Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

YR HEN DEILIWR. LLYTHYR III.

News
Cite
Share

YR HEN DEILIWR. LLYTHYR III. At Olygydd "r Tyst Cynweig." Foneddigion,—Yr oedd Huw Prys yn y bummed flwyddyn ar hugain o'i deilwriaeth pan aethum i ato yn brentis; ac felly yr oedd wedi gweled a dysgu a phrofi cryn lawer o'r pethau a berthynent i ddyled- swyddau swydd a helyntion bywyd teiliwr yn y wlad. Nid oedd Huw yn rhyw lawer o beth fel dyn, nac fel teiliwr; ond yr oedd yn meddu gradd dda o synwyr cyffredin-yn ddyn distaw a thawel, sobr, a gonest, a hynod o ddiwyd yn ei alwedigaeth. Yr oedd hefyd yn adnabod y byd,-sef y byd yr oedd efe yn byw ac yn troi ynddo, yn lied dda. Meddai farn go gywir, debygaf, am bob teulu y byddai yn cynniwair drwy eu plith; ond cadwai ei feddwl a'i farn yo gyfrinach iddo ei hun rhoddai ambell i awgrym yn achlysurol am y naill deulu a'r llall, ond yn bur gynnil a gochelgar a thrwy y gochelgarwch hwn, gwaredodd ei hun fel iwrch o law yr heliwr, rhag bod yn gyfranog mewn llawer cynnen ac ym- ryson a ddigwyddent yn awr a phryd arall rhwng teuluoedd o fewn cylch gweinidogaeth ei nodwydd. 4 Teiliwr yr hit a'r miss y gelwid ef yn gyffredin. Gwnai ambell bar o ddillad i ffitio i'r dim, fel y dy- wedai y bobl, ac ambell i un arall yn bur anghelfydd ac aflunaidd. Y clos pen glin a wisgid gan bawb -yn hen ac ieuaingc, yn gyfoethog a thlawa, yn y dyddiau hyny, a hynod o anffortunus oedd Huw yn saerniaeth clos—teilwriaeth ddylaswn i ddyweyd. Byddai pob un yn mron naill ai yn rhy dyn, neu yn rhy lac yn y glin weithiau yn llawer rhy fyr, ac weithiau yn llawer rhy hir, a bycMai raid iddo, naill ai cyfyngu neu eangu, cwtogi neu estyn, gliniau y rhan fwyaf o glosau ar ol eu gwneyd. Cyfeiliornai i'r naill ochr a'r llall bob yn ail agos yn wastad; wedi gwneyd un yn rhy gyfyng, cymmerai ofal y tro mesaf i wneyd y clos yn ddigon helaeth, a byddai y pryder a'r gofal hwnw yn ei yru ar gyfeiliorn yr ochr hono. Cafodd ei ddwrdio yn chwerw, diuan, lawer gwaith, oblegid ei gyfeiliornadau hyn. Byddai yn ddrwg gan fy nghalon drosto dan y triniaethau hyny teimlai i'r byw oddi wrthynt. Ar ol cael sgwrfa felly, ni ddywedai un gair wrthyf ar y ffordd wrth fyned tuag adref yn yr hwyr. Cerddai a'i wyneb tua'r Uawr, gan ocheneidio yn llwythog; pan ddigwyddai iddo wneyd clos i ffitio, ac i foddio ei berchenog, teimlai yntau yn llon'd ei glos o deiliwr, a byddai gan lawened a'r gog ar y gaingc. Ond ei anffawd, druan, oedd fod y miss yn dygwyddo yn fynychach na'r hit, yn ngwneuthuriad y dilledyn hwnw yn neillduol. Cof genyf yn mhen tua dwy flynedd wedi i mi fyned ato yn brentis, ein bod yn gweithio mewn ty ffarm, lie yr oedd tri neu bedwar o fechgyn o'r deuddeg i'r deunaw oed. Gwnaed dillad y mab hynaf yn gyntaf-coat o frethyn car- tref, a gwasgod o stwff ty, a chlos worsted cord. Wrth ffitio y dillad, cafwyd fod gliniau y clos yn Ilawer rhy hir a rhy helaeth, fel y bu raid dattod y gwaith, a phario, a chwtogi llawer iawn arno, aC nid oedd fawr o lun arno wedi hyny. Y nesaf ydoedd hoglangc tuag un-ar-bymtheg oed, ac un tafodog trahaus oedd hwnw. Ar ol gorphen ei ddillad, galwyd arno yntau i'w gwisgo ac och yr oedd gliniau ei glos yn rhy gyfyng iddo o lawer. Cafodd Huw drafferth enbyd i gau y botymau; ac ar ol gor- phen y job,—' Mi neith hwn glos da iawn—mi ddaw allan wrth -ei wisgo,' eb efe; ond yr oedd y bachgen yn achwyn yn dost, fod ei liniau a'i goesau yn cyffio. Aeth allan yn y man, a cheisiai redeg a neidio er mwyn stretchio gliniau 'r clos ac yn yr ymdrech, taflodd un o fotymau y glin ymaith oddi ar y soced; rhedodd yn ol i'r ty i adrodd yr helynt :—' Yr oedd- wn ar Gae 'r Sgubor,' meddai, ac wrth i mi geisio rhedeg, mi. daflodd y botwm canol yma, welwch chwi, fel ergyd o wn, a mi hitiodd Robin Goch oedd yn digwydd bod o fewn seith-lath neu wyth i mi yn ei ben, ac mi lladdodd o ar y spot I' Taw a dweyd anwiredd,' meddai ei fam wrtho. Tydio ddim yn anwiredd,' meddai 'r bachgen, canys pytase Robin Goch, ne ryw dderyn arall yn cael ergyd y botwm yn ei ben, mi fuasai 'n ddigon sicr o'i ladd!' Ar hyny, daeth y gwr i'r ty.