Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

.YR AIIDDANGOSFA GYD-GENEDLAETHOL.

¡v :~""...irv/•[:"., MASNACH…

;F- v Y ONYDAU. :

LLONGAU.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

LLAW-LYFR ETHOLIADOL OYMRU.

News
Cite
Share

LLAW-LYFR ETHOLIADOL OYMRU. Gan y Parch. JOHN JONES, Brymbo. Llangollen, argraphwyd gan W. WILLIAMS. Deallais wrth ddarllen y TYST diweddaf nad oes genych un gwrthwynebiad i adolygiad ar lyfr gan ohebydd heb un cyssylltiad golygyddol gael ymddangos ar ddalenau y TYST. Digwydd- ais daraw wrth y llyfrhwn,-hoffais y wyneb- ddalen; prynais ef, a darllenais ef gyda budd. Yr wyf yn meddwl y gallwn ystyried ym- ddangosiad llyfr o natur y llyfr hwn yn Gymraeg yn mhlith digwyddiadau rhyfedd yr oes. Nid ydyw y rhan hon o lenyddiaeth wedi cael sylw teilwng gan y genedl hyd yn hyn. Ychydig 0 gyfansoddiadau Cymreig o natur y Ilyfr hwn a ymddangosodd yn yr iaith o gwbl., Y mae yn dda genym allu dywedvd wrth ddarllenwyr y TYST fod hwn yn ymddangos i ni yn gyfansodd- iad Cymraeg, a delw yr hen iaith yn argraffedig ar ei ddalenau. Nid rhyw lawer y bu yr hen iaith Gymraeg yn ceisio ar barablu syniadau politicaidd. Nid ydwyf wrth ddywedyd hyny yn golygu nad ydyw yn eithaf cymmhwys agalluog i wneuthur hyny yn effeithiol, ond gwyddom i'r gwrthwyneb; oud rhywfodd, ymddiriedodd y gorchwyl hwnw i'n cymmydogion yr ochr draw i Glawdd Offa, gyda'u iaith fain, lefn, ystwyth hono a leferir ganddynt hwy; tra yr oedd hi yn ymhyfrydu o fod yn iaith y pulpud-iaith y pregethu. Nid ydyw y wasg Gymreig wedi bod yn hepian, nac fel seguryn, heb wneuthur dim yn yr haner can mlynedd diweddaf. Addefwn yn rhwydd mai ychydig yn nghyssylltiad a gwleidyddiaeth; ond bu wrthi yn ddyfal yn bwrw allan drysorau i ddiwallu y byd crefyddol. Gallwn, fel cenedl, ymffrostio yn amlder cynnyrchion ein llenydd- iaeth dduwinyddol. Ond yn y blynyddoedd a basiodd yr ydym wedi cael y fraint o ddarllen rhyw gymmaint o gynnyrchion politicaidd yn yr hen iaith ami i draethawd da wedi ymddangos o'r naill bryd i'r llall yn y gwahanol gylchgronau, heb law erth- yglau yn llawnion o'r elfenau gwleidyddol sydd yn ymddangos yn y newyddiaduron Cymreig. Ond pan dderbyniasom y llyfr hwn in Haw yr wythnos o'r blaen; ac ar ol taflu golwg drosto, nis gallem lai na theimlo er hyny ei fod yn dwyn rhyw agwedd ddieithr llyfr cyflawn o'i dde- chreu i'w ddiwedd ar etholiadau seneddol! Ni buasai yn cynnyrchu syndod ynom pe buasai jn llyfr ar Etholedigaeth, neu'r lawn, neu ar Fedydd, gan ein bod yn ddigon cynnefin a chyn- nyrchion o'r natur hyny. Pan y byddwn yn gweled llyfr newydd, bydd ynom awydd am wybod enw yr awdwr a chym- maint a allwn o'i hanes; ac felly gyda'r llyfr hwn. Oddiwrth enw y llyfr, disgwyliasem mai un 0 gynnrychiolwyr galluog ein gwlad a fuasai yr awdwr,—naill ai Syr Watkyn neu Syr Richard, neu un o'r A.S. hyny a welsom ar esgynloriau yr Eisteddfodau, yn cael eu moli a'u dyrchafu o herwydd y gwaed Cymreig hwnw a ergydia yn barhaus trwy wythienau eu cyrph, er iddynt golli yr hen iaith oddi ar eu tafodau Ond yn hyn, fe'n siomwyd, gan yn ol fel y deallwn, mai gweinidog llafurus gyda'r Bedyddwyr ydyw yr awdwr; a chredwn fod y ffaith yna yn well recommendation i'r llyfr gan filoedd darllenwyr y TYST CYMREIG na phe buasai enw un o'r gwyr mawr hyn wrtho. Mae genym awydd i ganmawl y IIyfr uchod; nid