ysgydwodd JSolus ei wialen a rhyddhaodd y gwyht o'i garchar, neu yn ol iaifh y Bibl, yr hon sydd yn rhagori llawer ar Virgil, gollyngodd y Duw mawr y gwynt allan o'i ddyrnau. Tarawodd hwnw ai" y dyfroedd —ysgydwyd y.llong fel cryd baban. Ciynai y rhan fwyaf o'r teithwyr gan ofn, a gweddiai pob un ar ei Dduw; gwaeddai y Pabyddion fil o weitbiau yr un peth, fel pe y ty bied y caent eu gwrando am eu haml eiriau. Yr oedd, gwaeddi, trwy yr noil nos liono. Ymdroai ac ymsymudai y morwyr eu hunain fel meddwon, eu holl ddoethineb a ball- odd. Neidiai y mor yn ffrydiau mawrion dros ymylau y Ilong, ac mewn rhai manau elai i welyau a blychau y teithwyr heb ofyn eu cenad. O'm rhan fy hunni theimlais ono. ychydig neu dSim dycliryn, gan y credwn fod fy Mrawd, yn ngwasanaeth yr hwn yr oeddwn wedi cychwyn ir America, mor alluog i lywyddu y gwyntoedd ar for mnwr y Werydd ag oedd i lywyddu mor bach Galilea. Erbyn y lboi-eu yr oedd yr ystorm wedi tawelu, a mawr feFy IJawen- haem am ei thawelll. Dywedai y morwyrnad oedd. wedi bod fawr o storm, ond yr oedd wedi ein gyru ni gan milldir o'r ffordd. Gwiriai y noson liono a boreu dranoeth yr hen lyfr mewn modd nodedig. Ac yn y dyddiau ar ol hyny dangosodd y rhan fwyaf os nad yr oil ar y bwrdd nad oedd dim yn eu gweddiau, oblegid nid oedd dim ond yfed. tyngu a rhegi, canu a dawnsio, yn myned yn mlaen—nid oedd neb yn gofalu—nid oedd neb yn ceisio Duw. Yehydig iawn yw y dylanwad sydd gan bethau all- anal er gwella dynion. Rhaid cael yi- Yspryd Glan i drefnu calonnau dynion cyn y bydd trefn wirion- eddol arnynt. Y J '¡

[No title]

[No title]

.IIIV . ! :•■;! •![„„<• ij…

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

DIENYDDIAD BACHGEN.

LLUNDAIN.—NOSON YN Y TY.