—' Ni wn i beth a wnawn i'r oen llyweth ene,' eb efe mae o 'n tori i'r ardd o hyd, ac yn difetha pob peth sydd yna.' Mi ddeu- da i chwi be newch iddo fo nhad,' ebe y bachgen, gnewch i Huw neyd clos iddo fo; mi wranta i y gwneiff Huw lindorch iddo fo, nad eiff o ddim yn hawdd dros yr un gwrych wedi hyny.' Yr oedd geiriau sarhaus y bachgen yn brathu Huw fel cledd- yf, ac yn enwedig chwerthin y teulu am ben ffraeth- ineb yr hogyn. Methodd a dal v driniaeth; neidiodd i lawr oddi ar y bwrdd, ac aeth allan, a bu enyd hir heb ddychwelyd. Yr oedd Huw yn feistr ar y rhan fwyaf o deilwriaid y wlad am wneyd coat, ac yr oedd yn cael enw a chlod am hyny trwy y fro. Anaml y methai gyda'r dilledyn hwn fel y llall; ac yr oedd yn falch o hono ei hun ar y cyfrif hwnw. Yr wyf yn cofio un tro go ddigrif a ddigwyddodd yn achos coat a wnaethai Huw i lane yn y gymyd- ogaeth, yr hwn oedd a chrwb yn ei war, ac un pur anhawdd i'r teiliwr ei foddio ydoedd yn enwedig ar goat. Wedi gorphen y goat, tarawodd y llanc hi am dano, ac wedi ymdeimlo ag ef ei hun ynddi am enyd, deehreuodd feirniadu arni; Ni thai hon ddim byd,' eb efe, 'n surllyd. Pa'm na thai hi?' gofynai Huw, yn sychlyd; Tydi hi ddim yn debyg i gwat sut yn y byd,' ebe'r llanc. Tebyg i beth ydi hi ?' meddai Huw; Tebyg i sach am a wn i,' atebai'r llall. Mae hi cystal cwat fu erioed am dy gefn di, ac yn llawer rhy dda i dy fath di,' meddai'r teiliwr; Mi 'naethwn 'i gwell fy hun o'r haner, mae hi'n rhy dyn am y war,' meddai'r llall. Ar dy war di mae'r bai,' ebe Huw,' Mi gneis i hi i ateb i'r hyn a ddyle gwar fod, ac os nad ydi hi'u ffitio dy war di, toes gen i mo'r help.' Tynodd y llanc y goat a thaflodd hi at Huw 'n ddigofus,' Rhaid i chi ei hal- tro hi i mi,' eb efe, onide ro i moni byth am danaf.' Dos di a dy war i'w altro,' ebe Huw. Gwylltiodd y bachgen yn aruthr a heriai Huw i fyned allan i ymladd ag ef. Yr oedd mor annioddefol iddo ef i'r Teiliwr feirniadu ar ei war ef, ac oedd i Huw ei glywed yntau yn beio ar deilwriaeth y goat. Caf- wyd tipin o waith i berswadio'r ddau i beidio ym- ladd, a digon tebyg ped aethai yn frwydr rhyng- ddynt mai y llanc a gawsai y gwaethaf, canys buasai Huw yn gryn ymladdwr yn nyddiau ei ieuenctyd. Pan aethum ato yn brentis, traddododd siars ddif- rifol i mi ar fy nyledswyddau. Cofia di nad wyt ti ddim i siarad yn y tai, ond ateb yr hyn a ofynir i ti. Paid byth a gwthio dy big i fewn i un stori; a phaid a chymeryd arnat dy fod yn gwrando ar ddim fydd yn cael ei siarad gan y teulu. Paid byth a chario cleps o'r naill dy i'r llall; gollwng bob peth felly i mewn trwy un glust ac allan trwy'r llall. Paid byth ac edrych yn sur ar y bwyd roir o dy naen di, a llawer o gynghorion buddiol eyffelyb a gefais gan- ddo. Cofia di'r pethau yna,' meddai, (er dy fwyn dy hun.' Mae Teiliwr yn gwneyd ei garitor yn y wlad yn nyddiau ei brentisiaeth os ymddyga'r bachgen yn gall a distaw, mi gaiff barch ac ymddir- ied pobl pan ddelo'n ddyn.' Gallaswn adrodd cryn lawer am Huw, y mae yntau wedi myned i ffordd yr holl Deilwriaid er's llawer blwyddyn bellach. Hedd- wch i'w Iwch. Dylaswn grybwyll fod Huw yn pro- ffesu crefydd amryw flynyddoedd cyn marw, a phob arwyddion ei fod yn ddyn da. Yr Eiddoch, &c., Yn HEN DEILIWR.

LLYTHYR Y PARCH. S. ROBERTS.

LIVERPOOL A'I HELYNTION.

j AT OLYGWYR Y TYST CYMREIG."

AT OLYGWYR Y " TYST CYMREIG."

AT Y PARCH. H. GRIFFITHS,…

LLUNDAIN.—NOSON YN Y TY.