am fod un cydnabyddiaeth na chyfeillgar- weh rhyngom a'r awdwr; ni buom yn ym- ddyddan gair ag ef gwelsom ef a gwrandawsom arno yn pregethu unwaith neu ddwy, a byny yn wresog-fel un yn teimloyr athrawiaethau hyny a gymhellai i eraill; a dyna yr oil a welsom o'r awdwr. Canmolwn y llyfr am ei fod yn un cymwys ar gyfer helyntion yr amseroedd hyn. Mae'r gwr doeth yn dywedyd,—' Ac 0 mor dda yw gair yn ei amser.' Dyma sydd yn rhoddi gwerth ar bob peth ydyw eu cael yn eu hamser; ac y mae i bobpeth ei amser priodol ei hunan. Nid ydyw yr aur a'r arian a'r perlau teg o un gwerth i'r marw, ond y maent yn werthfawr i'r byw. Felly yn union y dywedwn am y llyfr uchod y mae yn un yn ei amser—yn cyfateb i angen yp amser; canys y mae'r wlad fel yn dyrchafu ar flaenau ei thraed gan ddisgwyl yr etholiad cyff- redinol sydd yn ol pob arwyddion yn ymyl. Wrth daflu golwg dros ddalenau y llyfr hwn, yr ydym yn cael meddylddrych lied gywir am natur ac ansawdd ein cynrhychiolaeth; ac yn wir y mae yn rhaid (er trwy anfodd) addef fod ein cynrhychiolaeth yn un o'r fath fwyaf llesg a diffygiol a fedd un wlad wareiddiedig o dan haul y nen. Nid oes un wlad a all ymffrostio yn ei hymneillduaeth fel ac y gall Cymru ym- ffrostio; ond nid oes un wlad mor anymneillduol yn ei chynrhychiolaeth; ac yn j ol pob arwydd- ion ymddengys i ni ei bod yn dewis bod yn y sefyllfa hono; canys anfynych mewn cymhar- iaeth y gwelir ymdrechfa rhwng gwahanol bleidiau am anrhydedd i eistedd yn senedd ein gwlad; a mwy anfynych na hyny y gwelir ym- neillduwr yn ceisio am yr anrhydedd; nid ydyax yn cofio ond am ddau a anturiodd erioed. Ym- ddengys i ni fod cynrhychiolaeth Cymru fel math o aeriaeth yn fwy na dim arall. Dyma Aberteifi i ddechreu; ni bu yno o'r flwyddyn 1832, un ymrysonfa (contest) am y gynrhychiol- aeth hyd y flwyddyn 1859 a dau Dori ydoedd yr ymgeiswyr y pryd hyny; ac yn yr etholiad diweddaf dau ryddfrydwr ydoedd yr ymgeiswyr; a dyna holl helynt sir Aberteifi yn nghorff y 35 mlynedd diweddaf! Mae helyntion etholiadol sir Frycheiniog yn gynwysedig mewn un gwrth- ymgais; a sir Fon, er mor ymneillduol ystyrir hi, dim ond un ymgyrch etholiadol 0 gwbl. Ond am sir Gaernarfon, gwlad y llechau, ni wvddant hwy beth ydyw lecsiwn dros y sir o gwbl; ni chyffrowyd eu meddyliau puraidd hwy gan y miri etholiadol er's mwy na 35 0 flynyddau; ac yn ol pob arwyddion mai megis yr oedd yn y dechreu &c., fydd ei thynged os na fydd i'r reform newydd hwn luchio elfenau newyddion i syniadau y trigolion yn gyffredinol. Credwn os caiff y llyfr hwn ei ddarllen gan y miloedd fel ac y dylai ei gael, gallwn ddisgwyl ffrwyth dymunol mewn canlyniad, canys nid ydym yn credu fod yr agwedd sydd ar gyn- rhychiolaeth ein gwlad i'w briodoli i ddiffyg gallu i'w gwellhau, er mai dyna ydyw y syniad cyffredin, Hyderwn y bydd i'r gwahanol ym- drechion a wneir yn y cyfeiriad hwnw i symbylu y wlad fel y bydd iddi fel un gwr yn cyfodi at ei gwaith, ac actio yn deilwng o'r hen wroniaid hyny a fuont er 0 dan anfanteision dirfawr yn ymladd yn ddewr 0 dan faner rhyddid; yn erbyn estroniaid a gormeswyr galluog eu gwlad. Gwelwn fod ein hysgrif yn faith cyn ini allu dangos i ddarllenwyr y TYST ond ychydig o natur y llyfr. Disgwyliwn bydd gwerthiant y llyfr yn gyfryw ac a ddigolleda yr awdwr yn ei anturiaeth, onite byddwn yn dibrisio ac yu di- ystyru llafur mwyaf teilwng.